Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Y Cap Du

Oddi ar Wicidestun
Y Treial Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Reprieve

XV—Y CAP DU

YNA cyhuddwyd pump arall o fod wedi ymgynnull yn wrthryfelgar mewn lle a elwid Hirwaun, ymhlwyf Aberdâr, Miskin Higher, ac wedi torri ar heddwch y brenin yn y man dywededig, a pheri anhwylusdod i'w ddeiliaid yn yr un lle dywededig.

Edrychai Beti yn fanwl ar wyneb pob un o'r rhai hyn hefyd ac i'w syndod teimlodd ei bod yn adnabod un ohonynt hwythau, ac wedi ei weled yn rhywle yn ddiweddar. Trethodd ei meddwl am ychydig, a chofiodd yn y man mai yr hwn a'i haflonyddodd ar Hirwaun, ac a osododd ei law ar ei basged gan waeddi,— "Menyn neu Waed, myn asgwrn i!" oedd efe.

Rhywfodd nid oedd ganddi yr un teimlad cas ato, ag yntau yn ŵr ar lawr fel ag yr oedd, ond yr oedd y gwahaniaeth rhwng ei agwedd lwfr yn awr a'i ystum ffug-arwrol y pryd hwnnw yn peri iddi wenu er gwaethaf popeth.

Yr oedd yntau, fel cyfaill Shams ar nen y Coach, yn hynod siaradus, ond nid oedd agos mor glir yn ei "stori " nac mor hunanfeddiannol yn ei thraethu, ag oedd hwnnw.

Honnai, pe credid ei air, nad oedd dyn diniweitach nag ef ar glawr daear, ac mai wedi ei gamgymeryd am rywun arall oedd yr holl dystion. Ni fu ei honiadau fodd bynnag o un budd iddo, oblegid cafodd, fel y lleill, " bum mlynedd " o alltudiaeth dros y môr, a diflannodd i lawr y grisiau gan barhau i siarad a thaeru. Yna, mewn distawrwydd a ellid ei deimlo, galwyd allan "Richard Lewis!" ac mewn atebiad dacw lanc oddeutu ugain oed yn sefyll i fyny.

Cyhuddwyd ef o fod, ar ddydd neilltuol, yn achos marwolaeth un Donald McDonald, mewn lle neilltuol o'r enw The Castle Hotel, ym mhlwyf Merthyr Tydfil. Hwn oedd Dic Penderyn glywsai y merched gymaint o sôn am dano. Llenwid eu mynwesau â thosturi mawr tuag ato; canys edrychai mor ddiddrwg ac mor anhebig o ladd neb pwy bynnag. Yr oedd hefyd mor wylaidd yn ei atebion, ac mor wyneb-agored yn cydnabod rhai pethau yn ei erbyn ei hun fel yr enillodd lawer i gredu o'i ochr.

Ond nid oedd dim yn tycio. Barnwyd ef yn " Euog " gan y rheithwyr, ac estynnodd y Barnwr am ei gap du, a chyda cryndod rhyfeddol yn ei lais, efe a'i condemniodd i farw. Nid oedd yno lygad sych yn yr holl dorf, plygodd Dic ei ben, a throdd yn dawel i ddilyn y swyddog yn ol i'w gell.

Yna, o rywle, galwyd allan mewn llais clir, "Lewis Lewis!" Cydiodd Mari yn llaw Beti a syllasant ill dwy ar y gwallt "a'r haul arno," yn dod i fyny heibio rheil y carcharorion. O! ai hwn oedd y bachgen glanwedd gynt? Edrychai Beti yn ol yn ei meddwl am dair blynedd i weled marchog y ceffyl gwyn yn myned i'r Bêcwns y Sul cyntaf yn Awst. Yna tremiodd i ymyl y swyddog drachefn a chuddiodd ei hwyneb â'i dwylaw. Yn nes ymlaen pan oedd y prawf wedi dechreu a thyst neu ddau wedi rhoddi eu tystiolaeth, syllai Beti yn graff ar y Barnwr a'r Rheithwyr i edrych a welai linellau o dosturi yno yn rhywfan. Yna galwyd Gruffydd Williams i roddi y ffeithiau a wyddai efe, ac er mawr syndod i Beti ei hun dywedodd ei brawd bopeth a allai i ffafrio y carcharor. Gwelwyd Lewsyn yn sychu ei lygad pan wnaed hyn, a chredai rhai ei fod ar fin llewygu. Ond camsyniad oedd hynny—ton o deimlad serch at Hendrebolon, ac o ddiolch i Gruff a ddaeth drosto, ac yr oedd yn gryf eto y funud nesaf. Credai Beti yn awr na ellid ei gondemnio hyd nes i gyfreithiwr y Goron bwysleisio mai efe oedd y Ringleader, ac mai efe a dywalltodd waed gyntaf. A gwaethygu 'roedd yr olwg o hyn i'r diwedd pryd y cafodd y Rheithwyr y cyhuddedig yn Euog!

