Neidio i'r cynnwys

Llewelyn Parri (nofel)/Pennod IX

Oddi ar Wicidestun
Pennod VIII Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod X

PENNOD IX.

"Iechyd da i ti, Wil Dafis," meddai Owen Roberts. "Tanci, Owen—'r un peth i titha'."

"Tanci. Beth wyt ti'n feddwl o'r cwrw 'ma? Cwrw Llangollen, medda' Mr. Evans wrtha' i."

"O, stwff iawn ydi hwn—mae o'n crafu gwddw rhwfun wrth fyn'd i lawr. Cawn i beint o hwn bob dydd mi awn gin gryfed a cheffyl."

"Ond, glywist ti ddim pwy sy wedi dwad i fyw i'r Plas Newydd, ar ol i Lord V—— 'madael?"

"Do."

"Pwy?"

"Rhyw Scotsman o Scotland. Ac y ma' nhw'n dweud o gwmpas y Plas, mai rhyw garp o'r gŵr bynheddig mwya' cybyddlyd chw'thodd wynt yrioed ydi o. Clywais wraig y Lodge yn deud na roiff o mo'i f———i'r ci, os medar o gael careg i roi arno fo."

"'Mhell y bo'r Scotsmun yma! nhw sy'n dwad i bob lle brâf yn Nghymru rwan. Hidiwn i ddim baw a rhoi 'i ardd ŷd o ar dân un o'r dyddia' nesa' 'ma, wel 'd i."

"Twt lol, gad iddo—fydd o byw fawr i gyd. Mae o bron a chw'thu 'i anadl ola'. Ac y mae un ai ŵyr ne' nai iddo yn ei ganlyn—y gŵr bynheddig mwya' cyredig yn y byd. P'run bynag ai Scotsman ai Gwyddel ai Sais ydi o, mae o'n ddyn bob modfedd. Ac mi gei di wel'd fel y bydd o'n i chwafrio hi ar hyd y caea'na amser hela nesa.' Mi cyfarfyddis i o ddoe, ac mi dynodd sgwrs hir â mi. Holodd fi am helsman da; ac mi ddaliaf chwart y mynud yma y medraf neud y lle i ti'n helsman."

"Treia ditha, byth o'r fan 'ma. Mi gei ddigonedd o sgyrnogod gin i os gnei di. Glasiad o gwrw eto i Owen Robarts!"

"Diail a mina'—'mwya' soniff rhywun am y bwgan, 'gosa''n y byd y bydd o ato fo,' chwedal yr hen air, a thyna fo'r gŵr bynheddig ifanc yn pasio rwan. Dyna i ti geffyl hardd, 'ngwas i. Beth 'ddyliet ti o ganlyn hwna ar ol llwynogod a sgyrnogod?"

"Campus!—campus! Tyr'd ýf—mi rana'i tra bo ffyrling yn fy mhoced."

Y ddau ddyn a ymddyddanent fel hyn a'u gilydd oeddynt feddwon adnabyddus yn mhentref bychan P———. Caffai Owen Roberts ei fywioliaeth trwy fyned ar negesau i oruchwyliwr y Plas Newydd, yr hwn hefyd oedd yn dra hoff o ddiod. Galwedigaeth Wil Dafis oedd dilyn cŵn hela.

Y lle yr oeddynt ynddo yn awr, ydoedd dyfarndy'r pentref, lle yr ymgynullai diogwyr, meddwon, a hustingwyr, i drin materion y gymydogaeth a boddio eu chwantau anifeilaidd.

Y "gŵr byneddig" ieuanc ddygwyddodd fyned heibio, ac am yr hwn yr oeddynt yn ymddyddan, oedd ddyn ieuanc tua phum troedfedd ac wyth modfedd o daldra, gydag ysgwyddau llydain, corph cryf drwyddo, gwyneb go lwyd, gwallt du cyrliog, a llygaid pur dduon. Ymwisgai yn y dull mwyaf boneddigaidd, a dangosai ei holl ysgogiadau ei fod yn gydnabyddus ag arferion mwyaf coethedig cymdeithas.

