Neidio i'r cynnwys

Lewsyn yr Heliwr (nofel-Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Lewsyn yr Heliwr (nofel-Testun cyfansawdd)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler: Lewsyn yr Heliwr (nofel)

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

LEWSYN YR HELIWR

Ystori yn disgrifio Bywyd Cymreig

GAN

LEWIS DAVIES

Y CYMER, PORT TALBOT


WRECSAM:

HUGHES A I FAB, CYHOEDDWYR

1925

BUDDUGOL YN YR EISTEDDFOD

GENEDLAETHOL, CAERNARFON, 1921

MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN

Ergyd yr Ystori hon yw portreadu i ieuenctid yr ugeinfed ganrif gyflwr cymdeithas yn
Neheudir Cymru yn nyddiau olaf y Coach Mawr lai na chanrif yn ôl; ac yn enwedig i
ddangos prinder yr addysg, caledi'r amgylchiadau a gerwinder cyfraith y wlad yn y cyfnod
hwnnw.


CYNHWYSIAD


LEWSYN YR HELIWR

I.—RHAGARWEINIAD

PAN nad oedd y ganrif ddiweddaf wedi treulio ond rhyw ugain mlynedd, a'r atgof am Boni a Waterloo yn ffres a byw yn y tir, dechreuodd pobl Cymru feddwl am rywbeth heblaw codi bechgyn i ryfela â'r Ffrancod. Bychan oedd yr hur mae'n wir, a drud pob nwydd, ond eto i gyd yr oedd yn y werin awydd am y pethau hynny a'u codai, yn eu tyb eu hunain, ac a roddai iddynt le uwch ym marn eu cymdogion. Trigai traddodiad am Ysgolion Gruffydd Jones a Madam Bevan mewn llawer cilfach, ac wele, o'r diwedd, rai ugeiniau o ysgolion yn cael eu hagor yma a thraw, a gwanc am addysg a'r gallu i ddarllen yn myned o fferm i fferm ac o fwthyn i fwthyn.

Digon diaddurn oedd yr ysgoldy bron yn wastad, oblegid ysgubor wâg neu gyntedd eglwys oedd y lleoedd mwyaf cyfleus, ac yno yr elai plant y wlad i glywed am gyfrinion yr A. B. C., a'r pethau mawr a ddilynai o'r gallu i'w gosod wrth ei gilydd i spelio.

Clywais gan fy mam lawer ystori a glywsai hithau gan fy hen famgu, am Ysgol Sgubor Gwern Pawl,—y digwyddiadau ysmala fu yno, a'r athrawon mwy ysmala fyth fu yn tywys plant Penderyn ar hyd llwybrau dyrys y "Reading made Easy" a'r "Spelling Book." Ond er y chwarddem lawer am ystranciau "y cau Allan" ac am ystrywiau yr athro anwybodus a fethai guddio ei ddiffygion ei hun rhag plant ei ofal, gwell gennyf fi oedd clywed hanes ei chyfoedion yn yr amser hwnnw, ac yn enwedig am Lewis Bodiced a Beti Hendrebolon,—ystori a godai wên i'n hwynebau mewn ambell bennod, ond a'n gadawai yn fynychach gyda chalonnau trist a llygaid lleithion.

II—GWERN PAWL.

BETI WILLIAMS! "you will sit by Mary Jones and do as she does" ebe y Scwlin, Gwern Pawl, un bore Llun pan ddaeth merch fechan oddeutu deuddeg oed dros drothwy yr hen ysgubor i'r ysgol am y tro cyntaf.

Ar hyn symudodd fy hen famgu (canys hyhi oedd y Mari Jones) ychydig yn uwch ar y fainc i wneud lle i'r ysgolor newydd ac yn union wele Beti wrth ei hochr. Yr ystum o wneud lle iddi i eistedd yn unig a'i cymhellodd i'r fainc, oblegid ni wyddai yr eneth air o Saesneg y pryd hwnnw, a phrofwyd hynny ymhen ychydig o funudau oblegid gofynnodd i Mari yn hryderus,—

"Beth ma' fa'n 'weyd? "

"'Ch bod i ishta gyta fi ac i neud yr un fel a fi," ebe Mari yn garedig.

"G'naf wir," ebe Beti, "os helpwch chi fì."

Meddyliai Mari na welodd wallt harddach na bochau tecach gan neb erioed nag a oedd gan Beti, a phenderfynodd yn ei meddwl y gwnai hi gyfeillach â'r eneth newydd.

Wedi gwersi y bore, aeth y ddwy allan i'r caeau i fwyta eu cinio, oblegid yr oedd yn rhy bell iddynt fynd adref gan fod Mari filltir o dŷ ei thad yn y Garwdyle, a Beti gryn bedair milltir o Hendrebolon, ei chartref hithau yn Ystradfellte.

Ond os oedd Beti yn yswil yn yr hen 'sgubor, yr oedd mewn afiaith mawr yn y meysydd, gydag enw i bob blodeuyn ac aderyn, a rhyw swyn yn ei pharabl a'i chwerthiniad a ddenai galon Mari Jones yn lân. Erbyn ysgol y prynhawn, yr oeddent yn gyfeillesau calon, a Beti yn ymdrechu ymhob dim i wneuthur "yr un fel" a Mari, y ferch a'i helpiai.

Cyn pen yr wythnos adnabu Beti ei chyd-ysgolheigion i gyd wrth eu henwau, a hwynt oll yn yr un modd a'i hadnabuont hithau. Nid oedd yno neb, yn fab nac yn ferch, ar nad oedd, yn ei ffordd ei hun, wedi ceisio ennill ei ffafr. Yn wir, yr oedd yn fwy poblogaidd na Mari ei hun, ond er llawer cynnyg oddiwrth y merched eraill i chware gyda hwy, glynnodd Beti wrth ei chariad cyntaf. Nid oedd yn yr ysgol i gyd ond un ysgolor gwych, ac oherwydd ei dalent a'i fedr, yr oedd hwnnw yn ffefryn yr hen Scwlin, ac am yr un rheswm, efallai, yr oedd hefyd yn nôd cenfigen ei gyd-ysgolheigion.

Llanc golygus, penfelyn, ydoedd Lewis Lewis, neu Lewsyn Bodiced (fel y gelwid ef gan amlaf), mab i un o swyddogion ystad fwyaf y cylch,—Bodwigiad.

Nid oedd Mari Jones, er ei charedigrwydd i Beti, uwchlaw siarad yn angharedig am Lewsyn. Nid oedd ganddi unrhyw achos neilltuol i'w gashau, ond yn unig ei fod "yn meddwl gormod ohono ei hunan."

Yr oedd Beti, druan, ar y llaw arall, mor fyw i'w diffygion addysgol hi ei hun fel na ddeallai sut yn y byd y gallai un oedd yn ateb popeth yn y gwersi mor rhugl fod yn llai nag oracl ym mhopeth arall hefyd. "Rhoswch chi dipyn bach," ebe Mari, "chi gewch weld 'i ffordd gâs e' cyn bo hir yn mynnu bod yn fishtir ar bawb."

Ond yr oedd Lewsyn wedi bod mor fwyn wrth Beti oddiar y diwrnod cyntaf fel na fynnai hi, beth bynnag, gredu o gwbl yr hyn ddywedai Mari. A chan na allent gytuno yn hollol amdano, wele'r cwmwl cyntaf rhwng y ddwy gyfeilles.

Ymhen tua mis ar ol hyn, a'r haf melyn wedi addurno perth a maes â'i geinion tlysaf, aeth Beti a Mari, yn ol eu harfer, allan i'r meysydd ar yr awr ginio, ac yr oeddynt yn ymgomio'n felys ara eu dyfodol prydferth, pan glywsani lais uchel o'r nant, a geiriau cas yn dilyn,—

"Y fi pia fe, dod e' lawr! Ar ol i fi ddilyn e' o garreg i garreg, wyt ti'n meddwl, o achos iddo ddod i dy law di, ta ti pia fe?"

Lewsyn oedd yno, a'i ddwy lawes wedi eu torchi hyd fôn y fraich, ac mewn tymer ddrwg am i'r brithyll oedd efe wedi "ei ddilyn o garreg i garreg," ys dywedodd efe, ddigwydd cael ei ddal ar unwaith gan Shams Harris o'r Pompran,—bachgen araf wrth ei wers, ond buan ymhob camp,—a oedd gyda Lewsyn yn goglais brithyllod yn y nant ar y pryd. Enghraifft arall o berchen y "talentau lawer" yn gomedd yr "un dalent " i'w frawd llai.

Syllodd Mari yn feddylgar ar Beti, gan ddweyd mor eglur ag y gallai edrychiad wneud.—"Oni ddwedais i?" Ond ni fynnai Beti ddal ei golwg arni, ond gyda gwrid dros ei holl wyneb, dywedodd wrth Lewsyn,— "Rhowch y pysgodyn iddo, Lewis, fe ddof i a gwell hwnna o lawer ichi 'fory!"

Yn groes i ddisgwyliadau y merched, estynnodd Lewsyn y brithyll yn ol i Shams, a hwnnw a'i hailgymerodd o'i law fel pe bai lwynog yn cael ysglyfaeth o bawen y llew. Lewsyn, gan wenu ar y merched, a dynnodd ei lewys i lawr i'w arddyrnau, ac wedi eu sicrhau wrth y botymau, dringodd i'r cae ar yr ochr bellaf i'r nant.

Trodd y merched hwythau, yn eu holau i'r ysgol, ond rhywfodd, nid oedd ond siarad prin ar y llain rhwng y nant a'r ysgubor y diwrnod hwnnw.

Wedi cyrraedd adref i Hendrebolon yn hwyr y prynhawn, bu Beti yn brysur wrthi yn troi nant y pistyll i lifo i wely arall er mwyn dal brithyllod yn yr hen wely. Llwyddodd i gael tri pysgodyn braf, oedd wedi eu gadael yn sych oherwydd newid cwrs y ffrwd. Y rhai hyn wnaent rôdd yr aberth i Lewsyn fore trannoeth, ac er mwyn bod yn unol â'i haddewid, gosododd hwy yn daclus, gyda glaswellt drostynt, yng ngwaelod ei chôd bwyd, yn barod i'w dwyn at ei harwr yn ol llaw. Ni ddywedodd air wrth neb am y ddalfa, ac yr oedd y pleser yn fwy o feddwl mai llygaid Lewsyn a'u gwelent, gyntaf. Nid anghof ganddo yntau yr addewid ychwaith, oblegid hanner awr cyn ysgol y bore, aeth i gyfarfod Beti i Bantgarw, ac yno, wrth glwyd y waun, y cafodd yr eneth y gwynfyd o weled llygaid Lewsyn yn blysio am feddu y rhodd.

Ymhen tipyn, gwelodd Mari y ddau yn dyfod gyda'i gilydd drwy y coetcae at eu gwersi, a theimlai yn ei chalon y chwerwder o gael cydymgeisydd am y serch a brisiai mor fawr. Dangoswyd y tri brithyll iddi, mae'n wir, ond nid oedd ynddi yr un edmygedd ohonynt. Credai y buasai y difaterwch hwn yn gosod pethau yn eu lle iawn, ond, i'w mawr siom, ymddangosai ei hoerfelgarwch fel peth dibwys yng ngolwg y ddau arall.

O hyn allan anamlach y gwelid Mari yn helpu Beti gyda'i gwersi, ond llenwid y bwlch,—a mwy,—gan y cymorth a gaffai gan Lewsyn.

Eto' daliwyd y cyfeillgarwch drwy y cwbl, a buan y daeth amgylchiadau i gylch eu bywyd ar a'i hasiodd cyn dynned ag erioed.

Aeth tymor yr ŵyn heibio, a dilynwyd ef gan dymor nythod; ac yma, er holl fedr Lewsyn a Mari mewn llyfrau, rhaid oedd rhoi y flaenoriaeth i Beti, canys am bob nyth a ddangosent hwy iddi hi, dangosai hi ddwy yn ol iddynt hwythau. Ymwelent eill tri â dinasoedd yr adar yn ddyddiol, a mawr oedd y siarad a'r pryderu am yr adar bychain oedd yn ymyl deoriad.

Un diwrnod, daeth Beti bum munud yn hwyr i'r ysgol, ac er na chafodd yr un cerydd, ymddangosai yn dra chynhyrfus drwy y gwersi cyntaf. Ni welodd hi erioed fore cyhyd a'r bore hwn, oblegid yr oedd ganddi gyfrinach o'r radd flaenaf i'w rhannu â Lewsyn a Mari, a chyn bod y gwaith wedi ei roi heibio yn hollol, dyna hi yn torri allan wrthynt bod ganddi hi "nyth esgyrn!" Chwarddodd y bachgen yn ddiatal, a gwenai Mari yn anghrediniol, ond mynnai Beti ei bod yn iawn, a chan na allai y fath syndod aros hyd ddydd Sadwrn heb ei chwilio yn llwyr, penderfynwyd gweled y nyth y noson honno.

"Y mae uwchlaw pyllau Bryncul," ebe hi, "a bron bod yn y dŵr, ac o waith y 'deryn perta weles i 'rioed."

Ni wyddai hi ba enw i'w roddi ar berchen y nyth, ond disgrifiodd ef gyda hyawdledd neilltuol, ac ar ol hynny nid oedd neb yn ameu ei thystiolaeth.

Trefnodd Mari a Lewsyn i hebrwng Beti i Waun Hepsta y prynhawn hwnnw ar ol ysgol, gan alw heibio'r nyth hynod ar y ffordd, ac yna ddychwelyd i Benderyn, gan adael iddi hithau groesi'r Waun tua'i chartref. Tynnodd Lewsyn bolyn o'r berth, ac ymaith a hwynt yn llawen, y tri yn llawn eiddgarwch i weled y fath ryfeddod mewn natur.

Wrth ddynesu at y pyllau, disgynasant yn araf at y dŵr, gyda Beti ymlaenaf. Ymlwybrwyd gam yng ngham, heb yngan na sisial gair na dim, pan, yn sydyn, Whirr! cododd aderyn a lliwiau'r enfys ar ei gefn oddiar y nyth, a gwelent ddau wy mewn cylch o fân esgyrn yn y man yr eisteddai perchen y lliwiau disglair.

Glâs-y-dorlan (Kingfisher) oedd yr aderyn, a'i nyth yn wneuthuredig o esgyrn y brithyllod oedd wedi eu llarpio y mis diweddaf. Beti oedd yr arwres yn awr, a gwnaed cynghrair, wrth gwrs, nad oedd neb arall pwy bynnag, i gyfrannu o'r gyfrinach felys hon.

Wedi ymgomio am beth amser, ymrannodd y cwmni,— Beti yn myned ymlaen i Hendrebolon, a'r ddau arall yn dychwelyd yn eu holau i bentref Penderyn.

Ar y daith adref addefodd Mari wrthi ei hun ei bod wedi gwneuthur cam yn ei meddwl â Lewsyn, a'i fod yn well cyfaill nag oedd hi erioed wedi synied. Yn wir, credai pe deuai tarw neu unrhyw anghenfil arall i beryglu ei bywyd rywbryd, y gwnai efe ymladd hyd farw cyn ildio. Ac onid oedd yna darw cas ym Mryncul? A gwarchod pawb annwyl! dacw fe wrth glwyd y coetcae, ac yn siwr o fod yn barod i ymosod arnynt y foment honno

Ni arhosodd Mari i weled pa ochr i'r glwyd yr oedd, nac i weled a oedd yn bygwth ymosod ai peidio, ond rhedodd nerth ei thraed i gyfeiriad Pantgarw. Pan edrychodd yn ol, hi a welodd y gelyn yn cilio oddiwith y glwyd, a Lewsyn yn ei guro â'r polyn i'w gynorthwyo i fynd.

Bore drannoeth mawr oedd siarad y merched am Lewsyn ac am y mwynhad a gawsant yn ei gwmni, ond fel oedd yn rhyfedd, Mari oedd hyotlaf yn awr, a mynnai greu gwrhydri i'w chydymaith allan o ymddangosiad y tarw, na pherthynai iddo o gwbl, ac na hawliai efe mewn un modd.

Bu llawer o gynllunio rhwng y cyfoedion am y dyddiau braf oedd i ddod rhag llaw—am wynfyd y cynhaeaf gwair yng nghwmni Beti ar feysydd Hendrebolon, am ymweliadau â rhyfeddodau y Porth Mawr yn ymyl ei chartref, ac am gasglu torreth y mwyar duon a'r cnau yr oedd Ystradfellte mor enwog am danynt.

Ond yr oedd dyddiau ysgol Beti ar ben. Daeth pla y frech wen dros y wlad yr haf hwnnw, a sibrydwyd yng Ngwern Pawl un bore Llun bod rhieni'r gyfeilles o Hendrebolon ill dau "yn drwm" ynddi. Cadwyd Beti o'r ysgol, nid o un syniad y buasai ei phresenoldeb yno yn ffynhonnell perigl i'r lleill, ond yn unig am na ellid ei hepgor o'r fferm ar y pryd.

Cyn pen pythefnos, a hi yn unig ferch y teulu, gwelodd golli ei thad a'i mam o fewn tridiau i'w gilydd, a dilynodd eu heirch i Eglwys Llanfair Mellte heb sylweddoli yn llawn ei cholled. Cyn pen pythefnos arall, yr oedd ei brodyr wedi rhentu y tir yn enw Gruffydd, yr hynaf ohonynt, a rhaid bellach oedd i Beti aros gartref i gymryd ei rhan hithau yn yr anturiaeth.

III.—Y GIST

SHEMSYN! faint o arian sy' gen't ti?" oedd y gofyniad sydyn roddodd Lewsyn Bodiced i ogleisiwr llwyddiannus y brithyllod. un prynhawn Gwener pan oedd ysgolheigion Gwern Pawl wedi eu gollwng am y dydd.

Edrychodd Shams am foment ar ei gyferchydd heb ateb gair canys ni wyddai beth oedd i ddilyn. Ond o'r diwedd cafodd ei dafod, ac ebe fe,—" Pwy isha iti wneud yn fach ohono i, Lewsyn, a thithau yn gwybod nag oes dim gyta fi? Mr. Wynter y 'ffeiriad dâlws am'n ysgol i y cwarter hyn, a thyna beth wyt ti wedi glywed, tebig!"

"Na, Shams, nid fel 'ny o'n i 'n meddwl, wir. Isha d' help di sy arno i, ac y mae arian am dano hefyd."

"Wel, beth yw e?"

"Dyma fe—ti wyddost am hen ganddo'r Darran Ddu, sy' wedi lladd cymint o ŵyn leni. Wel, o'r diwedd mae o 'n sâff yn y gist gen 'i, ac 'rwy'n 'mofyn d' help di i gael e' mâs. Tipyn o job fydd hynny, ti'n gweld, rhaid cael dau idd'i wneud e', a'r ddau hynny'n fechgyn lled heinif hefyd. Ond unwaith bydd e 'n y ffetan gallwn fynd ag e' i'w ddangos i'r ffermwyr, ac mor falch fydda nhw bod y llencyn wedi'i ddal, nhw ro'n swllt yr un inni gei di weld. Ddoi di? Gwêd 'nawr, ne' bydd rhaid i fi ofyn i Ianto'r Saer. Ond gwell genny' dy gael di. 'Dyw Ianto ddim digon smart. Yn wir, Shemsyn, ti ddalast y brithyll 'ny 'n bert!" Dyna oedd yr ymgom a sicrhaodd dynged canddo'r Darran Ddu am byth. Fel y dywedodd Lewsyn, yr oedd ei ddifrod ar ŵyn yr ardal wedi creu llawer o syched am ei waed ymhlith pob perchen diadell y tymor hwnnw, a mawr fu yr ymgais i'w ddal "sodlau i fyny" mewn canlyniad.

Syrthiodd y lwc, fodd bynnag, i Lewsyn, llanc o'r ysgol i lwyddo lle y methodd pawb arall, ac wedi denu o hono yr ysglyfiwr allan o agen y graig i'r trap cerrig. h.y., y gist, y cam pwysig nesaf oedd ei gael allan o hwnnw drachefn i'r sach oedd yn barod i'w dderbyn. Yr oedd cwmwl wedi codi rhwng Lewsyn a Shams oddiar helynt y nant, ond diflannodd yn y man pan soniwyd am y gist. Dangosodd y pen-ysgolor ddoethineb yn ei ddewisiad o lifftenant, canys onid oedd hwnnw eisoes wedi profi ei fedr i fod yn heinif? a dangosodd ddoethineb mwy yn y modd haelfrydig y cyfeiriodd at y medr hwnnw. O'r foment honno allan yr oedd y ddau yn gyfeillion i'r pen, gyda Shams yn gludydd arfau i'w arglwydd hyd dranc.

Ond fel y digwyddodd y tro hwn, yr unig arf ddygid oedd sach gref, ac i hon rhaid oedd cael gelyn y diadelloedd yn fyw. Digon hawdd fyddai ei ladd yn y gist ond nid oedd hynny namyn na saethu aderyn ar ei nyth, ac felly yn hollol groes i draddodiadau goreu helwriaeth ymhobman.

Ond O! 'r fath drybestod fu ar y ddau lanc cyn cael yr hen gono i'r ddalfa! Agorwyd un pen i'r gist yn ofalus, ac o gylch yr agoriad hwnnw cylymwyd genau y sach yn ddiogel. Yna ceisiwyd peri i'r hen law symud i gyfeiriad y sach. Ond ofer am hir amser y bu hynny, er gwaethaf pob picellu a wnaed arno trwy agennau'r cerrig.

Unwaith, ceisiodd Lewsyn ei yrru â'i law yn yr un modd, ond gwell fuasai iddo beidio, oblegid clôdd safn yr hen Renard ar flaen un o'i fysedd nes peri iddo waeddi allan mewn poen. Ffyrnigodd y bachgen yn fawr am hyn, a dywedodd bethau câs am ŵr bonheddig y gist oedd yn dal y gwarchae mor benderfynol.

"Mi mynnaf e' ma's, Shemsyn, pe 'rhosem yma trwy'r nos!" Ac hyd yn hyn, aros trwy'r nos, a'r dydd nesaf hefyd oedd yr arwyddion yn wir, oblegid ni syflai y canddo, gwneled a wnelid. "Wel," ebe Lewsyn drachefn, "ni dreiwn ffordd arall." Ac ar y gair aeth i gasglu coflaid o wellt-gwyn-y-waun, ac a'i gosododd o amgylch congl y gist lle y llechai y llwynog. Wedi hynny tynnodd o'i logell foddion tân, sef y dur a'r callestr, ac wedi llwyddo i gynneu y manion gosododd y gwellt yn fflam. Yr oedd hyn yn ormod i lofrudd yr ŵyn, oblegid o ganol y mŵg oedd yn gordoi y gist a'r sach daeth llais Shams yn gwaeddi'n wyllt,—" Dere! dyma fe, Lewsyn, mae e' gen' i! Dere whaff idd 'i glymu e'!" Rhedodd Lewsyn drwy y mŵg at enau y sach ac a'i sicrhaodd a chortyn cryf. Ond erbyn hyn Shams oedd yr un a waeddai mewn poen,—" O—o—o! mae e' n cnoi 'm llaw i trwy'r ffetan. Bwrw e' ar 'i ben, man hyn!" Hynny a wnaed, ac wedi gollwng o'r cono ei afael ar gnawd Shams hongiwyd y sach a'i chynnwys aflonydd ar ganol polyn, ac felly y cludwyd y gelyn i lawr o'r creigiau gan y llanciau buddugoliaethus.

Dilynwyd rhaglen Lewsyn yn ei gylch o hynny allan, ac erbyn cwblhau yr arddangosiad o'r llwynog ar bob buarth yn yr ardal, yr oedd gan y ddau Nimrod ieuanc naw swllt yr un—swm na fu ym meddiant yr un ohonynt yn flaenorol i hynny.

Gwnaeth helynt y gist unpeth heblaw lladd pry, oblegid cylymodd serch Lewsyn a Shams at ei gilydd â rhwymyn annatodol, er efallai yr edrychent i olwg allanol yn debycach i feistr a gwas nag i ddau gyfaill Ond hynny oeddent yn wir, er i Lewsyn gyda'i gorff lluniaidd a'i wallt melyngrych ymddangos yn etifedd y llwyth urddasolaf, ac i Shams, oedd ychydig yn gloff o glin ac yn fyr o dyfiant, weini fel taeog arno.

Ond nid oedd y nodau gwahanol hyn yn cael sylw gan y llanciau eu hunain. Elent i'r lawnt chware, dringent yr allt, a physgotent y llynnau ar delerau cydradd hollol. Ac er, yn ol llaw, i Lewsyn fyned i breswylio i blas Bodwigiad, ac i Shams aros heb godi yn uwch na phen-ffraethebydd efail y gôf, ffynnodd yr hen gyfeillgarwch rhyngddynt drwy yr holl ddyddiau blin ddaeth i ran y ddau.

IV.—Y FUGEILES A'R HELIWR.

ER nad oedd Beti Hendrebolon ond prin pedair-ar-ddeg oed pan gollodd ei rhieni. cymerodd at waith y ffermdy fel pe wedi cael hir brofiad ohono. Gofalai am reidiau ei brodyr fel y gwelsai ei mam yn gwneuthur yn y dyddiau gynt, ac yr oedd y dodrefn a'r llestri llaeth yn dangos y glendid mwyaf.

Arhosodd ei thri brawd yn weddw, a chydag amser edrychid gan yr holl gymdogion ar Beti fel meistres y tyddyn. Gweithiai yn galed ar bob tymor o'r flwyddyn, a mawr oedd ei gofal am holl greaduriaid y fferm.

Prif gyfoeth Hendrebolon oedd y defaid a borai "arhosfa" helaeth ar lethr y Fân. Bugeilid y rhai hyn yn gyson gan un o'r brodyr, ond o byddai goruchwylion eraill y fferm yn gofyn am lafur y tri brawd, mynych yr elai Beti ei hun i edrych y mamogiaid. Gyda'i deugi yn ei. dilyn clywid ei chwibaniad yn torri o'r ucheldiroedd, a llawer o deithwyr ar heol Senni a syllent gydag edmygedd ar y fugeiles dlos yn llamu nentydd a ffosydd yr "arhosfa."

Pan ar ymweliad ag Ystradfellte un tro, gwelodd fy hen famgu hi fel "Menna yn dod o'r mynydd," gyda'r awelon yn ei gwallt a cheinder y rhos yn ei grudd. Ac o'r cyfarfyddiad damweiniol hwnnw nid oedd "byw na bod" heb i'r hen gyfeilles ysgol fyned i lawr gyda hi y foment honno i Hendrebolon i gael ymgom uwchben brechdan a llaeth. Yn yr ysgwrs gylch y bwrdd daeth Gwern Pawl a'i gysylltiadau yn naturiol i'r siarad, ac o ganlyniad enwyd Shams a'r cyfeillion eraill cyn bo hir. Pan ofynnwyd i Beti am y pryd y gwelodd hi Lewsyn ddiweddaf, hi a drodd y siarad fel pe o ddamwain i gyfeiriad arall. Rhyfeddodd fy hen famgu ychydig at hyn ar y pryd, ond aeth y peth yn fuan o'i meddwl, a chan godi i ymadael brysiodd i'w siwrnai gyda barn uwch nag erioed am harddwch a deheurwydd Beti.

Hyfryd fuasai gan fy hen famgu pe gallai feddwl yn dda am Lewsyn hefyd yn y cyfnod hwn, ond yr oedd ei anian wyllt ef yn ei arwain yn brysur i'r llwybrau lle mae colli cymeriad yn beth hawdd. Efe oedd heliwr Bodwigiad yn awr, a siaradai yr holl ardal am ei ystranciau. Sonnid yn neilltuol am y ffair olaf ym Mhontneddfychan pan arweiniodd efe nifer o fechgynnos y chwarel i ffrwgwd waedlyd â glowyr Glynnêdd a derfynodd mewn cyfraith a dirwyon.

Clywodd Beti yr holl helynt heb holi dim yn ei gylch, oblegid adroddid ef gan ei brodyr (a gashaent Lewsyn â chasineb mawr), yn ei gwydd heb ystyried fod pob gair a ddywedid fel brath i'w chalon. Ymhen hyn oll aeth y brodyr yn fuan wedyn i gyfraith a chefnder Lewsyn parthed "hawliau mynydd" Fforest Fawr Brycheiniog, a phechodau y tylwyth yn gyffredinol gyda phechodau unigol y ddau gefnder oedd i'w clywed beunydd gylch y bwrdd yn Hendrebolon. Ni chymerai Beti ran yn y siarad o gwbl, ond yr oedd rhywbeth yn ei mynwes yn cymell amddiffyniad o Lewsyn i'w meddwl yn wyneb y cyhuddiadau i gyd.

Tua'r amser hwn gwahoddwyd Beti gan ei chyfeilles Mari i dreulio prynhawn Sul gyda hi ym Mhenderyn, a rhan o'r cynllun oedd i Mari ddyfod i'w chyfarfod hyd Bont Hepsta erbyn dau o'r gloch. Hynny a wnaed, ac wedi cwrdd ohonynt trôdd y ddwy gyfeilles oddiyno i gyrchu Twyn yr Eglwys.