Pan ofynwyd i Lewsyn yn ol ffurfiau profion yn gyffredin i ddangos rheswm paham na ddylid ei ddedfrydu i farwolaeth. dywedodd "I have nothing to say, my lord, the witnesses have spoken the truth. Only that I was starving, my lord, and that all my friends were the same."

Yr oedd Beti a Mari erbyn hyn yn foddfa o ddagrau, ac yn plygu eu pennau i guddio eu hwynebau, ond clywsant eiriau y Barnwr yn eglur, a gwyddent fod pob gobaith ar ben. Siaradai yn dêg ac yn deimladwy neilltuol. Amlwg oedd ei fod yn tosturio yn fawr wrth Lewsyn. Ond yr un oedd y diwedd—"Y Cap Du," a " Dedfryd o Farwolaeth."

Gwasgarodd y dorf ar hyn ond ni syflodd y merched hyd nes i'r Sgweier ddyfod atynt, a gosod ei law yn dyner ar ysgwydd Beti a dweyd,—"Dewch 'y merch i!" Cododd ar hyn (a gwnaeth Mari yr un modd), a chan bwyso ar fraich yr henafgwr cyrhaeddasant eu llety; ac yno, Ysgweier Penderyn—a fernid gan rai y caletaf o bawb dynion—a wylodd gyda'r rhai oedd yn wylo, ac a anghofiodd ei dor-calon ei hun wrth weini ar eraill.

Aeth y merched ymhen amser i'w hystafell eu hunain, a chyn y daethont i lawr y grisiau drachefn yr oedd yr hen ŵr wedi myned allan gan adael gair gyda Gruffydd am iddynt beidio ei ddisgwyl yn ol tan nos.

"Pa fodd y 'drychai ef, Gruffydd?" ebe Mari.

"Wel," oedd yr atebiad, "yn ddewrach a mwy penderfynol nag y gwelais ddyn erioed. Ac yr oedd dan 'i fraich e' fox bach 'sgwâr, ferched, na welais i mo'i sort e' yn 'y mywyd; a pheth oedd e' dda, wn i ddim eto!"

Rhaid bellach oedd paratoi am y siwrnai drist yn ol drannoeth, a phan, wedi noson o adfyd mawr y daeth y cerbyd eto at y tŷ i gychwyn y daith, dywedodd meistr y llety fod y Sgweier wedi myned ar doriad gwawr y bore hwnnw gyda'r Coach Mawr i Lunden, ac wedi gadael gair gydag ef, y gallent aros cyhyd ag y mynnent, bod Ifan a'r cerbyd at eu gwasanaeth, ac nad oeddent i fod mewn eisiau o ddim.

Ond yr oedd aros yng Nghaerdydd yn hwy allan o'r cwestiwn, ac felly, wedi diolch iddo ef a'i wraig am eu teimladau lletygar, hwy a ddychwelasant i Benderyn yr un dydd.

Ar y daith yn ol nid oedd gan Ffynnon Tâf na'r Castell Coch, Ifor Bach na William Edwards, un diddordeb iddynt mwyach, a phan wedi pasio trwy Y Basin, Aberdâr, Hirwaun, a Phontprenllwyd, gofynasant i Ifan adael iddynt ddisgyn wrth y Lodge, ac y cerddent y rhelyw o'r ffordd i dŷ Mari.

Nid oedd hynny wrth fodd Ifan o gwbl, oblegid yr oedd efe wedi arfaethu rhedeg ei geffylau i Sgwâr y Lamb mewn dull rhwysgfawr (neu yn ol ei eiriau ei hun, "in grand style"); am mai yn anaml y cai efe y cyfle i wneud hynny.

Ond pan y dangoswyd iddo nad gweddaidd y peth o dan yr amgylchiadau, gwelodd resymoldeb eu dadl. Felly, ar draed yr aed oddiwrth y Lodge hyd at y Lamb, ac yn nhŷ Mari y bwriwyd y noson gan eill tri.

Y diwrnod canlynol dygodd Gruff ei chwaer dros Waun Hepsta i'r cartref tawel oedd wedi ei annhrefnu mor dost yn yr wythnosau blaenorol.

Cyn dod i'r llidiart a arweiniai i'r cae dan y tŷ trôdd Beti at Gruff a dywedodd,—"Diolch yn fawr i ti. Gruff, am fod mor dêg, a dweyd nad oedd Lewsyn yn ddrwg i gyd. All neb bwynto bys byth ar dy ol a dweyd iti ala dyn arall o dan y rhaff. Diolch yn fawr i ti, Gruff!"

Ar hyn cymerodd afael yn ei fraich a chusanodd ef, ac aethant ill dau i mewn i aelwyd eu tad a'u mam.