Ceisiai enill hoffder trigolion y lle trwy ddangos ei hun yn ŵr boneddig ieuanc haelionus.

Y mae'r darllenydd yn gydnabyddus âg ef cyn hyn. Yr oedd yn awr yn myned yn ei holl rwysg a'i ogoniant, ar gefn ei geffyl goreu, i ddinas B———. Nid bychan y sylw a dynai ar y ffordd, yn gystal ag ar hyd heolydd y dref.

Y mae dyn ieuanc arall, o edrychiad pur foneddigaidd ac urddasol yn cerdded yr heol yn awr, gyd rhol o bapyr yn ei law. Ymddengys fod y diweddaf wedi cael ei adnabod gan yr Ysgotyn dyeithr, o herwydd tynhaodd ffrwyn ei geffyl, safodd, a dywedodd,

Holo, Llewelyn Parri, chwi yw'r sawl yr oeddwn yn edrych am dano!" Cododd Llewelyn ei ben, ac edrychai fel wedi ei daro â syndod; ac atebodd, "Dear me! pwy fuasai yn dysgwyl eich gweled yn y fan yma?"

"Ho, meddai'r llall, "yr wyf wedi dyfod i fyw yn bur agos yma—i'r Plas Newydd er's ychydig wythnosau. Gobeithio y cawn dreulio llawer awr ddifyr hefo'n gilydd."

"Yr ydych yn bur garedig; ond y mae genyf fi bethau eraill i feddwl am danynt yn awr, heblaw pleser. Boreu da i chwi!"

"'Rhoswch fynyd, Llewelyn; nid wyf wedi gorphen â chwi eto. Dowch i fewn i'r P—— Arms am ychydig fynydau."

"Nis gallaf; y mae pethau eraill yn galw am danaf."

"Ond y mae genyf beth pwysig i'w ddywedyd wrthych, a rhaid i chwi ddyfod am ychydig fynydau; ni chadwaf chwi am fwy na deng mynyd—neu chwarter awr i'r fan bellaf.

I fewn â Llewelyn gydag ef.

Tra y maent yn siarad a'u gilydd, dichon y dylem ddweyd pwy yw y dyn ieuanc dyeithr hwn. Nid yw neb llai nac amgen na hen gyfaill a chydysgolor Llewelyn Parri—Walter M'c Intosh.

Dyma'r tro cyntaf i'n harwr glywed na gweled dim yn ei gylch ar ol cael ei droi allan o'r coleg.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth ewythr Walter, ar ol i'w nai ddychwelyd o'r coleg yn llawn anrhydedd a gogoniant, oedd edrych am gartref cysurus mewn lle gwledig, lle y gallai gael llonyddwch oddiwrth drafferthion y dref am yr ychydig amser oedd ganddo i fyw, a sefydlu Walter mewn diogelwch a llawnder. Prynodd y Plas Newydd, yn Nghymru, yn agos i dref enedigol ein harwr. Yr oedd yn awr newydd ddyfod i drigo i'r Plas, efe a Walter.

Rhoddodd calon Llewelyn dro pan welodd ei hen gyfaill. Cofiodd yn y fan am yr amgylchiadau dan ba rai y diarddelwyd ef o'r coleg, a'r hwn yr ofnai oedd wedi cymeryd rhan yn ei ddwyn i'r cyflwr diraddiol y syrthiodd iddo. Penderfynodd ar y cyntaf beidio gwneyd cydnabyddiaeth yn y byd â Walter, a theimlai wrthwynebiad mawr i fyned gydag ef i'r P—— Arms. Ond gan i'w hen gyfaill ddweyd fod ganddo rywbeth pwysig i ymddyddan yn gylch, cydsyniodd.

