Llewelyn Parri (nofel)/Pennod XX
← Pennod XIX | Llewelyn Parri (nofel) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
Pennod XXI → |
PENNOD XX.
Yr oedd yn noson oer, chwerw, yn mis Rhagfyr. Ah! druan o pwy bynag sy'n fyr o ddillad am y corph ac ym- borth yn y cylla, ar y fath noson annifyr! Gorchuddid y ddaear âg eira gwyn, a chlöwyd yr aberoedd â rhew caled. Ymlwybrai'r lloer yn entrych y nen, gan arianu bryn a dol, afon a llyn, â'i phelydrau oerion.
Safai dyn go dal, teneu, ar ochr y ffordd fawr, o fewn ychydig bellder i ddinas B
. Yr oedd ei ddillad yn deneuon a charpiog, ac yn gwbl anghyfaddas i gadw'i gorph yn gynhes ar y fath dywydd oer; crynai i gyd drosto fel cangau rhewedig yr hen fedwen unig sydd wrth ei ymyl; curai ei ddannedd yn erbyn eu gilydd nes gwneyd i'w gernau anafu; ac yr oedd goleuni'r lleuad yn ddigon i i ddangos fod ei wyneb yn dwyn argraph y diafl hwnw—Meddwdod. Yr oedd ei weled—a gweled ei drueni yn ddigon o bregeth i argyhoeddi byd o effeithiau melldigedig anghymedroldeb.Y mae'r dyn yn siarad rhyngddo ag ef ei hun:" Y fath adyn wyf! Fy fferm—fy arian—fy iechyd—fy mharch—fy nghysur teuluaidd ydynt oll wedi cilio. Ni edrycha fy hen gyfeillion arnaf mwy na phe bawn dd
l, —cilia fy mhlant o fy ngwydd fel pe bawn lofrudd—edrycha fy ngwraig yn fy ngwyneb bob tro gwêl fi, yn y fath fodd truenus, torcalonus, nes gyru iâs o edifeirwch trwy'r galon gareg yma sydd yn fy mynwes. Yr wyf wedi pechu llawer—wedi pechu mwy nag y gall Duw na dyn faddeu i mi. Y fi yw Cain Cymru—nid wyf dda i ddim ond i wibio a chrwydro allan o olwg dynion. Oh, rhoddwn fyd am wydraid o ddïod i leddfu fy ing!"Gadawn y dyn yna am ychydig, ac awn i edrych pa fodd y mae ei wraig yn ymdaro.
Mewn bwthyn gwael, anniddos, oer, fe eisteddai gwraig a dau o blant—geneth a bachgen. Buasai braidd yn anmhosibl canfod gwrthddrychau yn edrych mor druenus. Ysgubai y gwynt i fewn atynt trwy gant o rigolau; ac fel yr udai o gwmpas yr ystafell, fe ymsypiai'r fam a'r plant o gwmpas y tan bach a di wres. Llosgai canwyll ffyrling ar y bwrdd, yr hon oedd wedi ei stwffio i wddf potel inc. Mewn ystafell lofft yr oeddynt yn trigo, nen yr hon oedd yn rhy isel braidd i neb allu sefyll yn syth ynddi. Nid oedd yr un cwarel cyfan yn y ffenestr; ond fe lenwid rhai o'r tyllau â gwellt, carpiau, a phapur llwyd, tra yr oedd eraill heb eu llenwi o gwbl. Nid oedd yr un dodrefnyn gwerth ei godi o'r domen yn y lle—nac oedd, dim cymaint a gwely i orwedd ynddo—dim cadair nac ystôl, na bwrdd o fath yn y byd—yr oedd y lle yn berffaith wag o gyfryngau mwyaf cyffredin dedwyddwch teuluaidd. Mewn congl o'r ystafell, yr oedd swp o wellt ag y gallai moch ysgornio arno; ond dyma oedd yr unig ddefnydd gorweddfa oedd gan y teulu tlawd. Buasai calon dyn neu ddynes go dyner yn gwaedu wrth feddwl fod rhai o blant dynion yn gorfod byw yn y fath le. Dangosai goleuni gwan y ganwyll wynebau llwydion yr anneddwyr. Ac yr oedd llygaid y fam yn llawn dagrau. Mae hithau'n siarad rhyngddi â hi ei hun:
"Ah! bychan a feddyliais ychydig flynyddoedd yn ol mai dyma fuasai'n dyfod o honof! Oh, y mae'r adgof o'r hyn a fum, a'r ymwybyddiaeth o'r hyn wyf, a'r ofnad o'r hyn a fyddaf, yn ddigon a thori fy nghalon. O, ddyddiau dedwyddion fy mabandod, chwi a'm gadawsoch am byth! Collais dad—mam—cartref, a—GWR, am ddim a wn i, o herwydd ni welais ac ni chlywais ddim am dano er's talm. Y mae'n rhaid ei fod un ai mewn yspyttý, neu mewn carchar, neu wedi marw? Oh, fel y carai ef fi pan oeddym ein dau yn ieuainc! Y fath ddedwyddwch[1] a deimlwn wrth gael arllwys teimladau fy nghalon iddo ef, ac wrth ei glywed yntau yn tywallt ymadroddion melus cariad ar fy nghlust i! Yr wyf yn awr yn cofio addewidion teg yr hwn a hawliai fy llaw a'm calon; a phwy a fuasai'n credu y troisai ef byth i ymddwyn ataf fi a'i rai bach mor greulon a hyn? Ei feddwdod ef a'm gwnaeth i yr hyn wyf. Gadewais gartref a golygfeydd fy ieuenctid, i fod yn wraig iddo. Yr wyf yn cofio fel pe na buasai wedi bod ond doe, fel y teimlwn ar fy mynediad i fyw i fy nghartref newydd, dan y titl o WRAIG. Oh feddwdod cythreulig!—ti a'm hysbeiliaist o bob peth oedd anwyl genyf ar yr hen ddaear yma, heblaw'r plant bach hyn; ac os parâ pethau'n hir eto fel y maent yn awr, ni fydd y rhai'n genyf ond am amser byr—nis gallant hwy na minau fyw ar y gwynt. Fy Nuw! fy Nuw! pa beth a ddaw o honom?"
Nid oes anghen dweyd pwy oedd y dyn truenus hwnw, na'r ddynes a'r plant hyn y mae'r darllenydd yn ddiau wedi dyfalu yn mhell cyn hyn, mai Llewelyn Parri, ei wraig a'i blant oeddynt.
Gellir dweyd yr hyn a gymerodd le mewn ychydig eiriau. Aeth Llewelyn yn mlaen i feddwi, a meddwi yn barâus, nes gwneyd ei hun heb ddimai ar ei elw, pan yr oedd ei ddyledion yn ddychrynllyd. Syrthiodd rhywrai ar ei bethau—gwerthwyd pob cerpyn, dodrefnyn, a thwlsyn a feddai ar ei fferm. Bu gorfod iddo fyned i fyw i'r dref, mewn heol gul, afiach, anmharchus, lle yr oedd ei wraig a'i blant yr adeg yma. Ceisiodd ei oreu i gael rhywbeth i'w wneyd at gael tamaid—ond ni roddai neb yr ymddiried lleiaf ynddo. Yn ei drallod, diangodd o'r lle, gan adael i'w deulu ymdaro goreu gallent. Dychwelyd o'r ffoedigaeth yr oedd, pan welwyd ef yn sefyll ar ochr y ffordd fawr; ond ni wyddai yn iawn beth i'w wneyd—pa un ai myned a chwilio am ei deulu, ynteu cadw oddiwrthynt: ni feddai yr un dafn o gysur i'w roddi iddynt, a gwyddai na chai yntau ddim oddiwrthynt hwy.
