Neidio i'r cynnwys

Llewelyn Parri (nofel)/Pennod X

Oddi ar Wicidestun
Pennod IX Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod XI

PENNOD X.

Y MAE'n annichonadwy son nac ysgrifenu am braidd ddim heb sylwi peth mor fyr yw parhad pob cysur daearol. Fuasai ddim yn werth braidd ceisio byw'n rhinweddol er mwyn cyrhaedd dedwyddwch yn y byd hwn, oni b'ai fod y dedwyddwch cysylltiedig â bywyd rhinweddol yn hyfforddio math o ragbrawf o ddedwyddwch tragywyddol mewn gwlad na ddaw yr un gofid o'i mewn. Ond eto, y mae byw'n rhinweddol yn sicr o dalu am dano'i hun, hyd yn oed yn y byd hwn.

Dechreuai cwmwl newydd grogi uwch ben Mrs. Parri a'i phlant. Anfonodd angeu rai o'i genadon i ddwyn ar gof iddynt nad oedd ef ei hun yn mhell iawn, ac y deuai i ymweled â'r teulu cyn bo hir. Daeth afiechyd i gyfansoddiad Mrs. Parri. Nis gallai awelon iach y wlad effeithio yr un cyfnewidiad er gwell ynddi hi—suddai'n raddol yn is, is, nes llwyr argyhoeddi pawb o'i chwmpas nad oedd adeg ei hymddatodiad yn mhell. Gwyddai hithau hyny hefyd; ond ni chlywyd hi'n grwgnach cymaint ag unwaith. Nis gallai symud oddiar y sofa trwy'r dydd, a rhaid oedd ei chario i'w gwely y nos. Cysgai Gwen—pe buasai yn cysgu hefyd yn yr un ystafell a'i mam, er mwyn bod yn agos ati i weini i'w hanghenion yn oriau pruddglwyfus y cyfnos. Cysegrodd Llewelyn ei holl amser at gysuro ei chalon a thawelu ei meddwl. Darllenai iddi ei hoff benodau o'r hen Fibl teuluaidd; cariai hi yn ei freichiau o gwmpas y tŷ, gan ei dal yn y ffenestr, weithiau, fel y gallai fwynhau yr awel beraroglaidd a ddeuai o'r ardd.

Aeth Llewelyn yn bruddglwyfaidd, yn enwedig pan allan o olwg ei fam, o herwydd ymdrechai ei oreu i ymddangos mor fywiog ag oedd modd yn ei gwydd hi. Ond fe sylwai pawb arall fod rhywbeth tost yn pwyso ar ei feddwl. Gwyddai o'r goreu fod y pryder a deimlodd ei fam yn ei gylch ef, yn un o brif achosion ei hafiechyd; a theimlai faich o euogrwydd, fel mynydd o blwm, yn pwyso ar ei feddwl a'i gydwybod. Ond ymdrechai wneyd iawn mawr am ei holl gamymddygiadau blaenorol, trwy dalu y sylw a'r gofal manylaf i'w unig rïant yn yr adeg hon.

Parhau i wanychu yr oedd Mrs. Parri. Nid oedd modd ei pherswadio fod gobaith iddi wella byth; ac yn wir, ni chwennychai wella, ond yn unig pan gofiai am Llewelyn. Braidd na fuasai'n gofyn i'w Thad nefol arbed ei bywyd, er mwyn bod yn alluog i warchod ei fywyd ef, a'i atal rhag ymgymysgu eto â chyfeillion ag oed oeddynt wedi dangos eu hunain yn meddu y fath ddylanwad ar ei mab—y rhai a fuont mor agos i'w gael yn hollol o afael dylanwad rhinwedd a chrefydd. Gwyddai nad oedd ei bachgen yn alluog i gerdded am foment ar geulanau'r môr meddwol, heb syrthio iddo; a gwyddai ddarfod iddo wneyd hyny amryw weithiau, nes o'r bron cael ei ysgubo ymaith yn llwyr gan rym ei genllif. Pan gofiai hyny, hi a dywalltai ei chalon mewn gofid, ger bron Duw—traethai ei hofnau yn ddigel iddo ef, gan erfyn arno fod yn Dad ac yn Waredwr i'w mab. Pan yn gwneyd hyn, teimlai ei ffydd yn ymgryfau, ac ymfoddlonai i adael pob peth i law ei Harglwydd.

