Llewelyn Parri (nofel)/Pennod II
← Pennod I | Llewelyn Parri (nofel) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
Pennod III → |
PENNOD II.
Yr ydym yn awr wedi cael cipolwg ar Llewelyn Parri a'i deulu yn y mwynhad o dangnefedd sobrwydd; cartref cysurus; gwraig rinweddol, a phlant prydferth, iach a bywiog; amgylchiadau llwyddiannus; a'r cyfan yn cael eu coroni â gwenau rhagluniaeth y nef.
Ond, fel yr awgrymwyd eisoes, y mae ein harwr wedi gweled pethau gwahanol. Gŵyr beth yw bod yn feddwyn; teimlodd ganlyniadau meddwdod yn ei holl amrywiaeth a'i erchylldod; bu'n gaeth yn ei gadwynau uffernol am flynoedd lawer; ac er ceisio lawer gwaith, yn oes cymedroldeb, bod yn well dyn, waeth-waeth yr oedd yn myned yn barhaus, nes o'r braidd y bu iddo syrthio yn ysglyfaeth bythol i grafangau'r gelyn. Ond pan wedi myned i'r i'r eithafion hwnw, fe ddaeth DIRWEST i'r ardal lle yr ydoedd yn byw; ac ar ol llawer o gloffi rhwng dau feddwl, fe ddaeth Llewelyn Parri i weled nad oedd dim tu yma i lwyrymwrthodiad a'i cadwai ef rhag syrthio ei hun, a llusgo ei deulu i'w ganlyn, i warth, gwaradwydd, a thrueni tragwyddol. Felly fe ardystiodd lwyrymwrthodiad oddiwrth bob math o ddïodydd meddwol. Ond rhaid i ni yn awr erfyn ar y darllenydd ddyfod gyda ni i gyfnod o hanner can'mlwydd yn ol, pan oedd Llewelyn Parri yn fachgenyn tlws, gwridog, swynol, a gobeithiol, a'i ddilyn trwy ei yrfa ddyddorol, a thaflu adolygiad ar ei gysylltiadau boreuol.
Ganwyd a magwyd Llewelyn Parri mewn tref flodeuog yn Ngogledd Cymru, ar lan afon brydferth, yn nghanol hyfrydion a rhyfeddodau prydferthaf anian garedig. Yr oedd o deulu parchus a dylanwadol. Dyn oedd ei dad ag a welodd "lawer tro ar fyd;" ond trwy dalent gref, addysg well nag oedd gan y cyffredin o'i gyfoedion, diwydrwydd difefl, ac iechyd da am flynyddoedd, efe a ddaeth o sefyllfa isel gwasanaeth, i afael cyfoeth mawr; a bu yn cael ei ystyried y marsiandwr cyfoethocaf a mwyaf llwyddiannus yn M
, am lawer o flynyddoedd.Rhaid i'r darllenydd gofio hefyd nad oedd dim gair o son am y fath beth a llwyrymwrthodiad yr adeg hwnw. Y rhinwedd penaf ar ddyn oedd bod yn gymedrol; a dyn cymedrol oedd Mr. Meredydd Parri, tad ein harwr.
Yr oedd ei sefyllfa yn y byd yn ei osod dan anghenrheidrwydd i ffurfio llawer o gyfeillachau, a hyny gyda'r dosbarth uchaf yn gystal a'r canol a'r iselradd. Byddai ei dŷ hardd, yr hwn a safai yn un o brif heolydd B
, yn fynych iawn yn cael ei lenwi â gwahoddedigion, i dreulio prydnawnau mewn llawenydd.Cwbyn o hogyn pert oedd Llewelyn pan ddaethom ni gyntaf i'w adnabod. Un o'r pethau cyntaf yr ydym yn gofio am dano yw, ddarfod iddo feddwi un noson, pan yn chwech oed, trwy iddo fedru gweithio 'i ffordd i'r ystafell lle yr oedd ei dad ac eraill wedi bod yn cydswpera, ac yn yfed yn dra helaeth. Noson lawen oedd hono yn ystafell Meredydd Parri, ac nid bychan y canmoliaeth a roddai'r gwahoddedigion i'r seigiau a barotowyd ar eu cyfer, yn enwedig y gwin, a'r gwirodydd eraill a huliai'r bwrdd ar ol swper. "Wyddoch chwi beth, Mr. Parri—mae genych win campus," meddai un.
"Oes—y mae'n ddigon a gwneyd i'r hen dduwiau Bacchus a Jupiter fyn'd ar eu sbri, a dawnsio ar eu sodlau, dai ddim ond wrth ei arogli, chwaithach ei yfed," meddai un arall.