Ond pan ar yr heol isaf oedd ryw drichanllath islaw heol fawr Aberhonddu, heb na gwrych na chlawdd rhyngddynt, gwelsant ddyn ieuanc yn marchogaeth ar yr heol uchaf. Adnabu y cyfeillesau ef ar unwaith, ac hyd yn oed pe heb adnabod y marchogwr, yr oedd ceffyl gwyn Bodwigiad yn gyfarwydd gan bawb yn y plwyf. Ond nid oedd yr un amheuaeth yn meddwl y ddwy eneth am bersonoliaeth marchogwr y ceffyl gwyn.

"Y mae yn mynd i'r Becwns," ebe Mari, gan gyfeirio at arferiad yn yr ardal gan bob perchen merlyn i wneud y daith i Fannau Brycheiniog y Sul cyntaf yn Awst.

Ar hyn cododd Lewsyn ei law atynt mewn cyfarchiad moesgar, a theimlai y ddwy nad oedd gelyniaeth ganddo at Beti, beth bynnag am ei brodyr.

"Welsoch chi'r haul ar 'i wallt e'?" medde Beti, "on'd o'dd e' fel aur?"

Nid oedd Mari wedi sylwi yn neilltuol ar hynny, a phan drodd, mewn eiliad neu ddwy, i ddweyd rhywbeth arall wrth ei chyfeilles, gwelodd fod honno yn gwrido 'n ddwfn unwaith eto, fel ag y gwnaeth gynt wrth y nant.

Aeth Lewsyn rhag ei flaen i Gwmtâf gan feddwl mwy am y sylw a gaffai efe a'i greadur hardd yn arddangosfa y merlynnod wrth droed y Becwns nag am y merched. Yr oedd y sôn am ei ddyrchafiad i fod yn brif heliwr yr ystâd wedi tramwy y blaenau oll, a theimlai efe yn rhinwedd hynny ei fod yn rhywun mewn gwirionedd bellach.

Rhoddid y flaenoriaeth iddo, nid yn unig gan Shams, ond gan holl gylch ei gyfoedion, ac yn neilltuol felly mewn unrhyw gwestiwn a berthynai i ragoriaeth creadur. Yr oedd y bechgyn hyn wedi arfer plygu i'w farn pan yn yr ysgol, ac anodd ganddynt oedd ei groesi yn awr. Credent fod yr hwn oedd yn anffaeledig ymron yn ei wersi gynt yn ddim amgen na hynny pan yng ngwenau heulwen y Plâs.

Ond yr oedd cenhedlaeth hŷn na'r rhai hyn yn barnu yn wahanol am yr heliwr. Siglent eu pennau pan siaredid ei enw, a choffheid gan amryw ohonynt am y dirgelwch ynglŷn â'i enedigaeth ac afresymoldeb y rhyddid roisid iddo ef rhagor bechgyn eraill yr ardal. Sisielid llawer hefyd am ei hyfdra ar y Sgweier, a chynhygid mwy nag un ddamcaniaeth i gyfrif am hynny.

Beth bynnag am y ffeithiau a eglurai y pethau hyn. cynhyrfwyd y pentre un bore tua diwedd pythefnos y Mabsant gan y newydd fod Lewsyn wedi colli ei swydd, a'i fod wedi myned i ffwrdd yn ddistaw (i Ferthyr, fel y tybid), ac nad ydoedd i osod ei droed i mewn i Fodwigiad mwy.

Balchïai rhai yn ddigêl am ei gwymp, ond nid oedd heb ei gyfeillion ychwaith, oblegid daliai Shams Harris drosto yng ngwydd pawb, a dadleuai Mari Jones o'r Garwdyle mai bachgen glew ydoedd er gwaethaf ei fân wendidau, ac nad oedd mab yn y plwyf a allai "ddal canwll iddo" mewn dim a wnâi dyn yn ddyn.

Cofiai hi yn dda am fwynhâd y prynhawn hwnnw wrth nyth y Kingfisher, ac am lawer ysgwrs lawen a gawsai hi a Beti ag yntau yng nghylchoedd Gwern Pawl.

Druan o Beti! a wyddai hi y newydd, tybed? Penderfynodd Mari ei chyfarfod ar y ffordd i'r farchnad y Gwener nesaf yn y byd i roddi iddi y newydd trist, ac i arllwys eu cydymdeimlad y naill i'r llall yn wyneb yr alaeth sydyn.

Hynny a fu, pan brofodd Mari yn siaradus iawn a Beti yn ddwedwst dros ben. Ymhen mis gwelsant ei gilydd drachefn, a brawychwyd Mari yn fawr wrth weled y cyfnewidiad yn ei chyfeilles—y gruddiau wedi llwydo, y wên yn absennol, a'r llais ariannaidd wedi trawsnewid i ryw sisial bloesg.

Clywsai lawer gan ei mam am y decline yn dilyn teuluoedd, a daeth i'w chof am gyfnither i fam Beti fu farw o'r darfodedigaeth rhywle yng ngoror Maesyfed, ac am ewythr iddi, ochr ei thad, a ddaeth i'w angau o doriad gwaed disymwth.

Dygwyd i'r bwrdd felly holl ddoluriau ac anhwylderau teulu Hendrebolon am dair cenhedlaeth, a rhwng popeth ni wnai Mari ddim ond ofni y gwaethaf am ei chyfeilles hefyd.

Ond camsyniol fu darogan Mari wedi'r cwbl. Aeth bywyd yr awyr agored ar arhosfa ddefaid y Fforest Fawr yn drech na rhestr afiechydon y teulu i gyd, ac oddigerth y llonder ysbryd bywiog a'i nodweddai gynt, daeth gwedd gynefin Beti yn ol iddi eto.

V—GWYL GYNOG.

A hi yn brynhawn mwyn yn nechreu Hydref 1830, y tymor hud hwnnw y cymerai dail y coed eu gwahanol raddau o felyn a gwineu, ac y gwridai rhedyn y cilfachau o dan ei arliw coch yntau, gwelid o bob cyfeiriad ieuenctid plwyf Penderyn yn cymryd eu llwybr er cyrraedd Twyn yr Eglwys, llannerch enwocaf yr ardal.

Onid hwn oedd dydd paratoad Gwyl Gynog? y sefydliad a hanai o gyfnod y Seintiau pell heb na llyfr na llên i'w groniclo namyn traddodiad llafar gwlad y tadau? Cedwid yr wyl gyda manylder difwlch, a mawr oedd y brwdfrydedd ymhob tipyn, oblegid, heblaw ei bod o henaint diamheuol, rhoddai arbenigrwydd ar Blwyf Penderyn rhagor y plwyfi eraill o'i gylch.

Felly, yn uchel eu hysbryd ac yn drystfawr eu cân, deuent allan o amaethdy a bwthyn, o luest a chwarel, yn ffermwyr, bugeiliaid, chwarelwyr a chrefftwyr o bob math, i ddathlu eu gwyl gartrefol unwaith yn rhagor.

Cyn pump o'r gloch yr oedd yr hoff chwareuon i gyd mewn llawn hwyl-y bêl fach yn erbyn gwal yr eglwys, yr herc-a-cham-a naid ychydig y naill ochr iddi, a'r "taflu cw'mp" yn y cae hwnt i'r berth. I bob un o'r rhai hyn yr oedd ei thorf fechan i edmygu y pencampwyr wrth eu gwaith, ac i weld chware-têg rhwng dyn a dyn.

"Onid oedd Ianto'r Saer yn heinif heddi gyda'r bêl fach?" ebe un, ac "onid yw Twm Wern Lâs yn gwella fel neidiwr?" ebe arall. "Os dal e' 'mla'n fel hyn fe fydd yn fatch i fachan 'Berhonddu 'cyn bo hir," myntumiai'r trydydd.

Ond yr oedd y dydd yn awr yn dechreu tywyllu a'r campwyr yn dechreu blino. Ha! pwy yw yr un acw ar grib y Foel gyda rhywbeth tebig i gwrwgl ar ei gefn? Hywel Lewsyn o'r Bont, byth na chyffro i! a'i delyn gydag e'! 'Nawr am dani, boys! Noswaith o'r hen amser unwaith eto!

Rhedodd Shams Harris ac un neu ddau arall i'w helpu i gario ei offeryn, ac erbyn dychwelyd ohonynt i'r Twyn drachefn yr oedd y dorf wedi cynhyddu, ac amryw o'r rhyw deg wedi dyfod o rywle a'u traed mewn ysfa am ddechreu y ddawns.

Ond cyn gallu taflu ati mewn gwirionedd rhaid oedd i Hywel ddiosg y brethyn gwyrdd oddiam ei delyn hoff a'i osod yn garcus yn y Tafarn Isaf gerllaw, ac wrth gwrs, rhaid hefyd oedd cael "ei hun i diwn," ys dwedai efe, trwy gymryd gwydraid neu ddau fel cyffer rhag yr annwyd a'i bygythiai o groesi ohono y Foel dan ei faich.

O'r diwedd dacw fe allan ar y Twyn, ac yn eistedd ar gadair yng nghysgod gwal yr eglwys gan gofleidio ei offeryn, ac yn rhyw led-dynnu ambell dant fel rhagarweiniad i'w gerdd.

Y foment nesaf dyna gylch niferus o'r ddau ryw yn ei dawnsio hi ar y green i acen y tannau nwyfus, a chylch mawr arall o gant neu ychwaneg yn sefyll y tu ol i'r dawnswyr yn mwynhau yr olygfa. A golygfa i'w mwynhau ydoedd yn wir. Gwelid yno flodau eu hoes yn sefyll i fyny yn hoen eu hieuenctid, ac yn troedio y gwahanol symudiadau fel pe baent newydd gyrraedd o ddawnsdai Bath, gydag ystwythder graenus y lle hwnnw ym mhob ystum.

Yma, am unwaith yn y flwyddyn, yr oedd pob ffin a wahanai bonedd a gwreng wedi ei symud ymaith. a dawnsiai yr etifedd gyda'r llaethferch, a'r bugail gyda'r etifeddes, a neb yn breuddwydio am siarad dim ond Cymraeg yn yr oll.

Pan aeth yn rhy dywyll i weled ei gilydd yn dda ymwasgarwyd am ennyd i gael lluniaeth yn y gwestai yn ymyl, ac wedi cyfrannu o'r bastai a baratowyd, cyfeiriodd pob un ei gamrau i ystafell fawr y Dafarn Isaf lle 'roedd yr Hen Sgweier yn y gadair a Rheithor y Plwyf wrth ei ochr ar lwyfan bychan.

Galwyd Hywel ymlaen i'w hymyl, ac yna trefnodd y gweddill o'r cwmni eu hunain ar y meinciau yn wynebu'r delyn.

Hon oedd "Yr Awr Gân"-orig a flaenorai yn wastad yr Ail Ddawns, neu Y Ddawns Fawr, fel ei gelwid fynychaf. Ar amnaid oddiwrth y Sgweier tarawodd Hywel un o alawon adnabyddus yr ardal, nad oes iddi hyd yn oed heddyw enw arall namyn "Tôn Hywel," ac a'i lais crynedig (yn agoriad i'r gweithrediadau ac yn wahoddiad i unrhyw un arall gymryd ei dro yn yr un peth) canodd bennill ohoni. Yr oedd yno henafgwyr a'i clywsant lawer gwaith cyn hynny, a llyma hi fel y tarawodd ar eu clyw unwaith yn rhagor—

Yna daeth i mewn gyda'r delyn leisiau amryw o

bob cwr o'r ystafell, pob un yn ei dro a'i ergyd lleol neu amserol ac wedi dihysbyddu y ddawn barod. dechreuwyd ar rai o'r hen dribannau nad oedd yr wyl byth yn gyflawn hebddynt.

Tri pheth sydd ym Mhenderyn
Mae’r Ysbryd Drwg yn ddilyn,
Gwrach y Waun, a'r Hendy Llwyd,
Ac aethus glwyd Yr Eithin.

Mi wela' Fanwen Byrddin,
Mi wela' Foul Pendoryn,
Mi wela' Fforch-y-garan Wen,
Mi wela' Benrhiwmonyn.

Beth gei ar Fanwen Byrddin?
Beth gei ar Foel Penderyn?
Beth gei yn Fforch-y-garan Wen?
Beth gei ar Benrhiwmenyn?

Caf lo ar Fanwen Byrddin,
Caf galch ar Foel Penderyn,
Caf garu merch y Garan Wen
Wrth rodio Penrhiwmenyn.


O'r gyfres olaf canodd yr Hen Scwlin y "pennill gofyn," a rhoddwyd yr ateb gan Hywel ei hun, a chan iddo arafu ar y llinell olaf hysbysiad i bawb oedd hynny fod y mesur hwnnw i derfynu gyda'r pennill mewn llaw.

Dilynwyd y Triban gan amryw fesurau eraill oedd yn gofyn medr mwy ac a ddenai y cantorion goreu i'r maes. Yn eu plith bwriodd Shams i mewn gyda chryn effaith yn "Serch Hudol," ac nid cynt yr adnabyddodd yr hen delynor y llais soniarus nag y gwelid gwen foddhaus ar ei wyneb, oblegid ar wahan i'w allu yn y grefft yr oedd Shams yn ffefryn neilltuol am ei arabedd a'i natur dda. Dyma'r modd y canodd,-

i ennill cymeradwyaeth y tro hwnnw.

Yna, wedi distewi o'r gân yn llwyr, cododd yr Hen Sgweier a'r Rheithor i fyned allan, a chyrchasant at y drws drwy ganol y dorf oedd yn sefyll ar ei thraed iddynt fyned trwodd.

Wedi i'r lleill ddilyn y delyn allan gwelid ffagl fawr wedi ei goleuo wrth dalcen yr eglwys ac yng ngoleu honno y dawnsiwyd y Ddawns Fawr tan hanner nos.

Ond nid oedd Gwyl Gynog eto ar ben. Gyda thoriad gwawr wele chwythiad mewn corn hela yn galw ar bawb a fynnai i ddilyn cenel Bodwigiad i'r maes, ac ar hyn dacw arwyr y ddawns, Shams Harris, Ianto'r Saer a'r lleill yn gadael yr ysguboriau, a'r ystablau, neu ble bynnag y llwyddasant fwrw awr neu ddwy O gwsg, i ddilyn y cŵn drwy gydol y dydd. Ac yn ddiweddglo i'r oll, onid oedd cinio râd yn eu haros yn y Dafarn Isaf gyda photes " y whipod," na phrofid gan neb pwy bynnag, hyd nes i un o urdd Cynog ei hun, sef y rheithor, ei phrofi yn gyntaf, a dwedyd mai da ydoedd.

"Wel, Shams, beth am yr wyl eleni, gwell ai gwaeth na'r llynedd? Gwelais di yn dawnsio wrth dy fodd, ta' beth!" Dyna oedd cyfarchiad Ianto i'w gyfoed Shams y bore dilynol. "Yr oedd y ddawns yn ddigon da, Ianto, a'r gân, a'r hela, a'r ' whipod ' hefyd o ran hynny. Ond wyddost ti beth! 'do'dd y dawnsiwr a'r heliwr gore fagws Penderyn eriod ddim yno. 'Ro'dd 'y meddwl i 'n mynd o hyd hwnt i'r mynydd 'na ato fe i Ferthyr. Wyt ti'n cofio'r llynedd shwd hwyl geso' ni gydag e'? Dim cystal eleni, 'n wir i ti! Ianto! sylwaist ti ar y 'Sgweier' echnos? Bachan! mae fe wedi mynd yn hen ar unwaith, a mae nhw'n gweyd taw gofid am Lewsyn sy' bron a'i ladd e'! Wn i yn y byd beth oedd yr achos iddo gael mynd mor sytan! Wel, fe ddaw'r cwbwl ma's rywbryd, tebig!"

"Bore da! Ianto!" "Bore da! Shams!"

VI.—"GWAED, NEU FARA."

YCHYDIG ŵyr gweithwyr Deheudir Cymru, sydd heddyw yn ennill mwy o gyflog mewn un dydd nag a wnai eu teidiau mewn wythnos gyfan, am y caledi a ffynnai yn ein gwlad gan mlynedd yn ol.

Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1830, deuddeg swllt yr wythnos oedd cyflog y "gweithiwr haearn" wrth y ffwrnes, a'r glowr dan y ddaear yr un modd. Prynid popeth yn "siop y cwmni," ac yn aml nid oedd "dim yn troi" wedi talu'r gofynion yno.

Ychydig oedd nifer y cymdeithasau dyngarol, a llai fyth yr undebau o unrhyw fath, fel rhwng popeth nid oedd y gweithiwr cyffredin ond math ar gaethwas, yn dibynnu bron yn hollol ar ewyllys da yr un a'i cyflogai.

Gwyddys yn eithaf da mai Merthyr oedd Mecca pob Cymro o anian grwydrol yn yr oes honno, a bod y llwybrau arweiniai tuag yno yn cael eu mynychu gan "dorwyr cyfraith" o bob math. A phan gofiom am erwinder y gyfraith ei hun yn y dyddiau hynny, hawdd credu bod cyfran fawr o'r "dynion dôd" ar lan Taf yn ffoaduriaid, am ryw drosedd neu 'i gilydd, o'r ardaloedd y magwyd hwy.

Yno y gwelid llawer gŵr ddygodd ddafad ei gymydog ym Mrycheiniog neu Geredigion, ambell un fel Dic Penderyn a dorrodd asgwrn cefn ei gyfaill o ddamwain yn Aberafon ac arall, fel Lewsyn yr Heliwr (oedd yn wirioneddol o Benderyn) a fynnai fod yn ben neu ddim pa le bynnag y trigai.

Yn y flwyddyn 1831, yr oedd sefyllfa pethau yng ngwlad yr haearn a'r glo yn waeth nag y bu yng nghof neb—yr hur yn llai, y nwyddau yn brinach, a'r dyledion yn myned yn drymach, trymach.

Nid oedd papur dyddiol yn y dywysogaeth, ac hyd yn oed pe bae, ychydig oedd y rhai fedrai fforddio i dalu am dano. Yr oedd Merthyr i bob pwrpas ymhellach o Gaerdydd neu Abertawe y dyddiau hynny nag yw oddiwrth Bwluwayo neu Singapore heddyw. Felly, rhaid oedd i dref Merthyr ei hun ennill neu golli yn yr argyfwng mawr o'i blaen.

Dacw hwynt—y werin anllythrennog yn cael eu cynhyrfu yn ol a blaen gan bob rhyw ddawn, ond yr oll yn diweddu mewn condemniad o'r meistri celyd— dim mwy, dim llai. "Dim!" ddywedais i? Welwch chwi mo'r newyn ymhob gwedd? mo'r awydd ymddial ymhob llygad?

Gyda hyn, dyna'r newydd yn rhedeg fel tan mewn sofl fod y milwyr yn dod. Ie, milwyr Waterlw, meddai pawb. Dyma hi ar ben arnom! Cawn ein gwasgu yn ol i'r hen delerau. a bydd bidog uwch ein pen fel yr oedd ffrewyll yr Aifftiwr uwchben Israel gynt!

Welwch chwi'r dyn ieuanc acw yn annerch ei gydweithwyr mewn geiriau eiriasboeth, ac yn eu cynhyrfu a'i frawddegau miniog? Os nad ydych yn ei adnabod, gwn am rai o hen ysgolheigion Gwern Pawl a wnai hynny ar unwaith. Y tafod ffraeth, y gwallt crych, a'r holl osgo annibynnol, yn union fel cynt, nis gallent berthyn i neb arall ond i Lewsyn yr Heliwr. Clywch beth a ddywed!—

"Fechgyn! ma' nhw'n gweyd fod y sowldiwrs yn dod! I beth? dybygwch chi? I beth hefyd, ond i'n gwneud yn slafiaid mewn gwirionedd a'n gorfodi i weitho yng Nghyfarthfa fel y gwnant i'r blacks neud yn Jamaica! Fechgyn! am dano 'i 'm hunan wy' 'i ddim yn mynd i weitho 'm henaid ma's am ddiddag swllt yr w'thnos i foddhau neb, ac nid wy'n mynd i starfo chwaith! Cofiwch 'ng ngeiria, boys! 'Rwy'n gwel'd y 'cotia cochion' ishws wedi dod o fla'n yr hotel. Gadewch inni fynd lawr i gael gweld a chlywed beth gewn ni."

I lawr yr aed, ac yno ar yr heol fawr o flaen Gwesty y Castell yr oedd miloedd wedi ymdyrru, y mwyafrif, fe ddichon o gywreinrwydd i weled y Scottish Highlanders ("gwŷr y peisha bêch " fel y gelwai y Morgeinwyr hwynt) fuont yn Waterlw; ond llawer hefyd i weled beth gynhygiai y meistri o'r tu ol i'r "cotia cochion." Ar y palmant o flaen y gwesty safai y milwyr yn rheng sengl gyda'u cefnau ar y mur, ac yn gwasgu arnynt, gan lenwi yr heol o ochr i ochr, yr oedd y dorf aruthrol.

Mewn ychydig eiliadau dacw ffenestr llofft y gwesty yn agor, a'r meistri—Crawshay, Guest, ac eraill yn eu tro yn annerch y dyrfa. Siaradodd rhai ohonynt yn synhwyrol a heddychol ddigon, ond gyrrodd un arall ohonynt y cynhulliad yn wenfflam, o awgrymu yn lled ddigamsyniol mai gwell oedd i'r gweithwyr blygu mewn pryd cyn y byddai'n rhaid iddynt wneuthur hynny drwy nerth arfau.

Ar hyn wele Lewsyn yr Heliwr yn neidio yn ffyrnig at y milwr agosaf a chydag ysgogiad cyflym yn cipio ei fwsged oddiarno. Yna, gan grochwaeddi " Gwaed, neu Fara!" efe a drywanodd yr Ysgotyn â'i fidog ei hun. Am yr hanner awr nesaf yr oedd yr heol yn un câd —y dorf yn ceisio rhuthro ar y milwyr, a hwythau— fechgyn dewr bob un—yn ceisio eu dal yn ol. ac yn anad dim, i'w rhwystro i ennill drws mawr y gwesty a myned at y meistri ar y llofft.

Yna y gwelwyd y camsynied dybryd a wnaed o osod y milwyr yn rheng sengl ar y palmant, ac wedi diogelu bywydau y rhai o'r tu mewn trwy sicrhau y drws wynebai yr heol, y peth pwysicaf wedi hynny oedd diogelu bywydau y milwyr eu hunain oedd y tu allan a'u cefnau ar y mur.

Dro ar ol tro y rhuthrodd y dorf arnynt, a thro ar ol tro y daliwyd hwynt yn ol naill ai gan fidogau yr Ysgotiaid eu hunain ar y palmant, neu gan y saethu a wnaed dros eu pennau o'r llofft.

Anodd iawn fu y gwaith o dynnu milwyr yr ystryd, bob yn un ac un, i ddiogelwch. Yr unig ffordd i'w wneud bellach, gan fod drws y gwesty yn awr wedi ei gau, oedd eu symud gam a cham i gongl y tŷ, ac yna peri iddynt redeg, un yn awr ac un yn y man, oddiyno i ddrws mawr yard y gwesty yn yr heol groes.

Llwyddwyd i gyrraedd "dinas noddfa" gan bob un o'r Ysgotiaid oddigerth yr olaf ar ben y rheng. Yr oedd efe—cawr nerthol—wedi bod yn nôd i gynddaredd y dorf o'r dechreu, gymaint fu ei fedr a'i ddewrder y diwrnod hwnnw. Oblegid pan wedi ei guro i'w liniau, a'i faeddu nes llifai y gwaed dros ei wyneb, para i ymladd a wnai efe. Ac yn awr, wele yntau wrth gongl y tŷ yn paratoi i redeg fel ag y gwnaed gan ei gydfilwyr.

Ond wrth y gongl hefyd yr oedd Dic Penderyn, ynghyda'r rhai mwyaf penderfynol o'i gyfeillion yn mynnu ei rwystro i gyrraedd diogelwch. I ffwrdd ag ef, fodd bynnag, ac enillodd yr yard, ond gyda Dic a dau neu dri arall yn hongian wrth ei ystlys fel helgwn ar fedr tynnu i lawr lew eu helwriaeth.

Beth ddigwyddodd y tu ol i ddrws yr yard ni ddeuir byth i wybod gyda manylder mwy, ond yr oedd yr Ysgotiad dewr yn farw, a chyhuddid Dic o fod yn achos ei farwolaeth.

Wedi i'r milwyr adael y palmant, parhawyd am beth amser i saethu at y bobl yn yr heol hyd nes y gwelodd pawb mai gwell oedd bod allan o gylch y tanio. Ar y lle agored, yn gelain neu yn glwyfedig, yr oedd tua hanner cant yn gorwedd, a phan y ceiswyd cario y trueiniaid o'r man y syrthiasant, saethwyd ar y dechreu at bawb a geisiai wneuthur hynny.

Gofynion milwrol,—rhag ymgasglu o'r dorf eilwaith i beri cynnwrf adnewyddol,—yn ddiau a barodd y saethu parhaol hwn; ac fel y bu yn ffodus i enw da yr Alban, rhoddodd y munudau nesaf gyfle i natur oreu y milwyr i arddangos ei hun. Oblegid pan y daeth mam Gymreig,—hen wraig gyda'i gwallt yn wyn,—heb ofn na gwn na bidog i gario ei mab allan o'r gyflafan, gwaeddodd y swyddog nad oedd neb i'w rhwystro. Ar y gair gostyngwyd ffroen pob mwsged i lawr, a thynnodd pob Ysgotyn ei gap o barch têg i'w harwriaeth difraw.

O! 'r fath arddunedd oedd gweled cariad mam yn torri dros ben popeth i gyrraedd ei mab clwyfedig, ac O! 'r fath dro gresynol bod achos iddi beryglu ei hun. Pob parch, er hynny, i'r Ysgotyn a blygodd o flaen cariad mam Gymreig!

VII.—Y FANER GOCH

UN bore dydd Gwener tesog ym Mehefin, 1831, cychwynnodd Beti Hendrebolon ar gefn ei chaseg gyda'i basged ar ei braich i Hirwaun i werthu, yn ol ei harfer, ymenyn yr wythnos, o ddrws i ddrws, yn y pentref poblog hwnnw. Gan fod y pellter yn rhy w chwe milltir, a bod brys arni ddychwelyd mewn pryd erbyn y deuai prynwr yr ŵyn heibio i'r fferm yn y prynhawn, gosododd waith boreol y tyddyn i'r naill ochr cyn saith o'r gloch, a chyda bod y dydd awr yn henach, arweiniodd ei hanifail allan o waun y Bryncul ar gyfer Pantgarw i gyrchu yr heol fawr a'i dygai i ben ei thaith.

Pan wrth ysgwar "Y Lamb," gwclai ffntai fechan o chwarelwyr y cerrig calch yn ymddiddan â'i gilydd yn eiddgar iawn, a dallodd oddiar y siarad bod cynnwrf gwaedlyd wedi digwydd ym Merthyr y diwrnod cyn hynny, a bod bywydau lawer wedi eu colli. Aeth yn ei blaen gan ddiolch fod Penderyn o leiaf yn rhydd o'r fath bethau adfydus, ond gan ei bod yn adnabod pawb ymron a'i cyfarfu ar y ffordd, nid hir y bu cyn deall bod y cythrwfl hwn yn waeth na'r un a brofodd yr ardal erioed o'r blaen. Siaredid gan rai am y si fod rhyw Ddic Penderyn yn ddwfn yn yr helbul, ond gan na wyddai hi am neb o'r enw o fewn cylch ei hadnabyddiaeth, nid oedd o gymaint pwys ganddi am dano, ond pan ddywedwyd gan arall mai Lewsyn yr Heliwr oedd yn " blaenori y mob," neidiodd ei chalon i'w gwddf ar unwaith. Onid oedd yr unig Lewsyn a wyddai hi amdano ym Merthyr ers peth amser? ac onid " blaenori " oedd yr hyn a wnai efe ar bob rhyw bryd ac ymhob rhyw fan?

O barhau ei thaith heibio Pontprenllwyd a Threbanog, ceisiodd Beti feddwl mwy am bris ei nwyddau a gofynion ei chwsmeriaid nag am Ferthyr a'i thrafferthion; ond er ei holl ymdrech i anghofio'r cythrwfl, codai y gwallt "a'r haul arno" o flaen ei llygaid o hyd. Yr osgedd annibynnol a edmygai gymaint yng Ngwern Pawl gynt a welai hi eto ym Merthyr yn arwain y werin i wneud yr hyn a ewyllysiai ei pherchennog.

Pan ar fin cyrraedd pentref Hirwaun, clywai groch waeddi anarferol yn yr hwn yr unid seiniau digofus a chwerthiniad uchel yn un bonllef mawr.

Pan ddaeth i olwg Pont Nantybwlch, gwelai feirch y coach mawr yn carlamu i'w chyfarfod, a'u chwys yn ewynnu i'r llawr. Rhyw ganllath yn ol ar yr heol 'roedd y dorf yn rhedeg yn ol a blaen gan waeddi a thaflu eu breichiau o gylch fel hanner gwallgofiaid. Yr oedd yn amlwg bod yno gyffro mawr, er na wyddai yr eneth ar y pryd beth a'i hachosai. Ond pan y sylwodd ar nen y coach, buan y gwelodd yr hyn a'i perai, canys yno yr oedd y guard—Sais cyhyrrog a adnabyddai hi yn dda, o'i weled yn fynych—yn ymgodymu â rhyw ddeuddyn lawer llai eu maint nag oedd efe. Llwyddodd y guard i daflu un ohonynt i lawr dros ben yr olwyn i'r heol yn gynnar yn yr ornest, ond glynnai y llall ynddo,—a hyn achosai firi y dorf,—am gryn amser.

