Neidio i'r cynnwys

Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Ar y Cwpwl

Oddi ar Wicidestun
Y Ffoadur Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Yr Ysgweier

IX.—AR Y CWPWL

CREDAI teulu Hendrebolon mewn codi yn fore. Cyn y byddai gwŷr y dref wedi ymadael a'u gwelyau yr oedd teulu Beti wedi gwneud hanner diwrnod o waith—y bechgyn naill ai yn y maes neu ar y mynydd, a Beti ei hun o gylch y tŷ yn llety'r anifeiliaid neu yn y gell gyda'i chawgiau llaeth. Arferai ganu wrth ei gwaith ond distawodd y gân ers tro bellach. Nid aeth ei phrysurdeb i ffwrdd gyda'r gân serch hynny, ac un bore cafodd y fath hwyl yn ei gwaith nes yr oedd y llestri yn ei dwylaw bron yn canu ohonynt eu hunain.

Yn ol ei harfer, cludodd nifer o lestri at y pistyll oedd yn y llwyn gerllaw i'w golchi yno. Ond y bore hwn pan y daeth i olwg y ffrwd Fechan a lifai oddiwrth fôn y maen, tarawyd hi â syndod mawr o weled gŵr ar ei ledorwedd yn ymyl y dwfr yn ceisio yfed allan o gafn tor ei law. Yr oedd ei brodyr newydd fyned allan at eu gorchwylion arferol yn y maes, ac felly hyhi yn unig oedd wrth y tŷ ar y pryd.

Nol syllu ar y gŵr dieithr am foment paratodd i redeg yn ei hol i'r gegin a bolltio ei hunan i mewn yno, oblegid yr oedd y wedd arno yn un anhyfryd iawn—ei wallt yn afler, ei farf heb ei heillio ers cryn amser, a'i ddillad yn wlybion o'i ganol i'w draed. Ond hacrach na'r oll oedd clwyf hanner crachennu estynnai draws ei foch o fôn y glust i'w ffroenau. Yn wir, er mai annhueddol i ofn oedd Beti ar unrhyw adeg. nid rhyfedd iddi y tro hwn gael braw mawr.

Ond ar y foment y llamodd lu yn ol dyna lais yr ysgelerddyn yn taro ar ei chlyw,—"Beti! Beti! peidiwch cilio o wrtho 'i! Y fi—Lewsyn Bodiccd,—sy' yma, ac yn gofyn am grwstyn o fara im—Ar hyn llewygodd y truan, a dechreuodd ei glwyf ail waedu. Yr oedd yr apêl at ei dynoliaeth a'r cyni yn y llais wedi erlid i ffwrdd bob ofn erbyn hyn. Rhedodd Beti ato, daliodd ei ben ar ei braich, gwlychodd gwr ei ffedog yn y ffrwd, a chyda'r tynerwch mwyaf glanhaodd y gwaed oddiar ei wyneb, a threfnodd ei wallt —ie'r "gwallt aur" gynt—â'i bysedd crynedig.

Sisialai rywbeth wrthi ei hun pan wrth y gorchwyl na ddaliodd neb ond angylion y wynfa ei ystyr; ac yr oedd goleuni newydd yn ei llygaid a'i gweddnewidiai yn hollol, canys yn lle yr ofn a drigai yno foment yn ol, wele bellach, ryw edrychiad gwrol a heriai fyd pe bae raid.

O deimlo y dwfr oer ar ei dalcen ymddangosodd Lewsyn fel pe ar fin dadebru o'i lewyg, ac ar hyn gosododd Beti ei ben i lawr yn frysiog a cheisiai ymagweddu fel pe na buasai wedi cyffwrdd ag ef o gwbl. Mewn eiliad yn rhagor agorodd yntau ei lygaid a syllodd arni yn hanner syfrdan fel y gwna pryfyn yr helwriaeth ar yr hwn a'i lladd, ond mewn eiliad arall taenodd gwên dros ei wyneb garw, ymaflodd yn ei llaw ac a'i gwlychodd a'i ddagrau distaw.

