Ladis (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Gwaith Tri
Nesaf – Y Daran

Mae Ladis yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Ladis bach y pentre,
Yn gwisgo cap a leise;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i'r llancie;
A modrwy aur ar ben pob bys,
A chwrr eu crys yn llapre.