Parhau yr oedd y ddau i wthio ei gilydd ar y nen hyd nes yn nhro yr heol, a'r cerbyd eto yn teithio yn gyflym y bu agos i'r naill a'r llall golli eu traed. Yna, yn sydyn, cafodd y guard mawr fantais ar ei wrthwynebydd, a chyda thafliad chwyrn bwriodd y bychan yn glir o nen y coach i fôn y clawdd. Cyn gynted ag y cafodd hwnnw y llawr, neidiodd ar ei draed drachefn, ac wedi bygwth â'i ddwrn i gyfeiriad y cerbyd oedd, erbyn hyn, ymhell oddiwrtho, trodd yn ei ol i gyfarfod y dorf, ac yna y gwelodd Beti, i'w mawr syndod, nad oedd efe namyn Shams Harris, ei hen gyfoed o Wern Pawl.

Y gwir oedd fod gweithwyr Hirwaun wedi codi mewn cydymdeimlad â therfysgwyr Merthyr ac wedi arfaethu cymeryd meddiant tawel o'r coachmawr y bore hwnnw, pan y newidiai geffylau wrth y Cardiff Arms. Ond yr oedd y gyrrwr, rywfodd, wedi deall eu hamcan, ac felly, wedi rhuthro yn y blaen i gyfeiriad Glynnêdd heb y newid arferol, a phan y carlamwyd drwy y twr gweithwyr ar yr ysgwar, neidiodd y ddau a nodwyd i fyny i'r coach i'w rwystro i ddianc. Dyna barodd yr ysgarmes rhyngddynt a'r guard ar dô y cerbyd, yr hyn y bu Beti yn llygad dyst o hono ar ei dyfodiad at y bont.

Buasai hynny ei hun yn ddigon i'w gwneud hi yn ofnus, ond ychwanegwyd yn ddirfawr at ei braw o weled yn dyfod i'w chyfarfod y dorf ddig yn cael ei harwain gan un a ddaliai i fyny faner lydan. Oddiwrth y faner hon diferai gwaed neu ryw hylif coch arall, ac yn nwylaw amryw o'r dorf yr oedd drylliau, hen gleddyfau, pladuriau ac eirf eraill.

Pan o fewn ychydig iddi, trodd dyn y faner goch yn ei ol, a throdd y rhan fwyaf o'r dorf i'w ddilyn, ond daeth un ymlaen ati, a chan gydio yn ei basged, a waeddodd mewn rhyw gellwair ofnadwy,—"'Menyn neu waed, myn asgwrn i!" Llewygodd Beti ymron ar hyn, ond daeth Shams ymlaen ac a ddywedodd wrth y dyhiryn,— "Rhag dy gywilydd di, Dai! nid wmladd â menywod y'n ni. Dera mlâ'n, ti gai amgenach gwaith nag ala ofan ar ferched o hyn i 'fory!" Ni wyddai Beti ar y pryd hwnnw mai ceisio aralleirio brawddeg ddychrynllyd Lewsyn ym Merthyr,— "Gwaed, neu fara!" oedd y Dai hwn, ac ymhen amser ar ol yr amgylchiad, rhyddhaodd ef o fwriad câs yn ei herbyn.

Ond ar y foment honno yr oedd ei ofn yn fawr arni, ac ni wyddai yn iawn am beth amser pa un ai troi yn ol i Ystradfellte a wnai neu ddilyn y bobl yn eu holau i'r pentref. Eu dilyn a wnaeth, fodd bynnag, ac erbyn iddi gyrraedd y lle agored o flaen y Cardiff Arms, gwelodd fod yno gynnwrf mawr, a bod rhai cannoedd o'r gweithwyr arfog wedi ymgynnull o dan y faner waedlyd. Nid ymddangosai bod yno neb neilltuol yn arwain y terfysgwyr, er bod rhai ohonynt wedi mynnu agoriad i siop Philip Taylor yn ymyl, a dwyn yr holl bylor oedd yn y stôrdy. Gyda bod y rhai hyn wedi trolio'r gasgen gyda gwaeddi mawr, i sgwâr y Cardiff, wele hen ŵr yn rhedeg atynt o gyfeiriad y Rhigos gan ddweyd fod "cannoedd, os nad miloedd, o sowldiwrs 'Bertawa' yn dod i fyny trwy Gwm Nedd y foment honno." Sobrodd hynny y dorf i raddau, ac ni wyddent yn iawn ar y cyntaf beth i'w wneud yn wyneb y newydd diweddaraf hwn. Gwelwyd na allent ymladd â'r ' miloedd sowldiwrs," ac felly penderfynwyd eu gadael i basio trwy Hirwaun yn dawel, a'u dilyn bob cam i Ferthyr, i'w dal rhwng y ddeudan yn hwyr y dydd.

Yn y cyfamser, chwiliwyd am geffyl cyflym, fel y gellid rhoddi gwybod i wŷr Merthyr fod y "miloedd" o Abertawe ar eu ffordd tuag atynt, ac er syndod mawr i bawb, mynnodd Nani Moses, gwraig briod o'r lle, fod yn negesydd drostynt. Neidiodd Nani ar gefn y ceffyl, gan farchogaeth yn null gŵr neu wâs, heb na chyfrwy na dim odditani, a ffwrdd a hi ar garlam drwy heol y Felin a Chwmsmintan i roi ei gwybodaeth mewn pryd. Pan ddaeth sowldiwrs Abertawe i'r golwg, gwelwyd nad oedd y fintai gant mewn rhif, a chyfrif yr oll, a digllon iawn oedd y Brocs,[1] wedi colli ohonynt y coach mawr eisoes, yn y meddwl hawdded gwaith fuasai rhwystro y milwyr i fyned ymhellach na Hirwaun.

Ond bellach yr oedd yn rhy ddiweddar. Brysiodd yr Yeomanry oedd wedi cyfarfod y coach gwyllt eisoes, ac wedi cael hysbysrwydd o'r hyn a'u harhosai ar Hirwaun, drwy y lle at the charge, gan dynnu i'r un cyfeiriad ag a gymerodd Nani ychydig funudau o'u blaen. Gwelai hi hwynt ym mhob tro heol fel pe yn ennill arni, ond daliodd i garlamu yr oll o'r ffordd, a llwyddodd i gadw ar y blaen nes cwrdd o honi â Lewsyn a'i wŷr uwchben Penrheolgerrig. Gwaeddodd ei neges atynt mewn un frawddeg llesmeiriol, ac yna helpiwyd hi oddiar gefn ei march gan ugain o ddwylaw edmygwyr.

Dilynodd terfysgwyr Hirwaun y milwyr yn araf, ond erbyn iddynt gyrraedd pen Mynydd Merthyr, yr oedd yr Yeomanry eisoes wedi eu gorthrechu a'u harfau yn llaw Lewsyn a'i lu. Pan geisiodd yr Uch-gapten Price siarad â'r blaenor ar y mynydd, a dangos afresymoldeb anturiaeth y gweithwyr, daliodd Wil Jones Fawr ei bladur uwch ei ben, a chan waeddi yn ei barabl mantachog, "Down Achms!" gorfodwyd y swyddog i roddi carn ei gledd yn llaw yr Heliwr o Benderyn.

Wedi i Beti ymweled â rhai o'i chwsmeriaid agosaf, a chael y mwyafrif ohonynt allan o'u tai, penderfynodd ddwyn y rhelyw o'i nwyddau yn ol i Hendrebolon hyd amser mwy cyfaddas i'w gwerthu. Yr oedd yr holl wlad erbyn hyn yn ferw drwyddi oherwydd y digwyddiadau ym Merthyr, ac ar Hirwaun, ac ni fynnai neb siarad am ddim arall.

Gyda chalon drom yr arweiniodd Beti yr hen gaseg i'r ystabl ar ei dychweliad, ond ceisiodd serch hynny ymddangos yn ysgafn ei hysbryd ar ei mynediad i'r tŷ at ei brodyr.

Yno yr oedd prynwr yr ŵyn yn adrodd wrthynt yr hyn a wyddai efe am yr helynt. Ymhlith pethau eraill, dywedai mai Lewsyn yr Heliwr o Benderyn oedd y blaenor; ac yn wir, mai efe ollyngodd waed gyntaf ar y palmant ym Merthyr, ac mai efe a barhâi i arwain y mob, er ei fod wedi ei glwyfo yn ei wyneb y diwrnod cyntaf.

Dywedodd hefyd fod milwyr o Abertawe ac Aberhonddu wedi ceisio cyrraedd Merthyr i gynorthwyo yr Highlanders yno, ond mai methiant fu y ddau gais, am i Lewsyn ddiarfogi y fintai gyntaf ar Fynydd Merthyr, ac i Ddic Penderyn darfu ceffylau mintai Aberhonddu trwy ollwng cawod o gerrig ar eu pennau yng nghraig Cilsanws. Ond y peth olaf a glywsai y gŵr dieithr oedd bod y mob eisoes wedi dechreu edifarhau am eu rhyfyg a bod llawer ohonynt erbyn hyn yn gwrthod ufuddhau i Lewsyn, ac na fyddai'n hir cyn y byddai efe ei hun yn ffoi am ei einioes rhagddynt.

Yna adroddodd Beti y modd y digwyddodd iddi hithau ar Hirwaun, a bu yn hyawdl dros ben am yr ornest rhwng y guard mawr a Shams ar nen y coach, ond gofalodd beidio yngan enw Lewsyn o gwbl, am y gwyddai, ond yn rhy dda, am yr atgasedd tuag ato oedd ym mynwes ei brodyr. Ac yn ategiad i'w hystori dangosodd wacter ei phwrs am nad oedd prynwyr i'w hymenyn y diwrnod rhyfedd hwnnw.

Yna, gan gymeryd arni ollwng yr helynt o'i meddwl yn llwyr, dechreuodd siarad am oruchwylion cyffredin y fferm, fel pe bai y rheiny yn fil pwysicach yn ei barn.

"Wyth swllt y pen am yr ŵyn!" ebe hi wrth ei brodyr yn gellweirus, " dylasech fod wedi cael wyth a chwech yn y man lleiaf!" Gwenodd prynwr yr ŵyn arni yn faddeugar, am y gwyddai yn dda nad oedd ond yn siarad iaith "prynu a gwerthu," a gwenodd hithau yn ol yn yr un ysbryd hael. Ond pan yn y llaethdy yn godro wrthi ei hun, daeth pethau sobr bywyd eilwaith drosti fel ton, a chan godi oddiar ei hystôl a phwyso ei phen ar ysgwydd yr hen fuwch, hi a wylodd fel pe bai popeth yn y byd wedi troi yn siom ac yn wermod iddi.

VIII.—Y FFOADUR

UN noson ymhen tuag wythnos ar ol y gyflafan fawr o flaen Gwesty'r Castell, gellid gweled dyn yn cerdded yn llechwraidd i fyny heol Nantygwenith, gan dynnu ei gyfeiriad i rywle i'r gorllewin o Ferthyr. Oddiwrth ei gerddediad gellid casglu mai dyn ieuanc oedd efe, ond oddiwrth ei benwisg a'i wddfwisg bernid ef yn henafgwr, oblegid odditan ei het estynnai cadach a guddiai un ochr i'w wyneb ac a rwymid wedyn o amgylch ei wddf. Ymddangosai fel pe am osgoi cyfeillach pawb, a phan y cyferchid ef weithiau â " Nos Da " y brodorion, nid atebai ddim.

Hwn oedd Lewsyn yr Heliwr, a oedd wythnos yn ol yn gapten pum mil o wŷr, ond oedd heno yn ffoadur truenus, a phawb wedi cefnu arno. Yr oedd Dic Penderyn, ei gyfaill pennaf, a'i gyd-wrthryfelwr dewraf, eisoes yn y ddalfa, a gwyddai fod chwilio llwyr gan y cwnstabliaid amdano yntau. Newidiai ei le cysgu bob nos, a theimlai erbyn hyn nad oedd unlle ym Merthyr yn drigfod diogel iddo. Blinai yn fawr oherwydd yr holl helynt, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd gweled y rhai a frysient i wneud ei amnaid lleiaf ychydig ddyddiau yn ol, yn awr yn troi eu cefnau arno, ac yn edrych yn sur ar bopeth a awgrymai. Teimlai yn wir fod amryw o'i gydweithwyr bellach yn barod i'w werthu i'r awdurdodau, ac yn blysio am y gwerth gwaed a roddid am ei gael i'r ddalfa.

Felly, penderfynodd eu gadael am y diogelwch mwy a gaffai yn hen ardal ei febyd, o'r hon y gwyddai bob llecyn, ynghyda'r lliaws " dinasoedd noddfa " a gynhygiai gwigoedd ac ogofeydd gwlad y cerrig calch i ddyn ac anifail mewn perigl am eu hoedl. Y syndod oedd nad carcharor efe eisoes, oblegid heblaw deuglwyf arall ar ei gorff yr oedd ôl brath bidog draws ei foch yn ei gyhuddo yng ngwydd pawb o fod yn un o'r terfysgwyr. Dringodd y ffoadur heol Aberdâr am ryw ddwy filltir, hyd nes y daeth eilwaith at y man yr ildiodd yr Uchgapten Price ei gledd "Waterlw" i'w ddwylaw ef. Er trymder ei galon yn awr, ni allai lai na gwenu gyda boddhad wrth feddwl am yr amgylchiad. Pa beth bynnag ddeuai o hono ef, yr oedd y cledd hwnnw wedi ei guddio mewn man na chai neb afael ynddo byth namyn ei dylwyth ei hun.

A phan goffodd am Wil Jones Fawr yn dal y pladur ar wâr yr Uchgapten, ac yn gorchymyn y "Down Achms" digamsyniol, chwarddodd rhyngddo âg ef ei hun yn iachus. Ond nid amser i chwerthin oedd iddo ychwaith. Gwyddai fod y crocbren yn ei aros oddigerth i ryw wyrth ddigwydd yn ei hanes. Ond penderfynodd ei osgoi i'r pen pellaf, ac nid gorchwyl hawdd a addawai i'r cwnstabliaid pe unwaith y caffai ddaear Penderyn o dan ei draed.

Ar hyn trodd o'r heol fawr i dorri dros weunydd Penmeilart a'r Naint i gyrchu Mynydd Bodwigiad, lle y gwyddai am bob agen yn y creigiau ac am bob lloches y gallai ganddo ymguddio ynddi. Tarawodd ar fynydd y Glôg cyn ei bod yn dyddio, ac yn yr hesg o gylch maen anferth yr ymguddiodd am y diwrnod hwnnw. Cysgodd am rai oriau nas gwyddai pa nifer, a dihunwyd ef gan danbeidrwydd yr haul ar ei wyneb. Ni feiddiai godi ar ei draed, ac anghysurus ddigon oedd gorwedd yno fel creadur mud yn aros am fantell y nos cyn dyfod allan i rodio'n rhydd a chwilio am rywbeth i'w fwyta.

Cerddai oriau yr hirddydd hwnnw mewn esgidiau plwm, a bu ar Lewsyn fwy nag unwaith chwant codi ar ei draed a cherdded yn eon i lawr i'r Plas, lle yr oedd gynt,—O! dro ar fyd!—yn ffefryn pennaf. Ond gwyddai yn eithaf da mai gwallgofrwydd fyddai hynny yn awr, ac felly disgyblodd ei hun i fod yn amyneddgar. A'r hyn fu yn gymorth iddo wneud hynny oedd gweled dau aderyn bychan yn hedeg yn ol a blaen i'r un sypyn brwyn ryw ugain llath oddiwrtho i gyfeiriad y tondir.

"Ha!" meddai Lewsyn, "mi fynnaf weld!" Ac ar hyn dechreuodd ymlusgo ar ei dor tuag at y man i weled a oedd ei ddamcaniaeth yn gywir. "O ie!" ebe fe, "pump o larks! Da iawn, adar bach, porthwch nhw'n dda!" ac yna, ebe fe mewn ochenaid nas gallai ddal yn ol, "Dysgwch nhw i lwybro'n iawn wedyn!"

Ar ei ddychweliad i gysgod y maen drachefn, taflodd rai o friwsion ei gwd i gyfeiriad y nyth, a threuliodd ei amser i wylied prysurdeb y rhieni bychain gyda'u teulu pwysig.

Dygodd hynny i'w gof nyth glâs-y-dorlan ym Mryncul, ac am Beti, a Mari, a Gwern Pawl. Clywai wedyn y llaethferched yn galw'r gwartheg mewn mwy nag un fferm, a theimlai yr ergydion pylor yn cael eu tanio yng ngwar Crawshay cyn peidio'r llafur am y dydd,— popeth yn union fel y sylwodd ac y teimlodd ganwaith yn nhrefn brynhawnol yr ardal pan yn nhymor euraidd ei blentyndod.

Daeth i'w feddwl am y "cyfeillion chware" gynt,— llawer ohonynt yn ddiau ym mhentref y Lamb a Phontbrenllwyd oedd yn ei olwg y foment honno. A'r hen Scwlin! beth am dano yntau? A fyddai efe, rywbryd, 'wys, yn dweyd wrth ddisgyblion y dyfodol am osgoi ffyrdd Lewis Lewis, oedd yn arwain i goll cymeriad— a'r crocbren?

Pan ddaeth yn hir brynhawn teimlai Lewsyn chwant bwyd. Yr oedd wedi bwyta y bara a chaws, oedd yn ei gwd, yn gynnar yn y bore, ac nid oedd dim yn weddill. Rhaid oedd cael rhywbeth yn ychwaneg, ac eto, at ba ddrws y gallai anturio i ofyn am ymborth? Dyfalodd lawer am gynllun i lanw ei gôd eilwaith, ond pan aeth yr haul i lawr yr oedd eto o dan gysgod y maen mawr a'i gylla 'n wâg.

Ond pan aeth y wlad yn fud eto, heb ddim ond aderyn y gwair yn aflonyddu ar y distawrwydd, mentrodd y ffoadur i fyned i lawr drwy gaeau gwair y Garwdyle a'r Glynperfedd tuag at bentref y Lamb, ac yno y gosododd i weithrediad y penderfyniad y daeth iddo.

Llwyddodd i agor un o ffenestri efail gôf y pentref, ac wedi ei chau yn ofalus, gorweddodd yn ei hyd ar y pentan, a rhwng ei deimlad blinedig a gwres y mânlo syrthiodd trwmgwsg arno.

Bore trannoeth cafodd yr hen Feredydd y gôf fraw mwyaf ei oes o weled gwaed yn diferu dros ochr y pentan a gŵr yn gorwedd yn y lle tân fel pe yn gelain. Wedi gweled mai byw oedd efe, ac yn neilltuol wedi gweled mai Lewsyn oedd ciliodd ei ofn i raddau. ac wedi clywed yr holl ystori o enau Lewsyn ei hun, er clywed ohono hi gan Shams yn flaenorol, penderfynodd yr hen ôf wneud ei ran fel Samaritan i'r llanc rhyfygus ddaeth yn y modd adfydus hwn i guro wrth ei ddôr. Aeth yn gyntaf dim i'r tŷ am ymborth a diod iddo, ac wedi aros hyd nes y digonwyd y truan, ebe fe wrtho,- "Yr wyt mewn picil clawd Lewis, ond nid y fi sy'n mynd i droi 'nghefan arnat ti, machan i. Dod y bara a chaws yma yn dy boced, cera lan i goed y Coedcaedu, ac aros yno nes bo'i 'n t'wyllu heno. Yna derc i lawr. fe fydd y ffenast ar agor i ti, a' fe fydd bwyd i ti wrth gefan y pedola' yna. Ond cofia 'dwy' i na neb arall i gael dy weld o gwbl, oblegid 'roedd dau gwnstabl yn y Lamb ddô. Ti gei fwyd bob nos, 'run man, c'yd y mynni di, ond os gwela' i fod y bwyd heb ei fyta, fe fydda' i 'n diall dy fod ti wedi mynd off. 'Nawr, machan i, lan a ti i Gocdcaedu cyn bo neb arall yn dy weld ti. Mae dynion bishi idd 'u cael, coffa!"

Felly y bu. Cysgodd Lewsyn ddwy noswaith yn yr efail ar y pentan, a llechai ym mhrysgwŷdd y Coedcaedu liw dydd. Ond rhag ofn i Feredydd ddyfod i drybini o'i herwydd ef penderfynodd ymadael y drydedd noswaith. Ond i ble? I ble, yn wir, ond i Ystradfellte? Onid oedd y Porth Mawr yno, ac onid allai un gŵr penderfynol ddal ei dir yn y lle hwnnw yn erbyn cant? A phed aethai y "gwaetha'n waetha," onid allai efe—Lewsyn—daflu ei hun i'r gwacter diwaelod yn y tywyllwch tanddaearol yn hytrach na chael ei gymryd yn fyw, i sefyll ei brawf o flaen llwfriaid?

Felly, y Porth Mawr am dani! ac ar y ffordd tuag yno llanwodd ei logellau ag eirin Mair o ardd yr Heol Las er mwyn gwneud i fara a chaws Meredydd " i fynd ymhellach."

Wedi cyrraedd yr ogof chwiliodd am gilfach dywyll, rhyw hanner canllath o'r genau, a gosododd ei gorff blinderus i orffwys ar y graean mân. Ni allai lai na chyferbynnu oeredd y gwely hwn a chynhesrwydd pentan Meredydd, ond ni ellid mo'r help-diogelwch oedd y prif beth ar hynny o bryd, a rhaid oedd anwybyddu pob anghysur i gyrraedd hwnnw.

Hir iawn oedd drannoeth yn nhywyllwch yr ogof, a bwyd lled aflesol oedd eirin Mair i nerthu dyn egwan. Rhywbryd yn y prynhawn syrthiodd Lewsyn i gysgu, ac ni wyddai pa hyd o amser y bu ynghwsg pan y deffrowyd ef gan ryw hunllef. Breuddwydiai ei fod yng ngafael cerrynt mawr o ddwfr oedd yn teithio yn gyflymach, gyflymach bob eiliad. Ceisiai ddal ei afael dro ar ol tro yn y torlannau wrth fyned heibio, ond pan y byddai efe ar fedr ennill y lan gwthid ef yn ol gan law anferth i'r llifeiriant drachefn. Ac wele ef yn awr ar fin dibyn erch, ac yn!--yn!---cwympo drosto! Neidiodd Lewsyn ar ei draed yn ei hunllef, ac ni wyddai'n iawn pa un ai ynghwsg neu ar ddihun yr ydoedd am beth amser ymhellach, canys cafodd ei hun yn wirioneddol mewn dwfr rhedegog a lifai heibio iddo yn ddiatal.

Cynhyrfodd ar hyn, yn eithaf effro bellach, a chynhyrfodd fwy o glywed sŵn llawer o ddyfroedd yn diasbedain drwy y gwagle. Rhedodd dros y meini geirwon at enau yr ogof, ac yno gwelai lifeiriant aruthrol yng ngwely yr afon.

Gorfu iddo gerdded cyn ddyfned a'i ganol drwy y dilyw i ennill diogelwch, a theimlai wedi cyrraedd tir diberigl iddo gael dihangfa ryfeddol rhag boddi yn ei wely graean.

Yr oedd afon Mellte yn un llif mawr yn rhuthro i'r Porth, fel ag y gwnaeth filwaith cyn hynny, ac a wna eto hyd ddiwedd y byd, ac onibae am ei ddihuno mewn pryd nid oedd dim a'i hachubasai rhag angau disyfyd.

Teimlai yn ddigalon iawn ar hyn oblegid yr oedd wedi credu y buasai yn berffaith ddiogel yn yr ogof hon, ond wele, yn awr ymddangosai fel pe bae Duw a dyn yn cydweithio i'w erbyn, ac yr oedd y siom yn un dost. Amhosibl iddo fyddai llechu mwy yn y tywyllwch yn wyneb y perigl amlwg a ddilynai o geisio gwneud hynny, ac felly dringodd i'r allt uwchben, heb hidio i ble yr elai.

IX.—AR Y CWPWL

CREDAI teulu Hendrebolon mewn codi yn fore. Cyn y byddai gwŷr y dref wedi ymadael a'u gwelyau yr oedd teulu Beti wedi gwneud hanner diwrnod o waith—y bechgyn naill ai yn y maes neu ar y mynydd, a Beti ei hun o gylch y tŷ yn llety'r anifeiliaid neu yn y gell gyda'i chawgiau llaeth. Arferai ganu wrth ei gwaith ond distawodd y gân ers tro bellach. Nid aeth ei phrysurdeb i ffwrdd gyda'r gân serch hynny, ac un bore cafodd y fath hwyl yn ei gwaith nes yr oedd y llestri yn ei dwylaw bron yn canu ohonynt eu hunain.

Yn ol ei harfer, cludodd nifer o lestri at y pistyll oedd yn y llwyn gerllaw i'w golchi yno. Ond y bore hwn pan y daeth i olwg y ffrwd Fechan a lifai oddiwrth fôn y maen, tarawyd hi â syndod mawr o weled gŵr ar ei ledorwedd yn ymyl y dwfr yn ceisio yfed allan o gafn tor ei law. Yr oedd ei brodyr newydd fyned allan at eu gorchwylion arferol yn y maes, ac felly hyhi yn unig oedd wrth y tŷ ar y pryd.

Nol syllu ar y gŵr dieithr am foment paratodd i redeg yn ei hol i'r gegin a bolltio ei hunan i mewn yno, oblegid yr oedd y wedd arno yn un anhyfryd iawn—ei wallt yn afler, ei farf heb ei heillio ers cryn amser, a'i ddillad yn wlybion o'i ganol i'w draed. Ond hacrach na'r oll oedd clwyf hanner crachennu estynnai draws ei foch o fôn y glust i'w ffroenau. Yn wir, er mai annhueddol i ofn oedd Beti ar unrhyw adeg. nid rhyfedd iddi y tro hwn gael braw mawr.

Ond ar y foment y llamodd lu yn ol dyna lais yr ysgelerddyn yn taro ar ei chlyw,—"Beti! Beti! peidiwch cilio o wrtho 'i! Y fi—Lewsyn Bodiccd,—sy' yma, ac yn gofyn am grwstyn o fara im—Ar hyn llewygodd y truan, a dechreuodd ei glwyf ail waedu. Yr oedd yr apêl at ei dynoliaeth a'r cyni yn y llais wedi erlid i ffwrdd bob ofn erbyn hyn. Rhedodd Beti ato, daliodd ei ben ar ei braich, gwlychodd gwr ei ffedog yn y ffrwd, a chyda'r tynerwch mwyaf glanhaodd y gwaed oddiar ei wyneb, a threfnodd ei wallt —ie'r "gwallt aur" gynt—â'i bysedd crynedig.

Sisialai rywbeth wrthi ei hun pan wrth y gorchwyl na ddaliodd neb ond angylion y wynfa ei ystyr; ac yr oedd goleuni newydd yn ei llygaid a'i gweddnewidiai yn hollol, canys yn lle yr ofn a drigai yno foment yn ol, wele bellach, ryw edrychiad gwrol a heriai fyd pe bae raid.

O deimlo y dwfr oer ar ei dalcen ymddangosodd Lewsyn fel pe ar fin dadebru o'i lewyg, ac ar hyn gosododd Beti ei ben i lawr yn frysiog a cheisiai ymagweddu fel pe na buasai wedi cyffwrdd ag ef o gwbl. Mewn eiliad yn rhagor agorodd yntau ei lygaid a syllodd arni yn hanner syfrdan fel y gwna pryfyn yr helwriaeth ar yr hwn a'i lladd, ond mewn eiliad arall taenodd gwên dros ei wyneb garw, ymaflodd yn ei llaw ac a'i gwlychodd a'i ddagrau distaw.

Gwnaeth Beti ysgogiad fel pe am dynnu ei llaw oddiwrtho, ac eto heb wneuthur hynny yn llwyr. Yntau a ddechreuodd siarad a hi gan golli ei anadl bron rhwng pob brawddeg. Dywedodd wrthi am y bywyd caled ym Merthyr, ac am driniaeth galetach y meistri. Yna rhoddodd y manylion am y "Gwaed, neu Fara!" ac am yr ysgarmesau wrth Gilsanws a Mynydd Aberdâr. Dywedodd hefyd am ei siom yn ei gyfeillion, a'i ffoedigaeth i Benderyn, y cysgu yn yr efail, a'r ddihangfa rhag boddi yn y Porth Mawr. "A dyma fi," ebe fe, gan edrych i lawr ar ei ddillad gwlybion, "ymron starfo ac yn siwr o gael 'y nâla!

Beti! y'ch chi 'n clywed beth 'w i 'n weyd?"

Yr oedd Beti yn wir wedi clywed, ac ar y foment y tybiai efe fod ei meddwl yn absennol penderfynu yr oedd hi na chai efe na newynu na chael ei ddal os gallai hi mewn unrhyw fodd rwystro hynny. Ond yr unig beth a ddywedodd hi wrtho oedd,—"Dewch gyda fi!"

