Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Hynt y Meddwyn. Y gwydriad cyntaf
← Hynt y Meddwyn. Yfed Iechyd Da | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Hynt y Meddwyn. Cân yr aelodau → |
RHAN VI.
Arwyrain y Scwier a gyfansoddwyd ar yr achlysur, y mae Johni yn uno
yn y Chorus, yn ymollwng i yfed, ac yn myned adref yn feddw.
Alaw— "Glan Meddwdod Mwyn."
Cydroddwn yn gyson o galon i gyd,
Ein parch a'n gwasanaeth yn helaeth o hyd,
I'n teilwng Yscwier mewn pleser o'r Plas,
Heb dafod yn pallu i draethu ei drâs;
Cydyfwn ei iechyd i gyd yn ddigwyn,
Mewn gwydriad cysurlon heb son am ei swyn
I'n denu cyn darfod i lân meddw-dod mwyn.
Mae'n haeddu ei barchu a'i garu'n ddigoll
Gan bawb fel ein Llywydd a'n Noddydd ni oll:
Mor dirion, a ffyddlon, a chyson, wych hwyl,
Y gwna'n hanrhydeddu â'i gwmni bob gwyl.
Cydyfwn ei iechyd, &c.
Ymhob ymrafaelion, a chwynion, a châs,
Pwy dyr yr ymryson ond Scwier y Plas?
Ac at bwy y rhedwn, ni fyddwn ni hwy,
Pan ddelo rhyw daro yn achos y plwy'?
Cydyfwn ei iechyd, &c.
Pa faint o'n llafurwyr, er cysur sy'n cael
O dano'u bywiolaeth, yn helaeth a hael?
Gan dderbyn eu dogn, ai'n iach ai yn glaf,
Ai gwlaw ynte hindda, ai gaeaf ai haf.
Cydyfwn ei iechyd, &c.
Pwy wrendy mor dirion ar gwynion y gwan,
Gan ddarpar mor ebrwydd a rhwydd ar eu rhan?
Mae'n dadi'r ymddifaid, i'r gweddwon yn frawd,
A phleidiwr ac achles at les y tylawd.
Cydyfwn ei iechyd, &c.
I'w wraig ac i'w deulu mae'n gweddu i ni i gyd
Ddymuno eu llwyddiant, tra b'ont yn y byd;
A Duw ar yr eiddo a roddo ei rad,
Heb dramgwydd nac aflwydd ond llwydd a gwellhad.
Cydyfwn ei iechyd, &c.