"Foneddigion," ebe'r trydydd, "yr wyf yn cynnyg iechyd da ein gwestywr caredig heno—oes hir iddo i ymenwogi yn mysg marsiandwyr penaf y byd, a gwneyd ei hun yn enwog a defnyddiol fel amddiffynwr iawnderau politicaidd y wlad. Boed i'w frodyr marsiandol edrych arno fel ar eu tywysog; boed i'w anturiaethau esgor ar lwyddiant diffael; a phan fo'n tybied yn oreu ymneillduo o dwrf masnach, boed i'r gweddill o'i oes gael ei dreulio mewn mwyniant, llawenydd, a dedwyddwch. Boed i'w blant dyfu yn deilwng o hono ef, a dal i fyny urddas ei enw 'tra môr tra Brython,' iechyd da a hir oes i Mr. Parri!"
Pa mor ragorol bynag oedd teimladau cyffredinol Mr. Parri, a pha mor dreiddgraff bynag oedd ei farn a'i reswm ar bynciau eraill, yr oedd bob amser yn dueddol i ddangos gwendid nid bychan pan yn derbyn canmoliaeth a chlod. Ac yr oedd y brwdfrydedd â pha un y cynnygiwyd, y derbyniwyd, ac yr yfwyd ei iechyd da, yn ddigon i wneyd pob teimlad urddasog, balch, a chwyddedig, gyfodi i'w fynwes. Teimlai ei hun y dyn dedwyddaf yn y byd. Cyfododd i gydnabod y cibli mewn araeth fer, gan gyfeirio'n frysiog at ei fuchedd flaenorol—ei lwyddiant, ei gysylltiadau parchus ac yn benaf, at ei egwyddorion politicaidd, gan mai ar adeg derfysglyd yn y wladwriaeth y cyfarfuasant yn nghyd, ac i gydymgynghori pa fodd i gael rhyw gyfaill i fod yn aelod seneddol dros y sir, yn gystal ag i ddangos eu dymuniadau am lwyddiant i Mr. Parri mewn anturiaeth fasnachol bwysig ag yr oedd ar fedr ei gwneyd.
Yn nerth ei ddïod, galwodd Mr. Parri am Llewelyn bach i'r ystafell, er mwyn dangos i'r cwmpeini'r fath fachgen bywiog a chall oedd ganddo. Ac er mwyn rhoddi prawf ar ei alluoedd ymadroddol a'i ffraethineb, cytunasant i'w osod i gynnyg un llwnc-destun, sef coffadwriaeth yr hen Sant Cymreig—Dewi Sant. Wedi dyfod o'r bachgen i'r ystafell, dywedodd ei dad wrtho:
"Hwda, Llewelyn, dyma i ti lasiad o win; yr ydym yn awr yn myn'd i yfed i goffadwriaeth yr hen Ddewi Sant. Ti gei yr anrhydedd o gynnyg y toast."
Neidiodd y bachgen chwe'mlwydd oed yn mlaen, a chydiodd afael yn y gwydr fel llanc. Daliodd o yn ei law, yn union fel y sylwodd ar ei dad yn gwneyd, a dywedodd mewn llais clir, ' "I goffadwriaeth Dewi Sant—Cymro o waed coch cyfan—dyn a wnaeth gymaint o glod i Gymru a dyn a gaiff glod am byth gan y Cymru!"
"Bravo!" llefai'r holl gwmpeini, tra y pelydrai brwdfrydedd, teilwng o oed addfetach, allan o lygaid dysglaer yr hogyn, yr hwn oedd fel hyn wedi dysgu geiriau ei dad. Cododd yr holl gwmpeini ar eu traed, ac yfasant y cibli mewn dystawrwydd pwysig a chysegredig, fel y tybient y gweddai i goffadwriaeth Sant y Cymry.
Bychan feddyliodd neb o'r cwmni llawen mai y foment y cyfododd yr hogyn y gwydriad gwenwynig at ei wefusau, fod diferyn o felldith wedi disgyn i'r ddïod o gwpan llid cyfiawnder y nef: ac fod Mr. Parri a'i dylwyth, o'r foment hono, wedi ei nodi â nod o anfoddlonrwydd ac anghysur ag y byddai raid iddo ef fyned i'r beddrod dan ei bwysau, ac y byddai i ddegau o flynyddoedd fyned heibio heb i'r felldith gael ei symud oddiwrth ei deulu. Ond fe genfydd y darllenydd mai felly fu.
