Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Hynt y Meddwyn. Galarnad John
← Hynt y Meddwyn. Brad y Ddiod | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Emyn Heber → |
RHAN XII.
Profiad John yn ei olaf gystudd.
Alaw—"Diniweidrwydd."
Yma'n mhellter eitha'r ddaear hi aeth arna'n hwyr brydnawn,
Teimlo rwyf fy nerth yn pallu a gwanychu'n gyflym iawn;
Gwely cystudd caeth, ond hynny, fydd fy rhan a'm cyfran i,
Heb gar na chyfaill imi'n agos i deimlo nac i wrando'n nghri.
Eto er mor bell o gartref ac o'm genedigol wlad,
Mi gaf Grist yn frawd a chyfaill, a fy Nuw yn dirion Dad;
Codi wnaf a myned ato ac ymbilio wrth ei draed,
Pwy a wyr na wna fy nerbyn, y pechadur mwyaf gaed!
Os yw gwaed fy mrawd yn gwaeddi am ddialedd oddibell,
Y mae gwerthfawr waed yr Iesu yn llefaru pethau gwell.
Rhad faddeuant, heb ddim edliw, ydyw grasol drefn ein Hior;
Ac os yw fy meiau'n drymion, dyfna' y suddant yn y mor.
Mae adlais hen bregethwyr Cymru yn fy nghlustiau'n seinio o hyd,
Tra y bloeddiant fod maddeuant i'r troseddwyr gwaetha i gyd,
Bod y meddwon, a'r llofruddion, a'r dyhiriaid gwaetha'u rhyw,
O fewn cyrraedd gras maddeuol, a thrugaredd rad eu Duw.
Tra y sonient am Manaseh a llofruddion Iesu mad,
Saul o Tarsus, yr erlidiwr, ddarfod maddeu i'r rhai'n yn rhad;
A bod eto yr un croeso i'r rhai dua gwaetha a gaed,
Nad oes derfyn ar rinweddau ac effeithiau'r Dwyfol waed.
Ar y Gwaed mi fentraf finnau, a dywalltwyd ar y bryn,
Yn y Ffynon hon ymolchaf, ac er dued, dof yn wyn;
I gadw'r penna o bechaduriaid y daeth Iesu Grist i'r byd;
Felly trwy fy achub innau fe achuba'r penna i gyd.
Y mae delw'm hanwyl briod yn ymddangos ger fy mron
Mewn disgleirwen wisg nefolaidd, ac yn gwenu ar ei John,
Gan amneidio yn serchiadol, "Dring i fyny, dal dy dir,
Pwysa ar rinweddau'r Meichiau, ti ddoiyma cyn bo hir."
O! mae meddwl am ei dilyn, a chael eto'i chwmni cu,
Yn rhyddhau holl rwymau natur, ac yn hwylio'm henaid fry.
Dowch, gerubiaid, rhowch im edyn, fel yr hedwyt gyda hi
I fyth-drigo a chyduno ymhêr anthem Calfari.