Galwodd Walter ein harwr i gyfrif am edrych mor oeraidd at ei hen gyfaill, a gofynodd beth oedd yr achos. Dywedodd Llewelyn ei holl ddrwgdybiaeth yn ddigel, sef ei fod ef (Walter) wedi ymuno âg eraill i osod cynllwyn tuag at gael gan Llewelyn achosi hunan-ddiarddeliad o'r coleg. Ond yr oedd Walter yn hen gynefin o ffurfio esgusodion, a gosod lliw da ar ei ymddygiadau ei hun, pan, efallai, y buasent yn ymddangos, pe yn eu lliw eu hun, gyn hylled a phechod. Gwnaeth i Lewelyn gredu nad oedd ganddo ef law yn y byd yn y fradwriaeth. Addefodd ei fai am ei wahodd i'r swper, ac am ymuno yn y digrifwch, ond haerodd iddo wneyd hyny heb feddwl yr un drwg. Y canlyniad fu, i Llewelyn adfeddiannu ei holl hen ymddiried yn Walter, ac aethant yn awr yn well cyfeillion nag erioed. Nid oedd gan Lewelyn gyfaill cywirach a ffyddlonach na Walter yn yr holl fyd; ac nid oedd yr un dyn dan dywyniad haul ag y gofalai Walter gymaint am dano ag a wnai am ein harwr.

Gresyn garw na fuasai modd argyhoeddi Llewelyn druan o fwriad y cnâf boneddigaidd yn ymdrechu adffurfio'r gyfeillach. Ond pe y dywedasid wrtho, dichon na fuasai'n credu. Er fod Walter yn ymddangos y fath foneddwr, ychydig iawn o arian a gaffai at ei law ei hun, o herwydd yr oedd ei ewythr yn rhy hoff o gwmpeini'r pethau anwyl hyny, i ymadael ond a chyn lleied ag a fyddai raid. Teimlai Walter fod hyn yn anfantais fawr iddo ef, ac yn atalfa gref ar ei falchder. O ganlyniad, dymunol iawn fuasai gwneyd twlsyn o Lewelyn Parri, a myned i'w bwrs ef dan fantell cyfeillgarwch.

Yr oedd Llewelyn yn yr adeg yma, yn gweithredu fel cynnorthwywr i Mr. Powell, ei warcheidwad, yn ei swyddfa.

Tybiodd Mr. Powel, a Mrs. Parri, mai gwell oedd iddo wneyd hyn, er mwyn cadw ei feddwl ar bethau a wnaent les iddo, a pherffeithio 'i hun yn y gyfraith, er mwyn bod yn alluog i gymeryd lle Mr. Powell, pan elai ef yn rhy hên i gario 'i fusnes yn mlaen. O'r swyddfa yr oedd yn dyfod pan gyfarfyddodd Walter âg ef.

Yn fuan ar ol yr adnewyddiad yma ar gyfeillgarwch Llewelyn a Walter, fe ddechreuodd y cyntaf fyned yn fwy diofal yn nghylch ei ddyledswyddau—aeth i aros allan yn hwyr y nos, ac ni cheid ganddo ddweyd yn mha le y treuliai ei amser—deuai i lawr yn hwyr at ei foreufwyd, gyda gwyneb llwyd a llygaid meirwon—poenai ei fam a Mr. Powel yn fynych am arian—yr hyn oll a wnai i galon ei fam guro mewn pryder am ei mab. Ofnai nad oedd dim daioni i ddyfod o arferion fel hyn. Rhybuddiodd ef yn fynych, gyda'r tynerwch ag oedd mor naturiol iddi hi. Ni thyciai ei holl rybuddion, ac elai ei holl gynghorion yn ofer—disgynai ei dagrau i'r llawr yn ddieffaith. Parhau i fyned yn mlaen yn yr un dull wnai Llewelyn. Aeth pobl y dref i ddechreu ei adnabod, nid yn ei gymeriad arferol, ond fel meddwyn.

Gwyddai Mrs. Parri o'r goreu pwy oedd wedi llwyddo i ddenu ei mab o ffyrdd sobrwydd y tro hwn, yr hyn a gryfhâi yn ei meddwl y drwgdybiaeth fod gan yr unrhyw un ran yn ei ddiraddio yn y Coleg. Credai mai un i'w ochelyd oedd Walter M'c Intosh, er ei holl foesgarwch ymddangosiadol.