Yr oedd Mrs. Parri wedi dysgu cofio ei Chreawdwr o ddyddiau ei hieuenctid. Bu'n ddisgybl ffyddlon i Iesu Grist o foreu ei hoes. Nis gallodd llwyddiant bydol—rhwysg a balchder cylchoedd uchel o gymdeithas—sugno 'i bryd hi oddiar bethau Duw. Bu hi'n ffyddlon i grefydd, a bu crefydd yn ffyddlon iddi hithau. Galluogodd hi i ymgynal dan siomedigaethau, dan groesau, a gofidiau lawer. Ac yn awr, pan yn gorwedd dan afiechyd trwm, yr oedd ganddi oes ddefnyddiol i'w hadolygu, a dyfodiant dysglaer i edrych ato. Ymhofrai ei defnyddioldeb yn awr o'i chwmpas, fel y bydd pelydrau dysglaer yn amgylchu yr haul pan ar fachludo. Machludai haul ei bywyd hithau mewn prydferthwch a gogoniant, yn dawel ac arafaidd.

Ond yr awr ddysgwyliedig a ddaeth! Pan oedd yr holl dylwyth wedi ymgasglu o gwmpas ei gwely, un boreu, gwelwyd fod Angeu hefyd wedi dyfod i fewn. Nid oedd dim o swn ei draed i'w glywed, ond gwelwyd fod ei anadl yn gwywo bywyd Mrs. Parri yn gyflym. Tebyg ddarfod iddo gael gorchymyn i'w throsglwyddo o fysg ei phlant i'r byd arall yn y dull tyneraf ag oedd modd. Gorweddai'r wraig dduwiol yn dawel—ni ddywedai yr un gair, a chauai ei llygaid am gryn enyd o amser. Ofnodd Gwen na ch'ai glywed ei llais, na gweled ei llygaid tyner byth mwy. Ond agorodd hwy o'r diwedd, ac erioed ni welwyd monynt yn edrych mor ddysglaer mor seraphaidd ag yn awr. Gwibient o amgylch yr ystafell, megys pe heb yr un gwrthddrych i ymsefydlu arno, nes o'r diwedd iddynt gael eu sefydlu ar ben rhywun ag oedd wedi cuddio ei wyneb yn nghwrlid y gwely..

"Llewelyn!" meddai, mewn tôn isel, ond eglur.

"Fy mam anwyl!" meddai yntau, gan godi ei ben, ac yna ei ŵyro at ei genau hi.

"Yr wyf yn myned i farw!"

Wylodd pawb.

"Ond y mae un peth," hi a ychwanegai, "ar fy meddwl ag sy'n rhwystro i mi ollwng fy ngafael yn llwyr o'r hen fyd yma, ac yn gwneyd yr ymsyniad o fod yn rhaid i mi fyn'd, yn boenus i mi."

"Beth yw, mam bach?" gofynai'r bachgen.

"Pryder yn dy gylch di! Yn awr, a wnei di addaw peidio meddwi byth mwy? A wnei di addaw edrych ar ddïodydd meddwol o bob math fel dy elynion penaf? Y maent yn sicr o gynyrchu trallod a gwae!"

"Gwnaf, yn rhwydd! Yr wyf yn tyngedu na welir monof yn feddw byth ond hyny; thrwy gymhorth Duw mi a gadwaf at fy mhenderfyniad!"

"Yr Arglwydd o'r nef a'th nertho, ac a roddo ras i ti i wrthsefyll pob temtasiwn. Gobeithio y caf dy weled yn y nefoedd a'th addewid heb ei thori."

"Yn awr, fy'ngeneth i," hi a ychwanegai gan droi at Gwen, "y mae genyf air i'w ddweyd wrthyt tithau cyn dy adael. Yr wyt wedi bod yn blentyn da—cei ddyfod ataf mi wn. Ymddygaist yn deilwng o eneth yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrwg, a bydd yntau yn sicr o dy wobrwyo."

