Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Hynt y Meddwyn. Cân yr aelodau

Oddi ar Wicidestun
Hynt y Meddwyn. Y gwydriad cyntaf Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Hynt y Meddwyn. Chwant y Ddiod

RHAN VII.
John yn cael ei appwyntio yn un o stewardiaid y Clwb,
yr hyn a wnai yn ofynnol iddo fod yn bresennol bob mis.
Y mae yn dyfod o dan ddylanwad y chwant i ddiod gadarn.

Can yr aelodau ar noswaith eu cyfarfod.
Alaw—"Ar hyd y nos."

Mwyn yn 'stafell wych y Goron,
Ar hyd y nos,
Yw cynhulliad cyd-frodorion,
Ar hyd y nos,

Pawb a'i bot a'i bibell ganddo,
Mor ddifyrus yn ymgomio
Heb fod unpeth yn eu blino
Ar hyd y nos.

Cwmni llon yw bedd trallodion.
Ar hyd y nos;
Gwydraid bach yw tad cysuron,
Ar hyd y nos;
Sonied cybydd am ei arian,
A'r cribddeiliwr am ei fargan,
Gwell na'r oll yw cwmni diddan,
Ar hyd y nos.

Wedi bod yn gweithio'n galed
Ar hyd y dydd;
Ac mewn dygn boen a lludded
Ar hyd y dydd;
Yn ystafell glyd y Goron
Llwyr anghofio wnawn yn union
Ein holl ludded a'n trafferthion
Ar hyd y dydd.

Pwy fel gwr y ty a'i gymar?
Ar hyd y nos;
Mor garedig a chroesawgar?
Ar hyd y nos;
Pwy mor ddiddan eu 'mddiddanion
Mor ddigrifol eu chwedleuon
I ddifyrru'r presenolion?
Ar hyd y nos.

Pwy all weled bai ar undyn,
Ar hyd y nos;
Am fwynhau ei bot a'i getyn?
Ar hyd y nos;

Tra y cadwo yn gymhedrol,
Heb eu harfer yn ormodol,
Ond rhodio hyd y llwybr canol,
Ar hyd y nos.

Y mae Dirwest oll yn burion
Ar hyd y nos,
I ddiwygio pobl feddwon,
Ar hyd y nos,
Ond pa raid i wyr moesgarol
Beidio a chadw at y rheol
"O arfer rhoddion Duw'n gymhedrol!"
Ar hyd y nos.


Nodiadau

[golygu]