Yn mhen enyd, cymerodd Mrs. Parri afael yn yr holl awdurdod ag oedd yn ei llaw fel rhïant, i dori'r cysylltiad peryglus hwn, rhwng Llewelyn a Walter. Siaradodd yn rymus yn erbyn yr hyn a ystyriai oedd yn prysur lusgo ei bachgen tua dinystr. Cyffrodd hyny dipyn ar dymher Llewelyn, ac aeth i ymddwyn at ei fam yn hollol wahanol i'w ymddygiadau ufuddgar, caruaidd, a pharchedig arferol.

Ond er fod Walter yn canfod y cyfnewidiad a gymerai le gyd â golwg ar Mrs. Parri, ac er ei fod yn ymwybodol o'i chasineb o hono, parhâi i fyned i'r tŷ yn rheolaidd. Yr oedd ei galon wedi ei sefydlu ar Gwen—ac ni's gallai holl oerfelgarwch ei mam ei gadw draw o'r tŷ.

Dechreuad gofidiau i Mrs. Parri oedd ymgysylltiad adnewyddol Llewelyn â Walter. Achlysurol oedd pob trosedd blaenorol o eiddo ein harwr; a pha bryd bynag y cwympai, fe fyddai cwymp un noson yn dwyn gyd âg ef edifeirwch misoedd. Ond yn awr, fe aeth i ddechreu gwneyd arferiad gwastadol o elyn ei ddedwyddwch ymrôdd i feddwi.

Aml iawn yr eisteddai ei chwaer i'w ddisgwyl gartref hyd haner nos—un—dau—heb denyn o dân yn fynych i'w chadw'n gynhes, ac heb ddim i'w difyru ond llyfr, yr hwn y ceisiai ei ddarllen; ond byddai ei meddwl yn ymwibio bob yn ail bum' mynyd, neu amlach, oddi wrth y llyfr at wrthddrych ei serch a'i phryder. Tybiai mai sŵn traed ei brawd oedd pob twrf oddi allan. Oh, mor falch fyddai wrth glywed cerddediad rhywun yn agosâu at y tŷ! ond oh, hefyd mor siomedig yr ymdeimlai wrth glywed hwnw yn myned yn mlaen yn lle troi at ddrws eu tŷ hwy! Pa bryd bynag y byddai'n sicr mai Llewelyn fyddai'n dyfod, hi a redai i'w gyfarfod at y drws mor groesawus a phe buasai'n dychwelyd o gyflawni'r neges fwyaf pwysig ac angenrheidiol. Nid oedd ymddygiad Llewelyn ati hi'n debyg i'r hyn yr arferai fod. Weithiau fe ysgubai heibio iddi yn sarug, efallai gyd â rheg distaw, gan ofyn i ba beth yr oedd y ffolog yn aros ar ei thraed i'w ddisgwyl ef adref. Ond bryd arall fe ymddygai'n fwy teilwng o'r hen amser gynt—rhoddai gusan frysiog iddi, gan geisio atal ei wynt rhag iddi arogli'r ddiod a lyncasai; ac edrychai mor euog ac anhapus ag un troseddwr condemniedig. Yn ei adegau sobraf, perswadiai Gwen ef i fyned gyda hi i eistedd yn y parlwr am chwarter awr, a chymerai'r eneth fantais o'r adeg honno i geisio ymresymu âg ef, a phwyso ar ei feddwl y perygl mawr, a'r creulondeb o arwain bywyd felly, gan dori calon ei fam. Gollyngodd yr eneth dirion ffrydiau ddagrau lawer gwaith wrth geisio gwared ei brawd o afael distryw a gwarth. Weithiau, fe lonid ei meddwl â gobaith y llwyddai yn ei hymdrechion—byddai arwyddion o deimlad i'w gweled ar wynebpryd ei brawd—cyffesai ei fai ambell waith gyda dagrau poethion a chwerwon—addawai ddiwygio'n fuan, a bod eto y Llewelyn a gerid ac a berchid gynt. Ond ah! nid oedd byth yn cadw 'i addewid. Y dafarn oedd ei drigle'r dydd, ac yn fynych, y nos hefyd. Hofranai cwmwl du uwch ben yr hen dŷ. Gwisgai Mrs. Parri a Gwen wynebau trist, a cherddent o gwmpas gyd â chamrau afrosgo ac eiddil. Byddai arwyddion trallod i'w darllen hyd yn oed ar wynebau'r gweision a'r morwynion. Ni agorid byth mo'r hen biano hoff, ac ni chlywid sain cân a llawenydd yn treiddio trwy'r tŷ mwy na thrwy ddaeargell.