" Y mae genyf un gair eto i'w ddweyd wrthych eich dau fel eich gilydd. Cerwch y naill y llall—byddwch ffyddlon i'ch gilydd—gwasanaethwch Dduw, ac fe delir i chwi yn adgyfodiad y rhai cyfiawn!"

"Gwnawn, mam anwyl," meddai'r ddau ar unwaith. Hithau a ychwanegodd,

"Yn awr, O Dad, yr wyf yn foddlon i ddyfod atat! Yr wyf yn marw'n ewyllysgar, ac yn bendithio dy enw! Edrych yn dy drugaredd ar y plant hyn!"

Wedi iddo ddyrchafu'r weddi hon, edrychodd trwy ffenestr oedd gyferbyn a'r gwely, ar yr awyr orllewinol, yr hon oedd yn ymddangos fel yn agor ei phyrth euraidd i dderbyn ei hysbryd ymadawol ar ei hynt i wlad yr hedd.

Ni chlywid yr un swn yn yr ystafell—dystawyd hyd yn oed y wylo tra yr edrychai yr holl dylwyth mewn cariad parchedig ar brydferthwch sanctaidd ei gwyneb. Gwelwyd ei gwefusau'n symud megys mewn gweddi ddystaw, a'i dwylaw yn mhleth. Gosododd Llewelyn ei glust wrth ei genau, a thybiodd iddo ei chlywed yn enwi Iesu Grist. Bu farw felly, yn anghraifft darawiadol o ddedwyddwch Cristion yn gadael byd o boen.

Gall y darllenydd bortreiadu iddo ei hun yn llawn cystal, os nad gwell, nag y medrwn ni ddesgrifio iddo yr ingoedd a'r trallod a deimlai Llewelyn a Gwen ar ol colli eu hunig riant, a honno'n rhiant mor dda.

"Oh fy anwyl chwaer!" meddai Llewelyn, ar ol myned allan o ystafell y marw, "nid oes neb wedi ei adael ar y ddaear i ni, ond ein gilydd! Gan hyny, boed i ni gofio siars ddiweddaf ein mam—caru y naill y llall—bod yn ffyddlon i'n gilydd."

"Gwnawn Llewelyn anwyl!" atebai Gwen dan wylo yn y fath fodd nas gallai neb ond un yn yr un amgylchiad a hi wylo. "Caru—bod yn ffyddlon—dyna gymaint sydd genym i'w wneyd bellach; ac ni a wnawn hyny hefyd!"

Diwrnod prudd oedd y diwrnod y claddwyd Mrs. Parri. Yr oedd yr holl gymydogion wedi dysgu ei charu yn ystod yr amser byr y bu hi'n byw yn Brynhyfryd (enw'r fferm), o herwydd ei haelioni a'i chariad; a daethant yn lluoedd i'w hebrwng i "dŷ ei hir gartref." Nid oedd braidd yr un llygad sych yn ymyl y bedd, pan ddywedai yr offeiriad, "Pridd i'r pridd, lludw i'r lludw," a phan ddechreuodd y graian ddisgyn ar gauad yr arch. Gwlychwyd y pridd â miloedd o ddagrau, y rhai oeddynt yn gofgolofnau anrhydeddusach na phe y rhoddesid ceryg o farmor yn y fan. Safai, neu yn hytrach, gwyrai Llewelyn a Gwen fel delwau o geryg, a'u dwylaw'r naill yn eiddo'r llall. Mr. Powel, yn ol ei synwyr da arferol, a'u cymerodd o'r fynwent gyn gynted ag oedd modd, ac aeth a hwy i'w gartref ei hun.

Dyn go garedig oedd Mr. Powel, a dynes fwy caredig oedd ei wraig. Nid oeddynt erioed wedi cael eu hanrhydeddu â phlant; ac ystyrient eu hunain yn ddedwydd cael y brawd a'r chwaer amddifaid dan eu cronglwyd, i gymeryd gofal o honynt nes y deuent i'w hoed, ac yn alluog i fyw heb gymhorth yr un gwarcheidwad.

