Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gorffenwyd

Oddi ar Wicidestun
Y Bedd Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Cyfaill goreu

Emynau.

GORFFENNWYD.[1]

CLYWCH leferydd gras a chariad
O Galfaria'n seinio sydd,
Wele'r cedyrn greigiau'n hollti,
Haul yn t'wyllu ganol dydd;
"Gorffennwyd!"
Dwys ddolefai'r Meichiau mawr.

O'r trysorau anchwiliadwy
A gynwysir yn y Gair,
Môr diderfyn o fendithion
I dylodion ynddo gair;
"Gorffennwyd!"
Ni bydd eisiau aberth mwy.

Adgyweirir pob rhyw delyn
Drwy y ddaear faith a'r nef,
Er cyd-daro'r anthem newydd
Heddyw a gyhoeddodd Ef;
"Gorffennwyd!"
Dyma gân na dderfydd byth.


Nodiadau

[golygu]
  1. Cyfieithiad o Hark! the voice of love and mercy Jonathan Evans