Oh!'r pangfeydd a ddryllient deimladau'r fam ofalus, wrth weled ei bachgen—ei hunig fachgen—yn sathru ei holl gynghorion a'i haddysgiadau dan ei draed—yn dibrisio ei dagrau a'i gweddïau—yn chwilfriwio y rhwymau oedd rhyngddo a'i gartref—ac yn dilyn yn wallgof y cwmpeini ag oedd yn prysur dynu at golledigaeth, distryw, a gwarth! Pwy a all blymio cariad a phrofedigaeth mam dan y cyfryw amgylchiadau?

Un bore, cyn i Lewelyn fyned allan, galwodd Mrs. Parri arno i'r parlwr. Gofynodd iddo'n ddifrifol, gan sefydlu ei llygaid ar yr eiddo ef, a gafael dyn yn ei fraich, "Wel, Llewelyn! ai penderfynu gyru dy fam i'r bedd wedi tori ei chalon yr wyt?"

Treiddiodd saeth o euogrwydd trwy fynwes y llanc. Ni feiddiai godi ei olygon i fynu yn hwy, a buasai'n dymuno suddo trwy'r llawr o olwg ei fam.

"Ond, fy mab," ychwanegai hi, "y mae genyf un cynllun, yr hwn, os cydsyni di âg ef, a allai dy waredu rhag distryw tymhorol a thragywyddol, a'th fam a'th chwaer, beddau anamserol."

"Beth yw?" gofynai'r llanc yn ddisymwth.

"Wel, yr wyf yn gweled mai ofer yw i mi ddysgwyl am i ti wella dy fuchedd, tra yn dilyn y cwmni sydd genyt yn awr; ac mai anhawdd yw i ti eu hysgoi tra y trigi yn y dref yma. Gan hyny, yr wyf yn gofyn i ti yn awr, os wyt yn caru dy les dy hun—os wyt yn prisio calon a chysur dy fam—os wyt yn hidio rywfaint am ddedwyddwch dy chwaer—os wyt yn caru dy enaid dy hun—a ddeui di gyda mi i fyw i'r wlad? Y mae Mr. Powel yn dweyd y gall ef gael fferm i ni, lle y gallwn fyw fel angelion bach, ond i ti gadw oddiwrth y ddïod."

"Deuaf!"

"Da machgen i! pwy a ŵyr nad oes amser dedwyddach yn nghadw i ni eto?"

"Os fy ngwaith i'n peidio meddwi a all ddwyn yr amser hwnw i ben, fe ddaw yn ddiffael, o herwydd yr wyf yn addaw yn ddifrifol, os caf ond unwaith ymwared oddiwrth y cymdeithion sydd yn fy llusgo megys â chadwyn haiarn i ffosydd a chorsydd meddwdod, y bydd i mi fod yn ddyn gwahanol rhagllaw. Oh mor ddedwydd fydd cael neb ond chwi a fy anwyl chwaer yn gwmpeini i mi, rhagor bod yn swn a thwrw'r gyfeddach." Ac wylai'r llanc yn hidl!

