Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Y Cyfaill goreu

Oddi ar Wicidestun
Gorffenwyd Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Coroni Iesu

Y CYFAILL GOREU.[1]

MAE un uwchlaw pawb eraill
Drwy'r greadigaeth fawr i gyd,
Sydd yn haeddu ei alw'n Gyfaill,
Ac a bery'r un o hyd:
Brawd a anwyd inni yw,
Erbyn c'ledi o bob rhyw.

Nis gall meithder ffordd nac amser,
Oeri dim o'i gariad Ef;

Mae ei fynwes byth yn dyner,
A'i gymdeithas byth yn gref:
Nis gall dyfroedd angau llym
Ddiffodd ei angerddol rym.

Ym mha le y ceir, er chwilio,
Neb yn caru fel Efe?
Ple mae'r cyfaill, er ein hachub,
A ro'i fywyd yn ein lle?
Nid oes debyg iddo Ef,
Drwy y ddaear faith a'r nef.

Pan fo pawb yn cefnu arnom
Yn y dyffryn tywyll, du—
Pan fo pob daearol undeb
Yn ymddatod o bob tu,
Saif E'n ffyddlon y pryd hyn,
Ac a'n dwg yn iach drwy'r glyn.

A phan ymddangoso eilwaith,
Yng ngogoniant pur ei Dad,
Gyda'i holl angylion sanctaidd,
Mewn anrhydedd a mawrhâd,
Fe geir gweld mai'r un fydd Ef,
Er mynd heibio'r byd a'r nef.


Nodiadau

[golygu]
  1. Cyfieithiad o One There Is, above All Others John Newton