Ond rhyngddo a'r hen heol gul honno yr aeth; a gwelwyd ef yn sefyll o flaen drws y tŷ, lle y gwelodd ei wraig a'i blant ddiweddaf. Clywai swn plentyn yn crio yn y llofft —clywai ddynes yn siarad yn y gegin—gwrandawodd, a deallodd y geiriau hyn yn cael eu dweyd gan y wraig oedd pia'r tŷ:
"Mae'n gas gan f' enaid i glywed plant y ddynes yna yn y llofft yn crïo ddydd a nos. Byddaf yn meddwl weithiau mai eisieu bwyd sydd arnynt. Ac yn wir, y mae eu golwg hwy a'u mam yn ddigon i ddangos hyny. Maent yn siwr o l'wgu os na ddaw rhywbeth iddynt o rywle cyn bo hir."
"Mi gaf lwgu i'w canlyn, ynteu!" ebe Llewelyn wrtho ei hun, ac aeth i fewn, ac i fyny'r grisiau heb ddweyd yr un gair wrth neb. Rhoddodd ei wraig ysgrech wrth ei weled, a llefai'r plant fel pe mewn ofn am eu bywyd, wrth weled y dyn a arferai eu lluchio a'u cicio yn ei gythreuligrwydd pan yn methu cael arian i brynu cwrw. Ychydig amser yn ol, buasai Morfudd Parri yn neidio â'i dwy law am wddf ei gŵr ar ei ddychweliad gartref; ond nis gallai wneyd hyny yn awr, yr oedd dygwyddiadau yr ychydig flynyddoedd diweddaf wedi dwyn cyfnewidiad ar bob peth. Ond eto, teimlai'r ddynes dirion ei bod yn ei garu; yr oedd yn dda ganddi nad oedd dim drwg mwy wedi dygwydd iddo. "Wel, mae'n debyg nad oeddych yn dysgwyl fy ngweled!" ebe Llewelyn.
Wylai Morfudd.
"Beth ydyw hwn?" gofynai drachefn, gan gymeryd gafael mewn rhywbeth tebyg i lythyr oedd ar y silff uwch ben tân.
"Llythyr a ddaeth yma heddyw'r boreu!" ebe Morfudd. Agorodd Llewelyn ef, a darllenai ynddo'r hyn a ganlyn:
"FY MRAWD LLEWELYN.—Wele dy chwaer yn ysgrifenu atat â llaw grynedig, o wlad bell, a chyn entro i wlad o ba un na ddaw byth yn ol. Yr wyf yn sâl—yn sâl iawn—wedi cael fy rhoi i fyny gan y meddyg fel heb obaith gwella. Ond y mae'n rhaid i mi gael cyflwyno hyn o lythyr i ti er saled wvf. Nid ydwyf am ofyn i ti wneyd yr un addewid i mi; ond dymunwyf ddwyn ar gof i ti dy ymddygiadau o'r blaen. Yr wyf yn deall dy fod yn parâu i feddwi o hyd, ac wedi myned yn warth i'r ardal ac yn felldith i dy wraig anwyl, garedig, a rhinweddol. Bum yn dysgwyl, ar ol i fy nylanwad i fethu dy drin, y buasai'r addfwyn Forfudd yn gwneyd rhywbeth o honot; ond fe ymddengys fod swyn y gwirod yn fwy na dim arall.
