Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Myned i Gaerdydd

Oddi ar Wicidestun
Y Ddwy Gyfeilles Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Y Treial

XII.—MYNED I GAERDYDD

UN bore braf yn niwedd haf 1831, pan oedd pentref Penderyn ar ddihuno i ddiwrnod newydd, gwelodd y trigolion beth na welwyd ers llawer blwyddyn, sef cerbyd mawr Plas Bodwigiad yn sefyll o flaen y Lamb gydag Ifan, yr hen wâs, mewn dillad lifrai ar y box, a'r Ysgweier mewn gosgedd weddus iawn yn sefyll yn ymyl fel pe yn disgwyl rhywun neu rywrai i'w gyfarfod yno.

Synasant yn fwy o weled drws un o'r bwthynod yn ymyl yn agor a dyn ieuanc a dwy eneth wladaidd yr olwg yn dynesu at y cerbyd, ac ar ol cyfarchiad caredig gan ŵr penna'r plwyf, yn cael eu cynorthwyo ganddo i esgyn i'w lle ynddo. Rhwbiwyd llygaid yn fawr iawn y bore hwnnw ym mhentref y Lamb er cael penderfynu mai nid breuddwyd oedd yr oll.

"Ai nid Mari Jones ydyw yr un acw? Cato'n pawb! A phwy yw y llall? Byth nad elwy' o'r fan yma, os nad yr eneth wyllt, anhebig i bawb arall, o Hendrebolon yw!"

Yr oedd cywreinrwydd bron llethu pawb, ond ni feiddiai neb fyned yn nes i'r cerbyd ac eithrio Marged Llwynonn, yn unig. Credai hi yn rhinwedd ei gwaith yn golchi ambell waith yn y Plas, y gallai gymryd y blaen ar y lleill. Ond gwell fuasai iddi beidio, oblegid pan ar fedr dweyd "Bore da, Sgweier, yr ydych wedi cwnnu'n fore," daliodd ei lygad ef hi, a rhewodd y gair ar ei min.

Neidiodd yr hen ŵr fel hogyn i'r cerbyd ar ol y lleill o'r cwmni, tarawodd Ifan ergyd â'i chwip, a dacw'r meirch porthiannus yn cychwyn yn fywiog a'u llwyth i waered y cwm.

Brysiwyd trwy Bontprenllwyd cyn i'r pentrefwyr yno sylweddoli fod cerbyd mawr y Plas wedi cael atgyfodiad.

Bu yr amgylchiad yn destun siarad mawr y dydd hwnnw, a siglwyd llawer pen gan bobl ddrwgdybus oedd yn mesur pawb "wrth eu llathen eu hun." Ond ni ddyfalwyd y gwir gan neb ohonynt er cymaint y dyfalu fu, oblegid ni wybuwyd eto am y teimlad caredig a ysgogai waith y ddwy eneth, a llai fyth am y bonedd pur a lanwai galon yr hen Ysgweier traws.

Tawedog iawn oedd y ddwy eneth ar gychwyn y daith, ond pan ddechreuodd yr hen ŵr ddangos iddynt wrthrychau mwyaf diddorol y cwm, aeth y siarad yn fwy cyffredinol. Nid oedd yr un ohonynt wedi teithio ymhellach nag Aberdâr cyn hynny, a phan ddaethpwyd allan i'r Basin a gweled camlas fawr Merthyr, ynghyda'r mulod a'u gyrwyr yn dwyn llwythi drosti i lawr i Gaerdydd, mwyaf i gyd elai y diddordeb.

Yr oedd gan y Sgweier amcan yn hyn oll, sef eu cadw rhag meddwl gormod am y dydd trist oedd o'u blaen. Ac wedi gwneud un cyfeiriad caredig at Lewsyn, a datgan ei hyder y deuai efe allan efallai yn well nag y disgwylid, trodd drachefn i ddiddori'r merched yng ngheinion Dyffryn Taf.