****** Wedi i Mrs. Parri, ei mab, a'i merch, ymadael o'r dref, a myned i fyw i'r wlad, teimlai Llewelyn gryn chwithdod am ddiota, er iddo ymddangos, yn ngrym y meddylddrych cyntaf am gyfnewid sefyllfa, yn dra awyddus am gael ymwared o'r maglau. Crëodd ei arferion diweddar fath o awydd annynol ynddo am ddiodydd meddwol, a cherddai o amgylch ei drigle newydd, am yr wythnos neu'r pymthegnos cyntaf, fel dyn gwirion. Ond nid hir y bu tawelwch a phrydferthwch y lle heb effeithio cyfnewidiad arno. Yr oedd ef o duedd naturiol farddonol, a llwyddodd yr olygfa swynol—y coed a'r maesydd—y dolydd a'r nentydd—y bryniau a'r afonydd i ddiddyfnu ei feddwl oddi wrth au-bleserau llanciau gwylltion y ddinas; a mwy hyfryd yn ei glustiau ef oedd llais Gwen, wrth geisio dynwared y fronfraith a'r ehedydd, na holl grechwen a miwsig y tafarnau a'r singing rooms. Aeth ei yspryd fel yn raddol i gyfranogi o nodweddiad y pethau oeddynt o'i gwmpas. Daeth ymëangiad y dail gwyrddion—blaguriad y blodeu—tarddiad yr ŷd—ymchwyddiad y cornant—epiliad yr anifeiliaid yn wrthddrychau dyddorol iawn iddo; a dechreuodd ei gorph a'i feddwl gynyddu mewn iechyd a hoender. Aeth i edrych yn ol ar ei fywyd yn ystod yr ychydig fisoedd a aethant heibio gyd â ffieidd-dod, a threiddiai ing o edifeirwch trwy ei fynwes bob tro yr adgofiai am ei ynfydrwydd.

Cafodd y cyfnewidiad dedwydd yma effaith ddymunol ar Mrs. Parri a Gwen. Ymddangosai'r fam yn dawelach a dedwyddach: ond yr oedd siomedigaethau ei bywyd wedi peri iddi hi beidio edrych ar yr un pleser mwyach gyda gormod o ymddiried. Daeth yr hen wrid i fochau Gwen. Nis gallai y rhosyn a'r lili ragori ar ei phrydferthwch. Aeth Llewelyn i'w galw'n Lili Wen, wrth ei gweled mor dlos; a gwnaeth ddau bennill iddi un bore, wrth ei bedyddio â'r enw newydd, y rhai oeddynt yn debyg i hyn:

"Mae brenines ar y blodeu,
Honno yw y lili wen;
O mor hardd fydd yn y boreu—
Coron wlithog ar ei phen;
Blodeu fyrdd o'i chylch yn gwenu,
Pawb yn syllu ar ei gwedd;
Hithau iddynt yn pengrymu,
Mewn lledneisrwydd, parch a hedd.

Tithau ydwyt, Gweno hawddgar,
Fel y lili hardd mewn bri;
Tecach na gwyryfon daear,
A rhagorach ydwyt ti,
Lili hardd yn ngardd dynoliaeth,
O dan wlith a bendith nen;
Pawb gydnebydd dy ragoriaeth,
Ac a'th alwant "Lili Wen."

Yr oedd yr effaith a gafodd bywyd sobr Llewelyn ar ei chwaer yn hynod a dyddorol i sylwi arno. Symudwyd ymaith yn llwyr y baich fu yn pwyso ar ei meddwl am fisoedd. Dechreuodd neidio a phrancio o gwmpas mor heinyf ag oenig; yr oedd hi yn hoff o bawb a phob peth o'i o'i hamgylch, ac ymddangosai pawb a phob peth yn hoff o honi hithau. Edrychai'r ieir a'r gwyddau—y gwartheg ar y cae a'r defaid ar y bryn—megys mewn serch arni. Deuai'r hen Fodlanu—y fuwch— yn fynych adref, er mawr ddifyrwch a syndod y laethferch, gyda 'i phen a'i chyrn wedi eu hurddo a garlantau o ddail a blodau. Pan ellid dal yr wyn bach, urddid hwythau yr un modd; ac ni ddiangai hyd yn oed y moch heb ryw arddangosiad o'i ffafr. Carlamai'r ddau geffyl hefyd, o dani hi a Llewelyn, yn eu hynt o gwmpas yr ardal, fel pe buasent yn falch cael dau mor brydferth a charuaidd i'w marchogaeth.


Nodiadau

[golygu]