Gwnaeth Beti ysgogiad fel pe am dynnu ei llaw oddiwrtho, ac eto heb wneuthur hynny yn llwyr. Yntau a ddechreuodd siarad a hi gan golli ei anadl bron rhwng pob brawddeg. Dywedodd wrthi am y bywyd caled ym Merthyr, ac am driniaeth galetach y meistri. Yna rhoddodd y manylion am y "Gwaed, neu Fara!" ac am yr ysgarmesau wrth Gilsanws a Mynydd Aberdâr. Dywedodd hefyd am ei siom yn ei gyfeillion, a'i ffoedigaeth i Benderyn, y cysgu yn yr efail, a'r ddihangfa rhag boddi yn y Porth Mawr. "A dyma fi," ebe fe, gan edrych i lawr ar ei ddillad gwlybion, "ymron starfo ac yn siwr o gael 'y nâla!

Beti! y'ch chi 'n clywed beth 'w i 'n weyd?"

Yr oedd Beti yn wir wedi clywed, ac ar y foment y tybiai efe fod ei meddwl yn absennol penderfynu yr oedd hi na chai efe na newynu na chael ei ddal os gallai hi mewn unrhyw fodd rwystro hynny. Ond yr unig beth a ddywedodd hi wrtho oedd,—"Dewch gyda fi!"

Cynorthwyodd ef i godi, a dygodd ef ar ei braich i'r ysgubor, ac wedi helbul mawr llwyddodd i'w gael i ddringo i ben y "cwpwl," a gwasgodd ef i gongl o dan y tô. Yna, gan ei adael am rai munudau dychwelodd o'r tŷ a basged yn ei llaw, ac wedi cylymu honno wrth goes y brwsh hir, a gedwid ymhob fferm i'r perwyl o wyngalchu tai yr anifeiliaid, estynnodd ben y brwsh gyda'r fasged ynglŷn wrtho i'r gongl o dan y tô. Ni siaradwyd yr un gair rhyngddi hi a Lewsyn yn hynny o waith, ond arhosodd Beti wrth fôn y "cwpwl " tra y bwytaodd efe yr ymborth, ac yna clywodd ef yn cylymu y fasged wâg wrth y brwsh drachefn, a thynnodd hithau hi i lawr yn dawel.

Nid cynt y gwnaeth Beti hyn nag y daeth un o'i brodyr i'r tŷ o'r maes i chwilio am rywbeth oedd yn ofynnol i'r gorchwyl mewn llaw, a mawr y curai ei chalon mewn pryder wrth feddwl am a allasai ddigwydd pe bae ef wedi dyfod yn ol ddeng munud cyn hynny.

Teirgwaith yn y dydd y tramwyodd y fasged i fyny i'r tô ar wâr y cwpwl ar ei neges o drugaredd, a theirgwaith y dychwelwyd hi wrth goes y brwsh yn ol llaw, ac erbyn hyn yr oedd Lewsyn wedi dysgu tro ei brydiau bwyd, sef yn gyntaf un ar ol godro yn y bore, yr ail ar ol i'r bechgyn ddychwelyd i'r meysydd oddiar ginio, a'r trydydd ym min hwyr. Hawdd fuasai i Beti osod nodyn yng ngwaelod y fasged i Lewsyn ei ddarllen, ond ni ddaeth gair oddiwrthi er bod y carcharor mewn mawr awydd am ei gael.

Ond yr oedd gwaeth yn ol.

Ar ol y pedwerydd dydd pallodd taith y fasged yn gyfangwbl, a theimlai Lewsyn ofid mawr am hynny. Ceisiai ddyfalu beth oedd a'i hachosai, a chredai ar y cyntaf mai rhaid bod Beti yn glâf, ond pan glywodd sŵn y clogs ar ei thraed o gylch y tŷ fel arfer, ceisiodd ddyfalu rhywbeth arall. Yn wir, meddyliodd am bopeth dichonadwy ond yn unig fod Beti wedi ei adael i newynu. Clywsai efe ers oriau leisiau dieithr gylch y buarth, ond rhywfodd ni chysylltai efe y rheiny a'i newid byd o gwbl.