Cynorthwyodd ef i godi, a dygodd ef ar ei braich i'r ysgubor, ac wedi helbul mawr llwyddodd i'w gael i ddringo i ben y "cwpwl," a gwasgodd ef i gongl o dan y tô. Yna, gan ei adael am rai munudau dychwelodd o'r tŷ a basged yn ei llaw, ac wedi cylymu honno wrth goes y brwsh hir, a gedwid ymhob fferm i'r perwyl o wyngalchu tai yr anifeiliaid, estynnodd ben y brwsh gyda'r fasged ynglŷn wrtho i'r gongl o dan y tô. Ni siaradwyd yr un gair rhyngddi hi a Lewsyn yn hynny o waith, ond arhosodd Beti wrth fôn y "cwpwl " tra y bwytaodd efe yr ymborth, ac yna clywodd ef yn cylymu y fasged wâg wrth y brwsh drachefn, a thynnodd hithau hi i lawr yn dawel.

Nid cynt y gwnaeth Beti hyn nag y daeth un o'i brodyr i'r tŷ o'r maes i chwilio am rywbeth oedd yn ofynnol i'r gorchwyl mewn llaw, a mawr y curai ei chalon mewn pryder wrth feddwl am a allasai ddigwydd pe bae ef wedi dyfod yn ol ddeng munud cyn hynny.

Teirgwaith yn y dydd y tramwyodd y fasged i fyny i'r tô ar wâr y cwpwl ar ei neges o drugaredd, a theirgwaith y dychwelwyd hi wrth goes y brwsh yn ol llaw, ac erbyn hyn yr oedd Lewsyn wedi dysgu tro ei brydiau bwyd, sef yn gyntaf un ar ol godro yn y bore, yr ail ar ol i'r bechgyn ddychwelyd i'r meysydd oddiar ginio, a'r trydydd ym min hwyr. Hawdd fuasai i Beti osod nodyn yng ngwaelod y fasged i Lewsyn ei ddarllen, ond ni ddaeth gair oddiwrthi er bod y carcharor mewn mawr awydd am ei gael.

Ond yr oedd gwaeth yn ol.

Ar ol y pedwerydd dydd pallodd taith y fasged yn gyfangwbl, a theimlai Lewsyn ofid mawr am hynny. Ceisiai ddyfalu beth oedd a'i hachosai, a chredai ar y cyntaf mai rhaid bod Beti yn glâf, ond pan glywodd sŵn y clogs ar ei thraed o gylch y tŷ fel arfer, ceisiodd ddyfalu rhywbeth arall. Yn wir, meddyliodd am bopeth dichonadwy ond yn unig fod Beti wedi ei adael i newynu. Clywsai efe ers oriau leisiau dieithr gylch y buarth, ond rhywfodd ni chysylltai efe y rheiny a'i newid byd o gwbl.

Ac os oedd cyflwr meddwl Lewsyn yn resynus, yr oedd eiddo Beti yn waeth fyth; a'r hyn a'i llethai i'r llawr yn lân oedd y ffaith na allai egluro i'w hen gyfaill y rheswm am ball yr ymborth, na dal cymundeb ag ef mewn unrhyw fodd.

Fore y pedwerydd dydd ar ol dyfodiad Lewsyn i Hendrebolon daeth i'r buarth bedwar swyddog yn gofyn am y brawd hynaf. Gan fod y teulu wrth eu brecwast ar y pryd gofynwyd i'r dieithriaid ddyfod i mewn i gyfranogi â hwy ac i gael clywed eu neges.

Yr oedd yr awdurdodau wedi cael ar ddeall fod Lewsyn yr Heliwr yn ymguddio yn Ystradfellte, canys gwyddent am ei aros yn yr efail ym Mhenderyn ar ei ffordd tuag yno, ac am groesi ohono Waun Hepsta ar lâs dydd yn ol llaw. "Ac yn awr," ebe'r swyddog. "yr ydwyf, yn enw'r Brenin, yn gofyn am letya yma gyda chwi hyd nes y chwilia'm cydswyddogion bob ysgubor ac ystabl yn y cwm, ac y delir yr euog, a'i ddwyn i'r gosb a haedda."

Hyn a ddywedodd efe, nid o ran cynllun a bwriad, ond o weled Beti, druan, yn ymwelwi a chrynu pan soniwyd enw Lewsyn. Penderfynodd y swyddog ar unwaith ei bod hi yn gwybod rhywbeth am y ffoadur, a daeth i'w feddwl mai gwylied Beti yn fanwl a fyddai y ffordd rwyddaf i ddal yr hwn a geisient.

Felly, tra yr elai y tri swyddog arall allan drwy y dydd i chwilio ffermydd a beudai eraill y cwm, glynai hwn wrth ymyl Beti o fore hyd hwyr. Nid oedd gwahaniaeth pa un ai godro'r gwartheg neu fwydo'r moch y byddai hi, dilynai llygaid didrugarog y gŵr ar ei hol i bobman, a hithau ymron torri ei chalon o dosturi at ei hen gyfaill clwyfedig a newynai o dan y tô. Meddyliodd am gynllun ar ol cynllun i gael cefn y swyddog pe bae ond am ddigon o funudau i estyn rhywbeth i ben y cwpwl. Ond yr oedd y swyddog yn hen law wrth ei waith, a'r mwyaf i gyd y ceisiai hi gael ei gefn, mwyaf i gyd y tyfai ei sicrwydd yntau ei fod ar y llwybr iawn i ddal ei ddyn.

Ond ni wyddai Lewsyn am y pethau hyn, ac ni wyddai Beti am un cynllun yn ychwaneg a addawai lwyddiant iddi yn erbyn y swyddog calongaled hwn, ac yr oedd bellach dri diwrnod wedi myned heibio heb i'r ffoadur gael yr un briwsionyn i'w fwyta, ac ni ymddangosai addewid ymwared o unlle.

Yn hwyr ar ddydd olaf yr ympryd, dychwelodd y tri swyddog i'w llety fel ag y gwnaethent y dyddiau cyn hynny, ond eu bod hytrach yn waeth eu hwyl am na ddaliwyd yr hwn a geisient.

Treuliodd y prifswyddog y dydd hwnnw ychydig yn wahanol i'w arfer cyntaf, ac yn lle dilyn Beti o fan i fan, cymerodd arno ei fod yn ddiwyd gyda rhyw ysgrifennu swyddogol, h.y., pan oedd hi yn y tŷ, ond pan elai hi allan i'r tai anifeiliaid, ni edrychodd hi unwaith o'r fan honno at ffenestr y tŷ byw nad oedd ei wyneb ef yno yn syllu allan arni.

Awgrymai y chwilwyr mai gobaith gwan oedd ganddynt am ddal y troseddwr drannoeth, a rhifasant y ffermydd a'r lluestai oeddent eisoes wedi eu hedrych yn llwyr. "Peidiwch siarad mor ddigalon," ebe un o'r brodyr, "rhaid eich bod wedi pasio rhai ysguboriau. Deuaf fi a Gruffydd gyda chwi yfory, a chynorthwywn chwi yn yr ymchwil, oblegid, credwch fi, y byddwn ninnau mor falch o'i ddal ag a fyddwch chwithau."

Yna trefnwyd rhannu y fintai yn ddwy,-un i edrych y lleoedd oedd eto heb eu chwilio, a'r llall i ail-edrych y rhai a chwiliwyd eisoes. O gyfrwystra y gwnaed y cynllun hwn, fel ag i adael y ffoadur i gredu (os oedd yn eu gwylio hwy, fel y tybid ei fod, o ryw agen neu'i gilydd) mai un fintai yn unig oedd wrth y gwaith; a phan y meddyliai ef ei fod yn ddiogel oddiwrth honno, y syrthiai i ddwylaw y llall.

Ond nid oedd eisiau y cyfrwystra manwl hwn. Pan oedd y cwmni o gylch y bwrdd wrth eu swper, ac yn prysur ymddiddan am ddaearyddiaeth y dyffryn, wele gerddediad chwimwth y tu allan i'r ffenestr yn cael ei ddilyn gan agoriad chwyrn y drws, ac yno ar y rhiniog fel rhyw anifail rheibus yn barod i ruthro arnynt yr oedd Lewsyn!

Neidiodd y swyddogion a'r brodyr i'w traed fel un gŵr, ond cyn i neb ohonynt gyffwrdd âg ef, syrthiodd y ffoadur ar ei wyneb ar lawr y tŷ.

Rhedodd y brawd ieuengaf i'r gell a dychwelodd â llestraid o laeth ac a'i rhoddodd i'r truan. Hwnnw yn ei newyn a'i traflyncodd heb sylwi ar neb na dim, ac wedi ei yfed yn llwyr, a amneidiodd â'i law am ragor. Hynny hefyd a roddwyd iddo, ac wedi drachtio eto yr un mor chwannog, efe a bwysodd ei ben ar fraich y gadair y gosodwyd ef ynddi ac a guddiodd ei wyneb â'i ddwylaw. Wedi bod dridiau ar y cwpwl heb ymborth o un math, yr oedd Lewsyn wedi hanner syfrdanu, ac wrth symud yn ol a blaen yn ei hurtni, cwympodd i'r llawr, rhyw ddeuddeg troedfedd o ddyfnder. Yna, heb wybod yn iawn beth a wnai, cerddodd rhag ei flaen gan daro ar y tŷ byw, nid amgen nag i ddannedd y llewod eu hunain. Rhwymwyd ef â rheffynnau, a chan fod yr ustusiaid wedi lled awgrymu i'r swyddogion mai araf oeddynt wrth eu dyledswydd, penderfynwyd ei ddwyn i Ferthyr y noson honno.

Gosododd Gruffydd y gaseg yn y cerbyd ar fyrder, a phan oedd popeth yn barod, cariwyd Lewsyn iddo, oblegid yr oedd efe'n rhy wan i gerdded ei hun, ac aeth y tri brawd gyda lanternau a ffyn i ddangos y ffordd i'r swyddogion hyd yr heol fawr uwch y Porth Ogof a'u harweiniai i Benderyn, Hirwaun a Merthyr. Gadawyd Beti wrthi ei hun, a hithau, wedi pwyso o honi ei phen ar y bwrdd, a wylodd fel y gwna y rhai y mae pob gobaith wedi eu gadael.

Collodd bob cyfrif ar amser, ond pan, rywbryd tua chanol nos y clywodd ei brodyr yn dychwelyd gyda chrechwen fawr, rhedodd i fyny'r grisiau, ac ymguddiodd yn ei gwely heb ddiosg yr un dilledyn. Cyhuddai ei hun o fod heb wneuthur yr oll a fedrai i achub Lewsyn, a chredai y byddai ei waed ef ar ei dwylaw am byth.

X.—YR YSGWEIER

Y DYDD Gwener canlynol i'r ddalfa yn Hendrebolon, curwyd wrth ddrws tŷ Mari Jones (oedd yn awr yn byw ar gwr isaf pentref y Lamb) tua chanol dydd, ac erbyn ateb y drws gan Mari ei hun, yno yr oedd ei hen gyfeilles Beti ar gefn ei cheffyl, ac yn ymddangos fel pe yn dychwelyd o farchnata.

"Mari, dewch i'm hebrwng," ebe hi, "y mae isha arna'i i wilia a chi."

"Gadewch i fi gael 'm het, ac fe ddof," ebe hithau yn ol.

Erbyn i Mari ddyfod i'r drws yr ail waith yr oedd Beti wedi disgyn oddiar gefn ei cheffyl, ac yn barod i gydgerdded â hi.

Cerddodd y ddwy i fyny yn araf gan arwain y ceffyl gerfydd ei ffrwyn, ac ymddiddan yn sobr am amgylchiadau yr wythnos ryfedd honno, ac yn neilltuol am dynged Lewsyn.

Yn syml adroddodd Beti yr holl helynt am ei ddyfodiad, a'i arhosiad yn Hendrebolon, a'r modd truenus yr aeth i ddwylaw y swyddogion o'r diwedd.

"Ellwch chi feddwl am rwbath ddylswn i fod wedi wneud na wnetho i?" ebe Beti mewn tôn ofidus. "O, Mari! yr o'wn i bron torri 'nghalon wrth 'i weld e', y truan bach, yn cael 'i glymu ganddi nhw, a fynta mor dawel trwy'r cwbwl. Ddwetodd e' ddim yn gâs wrthoi, ond pan oedd y cerbyd ar fâda'l, edrychodd arno i, O mor garedig, 'roedd yn ddigon i doddi calon unrhyw un." "Beti! peidiwch gofidio, chi wnethoch y'ch gora glâs, 'rwy'n siwr," ebe Mari.

Ymddangosodd y geiriau hyn fel pe yn rhoi cysur mawr i Beti, ond meddai,—"Oes rhwbath allwn ni wneud eto, Mari, idd 'i achub e'? Mae Shams wedi 'matal â Phenderyn, a mae rhai'n dweyd 'i fod ei hunan mewn rhyw helynt neu 'i gilydd."

"Mae arna i ofan nag oes llawer o obath, ond fe ddweta wrthoch chi beth allwn ni wneud,-gadewch inni fynd at y Sgweier a gofyn iddo fe'n helpu. Mae fe yn un o'r gwŷr mawr mwya', chi wyddoch, ac fe all e' feddwl am rwbeth na ddaw i'n meddwl ni o gwbwl.

Dotwch y ceffyl yn y Lamb ac fe awn ato 'nawr. 'Does dim awr er pan weles i o 'n mynd lan y drive i'r Plas." Gosodwyd yr anifail yn ddiogel yn ystabl gyffredin y gwesty, ac aeth y ddwy i Blas Bodwigiad i eiriol ar ran un fu unwaith yn bennaf ffefryn yno.

"Wel, 'm merched i, beth yw eich neges ataf fi? Mari, pwy yw'r ferch ddiarth yma?"

"'Dyw hi ddim yn ddiarth iawn, syr. Beti Williams o Hendrebolon yw hi, ac y mae hi a finna wedi galw i gael gweld a oes dim posib i chi wneud rhwbeth dros Lewsyn,—Lewis Lewis, syr, yn 'i helynt. 'Roedd e' a ninna yn yr ysgol yng Ngwern Pawl yr un amser, ac yn wir, syr, wyddon ni ddim beth i wneud i geisio 'i helpu fe, ond fe garsan wneud 'n gore."

"Dewch i mewn, 'ch dwy," ebe fe yn garedig. "Gwenllian!" ebe fe drachefn wrth y forwyn, wedi iddynt eistedd, " Dewch a'r botel win yma!" Yna arllwysodd iddynt eill dwy wydraid bychan ac a'i hestynodd iddynt mewn modd mor barchus a phe baent yn foneddigesau pennaf y wlad.

"Da iawn, ferched," ebe fe ymhellach, "yr wyf yn caru plwc a phenderfyniad ble bynnag y gwela i e'. 'Nawr, chi yw y cynta' yn y lle sy wedi mentro wilia â fi yn ei gylch. Chi wyddoch iddo fatal oddiyma tan dipyn o gwmwl, ond cwmwl neu beidio, ferched, yr oedd yn well dyn na'r oll o'r llwfriaid sy 'nawr yn gatal iddo fynd i'r crocbren o'u rhan nhw. Fe fydd yn dda gyda chi glywed mod i ishws wedi cyflogi y barrister gore yn y wlad idd 'i amddiffyn e', ac ni chaiff dim sefyll rhyngto a rhyddid os gall arian Bodwigiad wneud hynny. Gadewch i fi weld, yr y'ch chi, Miss Williams, yn chwaer i Gruffydd Hendrebolon. Fe fydd e' yn un o'r tystion, bid siwr. 'Nawr, beth wetwch chi 'ch dwy am ddod i Gaerdydd i'm helpu i amser y treial? Dwedwch wrth 'ch brawd. Miss Williams, mod i 'n dymuno arno 'ch gatal i ddod, oblegid rhwng popeth fe fydd yn rhaid cael rhai i edrych ar ol petha yn y tŷ gymres i yng Nghaerdydd dros amser y treial, a chi ddowch chi, Mari, gyda hi, 'rwy'n siwr. Yr wy'n lled ffyddiog, rywffordd, y daw Lewis yn rhydd ac ni fydd well ganddo weld neb yno na'r rhai a'u cofiws pan oedd e' dan y dŵr. Nos da i chi ferched, caf glywed o' wrthych yr wythnos nesa' p'un ai ddewch ne beidio. Da gen i fod ysgol Gwern Pawl yn troi maes ferched fel chi."

Aeth y cyfeillesau yn ol drwy y drive mor galonnog a phe bae Lewsyn eisioes yn rhydd.

Diwrnod gwyn yw hwnnw yn hanes unrhyw un y ca ynddo gydnabyddiaeth llwyr gan ei well.

Aeth Mari i fyny i'r Lamb gyda Beti at y ceffyl, ac wedi ei helpu i'r cyfrwy, a mynnu addewid y deuai i'w gweled prynhawn y Sul ar ol hynny, ymadawodd â hi am y tro mewn mawr hyder y deuai popeth yn iawn yn y diwedd.

Ni sylweddolai y genethod ar y pryd dywylled oedd y cwmwl uwchben Lewsyn fel blaenor y terfysg a thywalltwr y gwaed. Yr oedd canmoliaeth a chefnogaeth anisgwyliadwy y Sgweier wedi codi eu calonnau

c'uwch yn awr ag oeddent o isel cyn hynny. Yr oedd oriau dygn eto yn eu haros na freuddwydient am danynt, a da iddynt ar y pryd oedd bod mewn anwybodaeth ohonynt.

XI.—Y DDWY GYFEILLES

WEDI eu hymweliad â'r Sgweier, teimlai y ddwy ferch, er yn drist iawn, eu bod wedi cael agoriad llygad ar fyd na wyddent ddim am dano cyn hynny, er ei fod yn eu hymyl. Ac oni bae am eu teimlad dwfn a'u hymgolliad llwyr yn eu neges, buasai parlwr Bodwigiad yn destun siarad a syndod iddynt am ddiwrnodau. Y fath ddodrefn, y fath addurniadau, y fath bopeth i apelio at enethod oedd yn edrych ymlaen at drefnu tŷ iddynt eu hunain rywbryd.

"Onid oedd yr hen ŵr yn fonheddig ei ffordd?" ebe un wrth y llall," a meddyliwch am dano yn gorchymyn gwin inni yn union fel pe buasem yn Mrs. Wynter neu Miss Rhys! Welsoch chi y dŵr yn ei lygad, Beti, pan oedd e' 'n sôn am Lewsyn? Yr oedd yn ei garu er 'i holl ffyrdd gwyllt, fi wna'n llw. Pwy wêd wrthom ni ar ol hyn taw hen ŵr swrth, câs, y w y Sgweier? Welsoch chi un mwy tyner 'rioed? A meddyl'wch am dano'n gofyn i ni'n dwy fynd i Gaerdydd, Beti! Ma'n rhaid inni fynd, deued a ddêl! Yn unpeth, ni awn i ddangos fod gan Lewsyn, druan, rai a ddwêd air drosto o flaen y byd. Mae digon yn 'i gondemnio hyd 'n ôd y rhai oedd yn ddigon parod i gydbrancio âg e', pryd oedd e'n fflwsh 'm Modiced. A dyna chi beth arall hefyd, Beti, y mae'r Sgweier wedi rhoi'r compliment o ofyn inni'i hunan i ddod. Ni awn o barch iddo fe, taw dim arall. Charwn i byth eto golli 'i feddwl da o honon ni."

"Ond, Mari, beth wêd 'y mrodyr?"

"Tyt! y'ch brodyr yn wir! Ddwetsoch chi ddim wrthy' nhw?"

"Naddo! 'Rodd gormod o ofan arno i wneud." "Wel, dwedwch wrthy' nhw heno, 'n eno dyn! Rhowch wybod iddy' nhw y stori i gyd, am 'n wilia â'r Sgweier, a'i ofyniad pendant ynte am i ni ddod gyda Gruff. Fe fentra boddlona nhw wedyn ar unwaith. Nid pob un sy a chymint o ffermydd ar 'i law i'w rhentu, cofiwch!"

"Dewch, Beti, towlwch yr hen ofan dwl 'na o'wrtho chi! Welais i ddim ohono fe genny' chi yng Ngwern Pawl, dim o'r fath beth. A chofiwch fod bywyd Lewsyn yn y dafol. 'Dwy' i ddim yn credu y gallwn ni wneud rhyw lawer drosto, mae'n wir, ond mae gen i ffydd fawr yn y Sgweier, a chi glywsoch beth 'wetws e'. Ond ar wahan i bopeth arall, bydd 'n gweld yno yn 'chydig o gysur i'n hen ffrind pan fo'r byd i gyd yn troi ei gefn arno."

"A chofiwch beth arall, 'd yw e' 'i hunan ddim yn gwybod, fel y gwyddom ni, fod y Sgweier yn gymint cyfaill iddo. Rhaid inni fynd, Beti fach! Rhaid yn wir!"

"Beth gawn ni wisgo, ferch? Fe ddof i a'm hen ŵn du dy' Sul wrth gwrs, 'does dim arall gen i werth idd 'i weld, gwaetha'r modd. Dyna be sy o fod yn ferch i ffermwr oedd yn well ganddo 'i ddiod na'i stock. Dyn helpo nhad, mae e 'n dad i fi trw'r cwbwl, a mae 'i yfed e' wedi bod yn ddigon o felltith iddo fe 'i hunan heb idd 'i ferch ei bardduo fel hyn yn 'i gefen. Ond am danoch chi, Beti, chi yw 'tifeddes Hendrebolon. Chi ddewch chi yn y'ch ' paish a betgwn,' neu chi ddylsech ddod, ta beth, waith mae nhw'n yn y'ch taro i'r dim, a fe glywais Lewsyn ei hun yn gweyd yn y Mabsant diwetha ond un, nad oedd neb yno'n ffit i ddala cannwyll i chi pan wisgoch chi nhw am y tro cynta'."

"A chan na alla i edrych 'y ngore yng Nghaerdydd, bydd ar y'ch llaw chi i wneud i fyny droson ni'n dwy. Cofiwch ddweyd wrth y'ch brodyr heno, a gwetwch yn ddishtaw bach wrth Gruff hefyd am beidio dishgwl arno i yn oes oesoedd os na llyngiff e' chi i ddod! Nos da."

XII.—MYNED I GAERDYDD

UN bore braf yn niwedd haf 1831, pan oedd pentref Penderyn ar ddihuno i ddiwrnod newydd, gwelodd y trigolion beth na welwyd ers llawer blwyddyn, sef cerbyd mawr Plas Bodwigiad yn sefyll o flaen y Lamb gydag Ifan, yr hen wâs, mewn dillad lifrai ar y box, a'r Ysgweier mewn gosgedd weddus iawn yn sefyll yn ymyl fel pe yn disgwyl rhywun neu rywrai i'w gyfarfod yno.

Synasant yn fwy o weled drws un o'r bwthynod yn ymyl yn agor a dyn ieuanc a dwy eneth wladaidd yr olwg yn dynesu at y cerbyd, ac ar ol cyfarchiad caredig gan ŵr penna'r plwyf, yn cael eu cynorthwyo ganddo i esgyn i'w lle ynddo. Rhwbiwyd llygaid yn fawr iawn y bore hwnnw ym mhentref y Lamb er cael penderfynu mai nid breuddwyd oedd yr oll.

"Ai nid Mari Jones ydyw yr un acw? Cato'n pawb! A phwy yw y llall? Byth nad elwy' o'r fan yma, os nad yr eneth wyllt, anhebig i bawb arall, o Hendrebolon yw!"

Yr oedd cywreinrwydd bron llethu pawb, ond ni feiddiai neb fyned yn nes i'r cerbyd ac eithrio Marged Llwynonn, yn unig. Credai hi yn rhinwedd ei gwaith yn golchi ambell waith yn y Plas, y gallai gymryd y blaen ar y lleill. Ond gwell fuasai iddi beidio, oblegid pan ar fedr dweyd "Bore da, Sgweier, yr ydych wedi cwnnu'n fore," daliodd ei lygad ef hi, a rhewodd y gair ar ei min.

Neidiodd yr hen ŵr fel hogyn i'r cerbyd ar ol y lleill o'r cwmni, tarawodd Ifan ergyd â'i chwip, a dacw'r meirch porthiannus yn cychwyn yn fywiog a'u llwyth i waered y cwm.

Brysiwyd trwy Bontprenllwyd cyn i'r pentrefwyr yno sylweddoli fod cerbyd mawr y Plas wedi cael atgyfodiad.

Bu yr amgylchiad yn destun siarad mawr y dydd hwnnw, a siglwyd llawer pen gan bobl ddrwgdybus oedd yn mesur pawb "wrth eu llathen eu hun." Ond ni ddyfalwyd y gwir gan neb ohonynt er cymaint y dyfalu fu, oblegid ni wybuwyd eto am y teimlad caredig a ysgogai waith y ddwy eneth, a llai fyth am y bonedd pur a lanwai galon yr hen Ysgweier traws.

Tawedog iawn oedd y ddwy eneth ar gychwyn y daith, ond pan ddechreuodd yr hen ŵr ddangos iddynt wrthrychau mwyaf diddorol y cwm, aeth y siarad yn fwy cyffredinol. Nid oedd yr un ohonynt wedi teithio ymhellach nag Aberdâr cyn hynny, a phan ddaethpwyd allan i'r Basin a gweled camlas fawr Merthyr, ynghyda'r mulod a'u gyrwyr yn dwyn llwythi drosti i lawr i Gaerdydd, mwyaf i gyd elai y diddordeb.

Yr oedd gan y Sgweier amcan yn hyn oll, sef eu cadw rhag meddwl gormod am y dydd trist oedd o'u blaen. Ac wedi gwneud un cyfeiriad caredig at Lewsyn, a datgan ei hyder y deuai efe allan efallai yn well nag y disgwylid, trodd drachefn i ddiddori'r merched yng ngheinion Dyffryn Taf.

Ym Mhontypridd (neu yn hytrach Newbridge, fel y'i gelwid y pryd hwnnw) disgynnwyd o'r cerbyd er mwyn gweled y Garreg Siglo a Phont yr hen bregethwr, ys dywedai yr Ysgweier.

"Dyma hi, ferched!" ebe ef gan wenu, "yn well na dim o'i thebig gynhygiwyd gan neb arall erioed. Chware teg i'r hen bregethwr!"

Wedi hynny dringwyd i'r Cwmin i osod y Garreg Siglo i symud, ac i ryfeddu at gywreinrwydd yr hen Gymry yn meddwl am osod y fath feini yn eu lle. Ar y ffordd yn ol at y bont, cymharwyd y maen hwn â Charreg Siglo Pontn'dd Fychan, a daliai Gruffydd mai er cystal eiddo Dyffryn Tâf, bod un Cwm-nedd "ar y blâ'n" yn ei feddwl ef, am ei bod yn fwy cywir ar ei hechel, ac felly yn hawddach ei chyffro, ac, yn wir, ei fod ef,— Gruff,-rywdro wrth fyned heibio iddi, wedi ei defnyddio i dorri cnau. Rhoddodd hyn ddifyrrwch mawr i'r Ysgweier, ac erbyn eu bod unwaith eto yng ngolwg Ifan a'r cerbyd, yr oedd efe ar ei uchel hwyliau ac yn ffraeth dros ben.

Yna ail-gychwynwyd, ac ymhen amser deuwyd ar gyfer Castell Coch, pan y cynheuwyd hyawdledd yr hen ŵr eilwaith wrth sôn wrthynt am wrhydri Ifor Bach yn yr amser gynt.

"Plwc! ferched bach. Giêm! i chi'n weld. Y petha' gore'n y byd!" Yna gwenodd arnynt drachefn, a daeth i feddwl y tri am yr hwn oedd yn awr mewn helynt dybryd am na thrôdd ei "blwc" i'r iawn gyfeiriad.

Wedi darfod sôn am rinweddau Ffynnon Tâf a'r nifer mawr a wellhawyd yno, yr oeddynt yng nghyffiniau Caerdydd, a'r tai unigol yn dechreu rhoi lle i ystrydoedd. Nid oedd Caerdydd y pryd hwnnw ond cymedrol o ran maint,—" Nid hanner cymint a Merthyr," mentrodd Gruff,—ond yr oedd y tai yn fwy destlus a rheolaidd, ac felly yn rhoddi gwell syniad o dre nag a wnai y twr poblogaeth oedd wedi tyfu o amgylch Cyfarthfa a Phenydarren.

Wedi dyfod ar gyfer y castell a gweled a chlywed ohonynt forwyr nad oeddent yn Saeson nac yn Gymry, aeth y syniad o bwysigrwydd Caerdydd yn uwch eto yn eu meddwl.

Ychydig yn nes ymlaen estynnodd y Sgweier ei hun allan o'r ffenestr i roddi cyfarwyddyd i Ifan, a throwd i lawr i groesheol, yn yr hon y safodd y cerbyd ryw chwech neu saith drws yn is i lawr.

Wedi disgyn ohonynt rhedodd dyn allan o'r tŷ gyferbyn, ac wedi cyfarch y Sgweier yn foesgar, cymerodd ddwy o fasgedi o law Ifan ac a'u cariodd i fyny at y drws lle yr oedd meistres y tŷ yn barod i groesawu ei hymwelwyr.

