Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Marw Cyfeilles
← Pont y Pair | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cyflafan Morfa Rhuddlan → |
ADSYNIADAU AR FARWOLAETH CYFEILLES.
Mwy ermyg nag un gwaith marmawr,—dy liw.
A dy lun hudolfawr;
Dy gynnes weniad geinwawr,
Ter wedd, uwch amrantau'r wawr.
Ond Och! ni welir dy wedd—eiryliw,
Er wylo diddiwedd;
Ni ellir dad-droi allwedd
Certh ddorau a barrau'r bedd.
Os llon yw gwylltion yn gwau,—hyd waenydd,
Heb dynnu'r gwlith ddafnau,
Mwy glwys ei hysgafn lam glau,
Un delaid, ar ein dolau.
Fel y diwael flodeuyn, —aroglber
A gloew bu ronyn;
Ond Ow! gwywodd, cwympodd cyn—
Agori, deg flaguryn.
Siomedig a symudol,—yw mwyniant
Term einioes ddaearol;
Y bore mae'n hyburol,
Yr hwyr ni welir ei hol.
Hi ddifyrrodd fy oriau,—drwy chwareu
Rhyw dra chywrain geinciau;
Ond fyth ni chlyw y glust fau
Bur dôn ei mwynber dannau.
Ei gwannaidd fysedd gwynion,—ehedynt
Hyd y tannau mwynion;
A d'ai lle cyffyrddynt dôn,
Sain felus, si nefolion.