"Pe baet yma yn awr, ti a gaet weled un arall o dy ferthyron. Caet weled llygad, ael, a boch geneth bedair-ar-ugain oed yn gwisgo arwyddlun angeu o achos meddwdod ei brawd. Aberth i ti ydwyf; rhoddais fy hun i fyny'n offrwm i'th gadw di o'r carchar ag y buasai'n drugaredd i ti erbyn hyn pe buasit ynddo. Cosbais fy hun â mwy o annedwyddwch nag y buasai raid i ti ddyoddef yn y ddaeargell dduaf. Yr wyf yn awr yn wraig i ddyn sy'n meddwl ei hun yn dduw; a'r hwn a gafodd genyt ti i ymrwymo i fy mherswadio i'w briodi, nid am ei fod yn fy ngharu, ond am nas gallai oddef y meddylddrych iddo ef feddwl am ddim a chael ei siomi. Yr wyf yn awr yn gaethferch i ddyn heb galon ddynol yn ei fynwes. I'th achub di, mi a orchfygais yr arswyd a deimlwn wrth feddwl bod yn wraig iddo, a sefais wrth ei ochr o flaen yr allor. Bum fyw gydag ef gan ymdrechu ei foddio yn mhob peth; ond ymddygai ataf fel gormeswr, ac nid fel gwr, nes y teimlwn fy nghalon ieuanc yn oeri dan fy mron. O'r diwedd, efe a flinodd arnaf. Wrth weled na wnai bryntwch, creulondeb, a meddwdod parâus dori fy nghalon, daeth i'r penderfyniad o fy ngadael. Yr wyf yn awr mewn lle dyeithr yn afiach ac yn dlawd. A Llewelyn, mae'n ddrwg genyf orfod dweyd, dy waith di yw hyn oll! Ni fuaswn yn dweyd mor blaen, oni bai fod pob tynerwch wedi myned yn ofer. Oh! fy mam, mi gaf ddyfod atoch chwi yn fuan bellach! Rhaid i mi ddim cywilyddio eich gweled—bum yn ffyddlon i'ch cais olaf. Os ydych yn gallu edrych i lawr dros ganllawiau Paradwys; y mae fy mochau tyllog, fy llygaid suddedig, fy ael brudd, fy ngwendid mawr, fy nghalon doredig—oll yn ddigon o brawf i mi fod yn ffyddlon! Llewelyn anwyl, gan Dduw na fuasit tithau wedi bod yn ffyddlon hefyd!
"Ond rhaid i mi ddiweddu—yr wyf yn rhy wan. Ond gad i mi dy rybuddio unwaith am byth: os wyt yn dysgwyl cyfarfod â dy fam, dy chwaer, a'th Farnwr, yn y dydd olaf, gyda gwên o groesaw, tro yn ol o'th ffyrdd drwg—dyro'r goreu am byth i bob math o ddïodydd meddwol, a gofyn am edifeirwch a maddeuant trwy Iawn Crist. Ond os wyt yn dewis clywed y geiriau ofnadwy, Rhwymwch ef draed a dwylaw, a thefiwch i'r tywyllwch eithaf,' yn cael eu swnio fel taranau o enau Duw uwch dy ben di—dos yn mlaen yn dy fuchedd lygredig nes y rhydd Angeu hyrddiad i ti i glorian barn.
Dy chwaer, GWEN."
Gyda fod Llewelyn wedi gorphen darllen, efe a syrthiodd ar ei wyneb ar y llawr fel coeden o flaen corwynt; a bu am chwarter awr cyn bod yn alluog i godi.
Clywyd curo wrth y drws. Deuai rhywun i fyny'r grisiau. Gofynai dyn wrth ddrws ystafell y llofft,—
"Ai i fewn yma mae Mrs. Parri?"
Neidiodd Morfudd at y drws. Pwy oedd yno ond Mr. Powel, wedi dyfod i estyn llaw o ymwared i'r druanes a'i phlant, gan iddo glywed gan gymydog ei bod ar lewygu o newyn. Yr oedd bachgenyn yn cludo basged wrth ei sawdl. Ond cyn rhoddi y pethau i Morfudd Parri, gwelodd Mr. Powel y dyn—os dyn hefyd—Llewelyn. Edrychai'r ddau ar eu gilydd mewn dystawrwydd am enyd.
"Pa beth sydd ar y cythraul yma eisio?" gofynai Mr.Powel. "Peidiwch myned yn mlaen yn y dull yna!" dywedai Llewelyn. "Yr wyf newydd dderbyn un archoll ychydig fynydau yn ol; dyma'r cleddyf a pha un y tarawyd fi," efe a ychwanegai, gan roddi llythyr Gwen i'w hen warcheidwad. Darllenodd Mr. Powel ef drwyddo, a gwlychodd ef a miloedd o ddagrau.
"Gwen!—fy anwyl Wen—wedi cael ei lladd gan ddau dd——1," llefai fel dyn gwallgof. "Hwdiwch, Mrs. Parri," ychwanegai—"cymerwch y pethau yma i dori eich eisieu. Mi gychwynaf heno i Baris, at fy merch; ac os Duw a'i myn, mi a'i cipiaf oddiyno cyn i angeu gael gafael ynddi!" Aeth allan, ac wrth fyned, stwffiodd bapyr pum punt i law Mrs. Parri.
