Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Fy Mam
Gwedd
← Caniad y Gog i Arfon | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Delwedd Cyflafan Morfa Rhuddlan → |
FY MAM.
ALAW, "Sweet Home."
ER fod i mi dirion gyfeillion dinam,
Ymhob rhyw wasgfeuon cheir neb fel fy mam;
Drwy oes ddiamddiffyn mabandod o'r bron,
Rhwng hyder ac ofn, pwy a'm gwyliodd ond hon?
Pwy, pwy fel fy mam? cheir neb fel fy mam.
Ar wely yn glaf i amddiffyn fy ngham,
I weini boed i mi law dyner fy mam;
Pwy wrendy fy nghŵyn mor deimladwy a hon?
Pwy etyb mor fwyn i ruddfannau fy mron?
Pwy, pwy fel fy mam? cheir neb fel fy mam.
Boed imi gael treulio fy ngyrfa bob cam,
Mewn hedd a dedwyddyd dan gronglwyd fy mam;
Ac yn ei hing ola' boed iddi heb sen,
Gael llaw'r un a fagodd i gynnal ei phen.
Pwy, pwy fel fy mam? cheir neb fel fy mam;
Cheir neb fel fy mam, cheir neb fel fy mam.