Cydsyniodd Llewelyn a Gwen, o wirfodd calon, i fyw gyda hwynt; a gwnaethant eu goreu glas i ysgwyd ymaith eu pruddglwyfedd, gan deimlo fod hoffder Mr. a Mrs. Powel o honynt y nesaf peth i hoffder eu rhieni. Ymdrechasant hwythau dalu yr hoffder yn ol yn ddau ddwbl. Pan ddywedodd Llewelyn, un prydnawn, mewn mynyd o bruddglwyfedd mwy nag arferol,

"Oh, ni ddychymygais erioed o'r blaen, beth yw bod heb fam!" atebodd Gwen ef gyda gwên ddifrifol,

"Ond, Llewelyn, nid ydym wedi ein gadael heb fam mae genym ddwy yn awr—un yn sant yn y nefoedd, yn edrych arnom fel math o angel gwarcheidwadol, ac un arall ar y ddaear yn edrych ar ein holau braidd mor ofalus ag y gwnelai ein mam gyntaf!"

Buasai'n ormod o sarad ar y natur ddynol i neb dybied y gallasai Llewelyn Parri ymhel â dïodydd meddwol yn yr adeg yma, pan newydd gladdu ei fam, a phan newydd wneyd ammod wrth erchwyn ei gwely angeu, i beidio meddwi byth mwy. Heblaw hyny, fe ddygwyddodd amgylchiad ag a effeithiodd i greu casineb ychwanegol ynddo at ddïodydd meddwol, yn mhen ychydig amser ar ol iddo ef a'i chwaer fyned i fyw at Mr. a Mrs. Powel.

Bu llances o'r enw Jane yn gweini yn y tŷ tua phedair blynedd cyn hyny. Geneth o'r wlad oedd Jane, a morwyn dda iawn oedd hi. Trwy ei thymher tawel a'i hymddygiad gonest, unplyg a ffyddlon, daeth i feddu ymddiried llwyraf Mrs. Powel.

Un ffordd a feddai'r feistres i ddangos ei charedigrwydd at ei morwynion, oedd rhoddi gwydriad o win iddynt yn echlysurol, yn enwedig ar ol bod yn gweithio'n galed; ac ar ddiwrnod golchi, hi a'u hanrhegai a gwydraid o gin da. Tybiai fod y ddïod yn eu cryfâu a'u bywiogi, ac y gallent gyflawni ei gwaith yn well dan ei effeithiau.

Cynygiwyd peth o'r gwirod i'r forwyn newydd; ond dywedodd Jane nad oedd hi'n hoff o hono; ac er mawr syndod Mrs. Powel, hi a'i gwrthododd yn benderfynol. Aeth ei meistres yn mlaen i'w hargyhoeddi o'i chamgymeriad dinystriol, nes llwyddo i gael gan yr eneth gymeryd ei dogn rheolaidd. Nid ydym mewn un modd yn meddwl fod gan Mrs. Powel yr un bwriad drwg mewn golwg, ond gwnai hyn yn hollol gydwybodol, gan lwyr gredu fod arferiad cymedrol o'r diodydd meddwol yn llesol. Ac nid oedd neb ychwaith yn fwy selog yn erbyn meddwdod na hi—casâi ef â chas cyflawn.

Aeth pethau yn mlaen felly am fisoedd—parâi Jane i gymeryd y dogn a ganiateid iddi, a boddlonid y feistres yn holl ymddygiadau y forwyn.

Ond, yn raddol iawn, fe ddaethpwyd i ddechreu darganfod fod Jane yn myned yn hoffach o wirod, ac yn ystyried nad oedd gwydriad o gin bob diwrnod golchi yn ddigonol i dori ei hanghen. Trwy weithredu yn ol egwyddor ei meistres o edrych ar wirod fel peth llesol at gynaliaeth iechyd a nerth, hi a aeth i ddechreu gwneyd yn o hyf ar y llestri gwin, &c., yn y seler.

Aeth y tymhor gwasanaeth heibio; gadawodd Jane ei lle, a chyflogwyd morwyn newydd. Anghofiwyd yn fuan bob peth am Jane yn nhŷ Mr. Powel.

