Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Y Lleidr Penffordd
← Cyfarfod a Shams | Lewsyn yr Heliwr (nofel) gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) |
Maddeuant → |
XXIII. Y LLEIDR PENFFORDD.
YN y modd hwn y treuliwyd y dydd, a'r Coach yn cadw amser da dan lywyddiaeth Shemsyn. Am yr ychydig amser a gymerid i newid y ceffylau ar ben pob stage, neidiai Lewsyn i lawr i "estyn ei goesa" ys dwedai efe; ac yn Devizes ni anghofiodd ddiolch unwaith eto i'r boneddwr a newidiodd ei sedd âg ef.
Cyrhaeddwyd Caerloyw yn brydlon, ond cyn tynnu i fyny yno yr oedd Shams wedi addaw ceisio "newid tro" a'r gyrrwr oddiyno i Gaerdydd yn lle troi yn ei ol i Lundain, fel ag y gallai gael cymaint o gwmni ei hen gyfaill ag oedd bosibl.
"Mae'r driver hynny. a fi yn deall 'n gilydd yn lled dda," ebe fe, "ac os oes modd yn y byd fe fydda i gyda thi prynhawn y fory eto. 'Dyw yr afternoon. mail ddim yn starto cyn un o'r gloch, ti'n gweld. Fe ddof i heibio i ti heno yn y Green Dragon i ti gael gwybod yn siwr os galla i ddod neu beidio."
Hynny a fu. Llwyddodd Shams yn ei gais gan y gyrrwr a'i feistr, ac am un yn y prynhawn drannoeth wele y ddau gyfaill ochr yn ochr unwaith eto a'u hwynebau tua Chymru.
Aethant yn hwylus heibio'r Forest of Dean, a byrhawyd cryn dipyn ar y daith gan adroddiad Shams o hanes ei dreial ei hun ac ysmaldod yr hwn a gyhuddid yr un pryd ag ef.
"Weles i ddim shwd amser erioed arno i, Lewsyn," ebe fe, er y mod i'n gwybod mai tipyn bach oedd
rhyngto i a nghroci, ro'wn i bron marw isha werthin.A phan ddangosws e' i hen wddwg mawr roedd pawb yn werthin dros y lle, a 'rwy'n credu fod y judge wedi gwenu peth. A dyna job yw peidio werthin pan fo pawb arall yn werthin. Ond taw beth am i wddwg mawr e', a'i gelwydd mawr mwy na hynny, fe safiws 'y mywyd i 'does dim doubt. A phan a i 'nol i Hirwaun fe alwa i yn No. 11, Penhow, i weld shwd ma fe'n dod 'mlin gyda'r wraig a'i gwelws e 'n cwmpo. Welais i ddim shwd g'lwyddgi erioed, naddo i, tawn i'n marw!" "Sôn am fynd 'nol," ebe Lewsyn, "pryd wyt ti'n mynd?"
"Wel, wn i ddim. 'Ro'wn i unwaith wedi credu mai byth fasa' hynny, ond wedi dy weld ti mae petha' wedi newid. 'Ro'wn i'n meddwl llawer am hynny ddoe wrth dy ochor di."
"Wel, dere 'mlaen, Shams, i ni gael mynd yn ol gyda'n gilydd i'r hen Benderyn eto. Fe fydda i w'thnos, falla fwy na hynny, yng Nghaerdydd cyn mynd lan— rhaid i fi glywed o'wrth y Sgweier cyn symud—a fe gei ditha fynd yn ol i Gloucester y fory i dynnu d' hunan yn rhydd erbyn yr amser hynny."
Felly y trefnwyd, ac felly y bu o fewn y pythefnos, ond nid cyn iddynt ill dau gael profiad newydd yn eu hanes nas breuddwydiwyd am dano gan yr un ohonynt. A hi yn dechreu tywyllu yn hwyr y dydd, ac a hwythau yn dynesu at Gasgwent, arafodd y ceffylau rywfaint am fod y tyle yn eu herbyn. Pan ar fedr ennill y troad tir, a Shemsyn wedi gadael i'r Coach sefyll ymron, yn ei ofal am y creaduriaid, wele ddyn esgyrnog yr olwg arno, gyda mwgwd deudyllog ar ei wyneb, yn neidio allan o'r berth gan sefyll o flaen y cerbyd a gwaeddi mewn llais aflafar a dwfn,—"Your money or your life!"