"Follow me, please, ladies" ebe hi, ac arweiniodd y ddwy eneth at y grisiau. Ond cyn iddynt ddechreu esgyn i'w hystafell, ebe'r Sgweier yn Gymraeg wrthynt,— "Ugain munud i ymolch ac ymdaclu, ferched, ac wedi hynny dewch lawr i gael bwyd. 'Rwy'n siwr bod 'i isha fe arnoch chi, fel 'm hunan." Ymdaclodd y genethod mewn llai nag "ugain munud" y Sgweier, ond arosasant i siarad ac i helpu ei gilydd yn y mân drwsiadau yr ymhyfryda y rhyw dêg gymaint ynddynt.

XIII—Y TREIAL.

"GRUFF!" meddai'r Ysgweier ar ddiwedd y pryd bwyd, "Ewch a'r ddwy ferch yma maes i weld y lle dipyn, ond cofiwch beidio mynd a nhw ar goll. Fe fydd 'u hisha nhw ym Mhenderyn a 'Stradfellte eto. Ewch i weld y Castell a'r llongau, 'walla mai rheiny yw'r pethau goreu yn y dre. A dewch yn ol erbyn swper am saith. Rhaid mynd i'r gwely'n gynnar heno, achos fe fydd diwrnod hir o'n blaen 'fory. Fe ddelswn 'm hunan, ond rhaid i fi weld y Barrister o Lunden."

Aeth y tri allan i'r dre, a chawsant yr heolydd yn llawn o bobl. ddangosent ryw ddifrifoldeb mawr ar bob gwedd. Trigolion y mynyddoedd oedd y mwyafrif o'r rhai hyn wedi dyfod i Gaerdydd o herwydd y Treial, a llawer ohonynt yn berthynasau y rhai wynebent y Barnwr drannoeth. Canfu Beti amryw o bobl a adwaenai " o ran eu gweld," ar Hirwaun, a hawdd oedd teimlo oddiwrth pob "min gair" mai y Treial oedd pwnc mawr yr ymddiddan gan bawb. Cymraeg a siaredid bron yn gyfangwbl, a rheswm da am hynny, oblegid hi oedd unig iaith llawer ohonynt.

Daethai y Barnwr i'r dre y Sadwrn blaenorol, a bu yn Eglwys Sant Ioan y Sul. Treuliwyd y Llun a Mawrth gydag achosion na pherthynent i Gynnwrf Mawr Merthyr, ond yn awr yr oedd prif bwnc y " 'Sizes " i ddechreu drannoeth. Disgwylid y byddai tyrfa niferus am fynd i'r Neuadd ar yr achlysur, ac yr oedd Cwnstabliaid yr holl sir yno mewn ffwdan mawr yn paratoi i gadw trefn yn y Llys a'r dre.

Aeth Gruff a'r ddwy ferch i weled y Castell a'r llongau yn ol awgrym y Sgweier, a threuliasant y rhan fwyaf o'r prynhawn yn eu hedmygu.

"Rhaid i fi ddarllen am yr Ifor Bach yna eto ta' beth," ebe Mari. "Os aeth e' i mewn dros y gwelydd yna (a mae'r Sgweier yn gweyd iddo wneud hynny er fod sowldiwrs ar 'u penna' nhw yn treio i stopo fe), wel! rhaid mai dyn bach taer oedd e'! Glywsoch chi'r Sgweier yn wilia am i blwc e'? Bydd y stori 'n werth i darllen."

Yr oedd Mari erbyn hyn wedi dyfod yn edmygydd mawr o'r Sgweier, a'r hyn ddywedai efe osodai y safon i bopeth. Yr oedd "plwc" a "giêm" yn eiriau benthyg oddiwrtho, ac ym myd arwyr a gwroniaid y trigai ei meddwl fyth oddiar ddydd yr ymweliad hwnnw a'r Plâs.

Hyhi oedd yn cynnal yr ymddiddan drwy y prynhawn, a gwrandawai Gruff, oedd yn naturiol yn un o'r rhai di-ddweyd, gyda syndod ar ei harabedd a'i dawn parod.

Gofalwyd bod yn ol yn y tŷ yn gywir am saith pan y cyfranogwyd o bryd bwyd arall. Cyn ymadael dros nos rhoddodd y Sgweier y drefn iddynt am drannoeth. "Brecwast am wyth," ebe fe, "ac wedyn mewn pryd i'r Hall. Chi fyddwch chi, Gruff, yn siwr o'ch lle am y'ch bod yn witness, ac fe ddaw y merched gyda fi. 'Rwy'n credu dim ond i fi weld Cwnstabl neilltuol y bydd lle i ninnau hefyd. A choffwch," ebe fe ymhellach, bydd rhaid inni fynd a thipyn o fwyd gyda ni, achos ddown ni ddim mâ's nes bo popeth ar ben. A pheidiwch synnu at ddim a welwch neu a glywch, a chadwch yn agos i fi."

Chysgodd Beti ddim eiliad y noson honno gan mor ddieithr oedd y cwbl iddi. Ac heblaw y teimlad o ddieithrwch, llethid hi gan gyffro a phryder meddwl.

Cododd a gwisgodd cyn chwech, ac wedi dihuno Mari, oedd yn cysgu fel Mynydd y Glôg, aethant i lawr eill dwy erbyn saith, a chymerasant dro drwy heol neu ddwy cyn dychwelyd i'w llety erbyn amser brecwast.

Yn gywir erbyn wyth daeth yr hen Sgweier i lawr y grisiau, ac er nad oeddent yn ddigon hyf arno i ofyn iddo am y modd y cysgodd, hawdd oedd canfod wrth ei amrantau a'i lygaid cochion mai ychydig o orffwys a gafodd yntau.

Er hynny yr oedd yn llon a serchog iawn wrth ben y bwrdd, ac yn ymddangos fel pe yn mwynhau y ddarpariaeth. Ymhen rhyw ugain munud edrychodd ar ei oriawr fawr, oedd yn rhwym wrth ei seliau o dan ei vest, a dywedodd,—" Mae'n rhaid mynd!" a chyfododd pawb i baratoi.

Wedi cyrraedd clwyd fawr y Neuadd, oedd eisoes a thorf fawr yn gwasgu am agoriad, gwelodd y Sgweier y "cwnstabl neilltuol" y cyfeiriodd ato yn ymgom y llety, ac wedi ychydig o siarad a newid rhywbeth o law i law, arweiniodd y swyddog hwnnw y tri trwy ddrws yn ochr yr adeilad i ystafell eang y Prawf, a chawsant le i eistedd ychydig y naill ochr i'r Witness Box.

Y diweddaf a welsant o Gruff oedd yn cael ei osod, ymhlith rhyw ddwsin eraill, gan swyddog tal a waeddai yn awr ac yn y man,—"Witnesses This Way!"

Da iddynt fyned yn gynnar. oblegid hanner awr cyn cychwyn y gwaith yr oedd y lle yn llawn hyd y drysau, ac awyr yr ystafell yn dechreu trymhau. O'r diwedd dacw'r Barnwr i mewn, y swyddog yn galw "Silence in Court!" a phob un ar ei draed ar y gair. Hawdd oedd i'r merched hefyd sefyll oblegid yr oedd ar wyneb y gŵr mawr ryw ddifrifoldeb a chadernid oedd yn cymell parch.

Treuliwyd peth amser gyda ffurfiau arferol y llys, ac wedi cwblhau y rheiny, dygwyd y carcharorion cyntaf i fyny, ac er syndod i'r ddwy gyfeilles nid oeddynt namyn Shams Harris y Pompren, ac un arall.

XIV—"SCROG!"

MANYLWYD ar natur y cyhuddiad cyntaf gan y cyfreithiwr oedd yn agor y case, a dywedid fod y ddau gerbron y llys wedi ceisio rhwystro y Coach Mawr ar ei daith drwy Hirwaun ar ddiwrnod neilltuol ym Mehefin, ac wedi ceisio ei feddiannu at ryw bwrpas anghyfreithlon.

Nid ar unwaith y gallodd Beti ddeall a dilyn trefn ac iaith y llys, ond yn raddol goleuodd arni bod Shams a'i gydgarcharor yn sefyll eu prawf am yr helynt welodd hi ei hunan ar Hirwaun yn nechreu y Cynnwrf Mawr. Rhoddodd hynny ddiddordeb neilltuol iddi yn y gweithrediadau, a gwrandawai yn astud fel y rhedai y case ei gwrs.

Yr oedd yr ail ddyn, na wyddai hi mo'i enw na'i hanes blaenorol, yn hunan-feddiannol dros ben, a pherai gryn ddifyrrwch i bawb gyda'i atebion ysmala. Pan ofynwyd am ei hawl i ddringo i'r Coach heb ganiatâd taerai yn eon (trwy y cyfieithydd) mai ei garedigrwydd a'i cymhellai.

"Beth oedd y caredigrwydd anferth hwn?" ebe'r cyfreithiwr gyda sen.

"Achub eu bywyd nhw i gyd!"

"O! achub eu bywyd i gyd, ai ie? Dyna gynnyg newydd i'r llys. Trowch eich wyneb at foneddwyr y rheithwyr iddynt glywed yn eglur yr hyn a ddwedwch. Ym mha fodd y ceisiasoch achub eu bywyd?"

"Trwy atal y ceffylau i redeg i ffwrdd "

"Pwy ddwedodd wrthych eu bod yn rhedeg i ffwrdd?"

"'Doedd dim angen i neb ddweyd wrthyf,—yr oedd golwg wyllt y gyrrwr a'r ceffylau eu hunain yn ddigon i brofi hynny!"

"Ac o'r holl bobl yn yr ystryd chwi oedd yr unig un welodd fod y ceffylau allan o reolaeth, onide?" "Nage! Dyma un wrth f'ochr a welodd yr un peth!"

"Adwaenech chwi ef cyn y diwrnod hwnnw?"

"Dim o gwbl. Welais i mo'r dyn yn fy oes nes ei ganfod yn fy ymyl ar nen y Coach, pan y cawsom ein maeddu a hanner ein lladd gan y dyhiryn acw!"— gan gyfeirio a'i fys at y Guard oedd gyferbyn ag ef yn y neuadd.

"Peidiwch gwneud araith i'r llys, atebwch y cwestiynnau!"

Ar hyn torrodd y Barnwr i mewn i'r holi gan ddweyd,—

"Where did you say the Coach usually stopped?"

Mentrodd y cyhuddedig ateb yn y Saesneg, heb y cyfieithydd y tro hwn.—

"At the Cardiff Arms, sir, and the place where that man tried to scrog me was hundred yards farther up."

"Let me see—scrog! scrog! I am afraid I do not quite understand the word!"

"Scrog! s-crego! scregan! sir!" ebe'r Cymro unwaith eto mewn eglurhad.

"I am afraid my conjugation of Welsh verbs is deficient." (Chwerthin yn y llys). Yna yn uwch wrth y cyhuddedig drachefn,—

"Where did you say he tried to—scrog you?" gan gyfeirio at y canllath pellter.

"By here, sir! on my neck, sir!" ebe fe drachefn, gan noethi ei wddf tarwaidd, llydan, ynghanol chwerthiniad cyffredinol.

"Please proceed with your examination, Mr. Harding, will you? I am afraid I have not made the accused understand me"

"Yna," ebe'r cyfreithiwr (trwy'r cyfieithydd drachefn)—"wedi y camdriniaeth gawsoch am eich caredigrwydd yn ceisio achub pawb yn y cerbyd, beth wnaeth y guard anniolchgar i chwi wedyn?"

"Fe'm tawlws dros y wheel i'r hewl!" (Chwerthin).

"Beth wnaethoch chwithau yn nesaf?"

"Cwnnu ar 'y nhraed, wrth gwrs!" (Chwerthin uchel).

Teimlai y cyfreithiwr erbyn hyn nad oedd yr holi yn llwyddiant hollol, ac nad ydoedd wedi cysylltu y cyhuddedig a'r Mob mewn unrhyw fodd. Felly, dilynodd ymlaen am ychydig eto i geisio rhw'ymo y gw'alch cyfrwys a'i hatebai mor llithrig.

"Ie," ebe fe, "wedi i chwi gael eich taflu allan mor chwyrn, ac i chwithau godi fel yr eglurasoch inni, dywedwch wrth y llys i ba le yr aethoch y funud nesaf ar ol hyn. Onid yn ol tua'r Cardiff Arms?"

"Dim o'r fath beth! Mi ês i'r tŷ at y wraig, No. 11, Penhow, Hirwaun, ac wedi iddi olchi'r gwaed oddiar fy wyneb eithum i'r gwely!" (Peth chwerthin).

"Aethoch chwi ddim pellter yn ol at y lliaws?"

"Dim o gwbl! Ro'wn i gyferbyn a'r tŷ, No. 11, Penhow, pan y cwmpais."

"A ydych yn eithaf sicr o hyn?"

"Ydwyf, yn berffaith sicr, neu gofynnwch i'r wraig. Yr oedd hi ar garreg y drws, pan ddisgynnais i mor 'scaprwth' o ben y Coach!" (Chwerthin mawr eto). Methwyd profi bod Shams a'i gyfaill talentog yn gysylltiedig a'r gwrthryfelwyr o gwbl, a daeth y ddau yn rhydd.

XV—Y CAP DU

YNA cyhuddwyd pump arall o fod wedi ymgynnull yn wrthryfelgar mewn lle a elwid Hirwaun, ymhlwyf Aberdâr, Miskin Higher, ac wedi torri ar heddwch y brenin yn y man dywededig, a pheri anhwylusdod i'w ddeiliaid yn yr un lle dywededig.

Edrychai Beti yn fanwl ar wyneb pob un o'r rhai hyn hefyd ac i'w syndod teimlodd ei bod yn adnabod un ohonynt hwythau, ac wedi ei weled yn rhywle yn ddiweddar. Trethodd ei meddwl am ychydig, a chofiodd yn y man mai yr hwn a'i haflonyddodd ar Hirwaun, ac a osododd ei law ar ei basged gan waeddi,— "Menyn neu Waed, myn asgwrn i!" oedd efe.

Rhywfodd nid oedd ganddi yr un teimlad cas ato, ag yntau yn ŵr ar lawr fel ag yr oedd, ond yr oedd y gwahaniaeth rhwng ei agwedd lwfr yn awr a'i ystum ffug-arwrol y pryd hwnnw yn peri iddi wenu er gwaethaf popeth.

Yr oedd yntau, fel cyfaill Shams ar nen y Coach, yn hynod siaradus, ond nid oedd agos mor glir yn ei "stori " nac mor hunanfeddiannol yn ei thraethu, ag oedd hwnnw.

Honnai, pe credid ei air, nad oedd dyn diniweitach nag ef ar glawr daear, ac mai wedi ei gamgymeryd am rywun arall oedd yr holl dystion. Ni fu ei honiadau fodd bynnag o un budd iddo, oblegid cafodd, fel y lleill, " bum mlynedd " o alltudiaeth dros y môr, a diflannodd i lawr y grisiau gan barhau i siarad a thaeru. Yna, mewn distawrwydd a ellid ei deimlo, galwyd allan "Richard Lewis!" ac mewn atebiad dacw lanc oddeutu ugain oed yn sefyll i fyny.

Cyhuddwyd ef o fod, ar ddydd neilltuol, yn achos marwolaeth un Donald McDonald, mewn lle neilltuol o'r enw The Castle Hotel, ym mhlwyf Merthyr Tydfil. Hwn oedd Dic Penderyn glywsai y merched gymaint o sôn am dano. Llenwid eu mynwesau â thosturi mawr tuag ato; canys edrychai mor ddiddrwg ac mor anhebig o ladd neb pwy bynnag. Yr oedd hefyd mor wylaidd yn ei atebion, ac mor wyneb-agored yn cydnabod rhai pethau yn ei erbyn ei hun fel yr enillodd lawer i gredu o'i ochr.

Ond nid oedd dim yn tycio. Barnwyd ef yn " Euog " gan y rheithwyr, ac estynnodd y Barnwr am ei gap du, a chyda cryndod rhyfeddol yn ei lais, efe a'i condemniodd i farw. Nid oedd yno lygad sych yn yr holl dorf, plygodd Dic ei ben, a throdd yn dawel i ddilyn y swyddog yn ol i'w gell.

Yna, o rywle, galwyd allan mewn llais clir, "Lewis Lewis!" Cydiodd Mari yn llaw Beti a syllasant ill dwy ar y gwallt "a'r haul arno," yn dod i fyny heibio rheil y carcharorion. O! ai hwn oedd y bachgen glanwedd gynt? Edrychai Beti yn ol yn ei meddwl am dair blynedd i weled marchog y ceffyl gwyn yn myned i'r Bêcwns y Sul cyntaf yn Awst. Yna tremiodd i ymyl y swyddog drachefn a chuddiodd ei hwyneb â'i dwylaw. Yn nes ymlaen pan oedd y prawf wedi dechreu a thyst neu ddau wedi rhoddi eu tystiolaeth, syllai Beti yn graff ar y Barnwr a'r Rheithwyr i edrych a welai linellau o dosturi yno yn rhywfan. Yna galwyd Gruffydd Williams i roddi y ffeithiau a wyddai efe, ac er mawr syndod i Beti ei hun dywedodd ei brawd bopeth a allai i ffafrio y carcharor. Gwelwyd Lewsyn yn sychu ei lygad pan wnaed hyn, a chredai rhai ei fod ar fin llewygu. Ond camsyniad oedd hynny—ton o deimlad serch at Hendrebolon, ac o ddiolch i Gruff a ddaeth drosto, ac yr oedd yn gryf eto y funud nesaf. Credai Beti yn awr na ellid ei gondemnio hyd nes i gyfreithiwr y Goron bwysleisio mai efe oedd y Ringleader, ac mai efe a dywalltodd waed gyntaf. A gwaethygu 'roedd yr olwg o hyn i'r diwedd pryd y cafodd y Rheithwyr y cyhuddedig yn Euog!

Pan ofynwyd i Lewsyn yn ol ffurfiau profion yn gyffredin i ddangos rheswm paham na ddylid ei ddedfrydu i farwolaeth. dywedodd "I have nothing to say, my lord, the witnesses have spoken the truth. Only that I was starving, my lord, and that all my friends were the same."

Yr oedd Beti a Mari erbyn hyn yn foddfa o ddagrau, ac yn plygu eu pennau i guddio eu hwynebau, ond clywsant eiriau y Barnwr yn eglur, a gwyddent fod pob gobaith ar ben. Siaradai yn dêg ac yn deimladwy neilltuol. Amlwg oedd ei fod yn tosturio yn fawr wrth Lewsyn. Ond yr un oedd y diwedd—"Y Cap Du," a " Dedfryd o Farwolaeth."

Gwasgarodd y dorf ar hyn ond ni syflodd y merched hyd nes i'r Sgweier ddyfod atynt, a gosod ei law yn dyner ar ysgwydd Beti a dweyd,—"Dewch 'y merch i!" Cododd ar hyn (a gwnaeth Mari yr un modd), a chan bwyso ar fraich yr henafgwr cyrhaeddasant eu llety; ac yno, Ysgweier Penderyn—a fernid gan rai y caletaf o bawb dynion—a wylodd gyda'r rhai oedd yn wylo, ac a anghofiodd ei dor-calon ei hun wrth weini ar eraill.

Aeth y merched ymhen amser i'w hystafell eu hunain, a chyn y daethont i lawr y grisiau drachefn yr oedd yr hen ŵr wedi myned allan gan adael gair gyda Gruffydd am iddynt beidio ei ddisgwyl yn ol tan nos.

"Pa fodd y 'drychai ef, Gruffydd?" ebe Mari.

"Wel," oedd yr atebiad, "yn ddewrach a mwy penderfynol nag y gwelais ddyn erioed. Ac yr oedd dan 'i fraich e' fox bach 'sgwâr, ferched, na welais i mo'i sort e' yn 'y mywyd; a pheth oedd e' dda, wn i ddim eto!"

Rhaid bellach oedd paratoi am y siwrnai drist yn ol drannoeth, a phan, wedi noson o adfyd mawr y daeth y cerbyd eto at y tŷ i gychwyn y daith, dywedodd meistr y llety fod y Sgweier wedi myned ar doriad gwawr y bore hwnnw gyda'r Coach Mawr i Lunden, ac wedi gadael gair gydag ef, y gallent aros cyhyd ag y mynnent, bod Ifan a'r cerbyd at eu gwasanaeth, ac nad oeddent i fod mewn eisiau o ddim.

Ond yr oedd aros yng Nghaerdydd yn hwy allan o'r cwestiwn, ac felly, wedi diolch iddo ef a'i wraig am eu teimladau lletygar, hwy a ddychwelasant i Benderyn yr un dydd.

Ar y daith yn ol nid oedd gan Ffynnon Tâf na'r Castell Coch, Ifor Bach na William Edwards, un diddordeb iddynt mwyach, a phan wedi pasio trwy Y Basin, Aberdâr, Hirwaun, a Phontprenllwyd, gofynasant i Ifan adael iddynt ddisgyn wrth y Lodge, ac y cerddent y rhelyw o'r ffordd i dŷ Mari.

Nid oedd hynny wrth fodd Ifan o gwbl, oblegid yr oedd efe wedi arfaethu rhedeg ei geffylau i Sgwâr y Lamb mewn dull rhwysgfawr (neu yn ol ei eiriau ei hun, "in grand style"); am mai yn anaml y cai efe y cyfle i wneud hynny.

Ond pan y dangoswyd iddo nad gweddaidd y peth o dan yr amgylchiadau, gwelodd resymoldeb eu dadl. Felly, ar draed yr aed oddiwrth y Lodge hyd at y Lamb, ac yn nhŷ Mari y bwriwyd y noson gan eill tri.

Y diwrnod canlynol dygodd Gruff ei chwaer dros Waun Hepsta i'r cartref tawel oedd wedi ei annhrefnu mor dost yn yr wythnosau blaenorol.

Cyn dod i'r llidiart a arweiniai i'r cae dan y tŷ trôdd Beti at Gruff a dywedodd,—"Diolch yn fawr i ti. Gruff, am fod mor dêg, a dweyd nad oedd Lewsyn yn ddrwg i gyd. All neb bwynto bys byth ar dy ol a dweyd iti ala dyn arall o dan y rhaff. Diolch yn fawr i ti, Gruff!"

Ar hyn cymerodd afael yn ei fraich a chusanodd ef, ac aethant ill dau i mewn i aelwyd eu tad a'u mam.

XVI.—"REPRIEVE"

HOLODD Mari Wenllian y Plâs fwy nag unwaith pryd yr oeddynt yn disgwyl y Sgweier yn ol, ond ni wyddai honno na neb arall beth a ddaethai ohono ond yn unig mai yn Llundain yr oedd. Dechreuwyd pryderu yn ei gylch, ond a hi yn hwyr un nos Iau daeth yr absennol yn ol yn sydyn, ac wedi ei ddyfod, cyfarfyddodd o ddamwain â Mari wrth y Lodge.

Ar y foment ni wyddai hi yn iawn beth i'w wneud pa un ai troi i siarad ag ef ai peidio. Ond gosododd yr hen ŵr bonheddig hi allan o'i phenbleth ar unwaith, oblegid cyfeiriodd ei gamrau tuag ati, ac wedi ysgwyd llaw â hi, dywedodd,-"Rwy am i chi wel'd Beti ar y ffordd i'r farchnad 'fory, a dod gyda hi i'r Plâs yn y prynhawn. Mae gen i isha wilia â chi ar fater pwysig."

Dydd Gwener a ddaeth, ac am dri o'r gloch aeth y ddwy gyfeilles i Fodwigiad fel y ceisiwyd ganddynt, ac wedi eistedd yn y parlwr, a chael ychydig o luniaeth fel y tro o'r blaen, edrychodd y Sgweier arnynt am foment neu ddwy, ac yna dywedodd,—"Fe fydd yn dda gyda chi glywed na chaiff Lewis mo'i grogi. Y mae newydd gael reprîf. Bu gwaith caled, caled idd 'i chael, ond dyfal donc a ddaeth a hi o'r diwedd. Ond nid yw'n ddyn rhydd, ferched. Newidiwyd y Sentence of Death yn Dransportation for life!

Rhaid diolch am gymint a hynny, fe fydd yn ddyn byw, ta beth. Y mae'n mynd i Botany Bay bore fory, ond cyn mynd fe wetws wrtho i am ddiolch yn fawr i chi'ch dwy am y'ch teimlada' da tuag ato, ac y base fo'n cofio am danoch chi hyd 'i fedd."

Collodd y merched ddagrau yn ystod adroddiad y Sgweier o'r amgylchiadau hyn, oblegid heb yn wybod iddo rhoddodd iddynt yr argraff, rywfodd, na welent Lewsyn byth mwy, er iddo osgoi y gwarth o'i grogi.

Cymerodd y Sgweier arno na welsai y dagrau ac aeth ymlaen i siarad am bethau llai trist, ac ebe fe,—"Dywedodd Lewis hefyd beth arall—od iawn—'i fod e' ddim wedi gweld un ohonoch yn y Treial, ond y teimlai yn siwr y'ch bod chi yno'ch dwy. Dywedodd hefyd am i chi, Beti, ddiolch i Gruff, ac i weyd mor falch yr oedd fod gan y fath chwaer y fath frawd. Dyna'r cwbl, ferched. Bydd rhaid i fi 'mhen spel i dreio'm llaw eto i gael y sentence yn llai, ac wedyn walla ca' i weld e' unwaith yn rhagor cyn bo i 'n marw. "Never say die" 'nd e fe?"

"Sgweier! Sgweier! peidiwch sôn am farw," ebe Mari, "Mae'n rhaid i Benderyn y'ch nabod chi'n right cyn hynny."

"Ha!" ebe yntau, " bydd yn rhaid iddi nhw wisgo'r glasses right, cyn y gwna nhw hynny, Mari!"

"Nos da, ferched, os bydd gen i newydd i chi rywbryd fe ofala i chi 'i gael e'. Peidiwch torri'ch c'lonna', ferched! Mater diolch sy' gennym i gyd belled a hyn ta beth! Nos Da!"

Ymlwybrodd y cyfeillesau i lawr y Drive yn araf, ac er, yn wir, fod ganddynt lawer mwy o achos llawenhau yn awr nag a oedd ganddynt ar eu hymweliad cyntaf a Bodwigiad, prudd oedd y ddwy. A'r Sgweier ei hun, er ei ymgais ddewr i ymddangos yn galonnog o flaen y merched, a deimlai yn dra gwahanol pan wrtho ei hun. Yr oedd Botany Bay ymhell ac yn greulon, ac yntau, yn ei hen ddyddiau, yn unig a digysur ynghanol ei gyfoeth i gyd.

XVII.—MORIO I'R DE.

YMHEN tua mis ar ol y Treial yng Nghaerdydd gwelwyd llong yn ymadael o longborth Southampton a'i hwyneb i gyfeiriad y Werydd llydan.

Nid oedd iddi lwyth o nwyddau o un math, ac nid oedd perthynasau ar y lan yn ysgwyd cadachau i'r teithwyr. A rheswm da am hynny-llong yr alltudiedig oedd—ysgubion Prydain .Fawr yn ymadael a'r deyrnas er lles y wlad. Llundeinwyr oeddent gan mwyaf, rhai yn hen mewn anghyfraith ac eraill yn ddim ond bechgynnos ieuainc.

Ond yr oedd un peth yn gyffredin ar eu hwynebau oll, sef nôd y bwystfil, h.y., pechod a rhyfyg. Rhaid oedd i'r swyddogion ofalent am y llestr fod yn llym, ac hyd yn oed yn sarrug wrth yr alltudion, neu manteisid arnynt ar unwaith, ac felly cloid allan o'r ddwy ochr bob osgo at deimlad teg a dynoliaeth dda. Rhyfedd gynted y crëir awyrgylch o'r fath pan y llethir pethau goreu ein natur gyffredin.

Yr oedd y fordaith i fod yn un hir—chwe mis o leiaf—hwnt i Linell y Cyhydedd i foroedd y Dê, heibio y Cape of Good Hopc, a thair mil o filltiroedd yn ychwaneg cyn cyrraedd y tir oedd y pryd hwnnw yn uffern barod—Awstralia.

Nid oedd y daith ond tri diwrnod oed cyn y dechreuwyd cynllwyn, gan y rhai gwaethaf o'r fintai, i feddiannu'r llong a boddi pawb na chytunai yn yr anfadwaith. Ar yr ail ddec, yn ei gaban cyfyng, yr oedd Cymro, yr unig un ar y llestr, sef No. 27, ond a adnabyddwn ni yn well fel Lewsyn yr Heliwr, meistr ei gydysgolheigion yng Ngwern Pawl, ac arweinydd ei gydweithwyr ym Merthyr.

Ceisiwyd droeon ganddo i ymuno yn y cynllwyn. ond siglo ei ben a wnai bob tro, ac o'r diwedd gadawyd llonydd iddo. Ond yn ei gaban clywai bob nos guro parhaus, ac yn raddol daeth i ddeall y Convict Alphabet, a thrwy honno daeth i wybodaeth o gyfrinion mwyaf peryglus y llong.

Ond, er gwaeled ei gyd-deithwyr ni fradychodd efe yr un ohonynt, y cwbl a chwenychai oedd cael perffaith lonyddwch i ddilyn ei ffordd ei hun.