Ac os oedd cyflwr meddwl Lewsyn yn resynus, yr oedd eiddo Beti yn waeth fyth; a'r hyn a'i llethai i'r llawr yn lân oedd y ffaith na allai egluro i'w hen gyfaill y rheswm am ball yr ymborth, na dal cymundeb ag ef mewn unrhyw fodd.

Fore y pedwerydd dydd ar ol dyfodiad Lewsyn i Hendrebolon daeth i'r buarth bedwar swyddog yn gofyn am y brawd hynaf. Gan fod y teulu wrth eu brecwast ar y pryd gofynwyd i'r dieithriaid ddyfod i mewn i gyfranogi â hwy ac i gael clywed eu neges.

Yr oedd yr awdurdodau wedi cael ar ddeall fod Lewsyn yr Heliwr yn ymguddio yn Ystradfellte, canys gwyddent am ei aros yn yr efail ym Mhenderyn ar ei ffordd tuag yno, ac am groesi ohono Waun Hepsta ar lâs dydd yn ol llaw. "Ac yn awr," ebe'r swyddog. "yr ydwyf, yn enw'r Brenin, yn gofyn am letya yma gyda chwi hyd nes y chwilia'm cydswyddogion bob ysgubor ac ystabl yn y cwm, ac y delir yr euog, a'i ddwyn i'r gosb a haedda."

Hyn a ddywedodd efe, nid o ran cynllun a bwriad, ond o weled Beti, druan, yn ymwelwi a chrynu pan soniwyd enw Lewsyn. Penderfynodd y swyddog ar unwaith ei bod hi yn gwybod rhywbeth am y ffoadur, a daeth i'w feddwl mai gwylied Beti yn fanwl a fyddai y ffordd rwyddaf i ddal yr hwn a geisient.

Felly, tra yr elai y tri swyddog arall allan drwy y dydd i chwilio ffermydd a beudai eraill y cwm, glynai hwn wrth ymyl Beti o fore hyd hwyr. Nid oedd gwahaniaeth pa un ai godro'r gwartheg neu fwydo'r moch y byddai hi, dilynai llygaid didrugarog y gŵr ar ei hol i bobman, a hithau ymron torri ei chalon o dosturi at ei hen gyfaill clwyfedig a newynai o dan y tô. Meddyliodd am gynllun ar ol cynllun i gael cefn y swyddog pe bae ond am ddigon o funudau i estyn rhywbeth i ben y cwpwl. Ond yr oedd y swyddog yn hen law wrth ei waith, a'r mwyaf i gyd y ceisiai hi gael ei gefn, mwyaf i gyd y tyfai ei sicrwydd yntau ei fod ar y llwybr iawn i ddal ei ddyn.

Ond ni wyddai Lewsyn am y pethau hyn, ac ni wyddai Beti am un cynllun yn ychwaneg a addawai lwyddiant iddi yn erbyn y swyddog calongaled hwn, ac yr oedd bellach dri diwrnod wedi myned heibio heb i'r ffoadur gael yr un briwsionyn i'w fwyta, ac ni ymddangosai addewid ymwared o unlle.

Yn hwyr ar ddydd olaf yr ympryd, dychwelodd y tri swyddog i'w llety fel ag y gwnaethent y dyddiau cyn hynny, ond eu bod hytrach yn waeth eu hwyl am na ddaliwyd yr hwn a geisient.

Treuliodd y prifswyddog y dydd hwnnw ychydig yn wahanol i'w arfer cyntaf, ac yn lle dilyn Beti o fan i fan, cymerodd arno ei fod yn ddiwyd gyda rhyw ysgrifennu swyddogol, h.y., pan oedd hi yn y tŷ, ond pan elai hi allan i'r tai anifeiliaid, ni edrychodd hi unwaith o'r fan honno at ffenestr y tŷ byw nad oedd ei wyneb ef yno yn syllu allan arni.

