Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Glan yr Iorddonen

Oddi ar Wicidestun
Tad wrth y Llyw Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gorffwys yn y bedd

GLAN YR IORDDONEN.

AR lan lorddonen ddofu
'Rwy'n oedi'n nychlyd,
Mewn blys mynd trwy, ac ofn
Ei 'stormydd enbyd;
O na bai modd i mi
Ysgoi ei hymchwydd hi,
A 'hedfan uwch ei lli,
I'r Ganan hyfryd.

Wrth gofio grym y dŵr,
A'i thonnog genlli,
A'r mynych rymus ŵr
A suddodd ynddi,
Mae braw ar f'enaid gwan
Mai boddi fydd fy rhan,
Cyn cyrraedd tawel lan
Bro y goleuni,

Ond pan y gwelwyf draw,
Ar fynydd Seion
Yn iach, heb boen na braw,
Fy hen gyfeillion,

Paham yr ofnaf mwy?
Y Duw a'u daliodd hwy
A'm dyga innau drwy
Ei dyfroedd dyfnion.


Nodiadau

[golygu]