Ond nid hawdd oedd cael hynny yn y fath gwmni, ac yn enwedig oddiwrth un o'r Llundeinwyr a'i cyfarchai yn wastad fel "Softie." Ond wedi i'r Cymro ddangos un tro fod ganddo ddwrn na pherthynai i unrhyw "Softie" pwy bynnag, cafodd lonydd gan hwnnw hefyd.

Sylwodd y swyddogion fod Lewsyn o ddosbarth gwahanol i'r lleill, ac nad ymgyfeillachai â hwy mewn dim. Ac wedi i'r capten un diwrnod ddatgan ar giniaw wrth ei swyddogion nad oedd Lewsyn na llofrudd na lleidr, derbyniodd yr alltud unig amryw o gymwynasau bychain yn llechwraidd oddiar law amryw ohonynt, a wnaent ei anghysur gryn raddau yn llai.

Yn unpeth cafodd lyfr neu ddau, ac wedi deall o'r swyddogion ei fod yn meddu llawysgrif ragorol symudwyd ef o gaban No. 27 at yr un nesaf i'r lle y cedwid y cyfrifon ac i'w fawr fwynhad cafodd y Cymro gynorthwyo yn y gwaith. Yn wir, cystal oedd ei lawysgrifen a'i fedr, fel y credent oll mai forger oedd efe. Gwenai Lewsyn am hyn, ond ni wadodd mewn unrhyw fodd, ond yn unig ddweyd ynddo ei hun—"Gwern Pawl for ever!"

Wedi'r cwbl alltud oedd efe, a rhaid oedd dygymod a'r ffaith. Edrychai ymlaen at gyrraedd Botany Bay, i gael "daear Duw," ys dywedai efe, o dan ei draed unwaith yn rhagor. Sylwai efe yn feddylgar ar bethau mawr y Cread yn ystod y daith hon i ochr arall y byd, ac o sylwi a meddwl, llanwyd ei enaid ag addoliad i Drefnydd Mawr y Bydysawd. Llawer noswaith y syllodd o'i gaban cyfyng ar ogoniant y Southem Cross yn yr wybren dawel, ac o'r cymundeb hwnnw mynych y daeth i'w feddwl y geiriau, " Pa beth yw dyn i Ti i'w gofio, neu fab dyn i Ti ymweled âg ef." A'r mwyaf i gyd y meddiennid ef gan y teimlad hwn, mwyaf i gyd oedd ei edifeirwch am ei orffennol a'i benderfyniad am ei ddyfodol.

Wedi saith mis o fordwyo, ac wedi llawer o waeddi "Tir!" pan nad oedd tir ar y gorwel, o'r diwedd deuthpwyd i'r hafan ardderchog y cyrchent am dani.

XVIII.—RHWYSTRO CYNLLWYN

AR lâs fore ym Mawrth, 1832, hwyliodd y Success, sef llong yr alltudion, i fyny y porthladd eang gyferbyn a Sydney, a gwnaed pob paratoad ar y bwrdd i lanio drannoeth.

Rhanwyd y cwmni mawr yn finteioedd llai, a threfnwyd popeth gân swyddogion pob mintai ar gyfer cychwyn y daith i fyny i'r wlad i'r Lleoedd a benodwyd i sefydlu y carcharorion. Dacw hwynt yn cerdded allan rhwng y canllawiau bob yn ddeg a deg, a phob aelod o'r deg yn rhwym wrth gadwyn y naw arall. Taflwyd llawer trem yn ol gan y trueiniaid at yr hen Success, canys wedi'r cwbl hyhi oedd yr unig gysylltiad gweladwy rhyngddynt a'r hen wlad a'r hen fywyd yno, ac yr oedd hiraeth am dir eu mebyd yn meddiannu hyd yn oed y rhai hyn a wnaethant bopeth yn eu gallu i lychwino ei henw da pan oeddent yn rhydd.

Ac yn wir, er gwaethaf diben gwarthus y Success, y llestr arddelai enw mor amhriodol, ymddangosai honno heddyw ar ddyfroedd tawel Port Jackson cystal a rhyw long arall, ac yr oedd gradd o hiraeth felly ar y calonnau celyd a'u gwelent am y tro diweddaf cyn troi ohonynt i dir anobaith y Bwsh.

I'w fawr ofid gwelodd Lewsyn fod y Llundeiniwr a'i galwai yn "Softie" gynt, yn perthyn i'r un fintai ag yntau, ond penderfynodd ei anwybyddu ar y tir fel ag y gwnaeth ar y môr.

Ond hwnnw gan feddwl yn unig ond am gyfle i dalu 'nol i Lewsyn am y sarhâd o'i osod ar asgwrn ei gefn yng ngwydd pawb ar fwrdd y llong, a wyliodd ei gyfle; ac yn gyntaf dim a wenwynodd y lleill o'r fintai yn ei erbyn.

Cysgent oll mewn "sied" ar y gwaith, a mynych y deallodd Lewsyn drwy y Convict Alphabet ei fod yn cael ei ddwrdio ganddynt. Ond ni chymerodd arno sylwi ar y teimladau cas, ac aeth pethau ymlaen fel hyn am flwyddyn gyfan, nid yn waeth, nid yn well. Yr oedd prif swyddog y fintai, fel y capten ar y llong, wedi sylwi fod Lewsyn ar ei ben ei hun, ac wedi rhoddi iddo. oherwydd hynny, ambell ffafr. Y Cymro gaffai wneud y cwbl o gylch y tŷ, trin yr ardd, cadw'r offer, a llawer o bethau mân eraill. Mantais y cyfnewidiad i Lewsyn oedd cael bod yn rhydd ambell i wythnos o'r penyd caled a diobaith a geid o ddilyn y gang ddydd ar ol dydd.

Nid oedd y ffafrau hyn wedi myned heibio yn ddisylw gan y Llundeinwyr, ac mewn canlyniad dyfnach oedd eu llid a pharotach oedd eu llaw a'u llais yn ei erbyn. Ond ymlaen ar ei ffordd ei hun yr ai Lewsyn heb ofalu beth a ddywedent neu a wnaent ond yn unig helpu. pan gaffai gyfle, rhywun gwannach nag ef ei hun. I Mr. Peterson a Mrs. Peterson (canys dyna enwau y swyddog a'i briod), yr oedd geneth fechan bum mlwydd oed, oedd yn eilun ei rhieni, ac yn frenhines yr holl le. Mynych y deuai hon at Lewsyn pan oedd efe yn gweithio o gylch y tŷ, a theimlai y Cymro ei bod fel angel y goleuni wedi ei danfon i'w gysuro yn ei alltudiaeth. Chwareuai â hi fel pe bae yn grwt ei hun, naddai iddi gywreinion mewn coed a maen, ac o dipyn i beth daeth Jessie fach ag yntau yn gyfeillion mawr. Sylwodd y fintai ar hyn hefyd, ac ni chyfrifid hynny yn gyfiawnder i Lewsyn yn eu golwg ychwaith mwy na'r ffafrau eraill a gawsai i'w ran.

Un noswaith, a hi yn boeth a thrymaidd iawn yn

y "sied" ni fedrai Lewsyn gysgu. Chwyrnai ei gymydog nesaf fel anghenfil, ond o gwr pellaf y "sied" clywai y Cymro guro gwan yn iaith y Convict Alphabet. Gwrandawodd yn astud, ac i'w fraw mawr clywai gynllun gan bedwar o'r dynion, yn cael eu harwain gan ei elyn, i ladd y swyddog, ei wraig, ac yntau, dwyn yr eneth i'r "Bwsh" a llosgi y lle.

Yr oedd hynny i'w wneud cyn dydd, i gael bod yn sicr o'u gwaith, ebe nhw, "cyn bod yr adar yn codi o'u nyth."

Gwelodd Lewsyn nad oedd eiliad i'w golli, felly syrthiodd yn dawel o'i wely isel, a gosododd ei draed yn dyn yn erbyn gwaelod estyll mur y "sied," ac wedi gwasgu yn dawel a'i holl nerth, daeth yr hoelion allan yn y man hwnnw.

A'i gymydog eto'n chwyrnu gwthiodd Lewsyn ei hun allan trwy yr agoriad, a rhedodd, fel ag yr oedd, at dŷ y swyddog. Dringodd i ben casgen ddwfr, yna i ben gody bychan, ac oddiyno drwy ffenestr i'r llofft. Gwyddai y man y cysgai y teulu, a churodd wrth y drws, yn ddistaw ar y cyntaf, ac wedi hynny yn uwch.

"Hello!" ebe llais o'r tu mewn, "Speak! or I shoot!"

"Don't shoot! Mr. Peterson!" ebe yntau, " I am No. 27—Lewis, you know,—coming to try to save you!"

"Come in, No 27!" ebe yntau yn ol, ac yna wedi agor y drws yn gìl agored, dywedodd Lewsyn yr hyn oll a glywodd, a'i fod yn barod i ymladd gyda'i swyddog i amddiffyn y teulu. Yn gyntaf dim diogelwyd Mrs. Peterson a'r eneth o dan y gwely, ac wedi cael llawddryll gan Mr. Peterson. arosasant eill dau am ymosodiad y mileiniaid llofruddiog.

Nid hir y bu cyn dod. Gwelwyd y pedwar, oedd heb wybod am absenoldeb Lewsyn o'u plith, yn ysbio yn llechwraidd o ymyl " sied " yr alltudion, ac mewn eiliad arall yn cydredeg at dŷ y swyddog. Pan ddaethant yn ddigon agos, a hwy eto yn credu fod y preswylwyr yn cysgu yn dawel, taniwyd arnynt gan yr amddiffynwyr a chwympodd dau, tra y ffodd y ddau arall am eu heinioes i'r anialwch.

Brysiodd Mr. Peterson a Lewsyn i lawr, a gwelwyd mai y gelyn mawr, a ymhyfrydai yn llysenwi'r Cymro yn "Softie" oedd un, a No. 16 y llall. Ar hynny aeth y gorchfygwyr ar eu hunion i fyny i'r "sied," a'u harfau yn eu dwylaw, ac yno y cawsant y rhelyw o'r dynion yn frawychus iawn ac yn gofyn beth oedd yn bod, a pheth oedd ystyr y saethu a glywsent. Wedi eu holi yn fanwl, a chael boddlonrwydd nad oeddent gyfrannog yn y cynllwyn, aed ymlaen fel arfer.

Claddwyd y ddau adyn marw a gosodwyd gwyliadwriaeth bob nos rhag ofn y deuai y ddau arall yn ol, ond ni welwyd mo honynt yn fyw byth ar ol hynny.

Ymhen rhai misoedd cafwyd dau ysgerbwd dynol yn yr anialwch rai milltiroedd o Wallaby «Station, a bernid mai rhan farwol y ddau alltud ddihangodd i'r Bwsh oeddynt. Ond y modd y daethant i'w hangau, pa un ai o syched, o frathiad neidr, neu o bicelliad brodor,—ni wyddys hyd heddyw.

XIX.—RHYDDID

TRANNOETH i'r ymosodiad ar dŷ Mr. Peterson, danfonwyd i Sydney adroddiad swyddogol o'r amgylchiadau, ac yn hwn rhoddwyd lle amlwg i'r oll a wnaeth Lewsyn dros fywyd ac eiddo yn y lle. Fel y gallesid disgwyl aeth y cwlwm rhwng yr alltud Cymreig a'r Petersons yn dynnach nag erioed, ac oddigerth yr enw a'r tâl nid oedd gwahaniaeth rhwng No. 27 a dyn rhydd.

Parhaodd efe yn y "sied," ac wedi cael cefn y pedwar llofrudd daeth pethau yn well o lawer rhyngddo a'r lleill, a gwelid, yn wir, arwyddion amlwg fod swynion bywyd o bechu yn colli eu gafael arnynt.

Un diwrnod ymhen rhai misoedd ar ol yr ymosodiad ar y tŷ, daeth i law Mr. Peterson lythyr mawr swyddogol, wedi ei gylymu a'i selio yn ofalus, yn yr hwn y dywedid, yn yr arddull cyfreithiol arferol,—"That inasmuch as the said convict No. 27, of Wallaby Station, has specially distinguished himself under trying circumstances. His Excellency, the Governor General of New South Wales, on behalf of His Majesty King William the Fourth, doth hereby grant him a free pardon, with a fully paid passage to any specified town within the United Kingdom. And, furthermore, that should the said convict No. 27, Lewis Lewis to wit, desire to return to New South Wales at any time, that a free grant of 320 acres be allotted to him his heirs and assigns for ever"

Pan ddaeth y newydd yr oedd teulu bach y Petersons wrth eu brecwast, ac yn siarad, fel y gwnaethant ganwaith cyn hynny am yr amser euraidd y byddai blwydd-dal y tad yn ddyledus, ac y dychwelent "Home" i'w fwynhau.

Yn wir, dyna'r meddwl cyntaf a ddaeth iddynt o'r llythyr swyddogol y bore hwn, er y byddai hynny rywfaint o flaen yr amser, ond pan y sylweddolwyd ystyr y cynhwysiad neidiasant mewn llawenydd, a Jessie fach gymaint a neb.

Rhedodd Mr. Peterson i lawr i'r "sied," a phwy oedd yn dyfod allan ohoni ar y pryd ond Lewsyn. Pan welodd hwnnw gyffro y swyddog caredig meddyliodd ei fod am unwaith wedi gwallgofi, oblegid daliai y llythyr uwch ei ben ag un llaw, ac estynnai y llall tuag ato pan oedd efe eto ugain llath oddiwrtho. Wedi ei gyrraedd ac ysgwyd llaw, a braich, er na wyddai Lewsyn eto am ba beth yn y byd, ac yna ysgwyd llaw drachefn a thrachefn, cafodd ei lais o'r diwedd, a gostyngodd ef ddigon i ddweyd,—"Mr. Lewis! I congratulate you! You are a free man!"

Yna edrychwyd yn fanwl dros y llythyr, a chyn eu bod wedi ei ddiweddu yn llwyr eisteddodd Lewsyn i lawr ar y llethr yn ymyl yr heol, a chyda gwefus grynedig parablodd—"Diolch i Ti, O Dad! Cadw fi rhag drwg, er mwyn Dy enw mawr. Amen!"

Ni wyddai Mr. Peterson beth a barablai, ond yr oedd yr osgo yn ddigon o fynegiant i galon mewn cydymdeimlad. Dywedodd wrth ei wraig mewn amser wedi hyn, er na ddeallai, wrth gwrs, yr un gair ohoni, na chlywodd gywirach gweddi erioed.

Aeth yr Ysgotyn caredig i'r "sied" gan adael Lewsyn wrtho ei hun am ryw gymaint, a d'wedodd ar ei fynediad i ganol yr alltudion,—"No work to-day, boys! No. 27—I beg your pardon—Mr. Lewis is a free man!" Ac yna esboniodd iddynt ystyr y llythyr.

Pan ddaeth Lewsyn ar ei ol mewn tipyn—pum munud galetaf ei fywyd oedd derbyn llongyfarchiadau y trueiniaid. Daethant i fyny ato yn un ac un—a phaham na addefir y gwir yn llawn—yr oedd dagrau o'r ddwy ochr. Llaesodd y wynebau celyd, erlidiwyd delw y Fall allan o'r llygaid, a daeth rhyw fwynder i'r lleisiau oedd cyn hynny yn yngan dim namyn rhegfeydd a chabledd.

Aeth yr alltudion allan yn gwmnioedd bychain o ddau a thri i fwrw eu cyrff blinedig ar y glaswellt, ac i siarad am yr hen wlad. A phan ddychwelasant i'r "sied" am eu pryd bwyd nesaf yr oedd pleser arall yn eu haros, oblegid, yno ar fwrdd hir a llian gwyn drosto yr oedd y ffrwythau tecaf a melysaf fedrodd heulwen Awstralia eu haddfedu erioed. Mewn gair, o fewn terfynau disgyblaeth ddoeth, cafodd yr holl gymdeithas yn Wallaby Station ddiwrnod o wledd a seibiant ar yr achlysur o ryddhad No. 27 am ei ran yng Nghynnwrf y 31.

Nid oedd gwybodaeth am y cyfleustra nesaf i gyrraedd Sydney, ond tra yn aros am hynny mynnai Lewsyn, er holl anogaethau Mrs. Peterson a Jessie i ddyfod i'w tŷ hwy, aros yn y "sied."

"Na!" meddai, bydd yn ddigon caled iddynt hwy fy ngweled yn myned adref pan yr âf, heb i mi eu hatgofio o'u cyflwr bob dydd cyn hynny."

Yr oedd yn falchach mewn diwrnod neu ddau mai felly y gwnaeth, oblegid dechreuodd rhai o'r trueiniaid ofyn iddo ymweled a'u cydnabod yn yr hen wlad, ac erfyniodd un o leiaf arno ymweled a pherson neilltuol i grefu maddeuant am gam wnaed yn y gorffennol.

"What about the last part of the letter, Mr. Lewis?" ebe Mrs. Peterson rhyw ddiwrnod, "Shall we see you again?" "That depends upon an old friend of mine at home!" ebe yntau gan wrido. "However, we shall see!"

O'r diwedd daeth y cyfleustra i fyned i Sydney, ac aeth Mr. Peterson gyda Lewsyn i'w hebrwng cyn belled a hynny. Galwyd yn y Government Office i gael gwneud popeth mewn trefn, a chyn pen teirawr wedyn yr oedd Lewsyn wedi ysgwyd llaw a'i gyfaill cywir, ac yn dringo i fwrdd llong fawr, gyda'i wyneb ar Gymru,—ac Ystradfellte.

XX.—"EDRYCH TUAG ADRE'"

PAN hwyliodd y llong fawr i lawr Port Jackson gan ledu ei hadenydd i awelon y Dê, eisteddai un o'r teithwyr ar ei bwrdd fel pe mewn heddwch a'r hollfyd, ac yn sugno mwynhad o bob morwêdd newydd.

"Pwy feddyliai," ebe fe wrtho ei hun, "fod y fath borth a hwn, yn borth anobaith a distryw i gynifer?" Ac aeth ei feddwl yn ol i'r "sied" yn Wallaby Station, lle yr oedd ei gymdeithion diweddar yn trigo heb obaith ganddynt "ac heb Dduw yn y byd." Llanwyd ei galon â thosturi, a phenderfynodd hyd eithaf ei allu i wneud rhywbeth drostynt pan y cyrhaeddai Brydain drachefn.

Ac i'r perwyl o ddechreu gweithredu ar y penderfyniad hwnnw eisteddodd i lawr y foment honno, a thynnodd allan o'i logellau nifer o bapurau bychain, a chopïodd yn ofalus oddiwrthynt i'w ddyddlyfr newydd enw a chyfeiriad pob un ar a addawodd ymweled â hwynt yn yr hen wlad drostynt.

"Mi a'u gwelaf i gyd," ebe fe, "pe cymerai imi flwyddyn i'w wneud!" "Pa ragoriaeth oedd i mi arnynt hwy fel y gwelodd Rhagluniaeth yn dda i mi ddod yn rhydd ac iddynt hwythau aros yn eu caethiwed?" Yn y teimlad gwylaidd hwn aeth i'w gaban a chysgodd gwsg yr uniawn.

Bore trannoeth yr oedd y llestr allan o olwg y tir a dechreuodd y teithwyr edrych ar ei gilydd a pharatoi i gymdeithasu y naill â'r llall. Er gwell, er gwaeth yr oeddynt i fod yn gyd-ddinasyddion am o leiaf chwe mis, a'r byd mawr tu allan wedi ei gloi oddiwrthynt am y cyfnod hwnnw. Felly, yr oedd llawer o blesor y daith yn dibynnu arnynt hwy ou hunain.

Er mwyn helpu yr ysbryd o gymdeithasu a'i gilydd, cyhoeddodd y capten y cynhelid cyngerdd yn y prif gaban y noson ddilynol, i'r hon y gwahoddid pawb. Ar yr un pryd gwahoddid pob dawn "cerdd ac araith" i fod yn barod for the entertainment of the ship's company.

Daeth yr awr, a llanwyd y caban, ond hytrach yn hwyrfrydig oedd y doniau "cerdd ac araith" i ddod i'r amlwg. Ond o'r diwedd canodd Ellmyn am afonydd ei wlad, a Ffrancwr am winllannoedd ei wlad yntau. Wedi hynny cymerodd Italiad y llwyfan, a dilynwyd ef gan Yswis.

"The Homeland is behind to-night," ebe'r capten o'r gadair. "Is there no Britisher that will come forward?" Ar y foment cododd Lewsyn a dywedodd,-" I am a Britisher, sir, and will do my best, although my song is not an English one."

Ar hyn dechreuodd,—

gan dybio mai efe oedd yr unig un a'i deallai.

Ond cyn iddo ganu hanner y pennill cyntaf dyna lais o'r dorf, " Da iawn! Gymro bach!" a rhoddodd iddo ysbrydiaeth newydd yn y gwaith. Canodd y pennillion i gyd, a chan ei fod wedi eu canu droeon yn y Mabsantau gynt daethant yn ol i'w gof yn rhwydd. Ni chredai fod iddo ryw lais arbennig unrhyw amser, ond gwyddai heno ei fod yn canu yn well nag erioed, a phan y disgrifiodd deimlad angherddol y bardd yn y pennill olaf,—

"Rwy'n mynd heno, dyn a'm helpo,
I ganu ffarwel i'm seren syw,
A dyna waith i'r clochydd 'fory
Fydd torri'n bodd o dan yr yw
A rhoi fy enw'n ysgrifenedig
Ar y tomb wrth fôn y pren,
Fy mod i 'n isel iawn yn gorwedd
Mewn gwaelod bedd o gariad Gwen,"

yr oedd y gynulleidfa fawr gymysg honno yn gwybod fod y cânwr yn teimlo ynddo ei hun yr hyn a ganai, taw beth bynnag oedd ei destun.

"I am very much obliged to the son of Wales for coming forward with that beautiful song" ebe'r capten. " We shall have the pleasure of hearing him again and often I hope."

Yna aed ymlaen at bethau eraill, a phan derfynodd y cyfarfod aeth pawb i rodio'r dec unwaith eto cyn troi i'w cabanau am y nos.

Daeth y Cymro o'r dorf" ymlaen at Lewsyn a llongyfarchodd ef ar y gân ac am y caniad. "Clywais hi lawer gwaith ym 'Merhonddu, pan o'wn i'n grwt yno gyda'm hewyrth," ebe fe, "ond yr oedd wedi mynd o' nghof i 'n lân nes i chi ei galw 'nol heno."

Yna daeth distawrwydd am ennyd rhyngddynt, ond taw beth oedd y Cymro hwn o Aberhonddu yn ei wybod neu heb ei wybod, yr oedd wedi dysgu peidio holi pobl ddieithr, beth bynnag. Dywedwyd gair neu ddau o ddymuniad da, ac yna ymadawsant a'i gilydd am y tro.

Rhoddodd tawedogrwydd y gŵr o wlad y Bêcwns gryn esmwythder i Lewsyn, canys ofnai y gallasai fod yn un o'r tylwyth hynny sy'n holi pawb am bopeth. Ni fuasai o un fantais gymdeithasol i Lewsyn ar y llong pe deuid i wybod ei fod naw mis yn ol yn gaeth, ac wedi dyfod allan yn y Success.

"Ie," meddai, "Success yn wir! onid yw hyd yn oed yr enw yn warth ar yr iaith y perthyn y gair iddi? Diolch i'r nefoedd fy mod i heno yn ddigon rhydd i ddal 'y mhen ymhlith fy nghyd-ddynion, ac yn gallu sefyll am yr hyn ydwyf yn wirioneddol heb stamp urddas o un ochr na gwarthnod y digymeriad o'r ochr arall."

Ar hyn lledodd ei ysgwyddau a cherddodd y dec i'w gaban gydag aidd yn ei drem a phenderfyniad yn sang ei droed.

XXI. DEWRDER A LLWFRDRA.

YN raddol dirwynai y misoedd i ben heb nemor y dyddiau oddigerth ambell i forfil aruthr a ddeuai i'r wyneb i syllu ar y llong fawr adeiniog ddaeth i dresmasu ar eangder ei ddyfrfeysydd ef, neu ambell wynt nerthol a roddai i'r teithwyr bryder am ddiwrnod neu ddau.

Cyrhaeddwyd y Cape yn brydlon, a chan fod ar y capten a'i ystiward angen adgyfnerthu adnoddau y bwydgelloedd, ac yn enwedig am gael newid hen ddyfroedd y casgeni am gyflenwad ffres i'r daith. penderfynodd y teithwyr, er mwyn newydd-deb y profiad, i ddringo Table Mountain uwchben y dref.

Wedi dychwelyd ohonynt oll, codwyd yr angor, a throdd yr hen long ei hwyneb i'r gogledd fel rhyw hen geffyl yn tynnu tuag adref. Yr ail ddiwrnod allan o Cape Town cododd tymestl fawr, a'i chwythodd rai cannoedd o filltiroedd allan o'r cwrs. Ofnai llawer o'r teithwyr y gwaethaf y tro hwn, ond cysurai Lewsyn rai o'r gwannaf "am y gwyddai," ebe ef, "fod llaw Rhagluniaeth yn myned i'w ddwyn yn ol i Gymru yn ddianaf."

Yr oedd yn rhywbeth i'r gweiniaid hyn fod o leiaf un ar y llong a'i ffydd mor gref yn y Gallu Mawr. Pan ddaethpwyd yn ol i'r cwrs yr oeddynt wrth St. Helena, a chafwyd ychydig oriau yno i ymweled a bedd Boni Fawr. Parodd hynny lawer o siarad am Waterlw, Wellington, Picton, y R.W.F., a'r Scottish Highlanders.

Wrth glywed y siarad gellid tybio fod hanner y cwmni wedi bod yn yr ymladd naill yn yr Ysbaen neu yn Waterlw ei hun. Ond ni ddywedai Lewsyn. air. Yr oedd efe wedi cael digon o'r clêdd a'r bidog am un oes dda.

"Glywch chi nhw?" ebe'r Cymro o Aberhonddu wrth ei gydwladwr tawedog, fe allsa dyn feddwl mai generals sy yma i gyd. A fe ddalam côt a'm het, pe cawsem ni'r gwir mâes, nad oes 'i hanner nhw wedi 'rogli powdwr erioed. Mae bechgyn bach heddi' ym Merthyr, heb fynd gam pellach, sy' wedi cael mwy o brofiad ymladd na'r criw i gyd gyda'i gilydd."

Wrth glywed y cyfeiriad at Ferthyr bu bron i Lewsyn fradychu ei hun, canys dwedwyd y peth mor ddisymwth fel na chafodd y presenoldeb meddwl i reoli ei wynepryd. Ond yr oedd ei gydnabod newydd yn ddigon difeddwl a diniwed, gair ar antur oedd, ac euthpwyd i siarad am bethau eraill yn ddigon naturiol ac hamddenol.

Bellach cludai pob dydd hwynt yn hwylus tuag adref, a disgwylient fod yn Llundain ymhen pythefnos. Pasiwyd y Canaries, y Madeiras a Thangier, a disgwyl- ient weled Craig Gibraltar trannoeth pan y digwyddodd rhywbeth fu bron a'u rhwystro i weled Gibraltar, Llunden, na dim arall.

Gyda'r wawr gwelwyd llong estronol yn torri yn groes i'w cwrs hwy fel ag i'w cyfarfod ymhellach ymlaen.

Gwyddai pawb eu bod yn awr yng nghylch mwyaf peryglus y môr-ladron, a phan y gwelwyd cwrs amheus y llong ddieithr daeth y gair brawychus "Pirate!" i enau pawb.

Syllodd y capten arni drwy ei ysbienddrych hir am funud neu ddwy, ac yna dywedodd gydag awdurdod yn ei lais, "Call all men-crew and passengers alike-to the foredeck!" Dywedodd ei neges mewn byr eiriau, "All our long voyage is in vain once that pirate gets aboard us. Men! We must fight for our lives!"

Rhannwyd yr arfau, trowd yr ychydig blant a boneddigesau i'r cabanau, a rhoddwyd ei le i bob dyn.

"One word, men! they are not to board us at any cost!"

Erbyn hyn yr oedd y ddwy long yn agos i'w gilydd, ac nid oedd modd camsynied bellach amcan y gelyn. Cyn gynted ag y gwrthdarawyd yn ysgafn, taflwyd bachau heiyrn anferth fel ag i ddal y llong Brydeinig yn rhwym wrth ochr ei gelyn, llamodd amryw o'r Moors, (canys dyna oeddynt), o un llestr i'r llall gan ddechreu ymladd fel ellyllon.

Ond mewn ychydig eiliadau yr oedd pob bâch haearn. wedi ei ryddhau gan y Prydeinwyr, ac o ganlyniad ymwahanodd y llongau drachefn, ac yn dilyn yr ymwahaniad taflwyd pob Moor oedd wedi byrddio'r llong dros y gynwêl i'r dwfr lle yr oedd y morgwn yn dechreu crynhoi am ysglyfaeth.

Daeth y gelyn ymlaen yr ail waith, ac wedi taflu y bachau heiyrn fel o'r blaen, neidiodd Moor mawr, a ymddangosai i fod yn un o'r arweinyddion, i'r man y safai y ddau Gymro ochr yn ochr.

