Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Pont y Pair

Oddi ar Wicidestun
Hen Forgan a'i Wraig Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Marw Cyfeilles

PONT Y PAIR.

Englynion a gant y bardd pan yn aros y cerbyd ar Bont y
Pair, Betws y Coed.

 
DIORFFWYS arllwys mae'r dyfrlli,—yn wir
Ni erys, ond berwi;
A myned rhwng y meini
I lawr, yn ei hawr, ceir hi.

Dydd na nos nid arosi—un mymryn,
Trem amrant ni chysgi;
Anniddig ai dan waeddi
Yn ddidor, "Môr, môr i mi."

A rhedeg yn rhuadwy,—a mawr drwst,
I'r môr draw, ceir Llugwy;
Pryd nad yw alluadwy
Cael Ieuan yn un man mwy!


Nodiadau

[golygu]