Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gadael Tan y Celyn

Oddi ar Wicidestun
Ysgoldy Rhad Llanrwst Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Byd a'r Môr

GADAEL TAN Y CELYN.

YW'R oeddwn mewn bri addas,
Heb sen, na chynnen, na châs,
Mewn Tyddyn tan Gelyn Gwyrdd,
Llawr praffaf gerllaw'r priffyrdd;
Yn barchus, gysurus ŵr,
Yn llawn o dda fy Lluniwr;
Ac yno'n gwau gogoniant
I Dduw Iôn, â thôn a thant;
Byw'n nwyfus, heb boen afiach,
Ac eilio nwyd calon iach,
Wrth oleu merth haul i mi—
Befr wyneb—fy rhieni.

Ond, Och! alaeth, daeth y dydd.
I'w adael, fangre ddedwydd,
A throi cefn* *
****

Och! fyd blin a'i lem driniaeth—Och! weled
Chwalu aelwyd mabaeth;
I'm nychiad mwy ni cheid maeth,
Ond siarad oes o hiraeth.

Och! y min nycha'm henaid,—Och! wylo,
Och! alar tra thanbaid,
Och! loesau lêf afrifaid,
Byd o boen, byw wae dibaid.

Ond caf, ni oedaf, ado,—ei boenau
A'i bennyd, i'r amdo
Diengaf—i dir ango'
O'i ferw drwg ar fyrr dro.


Caf huno yno ennyd—yn dawel
Mewn daear oer briddlyd;
A gorwedd yn y gweryd,
O swn y boen sy'n y byd.

A'm henaid gaiff ymuno— â'r lluoedd
Sy'n llawen breswylio
Y lonnaf hyfrytaf fro,
Wlad anwyl, heb lid yno.


Nodiadau

[golygu]