Pan oedd Mr. a Mrs. Powel, a Llewelyn a Gwen, yn eistedd yn gysurus o flaen tân braf, ar noson wyntog a gwlyb, a Llewelyn yn darllen rhyw stori ddifyr a wnai i ochrau yr hen bobl anafu wrth chwerthin, daeth y forwyn i'r ystafell i ddweyd fod rhyw greadures o ddynes, garpiog, ac anwydog, yn sefyll wrth ddrws y cefn, eisieu gweled y feistres. Nid oedd neb parotach i wrandaw ar gwyn, ac i esmwythau gofidiau'r tlawd a'r trallodus, na'r foneddiges hawddgar; a dywedodd wrth y forwyn,

"Gollwng hi i fewn, a dywed y deuaf ati yn ddioed." Wedi i Mrs. Powel fyned i lawr at y ddynes, cyfarchodd y ddyeithres hi gan ddywedyd,

"Oh, mistres bach, mae dynes druenus yn byw yn yr un tŷ lodging a mi, bron a marw; mae'r doctor wedi ei rhoi i fyny; ond y mae hi yn siarad o hyd am Mrs. Powel, ac eisiau ei gwel'd hi garw. Yr ydan ni'n meddwl fod gynddi rywbeth trwm ar ei meddwl eisio 'i ddeud."

"Yn mha strŷd yr ydych yn dweyd ei bod?" gofynai Mrs. Powel.

"Yn strŷd y Ffynnon."

Cofiodd y foneddiges fod honno'n un o'r heolydd o'r nodweddiad gwaethaf; ac ofnodd braidd fyned yno. Aeth at ei gŵr i ofyn ei gynghor. Dywedodd yntau,

"Ewch yno ar bob cyfrif; ac mi a ddeuaf fi a Llewelyn gyda chwi; cewch chwi fyned i mewn i'r tŷ, ac aroswn ninau o'r tuallan i'ch dysgwyl, fel ag i fod wrth law os bydd anghen."

Aeth Mrs. Powel yn ol at y ddynes, gan ei hysbysu y dilynai hi'n ebrwydd.

Wedi cyrhaedd y fan, arweiniwyd y foneddiges i fyny grisiau gridwst, trwy ganol budreddi mawr ac arogl afiach, i'r ystafell lle y gorweddai y ddynes sal. Canfyddodd yno rhyw hen wrach yn ceisio gwthio llwyaid o physic i lawr gwddf y druanes, ond methai hi a'i lyncu.

Cyn gynted ag y gwelodd y llances sal ac anffodus, fod Mrs. Powel wedi dyfod i'r ystafell, hi a lefodd yn groch, "Oh, Ma'm, chi nygodd i yma!—chi nygodd i yma!" Aeth Mrs. Powel yn mlaen at erchwyn y gwely, dan grymu, a gofynodd, beth oedd hi yn ei feddwl wrth hyny. "Oh!" meddai'r llances drachefn; "gwae erioed i mi ddod yma; ac ni faswn ni ddim wedi d'od oni b'a chi!"

"Beth wnaethum i tuag at eich dwyn i'r fath gyflwr, druan bach?" gofynai y foneddiges.

"Ond, o ran hyny," ychwanegai'r ddynes anffodus, fel pe buasai heb glywed y cwestiwn diweddaf, "nid oeddych yn meddwl dim drwg; felly'rwy'n maddeu i chi. Ond cofiwch, mai chi nysgodd i i yfed; ac oni ba'i hyny, faswn i ddim yma heiddiw!"

"Nid wyf yn cofio erioed i mi wneyd i chwi yfed—nid wyf yn gwybod i mi eich gweled erioed o'r blaen."

"Ai ê? Dydach chi ddim yn cofio Jane y'ch hen forwyn chi? A dydach chi ddim yn cofio gneud i mi yfed glasiad o gin bob diwrnod golchi? Daswn i heb gym'ryd y glaseidiau rheini, faswn i ddim wedi troi allan fel hyn. Mi eis yn ffond o ddïod, ac mi ddygodd y ddïod fi i ddiwedd gwaeth na daswn i wedi cael fy ngeni mewn lle heb grefydd. Oh, beth dasa mam yn fyw i wybod hyn! Tybed i bod hi'n gwybod, a hithau yn y nefoedd?" Gwae, gwae fi!"

