Lewsyn yr Heliwr (nofel)/"Scrog!"

Oddi ar Wicidestun
Myned i Gaerdydd Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Y Cap Du

XIV—"SCROG!"

MANYLWYD ar natur y cyhuddiad cyntaf gan y cyfreithiwr oedd yn agor y case, a dywedid fod y ddau gerbron y llys wedi ceisio rhwystro y Coach Mawr ar ei daith drwy Hirwaun ar ddiwrnod neilltuol ym Mehefin, ac wedi ceisio ei feddiannu at ryw bwrpas anghyfreithlon.

Nid ar unwaith y gallodd Beti ddeall a dilyn trefn ac iaith y llys, ond yn raddol goleuodd arni bod Shams a'i gydgarcharor yn sefyll eu prawf am yr helynt welodd hi ei hunan ar Hirwaun yn nechreu y Cynnwrf Mawr. Rhoddodd hynny ddiddordeb neilltuol iddi yn y gweithrediadau, a gwrandawai yn astud fel y rhedai y case ei gwrs.

Yr oedd yr ail ddyn, na wyddai hi mo'i enw na'i hanes blaenorol, yn hunan-feddiannol dros ben, a pherai gryn ddifyrrwch i bawb gyda'i atebion ysmala. Pan ofynwyd am ei hawl i ddringo i'r Coach heb ganiatâd taerai yn eon (trwy y cyfieithydd) mai ei garedigrwydd a'i cymhellai.

"Beth oedd y caredigrwydd anferth hwn?" ebe'r cyfreithiwr gyda sen.

"Achub eu bywyd nhw i gyd!"

"O! achub eu bywyd i gyd, ai ie? Dyna gynnyg newydd i'r llys. Trowch eich wyneb at foneddwyr y rheithwyr iddynt glywed yn eglur yr hyn a ddwedwch. Ym mha fodd y ceisiasoch achub eu bywyd?"

"Trwy atal y ceffylau i redeg i ffwrdd "

"Pwy ddwedodd wrthych eu bod yn rhedeg i ffwrdd?"

"'Doedd dim angen i neb ddweyd wrthyf,—yr oedd golwg wyllt y gyrrwr a'r ceffylau eu hunain yn ddigon i brofi hynny!"

"Ac o'r holl bobl yn yr ystryd chwi oedd yr unig un welodd fod y ceffylau allan o reolaeth, onide?" "Nage! Dyma un wrth f'ochr a welodd yr un peth!"

"Adwaenech chwi ef cyn y diwrnod hwnnw?"

"Dim o gwbl. Welais i mo'r dyn yn fy oes nes ei ganfod yn fy ymyl ar nen y Coach, pan y cawsom ein maeddu a hanner ein lladd gan y dyhiryn acw!"— gan gyfeirio a'i fys at y Guard oedd gyferbyn ag ef yn y neuadd.

"Peidiwch gwneud araith i'r llys, atebwch y cwestiynnau!"

Ar hyn torrodd y Barnwr i mewn i'r holi gan ddweyd,—

"Where did you say the Coach usually stopped?"

Mentrodd y cyhuddedig ateb yn y Saesneg, heb y cyfieithydd y tro hwn.—

"At the Cardiff Arms, sir, and the place where that man tried to scrog me was hundred yards farther up."

"Let me see—scrog! scrog! I am afraid I do not quite understand the word!"

"Scrog! s-crego! scregan! sir!" ebe'r Cymro unwaith eto mewn eglurhad.

"I am afraid my conjugation of Welsh verbs is deficient." (Chwerthin yn y llys). Yna yn uwch wrth y cyhuddedig drachefn,—

"Where did you say he tried to—scrog you?" gan gyfeirio at y canllath pellter.

"By here, sir! on my neck, sir!" ebe fe drachefn, gan noethi ei wddf tarwaidd, llydan, ynghanol chwerthiniad cyffredinol.

"Please proceed with your examination, Mr. Harding, will you? I am afraid I have not made the accused understand me"

"Yna," ebe'r cyfreithiwr (trwy'r cyfieithydd drachefn)—"wedi y camdriniaeth gawsoch am eich caredigrwydd yn ceisio achub pawb yn y cerbyd, beth wnaeth y guard anniolchgar i chwi wedyn?"

"Fe'm tawlws dros y wheel i'r hewl!" (Chwerthin).

"Beth wnaethoch chwithau yn nesaf?"

"Cwnnu ar 'y nhraed, wrth gwrs!" (Chwerthin uchel).

Teimlai y cyfreithiwr erbyn hyn nad oedd yr holi yn llwyddiant hollol, ac nad ydoedd wedi cysylltu y cyhuddedig a'r Mob mewn unrhyw fodd. Felly, dilynodd ymlaen am ychydig eto i geisio rhw'ymo y gw'alch cyfrwys a'i hatebai mor llithrig.

"Ie," ebe fe, "wedi i chwi gael eich taflu allan mor chwyrn, ac i chwithau godi fel yr eglurasoch inni, dywedwch wrth y llys i ba le yr aethoch y funud nesaf ar ol hyn. Onid yn ol tua'r Cardiff Arms?"

"Dim o'r fath beth! Mi ês i'r tŷ at y wraig, No. 11, Penhow, Hirwaun, ac wedi iddi olchi'r gwaed oddiar fy wyneb eithum i'r gwely!" (Peth chwerthin).

"Aethoch chwi ddim pellter yn ol at y lliaws?"

"Dim o gwbl! Ro'wn i gyferbyn a'r tŷ, No. 11, Penhow, pan y cwmpais."

"A ydych yn eithaf sicr o hyn?"

"Ydwyf, yn berffaith sicr, neu gofynnwch i'r wraig. Yr oedd hi ar garreg y drws, pan ddisgynnais i mor 'scaprwth' o ben y Coach!" (Chwerthin mawr eto). Methwyd profi bod Shams a'i gyfaill talentog yn gysylltiedig a'r gwrthryfelwyr o gwbl, a daeth y ddau yn rhydd.