Pan darawodd yr awrlais unarddeg o'r gloch, fe ymadawodd yr holl gwmpeini o dŷ Mr. Parri, wedi cael eu mawr foddloni yn y croesaw a gawsant, a'r dynion, o leiaf (canys yr oedd yno fenywod hefyd), yn teimlo'u hunain yn dra llawen, os nad yn tybied eu hunain yn rhywbethau uwchlaw bodau dynol, dan effeithiau'r gwirodydd diail a gedwid yn selerydd Mr. Parri, o ba rai yr yfasant yn o helaeth.
Yr oedd gan Mr. a Mrs. Parri ychwaneg nag un dyben mewn golwg wrth roddi parti'r noson hon. Heblaw y rhoddai gyfle iddo ef i gydymgynghori ar faterion gwleidyddol a masnachol o bwys, yr oedd hefyd yn awyddus am gael math o noswaith lawen cyn ei fynediad i New York, i ba fan yr oedd i gychwyn bore dranoeth, ar ryw neges bwysig mewn cysylltiad a'i fasnach helaeth.
Yn awr, yr oedd y y gŵr a'r wraig wedi eu gadael iddynt eu hunain, i siarad am y fordaith faith, ac i arllwys geiriau cariad y naill i enaid y llall.
Dynes gariadus i'r pen oedd Mrs. Parri; a dyn tyner, hoff anghyffredin o'i brïod, oedd yntau. Gwelai hi ef yn fwy felly heno nag erioed braidd. Heblaw ei bod ar fedr ei golli am chwe' mis—ai tybed am fwy?—yr oedd rhywbeth yn fwy bywiog yn ei lygaid—gwrid mwy yn ei fochau—a ffraethineb mwy nag arferol yn dod allan o'i enau. Pa beth oedd yr achos? Ah! druan o Gwen Parri, yr oedd hi yn rhy ddiniwed i feddwl fod y gwin a'r brandi wedi cael cymaint o effaith arno: nid oedd dysgleirdeb swynol ei lygaid—pelydr bywiog ei wên—swyn anarferol ei dymher—bywiogrwydd digyffelyb ei arabedd—nid oedd y cyfan ond effaith fflam benthyg—brydferth, ond llosgadwy—fflam o'r tân yn y cwpan a'r gwirod. Ni aflonyddai drwgdybiaeth am hyny ddim hyd yn hyn ar ddedwyddwch, ac ni thaflai yr un cysgod ar ael dyner y wraig ddifeddwldrwg yr hon a edrychai ar ei gŵr gyda golygon angelaidd.
Pan oedd y ddau'n cofleidio'u gilydd yn ngwres eu cariad, disgynai llef uchel ar eu clustiau, yn cael ei dilyn gan ysgrech oddiwrth un o'i morwynion. Rhedodd Mrs. Parri o'r ystafell i edrych beth oedd y mater, pan, er ei dychryn, y gwelai Llewelyn bach ar ei hyd ar y llawr, wedi syrthio, yn ol pob ymddangosiad, mewn ffit. Ni fu ond ychydig fodfeddi rhyngddo a syrthio ar ei wyneb i'r grât. Cyfodwyd ef i fyny'n ebrwydd gan ei fam ddychrynedig. Rhoddodd honno ysgrech dros y tŷ wrth edrych ar ei wyneb wedi troi mor welw, a'i lygaid fel wedi sefyll yn ei ben. Tybiodd yn sicr ei fod yn myned i farw. Ond yn mhen ychydig funudau, fe gafwyd allan fod yr hogyn wedi ysgubo'n ddirgelaidd i'r ystafell giniaw ar ol i'r cwmpeini ymadael o honi, ac wedi helpu ei hun o'r brandi a adawyd, nes meddwi am y tro cyntaf erioed. Pan ddeallodd ei dad hyny, nis gallai beidio chwerthin, a dywedai gyda gwên foddgar:
"Y mae'r lluman bach wedi bod yn yfed iechyd da i mi ar ei ben ei hun, welwch chwi, Gwen. Y rôg bychan! Ond nis gwyddai'n amgen; ac felly rhaid pasio heibio am y tro."
Ah! gwyn fyd na cheid byth achlysur i "basio heibio" ond hyny!