Gyda ei fod wedi neidio a chyn cael ohono "ei draed dano," wele'r Brycheinwr bychan yn gafaelyd ynddo gylch ei ganol a chyda nerth dau yn ei daflu i lawr at y morgwn, lle yr oedd y cochni ar wyneb y dwfr yn dangos fod y pysgod enbyd hynny eisoes wrth eu borefwyd erchyll.

Wedi yr ail fethiant cafodd y gelyn ddigon am y diwrnod hwnnw a throdd ei wyneb tuag adref a diflan- nodd yn araf yn niwl y glannau.

Am dridiau bu llawer o siarad ar y llong am yr ymosodiad, ac am yr hyn a wnaeth pawb a'r hyn na wnaethpwyd hefyd.

Ymhlith y teithwyr yr oedd dan a fu yn hywadl ryfeddol yn St. Helena, yn sôn am orchestion yn Quatre Brâs a Waterlw, ond a brofasant yn llwfriaid hollol yn yr ysgarmes a'r Moors, Yn ystod yr ymosodiad cyntaf rhedodd un ohonynt yn ol o'i lo gosodedig ar y dec i ymguddio y tu ol i'r hwylbren, a throdd y llall yn llechgi mwy cywilyddus fyth, oblegid cefnodd ar ei ddyletswydd amlwg ae ymguddiodd yn eoi gaban.

Ni ellid maddeu i ddynion o'r cymeriad hyn, ac er i'r cyntaf daeru yn ddigon wynebgaled mai cymryd cam neu ddau yn ol a wnaeth efe "i gael gwell gafael ar ei ddyn, ac i'r ail honni mai ei ofal am y plant a'i cymhellodd i'r cabanau, cawsant amser pur anhyfryd wedi i'r perigl gilio.

"Lwc i ni." ebe un o'r dwylaw, nad oedd y Moors yn Waterlw, neu buasem yn lladdedigion bob un." Deallodd y cyfaill dawnus yr awgrym a chroesodd y dec i wylio y pysgod yn chware yn y dwfr. "Gofalu am y plant, wir!" meddai un o'r boneddigesau drachefn, "yr unig ofal welais i ar ei wyneb llwfr yn y caban, oedd am ei groen ei hun! Wfft i'r fath gwningen o ddyn!"

Rhwng popeth nid oedd bywyd yn werth i'w fyw i'r ddau frawd y dyddiau hynny. Felly ychydig welwyd ohonynt hyd derfyn y daith. Y Bay of Biscay gafodd y bai am eu habsenoldeb mae'n wir, ond gwyddid yn lled gyffredinol mai anhwyldeb arall oedd arnynt.

Daeth y daith i ben ymhen ychydig ar ol hyn, a glaniodd Lewsyn yn Tilbury Dock.

XXII. CYFARFOD A SHAMS.

WEDI ymadael a'i gyd-wladwr o Aberhonddu. a chael cymhelliad cynnes ganddo i ymweled âg ef yn y dref honno, arhosodd Lewsyn yn y Brifddinas am rai dyddiau gan edrych o'i gwmpas a gwneuthur yn fawr o'i amser.

Ond gofalodd y diwrnod cyntaf i ysgrifennu llythyr maith at y Sgweier, Bodwigiad, gan roddi iddo yr holl hanes a wyddom ni eisoes.

Yr hwyr cyn y diwrnod y bwriadai efe ddilyn ei lythyr i lawr i'w hen ardal aeth i aros dros nos i'r gwesty y cychwynai y Coach enwog-Y "Gloucester Flyer" ohono gyda'r wawr drannoeth.

Yn fore iawn ddydd ei ymadawiad, ac efe eto yn ei ystafell wely, wele chwythiad crâs mewn corn yn diasbedain rhwng muriau yard y gwesty. Taflwyd yn agor lawer ffenestr, ac yn fuan yr oedd yr holl le yn llafar.

Neidiodd Lewsyn allan o'i wely, a pharatodd i'w eillio ei hun cyn disgyn i frecwasta. Ond cyn iddo ddechreu defnyddio ei arf clywodd lais-llais hollol gyfarwydd iddo-tuallan yn yr yard yn dweyd," Water my horses well this morning, ostler, will you?" Dim ond naw gair i gyd, a rheiny y gellid tybio yn hollol ddibwys i bawb tuallan i'r llefarydd a'r gwrandawr; ond i Lewsyn yr oeddynt fel pe yn tynnu y llen i ffwrdd oddiar hanner oes gyfan.

Sychodd gyda brys y trochion sebon oddiar ei wyneb, taflodd ei ffenestr ar lêd, a gwaeddodd i lawr dros y sill, "Shemsyn! Shemsyn! James Harris! Mr. James Harris! g'rando bachan! tro dy wyneb yma!"

Safodd y person anerchwyd fel hyn mor sydyn ar ganol yr yard, fel pe wedi ei daro gan fellten a throdd ei olygon i fyny i'r rhes ffenestri uwch ei ben; ac wedi cysgodi ei lygaid â'i law, a gweled dyn hanner gwisgedig yn amneidio arno yn chwyrn i'w ryfeddu, bu bron i Mr. James Harris, alias Shemsyn, golli ei ymwybyddiaeth, a chredu mai breuddwyd oedd yr oll. Canys yno uwch ei ben, yn ysgwâr y ffenestr, yr oedd un y tybiai efe ei fod mewn cadwynau ym Motany Bay neu Van Diemen's Land. "Will you please come down. sir," ebe fe o'r diwedd, "for me to know exactly whom I am addressing."

"Shemsyn! bachan dwl! ond fi-Lewsyn sy' yma! Aros ddau eiliad, i fi gael dod lawr i weld sawl brithyll sy' gyda thi yn y llestr 'na. Ha! Ha! Ha!

Dim ond hanner eiliad, Shemi Bach!"

Efallai iddo gymryd mwy na dau eiliad (a thaflu'r hanner arall atynt i wneud y mesuriad cyn agosed at y gwirionedd ag y bo modd), ond buan y ffeindiodd y ddau hen gyfailleei gilydd, ac yno ar ganol yr yard chwarddasant a wylasant bob yn ail.

"Ble'r wyt ti'n mynd nesa?" ebe Shemsyn o'r diwedd.

"Ble'r wyt ti'n feddwl, bachan, ond gyda'r Gloucester Flyer yn ol i Gymru?"

"Wel, os taw gyda'r Flyer rwyt ti'n mynd, ti gei weld pedwar ceffyl da, a 'mynd' da hefyd, achos y fi-ti 'n gweld-yw'r driver."

"Jain a fe!" atebai Lewsyn, "a finnau'n inside passenger. Pwy sy'n ishta nesa atat ti? Taw pwy yw e', rhaid iddo newid a fi!"

"Paid gofidio dim am hynny, hen gyfaill i fi yw e' sy'n mynd 'nol a blaen i Devizes unwaith bob mis. Dim ond i fi gael hanner gair ag e', fe newidiff â thi yn y funud."

"Diolch yn fawr, Shams! 'wilia di gyda fe a gwed fel mae pethau! Fe gollaf i hanner pleser y shwrna os na fydda i wrth dy ochr ar y box!"

Cyn pen awr tynnodd y Flyer allan o'r yard mewn steil, y corn yn chwythu, y meirch yn prancio, a Shemsyn yn syth ar ei sedd gyda'i chwip yn ei law. Wrth ei ochr yr oedd Lewsyn gyda gwên o foddhad ar ei wyneb.

Aethant allan i'r brif heol gan ddeffro'r dinaswyr a'u twrf, ac o'r diwedd wele hwynt yn gadael preswylfeydd yr ystryd ar eu hol, ac yn rhedeg rhwng perthi'r wlad agored.

Wedi cael edmygiad o bwyntiau y pedwar march o du Lewsyn, a chael eu hanes a'u nodweddion unigol gan Shemsyn, mentrodd y blaenaf holi yn gynnil am yr hen gartref gan ddal ei anadl wrth aros am ambell atebiad. I bob ymddangosiad, fodd bynnag, yr oedd yr atebion pwysicaf yn ddigon boddhaol, oblegid gadawsant Lewsyn yn uwch ei galon nag erioed.

XXIII. Y LLEIDR PENFFORDD.

YN y modd hwn y treuliwyd y dydd, a'r Coach yn cadw amser da dan lywyddiaeth Shemsyn. Am yr ychydig amser a gymerid i newid y ceffylau ar ben pob stage, neidiai Lewsyn i lawr i "estyn ei goesa" ys dwedai efe; ac yn Devizes ni anghofiodd ddiolch unwaith eto i'r boneddwr a newidiodd ei sedd âg ef.

Cyrhaeddwyd Caerloyw yn brydlon, ond cyn tynnu i fyny yno yr oedd Shams wedi addaw ceisio "newid tro" a'r gyrrwr oddiyno i Gaerdydd yn lle troi yn ei ol i Lundain, fel ag y gallai gael cymaint o gwmni ei hen gyfaill ag oedd bosibl.

"Mae'r driver hynny. a fi yn deall 'n gilydd yn lled dda," ebe fe, "ac os oes modd yn y byd fe fydda i gyda thi prynhawn y fory eto. 'Dyw yr afternoon. mail ddim yn starto cyn un o'r gloch, ti'n gweld. Fe ddof i heibio i ti heno yn y Green Dragon i ti gael gwybod yn siwr os galla i ddod neu beidio."

Hynny a fu. Llwyddodd Shams yn ei gais gan y gyrrwr a'i feistr, ac am un yn y prynhawn drannoeth wele y ddau gyfaill ochr yn ochr unwaith eto a'u hwynebau tua Chymru.

Aethant yn hwylus heibio'r Forest of Dean, a byrhawyd cryn dipyn ar y daith gan adroddiad Shams o hanes ei dreial ei hun ac ysmaldod yr hwn a gyhuddid yr un pryd ag ef.

"Weles i ddim shwd amser erioed arno i, Lewsyn," ebe fe, er y mod i'n gwybod mai tipyn bach oedd

rhyngto i a nghroci, ro'wn i bron marw isha werthin.

A phan ddangosws e' i hen wddwg mawr roedd pawb yn werthin dros y lle, a 'rwy'n credu fod y judge wedi gwenu peth. A dyna job yw peidio werthin pan fo pawb arall yn werthin. Ond taw beth am i wddwg mawr e', a'i gelwydd mawr mwy na hynny, fe safiws 'y mywyd i 'does dim doubt. A phan a i 'nol i Hirwaun fe alwa i yn No. 11, Penhow, i weld shwd ma fe'n dod 'mlin gyda'r wraig a'i gwelws e 'n cwmpo. Welais i ddim shwd g'lwyddgi erioed, naddo i, tawn i'n marw!" "Sôn am fynd 'nol," ebe Lewsyn, "pryd wyt ti'n mynd?"

"Wel, wn i ddim. 'Ro'wn i unwaith wedi credu mai byth fasa' hynny, ond wedi dy weld ti mae petha' wedi newid. 'Ro'wn i'n meddwl llawer am hynny ddoe wrth dy ochor di."

"Wel, dere 'mlaen, Shams, i ni gael mynd yn ol gyda'n gilydd i'r hen Benderyn eto. Fe fydda i w'thnos, falla fwy na hynny, yng Nghaerdydd cyn mynd lan— rhaid i fi glywed o'wrth y Sgweier cyn symud—a fe gei ditha fynd yn ol i Gloucester y fory i dynnu d' hunan yn rhydd erbyn yr amser hynny."

Felly y trefnwyd, ac felly y bu o fewn y pythefnos, ond nid cyn iddynt ill dau gael profiad newydd yn eu hanes nas breuddwydiwyd am dano gan yr un ohonynt. A hi yn dechreu tywyllu yn hwyr y dydd, ac a hwythau yn dynesu at Gasgwent, arafodd y ceffylau rywfaint am fod y tyle yn eu herbyn. Pan ar fedr ennill y troad tir, a Shemsyn wedi gadael i'r Coach sefyll ymron, yn ei ofal am y creaduriaid, wele ddyn esgyrnog yr olwg arno, gyda mwgwd deudyllog ar ei wyneb, yn neidio allan o'r berth gan sefyll o flaen y cerbyd a gwaeddi mewn llais aflafar a dwfn,—"Your money or your life!"

Synnwyd pawb yn ddirfawr, oblegid credid bod amser lladron penffordd a feiddiai ddal i fyny y Coach Mawr wedi myned heibio bellach. Ond nid oedd modd camsyniad hwn beth bynnag, oblegid daliai i anelu ei lawddryll at galon Shams.

Wrth weled pob un yn hwyrfrydig i estyn yr arian iddo, taranodd yr un geiriau drachefn, a dynesodd ychydig gamrau at y cerbyd. Sylwodd Lewsyn ar hyn a phenderfynodd ynddo ei hun os deuai y lleidr ond dau neu dri cham eto yn nes na byddai yno na lladdiad na lladrad.

O glywed y llais yr ail waith cymerodd Lewsyn arno frysio i ddechreu chwilio ei logellau, ond ymddangosai y rheiny yn rhai neilltuol o ddwfn, neu o leiaf ei bod yn anodd iawn cyrraedd eu gwaelod. Er mwyn ei helpu ei hun yn hynny o waith, cododd Lewsyn ar ei draed a safodd ar yr ystyllen yn ffrynt y Coach, ac yn y cyfamser symudodd y lleidr ychydig yn nes drachefn.

Hynny oedd y peth y gweithiodd Lewsyn am dano, ac ar darawiad dacw ef, chwiw! yn neidio ar ben y lleidr, fel pe bae farcud yn disgyn ar golomen ac yn ei fwrw i'r llawr â phwysau ei gorff ei hun. Yr un eiliad taniwyd y llawddryll, ond aeth y bwled yn ddiniwed heibio, sydyned oedd y llam, a'r foment nesaf yr oedd yr Heliwr o Benderyn ac olynydd Dic Turpin yn ymrolio ar y llawr yng ngafael ei gilydd. Neidiodd dau o'r dewraf i lawr o'r Coach i helpu Lewsyn, a rhyngddynt oll daliasant y drwgweithredwr yn ddiogel ddigon.

Erbyn hyn yr oedd y teithwyr i gyd wedi disgyn ac yn crynhoi o amgylch yr adyn a'r rhai a'i dalient. Rhwymwyd y lleidr draed a dwylaw a gosodwyd ef i orwedd ar sach y tu ol i Lewsyn a Shams i'w ddwyn i Gasgwent i'w drosglwyddo i'r awdurdodau yno.

Ond erbyn cyrraedd y lle nid oedd cwnstabl ar gael, oblegid yr oedd yr unig un yn yr ardal wedi bod i fyny yn Nhintern y prynhawn hwnnw a newydd ddych- welyd yn feddw ddall.

Felly ni wastraffwyd amser yn ei gylch a chychwynwyd ar y stage i Gasnewydd i gael gwared o'r dyhiryn yn y lle hwnnw.

Pwy fasa'n meddwl am highwayman y dyddia' hyn?" ebe Shams.

"Ie'n wir," atebai Lewsyn, "ond gan ein bod i gyd yn sâff, 'rwy'n falch digynnyg iddo ddod, ac fe weda wrtho ti y rheswm pam. Ti wyddost, Shams, fel y bu ym Merthyr. Fe neida's i yno ar ben y Scotchman er mwyn lladd, ond fe neida's i heddi' ar ben hwn i achub bywyda'. A fe fydda i 'n fwy cysurus yn y meddwl byth ar ol hyn, achos fe fydd un yn balanso'r llall, ti'n gweld. Fe ro'ws y scarmej ym Merthyr lawer o ofid i fi yn Awstralia, ac fe roiff y scarmej yn Chepstow, gobeithio, lawer o bleser i fi ym Mhenderyn eto. Dyna'm meddwl i gyd i ti, Shams bach. Paid a'i weyd e' wrth neb, cofia!"

"Diar cato ni ! Beth ma hwn yn gisho Ffrenshach y tu ol yma? Glyw di e', Shams? Byth na chyfiro i os nad treio wilia Cymra'g mae e' !"

XXIV. MADDEUANT.

TRODD y ddau Gymro yn ol am foment at yr hwn a'u cyfarchai, ac yno y gwelant y lleidr drwy y gwaed a'r llaid oedd ar ei wyneb yn ceisio tynnu eu sylw ato ac i wrando arno, Chi Cymry!" ebe fe. "Fi Cwmra'g also! Fi byw in Cardiff, a gwraig fi a plant fi i gyd. Dim bwyd yn tŷ achos fi câl sac am poatshan, a fi dod i Chepstow bron starfo. A dim bwyd wetyn, a fi gweld chi dod a fi tynnu pistol i câl arian chi. Dim ariod o'r bla'n. "Nabbed first time, s' help me God!"

"Os Cymro wyt ti, cau dy ben rhag cwilydd, y llyffant!" ebe Shams yn ffyrnig. "Ond am 'y nghyfaill yma ti f'aset wedi 'm lladd i-y Dic Turpin-! 'Rwyt ti fel llawer un arall yn Gymro mawr amser fod hi ar ben arnot ti, ond yn fo'lon lladd Cymro pob pryd arall! Gad dy wimpro, yr hwleyn diened!"

"Gan bwyll, Shams!" ebe Lewsyn yn fwyn, "cofia mai dyn ar lawr yw e'!"

"Ie! ond pwy f'asa' ar lawr pe b'asa' fe wedi cael 'i ffordd, ys gwn i? 35 (( Eitha' gwir! ond efe sy' lawr heno, ta' beth!

Dishgwl di yma, Shams, beth am y wraig a'r plant yng Nghaerdydd ? Wn i yn y byd a yw e'n gweyd y gwir, beth i ti'n feddwl?"

Yna gan holi y lleidr drachefn,-"Where does your wife live in Cardiff?"

"Saltmead!"

"Number?"

"Nineteen!"

Ar ol hyn sisialodd y ddau Gymro lawer â'i gilydd, ac ymddangosai Lewsyn fel pe yn eiriol yn daer â Shams ar ryw bwnc, ond wedi rhagor o sisial drachefn, safodd y cerbyd am ychydig amser a dywedodd Lewsyn wrth y teithwyr—We have determined, ladies and gentlemen, to convey the highwayman to Cardiff. He states he is from that place, and more will surely be known of him there than at Newport."

Gan mai Lewsyn oedd yr arwr ym marn pawb ni ddywedwyd dim yn groes, ac felly i Gaerdydd y dygwyd y troseddwr.

Wedi cyrraedd ohonynt y lle hwnnw aeth y teithwyr i ffwrdd i'w cartrefi gan gymryd yn ganiataol y byddai i Shams a Lewsyn weled trosglwyddo y lleidr i'r awdurdodau. Ond hwynthwy a'i dygasant i ystabl y gwesty ac a'i gosodasant i orwedd ar wellt yno am ryw gymaint o amser.

Wedi i bawb ymadael, dywedodd Shams wrth ei gyfaill, "Paid bod mwy nag awr odd'ma. Fe ofala i am y gwalch na chaiff fynd o'r stabal yn yr amser hynny. Ond paid bod rhy hir. Dwy i ddim yn lico'r cwmpni yma."

Cyn pen yr awr dychwelodd Lewsyn i'r ystabl, lle y cafodd y lleidr eto ar y gwellt, a Shams fel terrier yn ei ymyl, ond y ddau mor ddistaw a dau gerflun.

"Mae popeth yn eitha' gwir, Shams," ebe fe, fe welais y wraig mewn gofid yn 'i thy."

Yna wedi datod y rhaff oddiam goesau y troseddwr, ebe fe wrth hwnnw,—"Get up!" a hynny a wnaeth. "Look here!" ebe Lewsyn ymhellach, "We have made inquiries about you, and have found your statements to have been correct. That is lucky for you, for otherwise we had arranged to hand you over to the constables. But as things are, we are going to give you a chance. Do you know what handing you over would have meant for you?"

"Yes, Sir,—the rope or Botany Bay."

"Well, d'ye see. I am on my way back from Botany Bay myself and know something of the hell over there."

Ar hyn trodd y lleidr arno yn sylwgar, a dywedodd,—"To think that I should have knocked up against a Government Officer like this!"

"Nothing of the sort, my man! I was only a convict, but not for robbery, or anything like that, remember! I was sent there for something I did in the Merthyr Riots, but I made good at Wallaby and am a free man again. Now, you make good on this side of the world. Your wife is a faithful soul, and praised you on many points only half an hour ago. So there's your chance. Go!"

Diosgwyd y rhwymau oddiam ei freichiau, a gwelwyd ei fod erbyn hyn yn gogwyddo ei ben, ac yn tywallt dagrau cywilyddgar.

Yna, gan ymgrymu iddynt yn foesgar, aeth allan o'u gwydd hwynt i'r tywyllwch-a rhyddid!

Cyrchodd Lewsyn a Shams i'w llety yn y gwesty gan eu bod yn flinedig iawn; a gair olaf yr Heliwr i'w gyfaill oedd, Fe fydd gwaith heno yn godiad pen inni eto, Shemsyn bach, pan fydd 'n hanes yn cael ei roi i'n plant ar ein hola".

Yr un noson yn y Saltmead, Caerdydd, yr oedd benyw a fu unwaith yn ei morwyndod yn addurn i un o gymoedd heirdd Morgannwg, ar ei gliniau yn diolch i Dduw fod ei gweddi wedi ei hateb, a bod tad ei phlant wedi penderfynu troi i lwybrau uniondeb a llafur gonest.

XXV.—Y "COLONIAL GENTLEMAN."

YN gynnar iawn fore trannoeth curodd Shams wrth ddrws ystafell wely Lewsyn ac wedi cael agoriad eisteddodd ar ochr gwely ei gyfaill ychydig yn gyffrous.

"Wel, Shams, be sy'n dy flino di, iti gwnnu mor gynnar a hyn? 'Dyw dy goach di ddim yn 'madal' cyn deg!"

Trafferth meddwl, Lewsyn!"

"Beth yw hynny?"

"Dyma fe ! Ffordd caf i 'weyd wrth 'y mishter yn Gloucester fod bachan y Saltmead wedi dianc?

Fe ddaw prif gwnstabl y lle a phawb arall i wybod 'i fod e'n rhydd, a fi gaiff y bai, wrth gwrs. Ac heblaw hynny. 'rwy'n siwr fod y scempyn erbyn hyn yn 'werthin yn iawn am 'n pennau ni'n dau!"

"Wel, Shams, dyma'r tro cynta' erioed i fi dy weld ti yn ofni ar ol g'neud. Twt, bachan, cer' yn ol i gysgu a galw fi am wyth, ac fe ddota i'r cwbl mor blaen i ti'r pryd hynny a'r trwyn sy' ar dy wyneb!"

Aeth Shams allan o'r ystafell i orwedd ar ei wely ei hun tan wyth, ond nid i gysgu, canys ni chafodd amrentyn o hûn yn fwy na chyn hynny.

Pan feddyliodd Lewsyn ymhellach am a ddywedodd Shams, gwelodd fod ynddo anhawster i feddwl unplyg fel eiddo ei gyfaill, ac felly dyfalodd am gynllun i'w helpu, a phan ddaeth yn wyth o'r gloch yr oedd yn barod.

"Wel, yr hen wyneb hir, dere mewn!" ebe fe wrtho pan ddaeth i'w olwg. "Gwrando! Dwêd ti beth fynnot ti am dano i yn y scuffle yn Chepstow, ond cofia. 'weyd taw mai i i gyd oedd gadal i Saltmead 'scapo; mod i yn rhy 'sgeulus o lawer, er nad oedd dim trugaredd o gwbwl gyda thi arno. 'Dyw hynny ddim ond y gwir, waith welais i mo ti erioed yn gasach at neb. A chymer hwn hefyd!" gan estyn iddo amlen llythyr hir, a rho fe i Offis y Glo'ster Journal, peth cynta' wedi 'ti gyrraedd, a rhwng popeth ti fyddi di'n right. Nawr, dere lawr i gael brecwast da cyn starto!"

Erbyn deg yr oedd Shams wedi dyfod ynol i'w le," a gwahanodd y ddau gyfaill yn eu hysbryd arferol.

"Paid bod mwy nag wythnos man pella! Fe fydda' i yma yn dy aros, cofia!"

Cychwynodd y cerbyd, cododd y cyfeillion ddwylaw i'w gilydd, ac yr oedd Lewsyn unwaith eto wrth ei hun.

Cerddodd o gylch Caerdydd am ddeuddydd, ond nid oedd iddo ddim pleser yn y gwaith. Gwgai Neuadd y Dref arno o bob cyfeiriad, ac yr oedd meini oer yr adeilad fel pe am ei atgofio o'i ddihangfa gyfyng bedair blynedd yn ol. Clywodd grwt yn yr heol yn llysenwi un arall yn Ddic Penderyn! a rhywfodd aeth hynny i'w galon yn waeth na dim.

Erbyn y trydydd dydd yr oedd ei ysbryd yn isel iawn, ond yn ffodus, daeth iddo y diwrnod hwnnw lythyr oddiwrth y Sgweier a'i calonogodd eilwaith. Ac yn wir llythyr calonnog ydoedd, canys dywedai,—

"Dear Lewis,

I am looking forward to seeing you with the greatest anticipation, but I shall, unfortunately, be unable to see you for a week or nine days, as I am engaged just now on important county business at Brecon. But as I want to be the first man in Penderyn to congratulate you, please remain in Cardiff a little longer, will you? And as I fear that your ready cash may not hold out over that time, please draw on me to any amount you think fit with Mr. Rutherford of the Bank at the West Gate. He will expect you to call."

Dychwelodd Shams ar y pedwerydd dydd yn uwch ei asbri nag erioed. "Dyma fi 'nawr yn barod i unrhyw beth!" ebe fe wedi yr ysgydwad llaw cyntaf, "wedi cwpla yn Gloucester yn honourable a phawb! Bachan! Dim ond sôn am danot ti sy odd 'ma i Gloucester Bridge; a ma' nhw bron wedi'm lladd i à chwestiynnau am danot ti, dy dad, dy fam, dy dadcu, dy famgu, a phob tylwythyn arall; nes bo chwant arno i weyd na wyddwn ddim am danot ti na dy dylwyth! Darllen hwn!"

Yna estynnodd Shams y Journal am yr wythnos honno iddo, ac ynddo darllennodd ei gyfaill, i'w fawr ddifyrrwch, lawer adroddiad am yr ymosodiad ar y Coach heblaw yr un gwylaidd ddanfonodd ef ei hun i'r un papur i ategu Shams yn ei helbul.

Dywedai un fod y colonial gentleman wedi torri ei fraich yn ei naid ddewr. Arall fod y bwled wedi cymryd ymaith ei glust chwith, a thrydydd ei fod yn cael ei sisial bod boneddiges gyfoethog oedd yn y Coach ar y pryd wedi syrthio mewn cariad dwfn ag ef.

Chwarddodd Lewsyn yn iachus am yr olaf, a dywed odd.— Rhaid i ni fynd off, Shams, rhaid yn wir, ne fe aiff petha' yn rhy dwym i ni, gei di weld! Mae gen' inna rwbeth i ddangos i titha' hefyd," ac ar hyn estynnodd iddo lythyr y Sgweier.

Wedi rhoddi i Shams amser i'w ddarllen drwyddo, torrodd Lewsyn allan mewn acen gariadus," Ond yw e'n drwmpyn, Shams? Fe 'nawn i unrhyw beth i'w blêzo yn'i hen ddyddia'! Nawr 'dyw e' ddim yn mofyn i ni ddod 'nol am dipyn bach, wyt ti'n gweld, a fel 'ny mae rhwbeth wedi dod i'm meddwl i byth oddiar clywais i grotyn yn galw Dic Penderyn!'

ar yr hewl yma echdoe. Beth 'wedi di am fynd ymlaen trwy Benybont i Aberafon i weld 'i fedd e'? a mynd wedyn 'sha thre trwy Gastellnedd yn lle Aberdâr? Mae digon o amser gyda ni idd'i 'neud e'. A phŵr Dic! Taw beth weta nhw am dano fe, 'doedd e' ddim gwaeth na fi a gweyd y lleia'. Ond dyma fi'n fyw ag ynta' yn 'i fedd! Fe awn fory, Shams, os wyt ti'n fo'lon. A wedyn fe 'sgrifenna i at y Sgweier i 'weyd 'n plans wrtho."

"Fel mynnot ti!" ebe Shams, "ac i ble mynnot ti, hefyd. O ran hynny!"

Adnabyddodd Lewsyn iaith cydymdeimlad pur yn y geiriau hyn, ac aeth y cyfeillgarwch yn dynnach, pe bae bosibl, nag erioed.

XXVI.—'B'RAFAN.

PRYNHAWN yr ail ddydd ar ol y penderfyniad yng Nghaerdydd gwelodd pobl Aberafon ddau ddyn ieuanc graenus a heinif yn disgyn oddiar y Coach Mawr ynghanol y dref ac yn cyfeirio eu camrau at westy y Ship yn ymyl.

Yn eu dilyn gan ddwyn eiddo y teithwyr yn ei freichiau yr oedd corach o ddyn a gynygiodd ei wasanaeth iddynt ar eu disgyniad.

"Yes, sir, I shall bring the other bag in a moment, sir," ebe fe mewn atebiad i ofyniad oddiwrth Lewsyn, ac aeth yn ol i ymofyn ail faich. Wedi dyfod i'r Ship eilwaith ar ol y rhai a'i cyflogasai, eisteddodd y gŵr bychan ar fainc gyfagos, a chan sychu ei chwys mewn ffordd arwyddocaol o ludded, ebe fe,—"This is the other bag, sir."

