Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Gwern Pawl

Oddi ar Wicidestun
Rhagarweiniad Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Y Gist

II—GWERN PAWL.

BETI WILLIAMS! "you will sit by Mary Jones and do as she does" ebe y Scwlin, Gwern Pawl, un bore Llun pan ddaeth merch fechan oddeutu deuddeg oed dros drothwy yr hen ysgubor i'r ysgol am y tro cyntaf.

Ar hyn symudodd fy hen famgu (canys hyhi oedd y Mari Jones) ychydig yn uwch ar y fainc i wneud lle i'r ysgolor newydd ac yn union wele Beti wrth ei hochr. Yr ystum o wneud lle iddi i eistedd yn unig a'i cymhellodd i'r fainc, oblegid ni wyddai yr eneth air o Saesneg y pryd hwnnw, a phrofwyd hynny ymhen ychydig o funudau oblegid gofynnodd i Mari yn hryderus,—

"Beth ma' fa'n 'weyd? "

"'Ch bod i ishta gyta fi ac i neud yr un fel a fi," ebe Mari yn garedig.

"G'naf wir," ebe Beti, "os helpwch chi fì."

Meddyliai Mari na welodd wallt harddach na bochau tecach gan neb erioed nag a oedd gan Beti, a phenderfynodd yn ei meddwl y gwnai hi gyfeillach â'r eneth newydd.

Wedi gwersi y bore, aeth y ddwy allan i'r caeau i fwyta eu cinio, oblegid yr oedd yn rhy bell iddynt fynd adref gan fod Mari filltir o dŷ ei thad yn y Garwdyle, a Beti gryn bedair milltir o Hendrebolon, ei chartref hithau yn Ystradfellte.

Ond os oedd Beti yn yswil yn yr hen 'sgubor, yr oedd mewn afiaith mawr yn y meysydd, gydag enw i bob blodeuyn ac aderyn, a rhyw swyn yn ei pharabl a'i chwerthiniad a ddenai galon Mari Jones yn lân. Erbyn ysgol y prynhawn, yr oeddent yn gyfeillesau calon, a Beti yn ymdrechu ymhob dim i wneuthur "yr un fel" a Mari, y ferch a'i helpiai.

Cyn pen yr wythnos adnabu Beti ei chyd-ysgolheigion i gyd wrth eu henwau, a hwynt oll yn yr un modd a'i hadnabuont hithau. Nid oedd yno neb, yn fab nac yn ferch, ar nad oedd, yn ei ffordd ei hun, wedi ceisio ennill ei ffafr. Yn wir, yr oedd yn fwy poblogaidd na Mari ei hun, ond er llawer cynnyg oddiwrth y merched eraill i chware gyda hwy, glynnodd Beti wrth ei chariad cyntaf. Nid oedd yn yr ysgol i gyd ond un ysgolor gwych, ac oherwydd ei dalent a'i fedr, yr oedd hwnnw yn ffefryn yr hen Scwlin, ac am yr un rheswm, efallai, yr oedd hefyd yn nôd cenfigen ei gyd-ysgolheigion.

Llanc golygus, penfelyn, ydoedd Lewis Lewis, neu Lewsyn Bodiced (fel y gelwid ef gan amlaf), mab i un o swyddogion ystad fwyaf y cylch,—Bodwigiad.

Nid oedd Mari Jones, er ei charedigrwydd i Beti, uwchlaw siarad yn angharedig am Lewsyn. Nid oedd ganddi unrhyw achos neilltuol i'w gashau, ond yn unig ei fod "yn meddwl gormod ohono ei hunan."

Yr oedd Beti, druan, ar y llaw arall, mor fyw i'w diffygion addysgol hi ei hun fel na ddeallai sut yn y byd y gallai un oedd yn ateb popeth yn y gwersi mor rhugl fod yn llai nag oracl ym mhopeth arall hefyd. "Rhoswch chi dipyn bach," ebe Mari, "chi gewch weld 'i ffordd gâs e' cyn bo hir yn mynnu bod yn fishtir ar bawb."

Ond yr oedd Lewsyn wedi bod mor fwyn wrth Beti oddiar y diwrnod cyntaf fel na fynnai hi, beth bynnag, gredu o gwbl yr hyn ddywedai Mari. A chan na allent gytuno yn hollol amdano, wele'r cwmwl cyntaf rhwng y ddwy gyfeilles.

Ymhen tua mis ar ol hyn, a'r haf melyn wedi addurno perth a maes â'i geinion tlysaf, aeth Beti a Mari, yn ol eu harfer, allan i'r meysydd ar yr awr ginio, ac yr oeddynt yn ymgomio'n felys ara eu dyfodol prydferth, pan glywsani lais uchel o'r nant, a geiriau cas yn dilyn,—

"Y fi pia fe, dod e' lawr! Ar ol i fi ddilyn e' o garreg i garreg, wyt ti'n meddwl, o achos iddo ddod i dy law di, ta ti pia fe?"

