Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Tad wrth y Llyw
Gwedd
← Na wrthod fi | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Glan yr Iorddonen → |
TAD WRTH Y LLYW.
AR fôr tymhestlog teithio'r wyf
I fyd sydd well i fyw,
Gan wenu ar ei stormydd oll—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
A phan fo'u hymchwydd yn cryfhau,
Fy angor sicr yw,
Y dof yn ddiogel trwyddynt oll—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
I mewn i'r porthladd tawel, clyd,
O swn y 'storm a'i chlyw,
Y caf fynediad llon ryw ddydd—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.