Awgrymai y chwilwyr mai gobaith gwan oedd ganddynt am ddal y troseddwr drannoeth, a rhifasant y ffermydd a'r lluestai oeddent eisoes wedi eu hedrych yn llwyr. "Peidiwch siarad mor ddigalon," ebe un o'r brodyr, "rhaid eich bod wedi pasio rhai ysguboriau. Deuaf fi a Gruffydd gyda chwi yfory, a chynorthwywn chwi yn yr ymchwil, oblegid, credwch fi, y byddwn ninnau mor falch o'i ddal ag a fyddwch chwithau."

Yna trefnwyd rhannu y fintai yn ddwy,-un i edrych y lleoedd oedd eto heb eu chwilio, a'r llall i ail-edrych y rhai a chwiliwyd eisoes. O gyfrwystra y gwnaed y cynllun hwn, fel ag i adael y ffoadur i gredu (os oedd yn eu gwylio hwy, fel y tybid ei fod, o ryw agen neu'i gilydd) mai un fintai yn unig oedd wrth y gwaith; a phan y meddyliai ef ei fod yn ddiogel oddiwrth honno, y syrthiai i ddwylaw y llall.

Ond nid oedd eisiau y cyfrwystra manwl hwn. Pan oedd y cwmni o gylch y bwrdd wrth eu swper, ac yn prysur ymddiddan am ddaearyddiaeth y dyffryn, wele gerddediad chwimwth y tu allan i'r ffenestr yn cael ei ddilyn gan agoriad chwyrn y drws, ac yno ar y rhiniog fel rhyw anifail rheibus yn barod i ruthro arnynt yr oedd Lewsyn!

Neidiodd y swyddogion a'r brodyr i'w traed fel un gŵr, ond cyn i neb ohonynt gyffwrdd âg ef, syrthiodd y ffoadur ar ei wyneb ar lawr y tŷ.

Rhedodd y brawd ieuengaf i'r gell a dychwelodd â llestraid o laeth ac a'i rhoddodd i'r truan. Hwnnw yn ei newyn a'i traflyncodd heb sylwi ar neb na dim, ac wedi ei yfed yn llwyr, a amneidiodd â'i law am ragor. Hynny hefyd a roddwyd iddo, ac wedi drachtio eto yr un mor chwannog, efe a bwysodd ei ben ar fraich y gadair y gosodwyd ef ynddi ac a guddiodd ei wyneb â'i ddwylaw. Wedi bod dridiau ar y cwpwl heb ymborth o un math, yr oedd Lewsyn wedi hanner syfrdanu, ac wrth symud yn ol a blaen yn ei hurtni, cwympodd i'r llawr, rhyw ddeuddeg troedfedd o ddyfnder. Yna, heb wybod yn iawn beth a wnai, cerddodd rhag ei flaen gan daro ar y tŷ byw, nid amgen nag i ddannedd y llewod eu hunain. Rhwymwyd ef â rheffynnau, a chan fod yr ustusiaid wedi lled awgrymu i'r swyddogion mai araf oeddynt wrth eu dyledswydd, penderfynwyd ei ddwyn i Ferthyr y noson honno.

Gosododd Gruffydd y gaseg yn y cerbyd ar fyrder, a phan oedd popeth yn barod, cariwyd Lewsyn iddo, oblegid yr oedd efe'n rhy wan i gerdded ei hun, ac aeth y tri brawd gyda lanternau a ffyn i ddangos y ffordd i'r swyddogion hyd yr heol fawr uwch y Porth Ogof a'u harweiniai i Benderyn, Hirwaun a Merthyr. Gadawyd Beti wrthi ei hun, a hithau, wedi pwyso o honi ei phen ar y bwrdd, a wylodd fel y gwna y rhai y mae pob gobaith wedi eu gadael.

Collodd bob cyfrif ar amser, ond pan, rywbryd tua chanol nos y clywodd ei brodyr yn dychwelyd gyda chrechwen fawr, rhedodd i fyny'r grisiau, ac ymguddiodd yn ei gwely heb ddiosg yr un dilledyn. Cyhuddai ei hun o fod heb wneuthur yr oll a fedrai i achub Lewsyn, a chredai y byddai ei waed ef ar ei dwylaw am byth.