Lewsyn oedd yno, a'i ddwy lawes wedi eu torchi hyd fôn y fraich, ac mewn tymer ddrwg am i'r brithyll oedd efe wedi "ei ddilyn o garreg i garreg," ys dywedodd efe, ddigwydd cael ei ddal ar unwaith gan Shams Harris o'r Pompran,—bachgen araf wrth ei wers, ond buan ymhob camp,—a oedd gyda Lewsyn yn goglais brithyllod yn y nant ar y pryd. Enghraifft arall o berchen y "talentau lawer" yn gomedd yr "un dalent " i'w frawd llai.

Syllodd Mari yn feddylgar ar Beti, gan ddweyd mor eglur ag y gallai edrychiad wneud.—"Oni ddwedais i?" Ond ni fynnai Beti ddal ei golwg arni, ond gyda gwrid dros ei holl wyneb, dywedodd wrth Lewsyn,— "Rhowch y pysgodyn iddo, Lewis, fe ddof i a gwell hwnna o lawer ichi 'fory!"

Yn groes i ddisgwyliadau y merched, estynnodd Lewsyn y brithyll yn ol i Shams, a hwnnw a'i hailgymerodd o'i law fel pe bai lwynog yn cael ysglyfaeth o bawen y llew. Lewsyn, gan wenu ar y merched, a dynnodd ei lewys i lawr i'w arddyrnau, ac wedi eu sicrhau wrth y botymau, dringodd i'r cae ar yr ochr bellaf i'r nant.

Trodd y merched hwythau, yn eu holau i'r ysgol, ond rhywfodd, nid oedd ond siarad prin ar y llain rhwng y nant a'r ysgubor y diwrnod hwnnw.

Wedi cyrraedd adref i Hendrebolon yn hwyr y prynhawn, bu Beti yn brysur wrthi yn troi nant y pistyll i lifo i wely arall er mwyn dal brithyllod yn yr hen wely. Llwyddodd i gael tri pysgodyn braf, oedd wedi eu gadael yn sych oherwydd newid cwrs y ffrwd. Y rhai hyn wnaent rôdd yr aberth i Lewsyn fore trannoeth, ac er mwyn bod yn unol â'i haddewid, gosododd hwy yn daclus, gyda glaswellt drostynt, yng ngwaelod ei chôd bwyd, yn barod i'w dwyn at ei harwr yn ol llaw. Ni ddywedodd air wrth neb am y ddalfa, ac yr oedd y pleser yn fwy o feddwl mai llygaid Lewsyn a'u gwelent, gyntaf. Nid anghof ganddo yntau yr addewid ychwaith, oblegid hanner awr cyn ysgol y bore, aeth i gyfarfod Beti i Bantgarw, ac yno, wrth glwyd y waun, y cafodd yr eneth y gwynfyd o weled llygaid Lewsyn yn blysio am feddu y rhodd.

Ymhen tipyn, gwelodd Mari y ddau yn dyfod gyda'i gilydd drwy y coetcae at eu gwersi, a theimlai yn ei chalon y chwerwder o gael cydymgeisydd am y serch a brisiai mor fawr. Dangoswyd y tri brithyll iddi, mae'n wir, ond nid oedd ynddi yr un edmygedd ohonynt. Credai y buasai y difaterwch hwn yn gosod pethau yn eu lle iawn, ond, i'w mawr siom, ymddangosai ei hoerfelgarwch fel peth dibwys yng ngolwg y ddau arall.

O hyn allan anamlach y gwelid Mari yn helpu Beti gyda'i gwersi, ond llenwid y bwlch,—a mwy,—gan y cymorth a gaffai gan Lewsyn.

Eto' daliwyd y cyfeillgarwch drwy y cwbl, a buan y daeth amgylchiadau i gylch eu bywyd ar a'i hasiodd cyn dynned ag erioed.

Aeth tymor yr ŵyn heibio, a dilynwyd ef gan dymor nythod; ac yma, er holl fedr Lewsyn a Mari mewn llyfrau, rhaid oedd rhoi y flaenoriaeth i Beti, canys am bob nyth a ddangosent hwy iddi hi, dangosai hi ddwy yn ol iddynt hwythau. Ymwelent eill tri â dinasoedd yr adar yn ddyddiol, a mawr oedd y siarad a'r pryderu am yr adar bychain oedd yn ymyl deoriad.

Un diwrnod, daeth Beti bum munud yn hwyr i'r ysgol, ac er na chafodd yr un cerydd, ymddangosai yn dra chynhyrfus drwy y gwersi cyntaf. Ni welodd hi erioed fore cyhyd a'r bore hwn, oblegid yr oedd ganddi gyfrinach o'r radd flaenaf i'w rhannu â Lewsyn a Mari, a chyn bod y gwaith wedi ei roi heibio yn hollol, dyna hi yn torri allan wrthynt bod ganddi hi "nyth esgyrn!" Chwarddodd y bachgen yn ddiatal, a gwenai Mari yn anghrediniol, ond mynnai Beti ei bod yn iawn, a chan na allai y fath syndod aros hyd ddydd Sadwrn heb ei chwilio yn llwyr, penderfynwyd gweled y nyth y noson honno.