Synnwyd pawb yn ddirfawr, oblegid credid bod amser lladron penffordd a feiddiai ddal i fyny y Coach Mawr wedi myned heibio bellach. Ond nid oedd modd camsyniad hwn beth bynnag, oblegid daliai i anelu ei lawddryll at galon Shams.
Wrth weled pob un yn hwyrfrydig i estyn yr arian iddo, taranodd yr un geiriau drachefn, a dynesodd ychydig gamrau at y cerbyd. Sylwodd Lewsyn ar hyn a phenderfynodd ynddo ei hun os deuai y lleidr ond dau neu dri cham eto yn nes na byddai yno na lladdiad na lladrad.
O glywed y llais yr ail waith cymerodd Lewsyn arno frysio i ddechreu chwilio ei logellau, ond ymddangosai y rheiny yn rhai neilltuol o ddwfn, neu o leiaf ei bod yn anodd iawn cyrraedd eu gwaelod. Er mwyn ei helpu ei hun yn hynny o waith, cododd Lewsyn ar ei draed a safodd ar yr ystyllen yn ffrynt y Coach, ac yn y cyfamser symudodd y lleidr ychydig yn nes drachefn.
Hynny oedd y peth y gweithiodd Lewsyn am dano, ac ar darawiad dacw ef, chwiw! yn neidio ar ben y lleidr, fel pe bae farcud yn disgyn ar golomen ac yn ei fwrw i'r llawr â phwysau ei gorff ei hun. Yr un eiliad taniwyd y llawddryll, ond aeth y bwled yn ddiniwed heibio, sydyned oedd y llam, a'r foment nesaf yr oedd yr Heliwr o Benderyn ac olynydd Dic Turpin yn ymrolio ar y llawr yng ngafael ei gilydd. Neidiodd dau o'r dewraf i lawr o'r Coach i helpu Lewsyn, a rhyngddynt oll daliasant y drwgweithredwr yn ddiogel ddigon.
Erbyn hyn yr oedd y teithwyr i gyd wedi disgyn ac yn crynhoi o amgylch yr adyn a'r rhai a'i dalient. Rhwymwyd y lleidr draed a dwylaw a gosodwyd ef i orwedd ar sach y tu ol i Lewsyn a Shams i'w ddwyn i Gasgwent i'w drosglwyddo i'r awdurdodau yno.
Ond erbyn cyrraedd y lle nid oedd cwnstabl ar gael, oblegid yr oedd yr unig un yn yr ardal wedi bod i fyny yn Nhintern y prynhawn hwnnw a newydd ddych- welyd yn feddw ddall.
Felly ni wastraffwyd amser yn ei gylch a chychwynwyd ar y stage i Gasnewydd i gael gwared o'r dyhiryn yn y lle hwnnw.
Pwy fasa'n meddwl am highwayman y dyddia' hyn?" ebe Shams.
"Ie'n wir," atebai Lewsyn, "ond gan ein bod i gyd yn sâff, 'rwy'n falch digynnyg iddo ddod, ac fe weda wrtho ti y rheswm pam. Ti wyddost, Shams, fel y bu ym Merthyr. Fe neida's i yno ar ben y Scotchman er mwyn lladd, ond fe neida's i heddi' ar ben hwn i achub bywyda'. A fe fydda i 'n fwy cysurus yn y meddwl byth ar ol hyn, achos fe fydd un yn balanso'r llall, ti'n gweld. Fe ro'ws y scarmej ym Merthyr lawer o ofid i fi yn Awstralia, ac fe roiff y scarmej yn Chepstow, gobeithio, lawer o bleser i fi ym Mhenderyn eto. Dyna'm meddwl i gyd i ti, Shams bach. Paid a'i weyd e' wrth neb, cofia!"
"Diar cato ni ! Beth ma hwn yn gisho Ffrenshach y tu ol yma? Glyw di e', Shams? Byth na chyfiro i os nad treio wilia Cymra'g mae e' !"