Talodd Lewsyn iddo am ei wasanaeth, ac a chwaneg- odd yn garedig,—

"What will you take, carrier?"

"A drop of beer, sir, thank you!" ebe yntau heb golli amser.

Yna pan gododd y tri eu diod at eu gwefusau, ebe Shams, gan siarad am y waith gyntaf, "Iechyd da!"

"Iechyd da!" ebe'r lleill mewn atebiad, ac yna yfwyd.

Wedi gosod eu llestri i lawr mentrodd y brodor ddweyd, "Cymry y'ch chi, 'rwy'n gweld."

"A Chymro y'ch chitha' wrth gwrs," ddaeth yn ol oddiwrth Shams.

"O, ie!" ebe'r brodor unwaith eto, "Cymry yw'r Counds, hil ac epil. Dafydd Cound yw'm enw i, Town Crier of the Ancient Borough of Aberavon. At your service, gentlemen!'"

odd Lewsyn gyfle yn hwn i gael ychydig o wybodaeth leol, ac ebe fe,-"Felly yr y'ch yn 'nabod 'Berafan yn lled dda, dybygswn."

"Lled dda! My dear sir! Does dim gwâdd ar y tir na chrab ar y traeth, nad wy'n nabod 'u pedigrees nhw i gyd!"

"O! felly, ma'n dda gen i gwrdd â chi, Mr. Cound, chi yw y dyn all weyd wrtho i y pethau 'wy i am wybod. Ond caniate wch imi gynnyg glasiad arall i chi yn gynta'!"

Hwnnw a gymerwyd, heb un gwrthwynebiad neilltuol o du y Town Crier gwybodus, ac erbyn dechreu ar yr ail lasiad yr oedd y gwron hwnnw yn dechreu holi cwestiynau ei hunan.

"Falla' mai disgyn 'n'ethoch chi, fyddigiwns," ebe fe, i fynd i Fargam neu Baglan. 'Rwy'n gweld y'ch bod yn aros yn y Ship heno."

"Nage, wir, nid mynd i Fargam nac i Faglan yr y'm ni, ac i fod yn blaen wrthoch chi, isha gwybod chydig bach am Richard Lewis, Dic Penderyn, yr y'm ni, ac yn neilltuol gweld 'i fedd e."

"Oh, you've struck it the very first time, gentlemen. Welwch chi'r cefen cam yma sy' gen i. Wel, i Mr. Richard Lewis mãe i fi ddiolch am dano. Ond, good old Dick! fe neidiws i lawr dros y wharf ar yng ol i. y funud y g'naeth e fe i'm stopo i foddi. Rwy wedi hen fadde' iddo fe. Poor old fellow! i ddod i'r fath ddiwedd truenus! Mae 'i berth'nasa' fe yn y dre'n llawn, ac yn respectable iawn hefyd. Ond chi fuoch yn lwcus i ofyn i fi ac nid iddi nhw am dano fe, achos mae nhw wedi teimlo i'r byw am 'i groci e."

"Wel, felly, do'n wir te'," ebe Lewsyn.

"Pryd fyddwch chi fyddigions am fynd i'r fynwent?"

"Ewn ni ddim heno, yr y'm wedi dod o ffordd bell ac wedi blino tipyn. Dwedwch deg bore fory."

"Alright, gentlemen! Fe alwa' i am danoch chi. ac fe ddof a Mr. David Jones yr hen Schoolmaster gyda fi hefyd. Dyw e' ddim wedi cadw ysgol ers dwy flynedd, ac mae'n siwr o ddod. Y fe gladdws pŵr Dic, a hynny'n ddigon parchus hefyd. Felon oedd Dic i chi'n gweld, a bu bron cael 'i gladdu fel ci oni bae am Mr. Jones."

"O, ie'n wir, dewch a Mr. Jones ar bob cyfri'. Fe licswn shiglo llaw a dyn o'i sort e', ta' dim ond am hynny."

Am ddeg trannoeth, pan oedd Lewsyn a Shams wedi gorffen eu brecwast, curwyd wrth ddrws parlwr y Ship, a daeth Mr. David Cound i mewn, yn cael ei ddilyn gan un o olwg syml ond hynod urddasol, a gyflwynwyd iddynt fel Mr. David Jones, cyn-ysgol- feistr y lle.

Wedi cymryd ohono lasiad o rum a llaeth ar wahoddiad Lewsyn, ac i'r Public Town Crier ddatgan ei barodrwydd i wynebu yr un tasg o'i du yntau, diolchwyd yn gynnes i'r henafgwr gan y ddau Gymro dieithr am ei barch i weddillion y llanc anffodus.

"Ie!" ebe fe, "wedi i Rys 'i frawd gymryd menthyg ceffyl a gambo'r Cwrt Isa i ddwyn 'i gorff bach e' bob cam o Gaerdydd yma, otych chi'n credu y gallsai natur ddynol ddala heb roi angladd Gwmrag iddo: Na all'sa' wir! foneddigion! Mae'n wir mai bachan gwyllt oedd Richard erioed, a mae Davy yma yn gwybod 'ny trwy brofiad gystal a finna', ond yr oedd ynddo rai noble qualities hefyd. Ac yn 'i angladd e', sirs, 'roedd 'Brafan i gyd, a phob un oedd yno yn llefen fel y glaw."

Ar hyn torrodd yr hen ysgolfeistr i lawr yn yr atgof am y peth, tra yr arhosai y lleill o gydymdeimlad dwfn wrth ei ochr yn fud.

Wedi iddo ymhen ychydig ail-feddiannu ei hun i raddau, ceisiodd Lewsyn ei gynorthwyo trwy ofyn iddo yn barchus,—"Beth oedd yr emyn gân'soch chi y diwrnod hwnnw, Mr. Jones?"

"O!" meddai ar unwaith, "yr hen un annwyl— Ymado wnaf a'r babell,'-a chredwch fi er inni gyd ddechre canu gyda'n gilydd, ychydig iawn ohonom oedd yn cwpla'r pennill, oblegid ellir ddim canu a llefen yr un pryd."

"Wel, Mr. Jones a Mr. Cound, fe ddown gyda chi nawr i weld 'i fedd e', os gwelwch chi fod yn dda."

At Eglwys Fair yr aed, ac yno ryw ddeg neu ddeuddeg llath o ddrws yr eglwys yr oedd maen ar ei orwedd yn dwyn yr argraff, R. L., 1831,—dyna'r oll.

Noethodd y pedwar eu pennau wrth y bedd, a buont am beth amser yn ddistaw a meddylgar iawn. Wedi hynny cuddiwyd y pennau drachefn a cherddwyd oddiyno yn araf yn ol i ganol y dref.

"Teg yw i ni 'weyd wrthoch chi," ebe Lewsyn wrth ymadael, "pwy y'm ni'n dau. Fy nghyfaill yw Mr. James Harris, driver y Glo'ster Flyer o Lunden i Glo'ster, a Lewis Lewis wyf finna' hyd yn ddiweddar o Awstralia, ond yn awr sydd a'm wyneb yn ol i'm cartre ym Mrycheiniog. Yr oeddem ni'n dau yn Riots Merthyr gyda Dic, ac 'walla 'nabyddwch chi ni'n well o ran 'n henwa' pan 'weda' i mai Shemsyn y Pompran yw e', a Lewsyn yr Heliwr w' inna."

"Wel, foneddigion," ebe'r ysgolfeistr oedrannus, "yr wyf yn wir wedi clywed 'ch enwau o'r blaen, ond taw beth o'ech chi gynt yn y Riots, bydd'ch parch i goffa pŵr Dic yn felys gen' i feddwl am dano tra bwy' byw, er na fydd hynny'n hir iawn."

"Diolch i chi Mr. Jones, a chitha' Mr. Cound. Mae'n bryd i'r Coach Mawr fod yma mewn deng munud. Yr y'm ni 'n mynd mlaen gyda fe i Gastellnedd. Ffarwel, 'ch dau!"

"Ffarwel!"

Wedi dringo i'r cerbyd a gweled fod eu heiddo yn ddiogel dechreuodd y ddau deithiwr ymddiddan am eu profiad yn Aberafon.

"On'd oedd yr ysgolfeistr yn hen fachan bonheddig. Shams? mor wahanol ei olwg i hen scwlyn Gwern Pawl 'slawer dydd. 'Roedd hwnnw'n gwisgo'n debycach i ffarmwr nag oedd hwn. Sylwaist ti ar 'i gôt ddu e'? 'Roedd hi falsa hi wedi tyfu am dano."

"Do'n wir, ond 'doedd hi ddim mor ddu a hynny chwaith, dipyn yn llwyd oedd hi mewn manna' 'defe ?"

"Ie'n wir! rhaid nad oedd yr hen ŵr yn dda iawn off. Bu 'want arno i gynnyg gini iddo unwaith, ond wyddwn i yn y byd ffordd oedd g'neud hynny heb friwa'i deimlada fe. Rhai od yw teimlada, Shams, a mae'n rhaid gofalu am danyn' nhw, bob amser."

"Welais i mo ti'n cynnyg gini i Mr. Davy Cound, Lewsyn. Oe't ti'n meddwl am 'i deimlada' fe hefyd ?" "O! ti gwetaist hi 'n awr! Na, fe fasa fe'n neidio at swllt heb sôn am gini. Mae 'i swydd e' wedi'i ddistrwo fe am byth. A dyna bwysig oedd yr hen ddyn bach yn eisho bod. Ha! Ha! Na! fe g'as Mr. Cound ddigon am 'i waith, ond fe ala i'r gini i'r hen ŵr cyn bo hir."

Bu Lewsyn cystal a'i air, oblegid cyn pen pythefnos derbyniodd cyfaill pŵr Dic, fel y galwai ef ei hunan, ddwy gini un bore, a chyda hwynt nodyn i'r perwyl hyn. "To Mr. David Jones, The Causeway, Abeeravon, from a friend. For services nobly rendered."

XXVII.-IFAN AR Y "BOX."

UN bore dydd Gwener ymhen tua thair wythnos ar ol glaniad Lewsyn yn Tilbury Dock, gwelwyd Ysgweier Bodwigiad yn prysuro i lawr drwy glwyd ei Lodge, yna'n troi ar y dde, ac wedi cyrraedd pentref y Lamb yn curo wrth ddrws neilltuol yn ymyl yr heol fawr yno.

Nid oedd cof gan neb am y pryd y bu efe wrth ddrws bwthyn neb ym Mhenderyn o'r blaen, a rhwydd felly esbonio cyffro Mari Jones pan mewn atebiad i'r curo y gwelodd y Sgweier ei hun, ar garreg ei drws.

Digwyddai ei bod hi mewn tymer hynod o dda yr wythnos honno, canys onid oedd Gruff Hendrebolon wedi dweyd rhywbeth wrthi bwy ddydd oedd yn hollol wrth ei bodd? Ac yr oedd gweled a chlywed yr Ysgweier yn gofyn a gai efe ddyfod i mewn yn llanw cwpan ei dedwyddwch i'r ymylon.

"Pryd yr y'ch yn credu y gellwch weld Beti nesa'?" ebe fe.

"Heddi', syr, synnwn i ddim 'i gweld hi'n mynd heibio unrhyw funud, waith dydd Gwener yw'i d'wrnod narchnad hi, syr, fel i chi'n gwybod."

"Peidiwch gadael iddi basio heb wilia gyda hi heddi', 'newch chi, Mari? Galwch arni i mewn yma, ac wedi iddi ddod, alwch i'm mofyn i, a fe ddo i ar unwaith."

"Eitha' da, syr, ac ar y 'ngair i dacw hi'n dod 'nawr. Wiliwch am y Gŵr Drwg a mae e'n siwr o ddod."

"Rhag c'wilydd i chi, Mari, yn galw'ch ffrind gore "Ond wrth yr enw cas!" chwarddai yr hen ŵr. peidiwch hidio, chi gewch faddeuant, mae'n debig."

Arhosodd y ddau ar garreg y drws gan barhau i wenu a chwerthin, nes i Beti, a gwrid y wlad ar ei bochau, ddyfod gyferbyn â hwy.

"Rwy am wilia 'chydig o eiria' gyda chi," ebe'r gweier wrthi, ac ar hyn hi a estynnodd ei basged i Mari, ac a neidiodd i lawr yn ysgafn oddiar gefn ei cheffyl.

Galwyd Mocyn bach drws nesa' i gydio yn y ffrwyn, ac aeth y tri i mewn i'r tŷ, ac yno ym mharlwr bach Mari Jones y clywodd y ddwy fod Lewsyn, nid yn unig yn ddyn rhydd, ond ei fod i'w ddisgwyl yn ol i Fodwigiad unrhyw ddiwrnod bellach.

Yr oedd yn syndod y fath fwynhad a roddai y drychfeddwl o ddychweliad yr alltud i'r hen ŵr. Chwarddai mewn eywair na chlywodd neb ef yn chwerthin o'r blaen, ysgydwodd law a'r merched ddwywaith o leiaf heb yn wybod iddo'i hun, brysiai y gweision a'r morwynion yma ac acw ar negesau na wnaethont erioed cyn hynny, a threfnwyd bob math o baratoiance (ys dywedai efe) ar gyfer dychweliad yr afradlon.

Cyn pen wythnos arall yr oedd swper godidog ym mharlwr Bodwigiad, ac er bod ansawdd y danteithion yn deilwng o unrhyw gwmni pwy bynnag, yr unig rai yno oedd y Sgweier wrth ben y bwrdd, Gruff a Mari un ochr, Lewsyn a Beti yr ochr arall, a Shams, yn barod i helpu yn ol ei arfer, wrth y pen isaf.

Yr oedd pawb yn eu hwyliau goreu, a'r hen Ysgweier felly yn fwy na neb yn adrodd ystori ar ol ystori yn y rhai yr oedd enghreifftiau o blwc a giêm yn lled amlwg o'r dechreu i'r diwedd.

Pan ddechreuodd fyned yn hwyr paratodd y cwmni i ymwasgaru, ac aeth yr "afradlon," fel y mynnai yr hen ŵr alw Lewsyn o hyd, i hebrwng ei gyfeillion hyd at y Lodge.

Cyrchodd Shams i'w gartref gan droi oddiwrth y lleill ar waelod y rhiw, ac aeth Lewsyn i fyny ran o'r ffordd i gyfeiriad y Lamb gyda'r lleill at dŷ Mari Jones yn uwch ar yr heol fawr.

Pan "flaenodd" Mari a Gruff ychydig, cafodd Lewsyn gyfle i gael gair â Beti wrthi ei hun, ac ebe fe wrth arwres y cwpwl,—"Beti! yr ydym wedi cydofidio digon, oes dim modd cael ochor arall i'r ddalen? Ro'wch chi'r anrhydedd i fi i fod yn ŵr i chi?"

Ni wyddys gyda manylder beth oedd yr atebiad, oblegid rhêd afon Cadlan yn hynod drystfawr yn y man hwnnw. Ond beth bynnag am hynny, yr oedd dwy briodas yr un bore yn Eglwys Ystradfellte cyn pen chwech wythnos, a cherbyd mawr Bodwigiad unwaith eto allan gydag Ifan ar y box, a Shams wrth ei ochr.

GEIRFA.

A.

  • ADDURN, ornament.
  • AFIAITH, enjoyment.
  • AFLAFAR, of a harsh sound.
  • AFLER, untidy.
  • AFLESOL, unprofitable.
  • AFLONYDDU, to disturb.
  • AGEN, cleft.
  • ANGHENFIL, monster.
  • AIDD. zeal.
  • ALLTUD, exile.
  • AMLEN, envelope.
  • AMNAID, a beckoning sign.
  • AMRANTAU, eyelids.
  • ANELU, to aim.
  • ANFAD, villainous.
  • ANFFAELEDIG, infallible.
  • ANHWYLDEB, indisposition.
  • ANTURIAETH, enterprise.
  • ANWYBYDDU, to ignore.
  • ARABEDD, wit.
  • ARAITH, speech.
  • ARDDANGOSFA, exhibition.
  • ARDDULL, style.
  • ARDDUNEDD, dignity.
  • ARFAETHU, to purpose.
  • ARGYFWNG, crisis.
  • ARHOSFA DEFAID, a sheepwalk.
  • ARLIW, tint.
  • ARUTHROL, huge.
  • ARWROL, heroic.
  • ARWYDDOCAOL. significant.
  • ASBRI, animation.
  • ASIO, to join together.
  • ATEGIAD, support, confirmation.
  • ATGYFODIAD, resurection.

B.

  • BARCUD, a kite (a bird of that name).
  • BASIN. Y, the village now called Abercynon.
  • BECWNS, Y, Brecknock Beacons.
  • BETGWN, a part of the national Welsh dress.
  • BIDOG, bayonet.
  • BLYSIO. to long for.
  • BODWIGIAD, country house and estate in Penderyn.
  • BONLLEF (banllef), a loud shout.
  • BOTANY BAY, a part of New South Wales, where convicts were often landed.
  • BRAWWDDEG, a sentence. (in Grammar).
  • BROCS, Y. a well-known nick-name for the inhabitants of Hirwaun.
  • BRODOR, a native.
  • BUARTH, a farmyard.

C.

  • CABLEDD, blasphemy.
  • CAD, a battle.
  • CADWYN, a chain.
  • CALLESTR, flint.
  • CAMLAS, a canal.
  • CANDDO (cadno), a fox.
  • CANLLAW, a handrail.
  • CARCUS, careful.
  • CARLAMU, to gallop.
  • CASTELL COCH, The Red Castle near Taff's Well, Gamorgan.
  • CAWG, basin.
  • CEINION, beauties.
  • CELAIN, a corpse.
  • CELLWAIR, to joke.
  • CENFIGEN, envy.
  • CERFLUN, a statue.
  • CILSANWS, a hill near Cefncoedycymer, Brecknock.
  • COETCAE, a rough piece of ground enclosed and usually wooded.
  • CORACH, a dwarf.
  • CRACHEN, a scab.
  • CRAS, harsh.
  • CRECHWEN, loud laughter.
  • CREFU, to implore.
  • CROESAW, welcome.
  • CRYCH, curly.
  • CWM SMINTAN, a dingle between Hirwaun and Llwydcoed.
  • CWMTAF., the portion of the Taff Valley within Brecknockshire.
  • CWNINGEN, a rabbit.
  • CWNNU, to rise, also to raise.
  • CWNSTABL, constable.
  • CWPLA (cwblhau), to finish.
  • CWPWL, a tie-beam. Hence also the hay held in place by it, in the barn.
  • CWSMER, customer.
  • CYDNABYDDIAETH, recognition.
  • CYDRADD, of equal rank.
  • CYFAMSER, meantime.
  • CYFARTHFA, A famous ironworks in Merthyr Tydfil.
  • CYFEILLACHU, to associate.
  • CYFERBYNNU, to contrast.
  • CYFLAFAN, massacre.
  • CYFLOGI, to hire.
  • CYFNOD, a period of time.
  • CYFOEDION, people of the same age.
  • CYFRANOGI, to partake.
  • CYFRIFON, accounts.
  • CYFRINACH, a secret.
  • CYFRWY, a saddle.
  • CYFRWYS, crafty.
  • CYFFINIAU, borders.
  • CYFFROUS, exciting.
  • CYNGHRAIR, a compact.
  • CYHUDDO, to uccuse.
  • CYNDDAREDD, fury.
  • CYNLLWYN, to plot.
  • CYNNWRF, agitation.
  • CYNTEDD, porch or lobby.
  • CYRCHU, to approach.
  • CYTHRWFL, uproar.
  • CYWREINION, curiosities,(objects).
  • CYWREINRWYDD, curiosity (the feeling).

CH.

  • CHIMWTH, nimble.
  • CHWYRN, rapid.

D.

  • DADEBRU, to revive.
  • DAMCANIAETH, theory.
  • DARFODEDIGAETH, consumption.
  • DAROGAN, to foretell.
  • DARPARIAETH, preparation.
  • DATGAN, to declare.
  • DATHLU, to celebrate.
  • DEDFRYDU, to sentence.
  • DESTLUS, elegant.
  • DIADELL, a flock.
  • DIASBEDAIN, to resound.
  • DIBYN, a precipice.
  • DICHONADWY, possible.
  • DIDDOROL, interesting.
  • DIFRIFOLDEB, seriousness
  • DIHYSBYDDU, to exhaust.
  • DILYW, a flood.
  • DIRWY, a fine.
  • DIRWYN, to wind.
  • DISGWYL, to expect.
  • DISYFYD, unexpected.
  • DRWGDYBUS, suspicious.
  • DRYCHFEDDWL, idea.
  • DWEDWST, saying but little.
  • DWRDIO, to chide roughly.
  • DYBRYD, sad.
  • DYFALU, to guess. In S. Wales colloquially, to look.
  • DYGN, painful.
  • DYGYMOD, to put up with.
  • DYHIRYN, a rascal.
  • "DYN DOD" a newcomer, not a native.
  • DISGYBLAETH, discipline.
  • DYWYSOGAETH, Y, The Principality, i.e., Wales.

E.

  • ECHEL, axletree.
  • EDMYOU, to admire.
  • EGLWYS SANT IOAN, St. John's Church.
  • EILUN, idol.
  • EILLIO, to shave.
  • EIRIOL, to intercede.
  • EIRIN MAIR, gooseberries.
  • ELLYLL, a fiend.
  • ENFYS, a rainbow.
  • ERCHYLL, horrible.

F.

  • FALL, Y, The Evil One.

FF.

  • FFAGL, a blaze.
  • FFEFRYN, a favourite.
  • FFETAN, a sack,
  • FFRAETH, witty.
  • FFREWYLL, a whip.
  • FFRWGWD, a squabble.
  • FFYNNU, to thrive.

G.

  • GERWIN, rough.
  • GLOG, Y, a hill near Bodwigiad in Penderyn.
  • GODIDOG, excellent.
  • GODY, outhouse.
  • GOGWYDDO, to incline to
  • GOMEDD, to refuse.
  • GORDOI, to overspread.
  • GORNEST, a combat.
  • GORWEL, the horizon.
  • GOSGEDD, form.
  • GRABAN, gravel.
  • GRESYNUS, miserable.
  • GWALCH, a rascal. Also a hawk.
  • GWALLGOF, insane.
  • GWEDDAIDD, decent.
  • GWEDDNEWID, to change countenance.
  • GWERIN, the people.
  • GWERN PAWL, a farmhouse in Penderyn, where once a school was held. Now a cowhouse merely.
  • GWGU, to frown.
  • GWIG, a wood.
  • GWINEU, brown.
  • GWRENG, the common people,
  • GWRHYDRI, bravery.
  • GWRTHRYCH, an object.
  • GWRYCH, a hedge.
  • GWYDRAID, a glassful.
  • GWYLAIDD, modest.
  • GWYL GYNOG, the feast of St. Cynog.
  • GYNWEL, gunwale (of a ship).

H.

  • HAFAN, a harbour.
  • HAGR, ugly.
  • HAMDDENOL, leisurely.
  • HANU, descended from
  • HELBUL, adversity.
  • HEOL Y FELIN, Mill Street, Hirwaun.
  • HEPSTA, a tributary of the Mellte, Brecknockshire.
  • "HIL AC EPIL," lineage.
  • HUNLLEF, nightmare.
  • HWLCYN, a lazy fellow.
  • HYAWDL, eloquent.
  • HYLIF, liquid.

L.

  • LAMB, Y, The principal inn of Penderyn. The hamlet around it also bears the same name.
  • LIFRAI, livery.

LL.

  • LLAESU, to slacken.
  • LLAIN, a patch.
  • LLECHGI, a sneak.
  • LLECHTWRAIDD, stealthy.
  • LLEDAWGRYMU, gently hinting.
  • LLEDORWEDD, reclining.
  • LLESMEIRIO, to faint.
  • LLETYA, to lodge.
  • LLETHR, sloping ground.
  • LLETHU, to overwhelm.
  • LLEWYGU, to swoon.
  • LLIDIART, a gate.
  • LLINELL Y CYHYDEDD, The Equator.
  • LLITHRIG, slippery.
  • LLOCHES, a hiding place.
  • LLOFRUDD, a murderer.
  • LLONGBORTH, a sea port.
  • LLONGYFARCH, to congratulate.
  • LLUEST, a building for temporary residence.
  • LLWFRYN, a coward.
  • LLYSENW, a nickname.

M.

  • GWYL MABSANT, the feast of the patron saint.
  • MAEDDU, to heat. Also to conquer.
  • MANTACHOG, incomplete, like a toothless jaw.
  • MARCHOGAETH, to ride.
  • MELLTE, a swift tributary of the Neath.
  • MERLYN, a pony.
  • MINTAI, a troop.
  • MIRI, merriment.
  • MOESGAR, polite.
  • MORFIL, the whale.
  • MORGI, the shark.
  • MORWEDD, a seascape.
  • MORWYNDOD, maidenhood.
  • MWGWD, a mask.
  • MWSGED, a musket (kind of gun).
  • MYNEGIANT, expression.
  • MYNTUMIO, to maintain.

N.

  • NAMYN, except
  • NEUADD, a hall.
  • NEWYN, famine.
  • NODDFA, refuge.
  • NWYFUS, spirited.

O.

  • ODDIGERTH, except.
  • OGOF, a cave.
  • ORACL, one who cannot err.
  • ORIAWR, a watch.
  • ORIG, a little while.

P.

  • PARABL, utterance.
  • PENBLETH, perplexity.
  • PENDERYN, a famous parish in Brecknockshire.
  • PENMEILART (Penmoelallt), a hill in Penderyn. Also a farm.
  • PENYD, punishment.
  • PENYDARREN, a large village between Merthyr and Dowlais. It once contained a large ironworks.
  • "PICIL CLAWD", a sorry plight. (Colloquial in South Wales).
  • PLADUR, a scythe.
  • POBLOG, populous.
  • POBLOGAIDD, popular.
  • PONTBRENLLWYD (Pompran), a hamlet in Penderyn.
  • PONTNEDDFYCHAN, a village of the Upper Neath Valley.
  • PORT JACKSON, The harbour of Sydney in New South Wales.
  • PORTHIANNUS, well-fed, mettle-some.
  • PORTH MAWR. A large cave in Ystradfellte through which the Mellte flows.
  • PRESWYLFA, abode.
  • PRY, prey.
  • PRYDER, anxiety.
  • PRYSGWYDD, brushwood.
  • PRYSURDEB, seriousness of purpose.
  • PYLOR, powder.

R.

  • RHEFFYN, a small rope.
  • RHEITHOR, a rector of a parish.
  • RHEITHWYR, jury.
  • RHELYW, remainder.
  • RHIGOS, a parish between Hirwaun and Glynneath, Glamorgan.
  • RHINIOG, threshold.
  • RHYFYG, presumption

S.

  • SARHAD, indignity.
  • SARRUG, surly.
  • SEIBIANT, a short leisure.
  • SENNI, a stream and village in the Vale of Usk. Brecknockshire.
  • SIBRWD, to whisper.
  • SIED, a shed.
  • SISIAL, whispering.
  • SIWRNAI, a journey.
  • SONIARUS, tuneful.
  • SYDNEY, the capital of New South Wales.
  • SYFLYD, to move.
  • SYFRDAN, giddy.
  • SYLWEDDOLI, to realise.
  • SYLWGAR, attentive.

T.

  • TAEOG, a serf.
  • TAER, importunate, insisting.
  • TAFARN ISA, the inn near
  • Penderyn Church where the
  • revels were held. It is now
  • in ruins.
  • TAFOL, scales.
  • TAWEDOG, silent, taciturn.
  • TAWLU (taflu), to throw.
  • TELERAU, terms.
  • TONDIR, lay land.
  • TOSTURI, pity.
  • TRADDODIAD, tradition.
  • TRAFLYNCU, to dovour.
  • TREBANNOG. There are three farms of this name between Pontprenllwyd and Hirwaun.
  • TREMIO, to look.
  • TRESMASU, to trespass.
  • TRIDIAU, three day's space.
  • TROAD TIR, the watershed, between two valleys.
  • TROSGLWYDDO, to transfer.
  • TRYBINI, misfortune.
  • TRYSTFAWR, noisy.
  • TRYWANU, to stab.
  • TYCIO, avail.
  • TYNGED, fate.

U.

  • UCHGAPTEN, major (of the army).
  • USTUS, a justice of the peace.

W.

  • WERMOD, Wormwood.
  • WHIPOD, a special pudding made for the feast of St. Cynog.
  • WYNEPRYD, the countenance.

Y.

  • YNGAN, to utter.
  • YMAGWEDDU, to comport one self.
  • YMCHWIL, search.
  • YMGODYMU, to wrestle.
  • YMGOM, chat.
  • YMOSOD, to attack.
  • YMPRYD, fasting.
  • YSBIENDDRYCH, telescope.
  • YSFA, a hankering.
  • YSCAPRWTH. awkward.
  • YSGELERDDYN, a villain.
  • YSGERBWD, a skeleton.
  • YSGOGI, to stir.
  • YSTRYW, craftiness.

—————————————

DIWEDD

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 
  1. Llysenw adnabyddus ar frodorion Hirwaun.