Categori:Lewsyn yr Heliwr (nofel)

Oddi ar Wicidestun

Nofel gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) yw Lewsyn yr Heliwr. Bu'r nofel yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol, Caernarfon, 1921. Cyhoeddwyd y nofel gan Hughes & Fab Wrecsam ym 1925. Mae'r stori yn seiliedig ar ddigwyddiadau Terfysg Merthyr 1831. Yn ôl yr awdur:

Ergyd yr Ystori hon yw portreadu i ieuenctid yr ugeinfed ganrif gyflwr cymdeithas yn
Neheudir Cymru yn nyddiau olaf y Coach Mawr lai na chanrif yn ôl; ac yn enwedig i
ddangos prinder yr addysg, caledi'r amgylchiadau a gerwinder cyfraith y wlad yn y cyfnod
hwnnw.