Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Y Byd a'r Môr

Oddi ar Wicidestun
Gadael Tan y Celyn Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Caniad y Gog i Arfon

CYMHARIAETH RHWNG Y BYD A'R MÔR.

Y MAE'R byd a'i droion dyrus
Yn debyg iawn i'r môr gwenieuthus;
Weithiau'n drai ac weithiau'n llanw,
Weithiau'n felus, weithiau'n chwerw.

Hallt yw'r môr i bawb a'i profo,
Hallt yw'r byd i bawb a'i caro;
Dwfn yw'r môr, anhawdd ei blymio,
Dwfn yw'r byd, heb waelod iddo.

Llwyr ddiafael mewn caledi
Yw'r môr i bawb i'w dal rhag soddi;
Mwy diafael mewn cyfyngder
Yw'r byd i bawb ro'nt arno hyder.

Llawn yw'r môr o greigydd enbyd,
A llynclynnoedd tra dychrynllyd;
Llawn yw'r byd o hudoliaethau
Mwy peryglus fil o weithiau.


Nodiadau

[golygu]