"Y mae uwchlaw pyllau Bryncul," ebe hi, "a bron bod yn y dŵr, ac o waith y 'deryn perta weles i 'rioed."

Ni wyddai hi ba enw i'w roddi ar berchen y nyth, ond disgrifiodd ef gyda hyawdledd neilltuol, ac ar ol hynny nid oedd neb yn ameu ei thystiolaeth.

Trefnodd Mari a Lewsyn i hebrwng Beti i Waun Hepsta y prynhawn hwnnw ar ol ysgol, gan alw heibio'r nyth hynod ar y ffordd, ac yna ddychwelyd i Benderyn, gan adael iddi hithau groesi'r Waun tua'i chartref. Tynnodd Lewsyn bolyn o'r berth, ac ymaith a hwynt yn llawen, y tri yn llawn eiddgarwch i weled y fath ryfeddod mewn natur.

Wrth ddynesu at y pyllau, disgynasant yn araf at y dŵr, gyda Beti ymlaenaf. Ymlwybrwyd gam yng ngham, heb yngan na sisial gair na dim, pan, yn sydyn, Whirr! cododd aderyn a lliwiau'r enfys ar ei gefn oddiar y nyth, a gwelent ddau wy mewn cylch o fân esgyrn yn y man yr eisteddai perchen y lliwiau disglair.

Glâs-y-dorlan (Kingfisher) oedd yr aderyn, a'i nyth yn wneuthuredig o esgyrn y brithyllod oedd wedi eu llarpio y mis diweddaf. Beti oedd yr arwres yn awr, a gwnaed cynghrair, wrth gwrs, nad oedd neb arall pwy bynnag, i gyfrannu o'r gyfrinach felys hon.

Wedi ymgomio am beth amser, ymrannodd y cwmni,— Beti yn myned ymlaen i Hendrebolon, a'r ddau arall yn dychwelyd yn eu holau i bentref Penderyn.

Ar y daith adref addefodd Mari wrthi ei hun ei bod wedi gwneuthur cam yn ei meddwl â Lewsyn, a'i fod yn well cyfaill nag oedd hi erioed wedi synied. Yn wir, credai pe deuai tarw neu unrhyw anghenfil arall i beryglu ei bywyd rywbryd, y gwnai efe ymladd hyd farw cyn ildio. Ac onid oedd yna darw cas ym Mryncul? A gwarchod pawb annwyl! dacw fe wrth glwyd y coetcae, ac yn siwr o fod yn barod i ymosod arnynt y foment honno

Ni arhosodd Mari i weled pa ochr i'r glwyd yr oedd, nac i weled a oedd yn bygwth ymosod ai peidio, ond rhedodd nerth ei thraed i gyfeiriad Pantgarw. Pan edrychodd yn ol, hi a welodd y gelyn yn cilio oddiwith y glwyd, a Lewsyn yn ei guro â'r polyn i'w gynorthwyo i fynd.

Bore drannoeth mawr oedd siarad y merched am Lewsyn ac am y mwynhad a gawsant yn ei gwmni, ond fel oedd yn rhyfedd, Mari oedd hyotlaf yn awr, a mynnai greu gwrhydri i'w chydymaith allan o ymddangosiad y tarw, na pherthynai iddo o gwbl, ac na hawliai efe mewn un modd.

Bu llawer o gynllunio rhwng y cyfoedion am y dyddiau braf oedd i ddod rhag llaw—am wynfyd y cynhaeaf gwair yng nghwmni Beti ar feysydd Hendrebolon, am ymweliadau â rhyfeddodau y Porth Mawr yn ymyl ei chartref, ac am gasglu torreth y mwyar duon a'r cnau yr oedd Ystradfellte mor enwog am danynt.

Ond yr oedd dyddiau ysgol Beti ar ben. Daeth pla y frech wen dros y wlad yr haf hwnnw, a sibrydwyd yng Ngwern Pawl un bore Llun bod rhieni'r gyfeilles o Hendrebolon ill dau "yn drwm" ynddi. Cadwyd Beti o'r ysgol, nid o un syniad y buasai ei phresenoldeb yno yn ffynhonnell perigl i'r lleill, ond yn unig am na ellid ei hepgor o'r fferm ar y pryd.

Cyn pen pythefnos, a hi yn unig ferch y teulu, gwelodd golli ei thad a'i mam o fewn tridiau i'w gilydd, a dilynodd eu heirch i Eglwys Llanfair Mellte heb sylweddoli yn llawn ei cholled. Cyn pen pythefnos arall, yr oedd ei brodyr wedi rhentu y tir yn enw Gruffydd, yr hynaf ohonynt, a rhaid bellach oedd i Beti aros gartref i gymryd ei rhan hithau yn yr anturiaeth.