Ym Mhontypridd (neu yn hytrach Newbridge, fel y'i gelwid y pryd hwnnw) disgynnwyd o'r cerbyd er mwyn gweled y Garreg Siglo a Phont yr hen bregethwr, ys dywedai yr Ysgweier.

"Dyma hi, ferched!" ebe ef gan wenu, "yn well na dim o'i thebig gynhygiwyd gan neb arall erioed. Chware teg i'r hen bregethwr!"

Wedi hynny dringwyd i'r Cwmin i osod y Garreg Siglo i symud, ac i ryfeddu at gywreinrwydd yr hen Gymry yn meddwl am osod y fath feini yn eu lle. Ar y ffordd yn ol at y bont, cymharwyd y maen hwn â Charreg Siglo Pontn'dd Fychan, a daliai Gruffydd mai er cystal eiddo Dyffryn Tâf, bod un Cwm-nedd "ar y blâ'n" yn ei feddwl ef, am ei bod yn fwy cywir ar ei hechel, ac felly yn hawddach ei chyffro, ac, yn wir, ei fod ef,— Gruff,-rywdro wrth fyned heibio iddi, wedi ei defnyddio i dorri cnau. Rhoddodd hyn ddifyrrwch mawr i'r Ysgweier, ac erbyn eu bod unwaith eto yng ngolwg Ifan a'r cerbyd, yr oedd efe ar ei uchel hwyliau ac yn ffraeth dros ben.

Yna ail-gychwynwyd, ac ymhen amser deuwyd ar gyfer Castell Coch, pan y cynheuwyd hyawdledd yr hen ŵr eilwaith wrth sôn wrthynt am wrhydri Ifor Bach yn yr amser gynt.

"Plwc! ferched bach. Giêm! i chi'n weld. Y petha' gore'n y byd!" Yna gwenodd arnynt drachefn, a daeth i feddwl y tri am yr hwn oedd yn awr mewn helynt dybryd am na thrôdd ei "blwc" i'r iawn gyfeiriad.

Wedi darfod sôn am rinweddau Ffynnon Tâf a'r nifer mawr a wellhawyd yno, yr oeddynt yng nghyffiniau Caerdydd, a'r tai unigol yn dechreu rhoi lle i ystrydoedd. Nid oedd Caerdydd y pryd hwnnw ond cymedrol o ran maint,—" Nid hanner cymint a Merthyr," mentrodd Gruff,—ond yr oedd y tai yn fwy destlus a rheolaidd, ac felly yn rhoddi gwell syniad o dre nag a wnai y twr poblogaeth oedd wedi tyfu o amgylch Cyfarthfa a Phenydarren.

Wedi dyfod ar gyfer y castell a gweled a chlywed ohonynt forwyr nad oeddent yn Saeson nac yn Gymry, aeth y syniad o bwysigrwydd Caerdydd yn uwch eto yn eu meddwl.

Ychydig yn nes ymlaen estynnodd y Sgweier ei hun allan o'r ffenestr i roddi cyfarwyddyd i Ifan, a throwd i lawr i groesheol, yn yr hon y safodd y cerbyd ryw chwech neu saith drws yn is i lawr.

Wedi disgyn ohonynt rhedodd dyn allan o'r tŷ gyferbyn, ac wedi cyfarch y Sgweier yn foesgar, cymerodd ddwy o fasgedi o law Ifan ac a'u cariodd i fyny at y drws lle yr oedd meistres y tŷ yn barod i groesawu ei hymwelwyr.

"Follow me, please, ladies" ebe hi, ac arweiniodd y ddwy eneth at y grisiau. Ond cyn iddynt ddechreu esgyn i'w hystafell, ebe'r Sgweier yn Gymraeg wrthynt,— "Ugain munud i ymolch ac ymdaclu, ferched, ac wedi hynny dewch lawr i gael bwyd. 'Rwy'n siwr bod 'i isha fe arnoch chi, fel 'm hunan." Ymdaclodd y genethod mewn llai nag "ugain munud" y Sgweier, ond arosasant i siarad ac i helpu ei gilydd yn y mân drwsiadau yr ymhyfryda y rhyw dêg gymaint ynddynt.