Pa fodd bynag y teimlai'r tad wrth weled ei blentyn hynaf wedi meddwi, yr oedd yn amlwg fod y fam wedi ei harcholli'n ddwys; a phrysurodd i roddi'r troseddwr ieuanc yn ei wely. Gwyliodd uwch ei ben nes iddo gysgu; a daeth llawer pang i'w chalon wrth ganfod ei wynebpryd hyd y llwyd a'i wefusau gwelwon. Cysgodd yr hogyn yn drwm hyd y bore, ac ni ddeffrôdd i weled ei dad yn myned i ffwrdd. Pan agorodd ei lygaid o'r diwedd, yr oedd ei fam yn eistedd wrth erchwyn ei wely, yn wylo'n ddystaw bach. Yr oedd y plentyn yn bur sal erbyn hyn. Profodd llawenydd y noson gynt yn ormod i'w gyfansoddiad ieuanc ei ddal heb dderbyn niwed nid bychan. Hyn, yn nghyd a'r ymwybyddiaeth fod ei hanwyl wr wedi myned o'i gafael am fisoedd meithion, i wlad bell, ac i wyneb peryglon themtasiynau newyddion, a wnaeth i galon Gwen Parri fod yn drom y boreu hwnw.
Ond i basio'r amser heibio'n ddifyr a defnyddiol, hi a benderfynodd gysegru rhan helaeth o hono i addysgu Llewelyn yn elfenau cyntaf gwybodaeth, fel ag i synu ei dad ar ei ddychweliad gartref; a phenderfynodd hefyd ddefnyddio peth o'i hamser at barotoi dillad man-wnïadwaith a'i llaw ei hun, i'w wisgo mewn anrhydedd i ddychweliad y rhïant hoff.
Oddiwrth y myfyrion hyn, rhedai ei meddwl yn mhellach fyth i'r dyfodiant tywyll ac annhreiddiol. Tynai ddarlun tlws yn ei meddwl o Lewelyn bach wedi tyfu'n llanc glandeg, pan fyddai wedi gadael heibio ei siaced fraith hogynaidd, a'i gap pluog, a dyfod yn ddyn hardd fel ei dad, ac, fel yntau, yn ennill parch pob gradd a sefyllfa.
Oh, mor brydferth y medr mam dynu darlun o'r fath hyn! Pe cai haner ei rhagobeithion hi am ei phlentyn eu sylweddoli, efe a fyddai'n anrhydedd i Dduw a dyn. Ond, Och! mor fynych y mae mamau yn syrthio i'r bedd mewn siomiant! Wedi treulio blynyddoedd yn gwneyd ei goreu i ddwyn ei bachgen i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," ac arllwys i'w feddwl syniadau rhinweddol, tyner, a charuaidd, dichon y bydd i'r temtiwr mewn un noson ddadwneyd ymdrechion blynyddoedd, a thynu gwrthddrych serch a gofal y fam i sefyllfa ddiraddiol meddwyn.
Pa fodd bynag, yr oedd yn dda i Mrs. Parri gael rhywbeth i loni ei chalon a chadw i fyny ei hysbrydoedd yn yr amgylchiad yma, pan oedd ymadawiad ei gŵr a selni ei bachgen megys yn cytuno i'w thynu i lawr. Ac wrth feddwl am ei gynydd dyfodol, hi a wenai trwy ei dagrau; ac fe ddeffrôdd Llewelyn i dderbyn cusan llawn melusder thynerwch mamaidd.
Gyda gofal nid bychan, a golafur cyson yn yr awyr agored, fe ddaeth Llewelyn dros effeithiau ei sbri toc. Ail ddechreuodd chwareu o gwmpas y tŷ mor chwim ag eilon ieuanc. Ac nid bychan y pleser a gaffai Mrs. Parri wrth ei gymeryd yn y boreuau i ben y bryn o'r tu ol i'r dref, neu hyd lan yr afon i'r ochr arall, a sylwi ar ei wyneb llon, ei wefus goch, ei lygad bywiog, a'i dymher addfwyn, bob dydd yn dyfod i fwy o berffeithrwydd.
Nid ydym hyd yn hyn wedi son gair am Gwen bach, chwaer Llewelyn. Genethig anwyl oedd hi, ieuangach na'i brawd o dair blwydd. Ni welsom erioed ddernyn perffeithiach nag ydoedd, yn mhob dull a modd, os nad oedd braidd yn rhy eiddil. Arferai pawb ddyweyd wrth syllu ar ddwysder ei gwedd, ceinder ei pherson, tynerwch ei hymarweddiad, mwynder ei llais, na fyddai byw'n hir—nad oedd bosibl i un o'i bath drigo llawer o flynyddoedd yn awyrgylch lygredig yr hen ddaear yma.
Ond, fe genfydd y darllenydd, wrth fyned yn mlaen, fod bwriad y nef, gyda golwg ar Gwen bach yn wahanol i ragddaroganau dynion a merched yr ardal. A chan fod rhagluniaeth wedi trefnu ar fod i fywyd Gwen feddu'r fath ddylanwad ar yr eiddo ei brawd, fe'n hesgusodir am gyfeirio at y lodes brydweddol yn y fan yma.