"Wel, Llewelyn, meddai Morfudd—mae'n debyg fod arnoch eisieu bwyd: helpiwch eich hun o'r trugareddau hyn. Hwdiwch chwithau fy mhlant—ni fu yr un tamaid yn eich genau bach er neithiwr!"
"A hyny o'm hachos i," gorphenai Llewelyn. "Ond, beth sydd yn aros i'w wneyd rhagllaw? A oes modd ein hachub yn awr yw'r pwnc!"
"Wn i ddim!" atebai Llewelyn. " Y mae arnaf gywilydd addaw gwneyd dim fy hunan. Yr wyf wedi tori cynifer o addunedau."
"Pa fodd bynag," meddai Morfudd, "ni a gawn orphwys heno; a chawn ymddyddan pa beth i'w wneyd o hyn allan ar ol dadflino." Ac aeth allan o'r ystafell—rhoddodd y papyr pum punt i wraig y tŷ i gymeryd y tâl dyledus am ei llety o hono, a gofynodd am fenthyg gwely a dillad, er mwyn i Llewelyn gael gorphwyso.
Tranoeth a ddaeth. Yr oedd Llewelyn Parri yn rhy sâl i godi. Effeithiodd y cyffro diweddar ar ei gyhyrau yn enbyd. Bu raid cael y meddyg ato. Bu'n gorwedd dan law hwnw am wythnos cyn medru symud o'r tŷ.
Y prydnawn dydd Sul canlynol i'w ddychweliad gartref, a'r diwrnod cyntaf iddo allu myned allan, ymlusgodd yn ara' deg rhyngddo â godreu'r mynydd, er mwyn cael tipyn o awyr ffres. Wrth dalcen capel, ar ei ffordd yno, yr oedd lliaws mawr o bobl wedi ymgynnull, a dyn yn sefyll ar ei draed ar gadair yn eu mysg, yr hwn oedd yn areithio: dynesodd Llewelyn atynt i wrandaw. Yr oedd gan yr areithiwr bwnc newydd—pwnc ag oedd yn dechreu dyfod i sylw, ac yn gwneyd cyffro mawr anghyffredin mewn rhai manau——sef DIRWEST. Areithiai'n gampus—dangosai aneffeithiolrwydd yr egwyddor gymedrol at sobri'r byd—darluniai gyflwr ofnadwy dyn meddw, yn dymhorol a thragywyddola phrofai tu-hwnt i bob gwrthwynebiad, mai yr unig lwybr i wrthweithio effeithiau a chanlyniadau meddwdod, a chadw dynion, pob gradd a sefyllfa, dan bob math o amgylchiadau, ydyw rhoddi llythyr ysgar i bob math o ddïodydd meddwol —llwyrymwrthod a hwy, a chofleidio egwyddorion cymdeithas newydd oedd yn dechreu dyfod i sylw—y GYMDEITHAS DDIRWESTOL. Diweddodd trwy gyhoeddi y byddai i gyfarfod cyhoeddus gael ei gynal yn Nghapel y Tabernacl, nos dranoeth (nos Lun), pryd y byddai i amryw o wŷr galluog anerch y gynulleidfa, ac y derbynid enwau aelodau at y gymdeithas newydd.
"Dyna rywbeth!" ebe Llewelyn wrtho 'i hun. "Pe buasai cymdeithas o'r fath wedi ei sefydlu er's blynyddoedd, mi fuaswn i'n ddyn iawn heddyw, yn lle bod fel hyn yn rhyw bryf na fyddai'n werth gan rywun roi ei droed ar fy mhen. Llwyrymwrthod sydd raid; a rhaid hefyd cael cadwyni cymdeithas i gadw rhai o fy math i at y penderfyniad y mae grym mewn undeb—dylanwad mewn cymdeithas. Os Duw a wel yn dda roddi i mi nerth, mi a af i'r cyfarfod yna nos yfory, ac mi a ardystiaf."
Nodiadau
[golygu]- ↑ cywiriad gweler "gwelliant gwallau" tud. xvi