Effeithiodd yr olygfa yn ddwys ar Mrs. Powel. Gofynodd i'r llances ddirywiedig faddeu iddi am ei chamgymeriad—ei bod hi wedi gwneyd y cyfan o garedigrwydd, ond ei bod yn awr yn gweled iddi fethu yn ei hamcan. Yna gofynodd a oedd rhywbeth ag y gallai hi ei wneyd ar ran y llances! hithau a atebodd,

"Nac oes! Yr wyf yn myn'd i farw! Waeth gin i beth na nhw o'r hen gorphyn yma—dydio dda i ddim ond i lygru—mi llygris i o mewn pechod. Ond y mae gin i rai petha' eisio'u deud, os byddwch chi cystal a gwrando."

"Yr wyf yn gwrando," meddai Mrs. Powel.

"Wel, cym'rwch rybudd i beidio byth rhoi dïod feddwol i'r morwynion. Mi ddeudaf fy hanes i chi, gael i chi wel'd cymaint ddrwg naeth licar i mi. Ar ol i mi'ch gadael chi, mi gefis le hefo Mr. Lloyd, Post—office; ond collis y lle am i fy mistres wel'd fy mod yn ffond o licar. Cefis le arall, a chollis hwnw'r un fath. Wedyn mi gefis le mewn tŷ Ffeiriad; ac mi ddygis bum swllt o stydi fy mistar, er mwyn medru prynu potelaid o gin, o achos fy mod yn ffondiach o hono fo bob dydd. Gyrodd fy mistar fi i ffwrdd heb fy nghosbi; ond deudodd wrtha i am gym'ryd gofol o hyny allan, a pheidio medlaeth â diod, a byw'n onest.

"Faswn i yn ty fy myw einioes yn cael lle arall yr oeddwn wedi myn'd yn rhy garpiog, budur, a hagar. Mi ddioddais eisio bwyd am dridiau, heb gael tamaid na llymaid, na lle i gysgu."

"O'r diwedd, mi eis i sefyll ar y dre', i gael arian trwy ffordd ddrwg. Bu'm fyw felly am ddwy flynedd, a bywyd ofnadwy gefis i. Eis i'r tyciau; bu'm yn gorfadd yn y fan yma am rai wsnosau, heb ddim at fy nghadw ond 'chydig o'r plwy."

"Yr ydw'n gwybod na fydda i ddim byw fawr hwy, ac fedrwn i ddim meddwl am farw heb ddeud wrthoch chi am gym'ryd gofol i beidio gwneud i'ch llancesi yfed licar."

"'Rwan mae fy neges i wedi darfod, ac yr wyf yn goll— wng fy hun i gym'ryd fy siawns; a phan ddaw'r hen angeu creulon i fy'nol, 'does gin i ddim gobaith am ddim gwell nag—uffern!"

Wedi rhoi cynghor da i'r druanes, a gorchymyn i wraig y tŷ edrych ar ei hol yn fwy gofalus, a rhoi arian iddi i geisio bwyd cyfaddas, &c, ymadawodd Mrs. Powel.

Wedi cyrhaedd y tŷ yn nghwmni ei gŵr a Llewelyn, aeth dros yr holl hanes, a dywedodd ar ol darfod,—

Oh, pa fodd y gallaf byth olchi ymaith y pechod a gyflawnais? Sut y bu'm i mor ddall a pheidio gweled fy mod yn gwneyd mawr ddrwg, ac yn pechu yn erbyn Duw? Os bydd ir Hollalluog faddeu i mi'r pechod hwn, mi gymeraf well gofal sut i ymddwyn o hyn allan!"

Bu'r llances fyw am ychydig wythnosau wed'yn, mewn canlyniad i fendith y nef ar ofal Mrs. Powel o honi, a'r ymgeledd a wnaeth iddi. Ac mae lle i obeithio—er mai lle go gul hefyd ei bod wedi cael llwyr edifeirwch a maddeuant gan Dduw trwy Grist. Gobeithiwn y goreu.

Nodiadau

[golygu]