Llewelyn Parri (nofel)/Rhagymadrodd
← Llewelyn Parri (nofel) | Llewelyn Parri (nofel) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
Beirniadaeth Eben Fardd → |
RHAGYMADRODD.
Y MAE Nofel Gymraeg braidd yn beth newydd ar y ddaear; ac wrth gyflwyno yr un ganlynol i sylw 'r cyhoedd, tybiwyf fod yn ddyledswydd arnaf ddweyd gair neu ddau mewn perthynas i'r llyfr, a'r achos i mi ymosod ar y gwaith o'i gyfansoddi.
Y mae'r wlad yn llwyr argyhoeddedig fod Meddwdod yn un o'r melldithion penaf ag sy'n llychwino dynoliaeth gwympiedig. Nid oes yr un dref na phentref, teulu nac aelod o deulu, nad yw 'n gwybod am ffeithiau echrydus mewn perthynas i effeithiau meddwdod. Prin y gellir cyfeirio bys at gynifer ag un teulu cyfan sydd wedi dïanc yn ddi-graith. Nid yw Gwalia gu, yr hon sydd wedi ei bendithio â chymaint o fanteision moesol a chrefyddol, yn rhydd oddi wrth felldithion anghymedroldeb. Y mae ugeiniau a channoedd o Gymry, y fynyd hon, yn ymdrybaeddu yn ffosydd meddwdod, ac yn ymbrysuro'n gyflym tua bedd gwaradwyddedig a thruenus y meddwyn. Cyfarfyddodd rhai o fy nghyfeillion goreu â thynged ofnadwy meddwon; a minau, braidd na lithrodd fy nhroed—braidd na thripiodd fy ngherddediad. Pan chwythodd croeswynt amgylchiadol certh yn fy erbyn, ar fy nghychwyniad cyntaf ar donau siomedig y byd, gwn i galon fy mam dyner, a fy ngwraig addfwyn a gofalus, guro a gwaedu lawer noswaith, wrth sylwi ar fy nhueddiad i chwilio am gysur yn y gyfeddach, Diolch i'r Nefoedd am daflu pelydryn o oleuni ar fy llwybr mewn pryd! A fy mhrif ddymuniad wrth ysgrifenu 'r gyfrol ganlynol, oedd gosod fy nghyd-ieuenctyd, yn enwedig, ar eu gwyliadwriaeth, a cheisio dangos iddynt, yn y dull mwyaf tarawiadol ac argyhoeddiadol ag y gallwn, mai 'r unig sylfaen safadwy, i'w cadw rhag syrthio i ffosydd meddwdod, ydyw llwyrymwrthodiad. Ond nid gwiw i mi geisio celu ychwaith, fod gan y wobr gynygiedig gryn swyn i fy nghymhell i fyned yn mlaen hefo 'r gorchwyl; a dichon hefyd fod gan uchelgais am enwogrwydd ran yn yr argymhelliad. Peth digon hunangar ydyw 'r natur ddynol ar y goreu.
Synwn i ddim na chaiff y ffughanes yma ei gondemnio gan amryw, am mai Nofel yw. Y mae 'r enw 'n ddigon i ddychrynu rhai pobl cul-feddwl. Ond gobeithio gan Dduw y bydd i'r effeithiau a ddilynant y darlleniad o'r llyfr, argyhoeddi y rhai mwyaf gwrthwynebus i ffughanesion, o'r gwirionedd fod modd i nofel wneyd lles. Yn wir, yr wyf yn credu y gellir gwneyd mwy o gyfiawnder a phwnc tebyg i hwn, trwy ddull ffughanesol, na thrwy unrhyw ddull arall. Ni raid gorlwytho côf, na threthu amynedd, y darllenydd, a chyfres o ymresymiadau sychion ac ystadegau dyrus, i brofi effeithiau drygionus un arferiad, ac effeithiau daionus y llall. Mewn ffugdraith, fe ellir gosod y naill a'r llall, yn eu gwir liw eu hunain, o flaen y darllenydd, yn holl symledd a dyddordeb bywyd beunyddiol dyn. Y mae 'n well dull na'r un arall i bortreadu prydferthwch, rhinwedd, ac anfadrwydd drygioni, yn effeithiol. A dylai 'r wlad fod yn ddiolchgar i Bwyllgor Eisteddfod Cymrodorion Dirwestol Merthyr Tydfil, am dori tir newydd fel hyn yn llenyddiaeth ein gwlad, a dewis testun mor deilwng i ymgystadlu arno.
Nid oes a fynwyf fi a dweyd dim am deilyngdod nac annheilyngdod y Nofel; ond gadawaf hyny i'r Beirniad apwyntiedig, ac i farn y cyhoedd. Ond dymunwyf, yn y fan yma, gydnabod y llyfrau ag y bu i mi gael mwyaf o gymhorth wrth ei chyfansoddi. Er fy mod wedi cadw cystal fyth ag y gallwn at wreiddioldeb, eto nid gwiw gwadu na wnaethum ddefnydd o awduron eraill, ag oeddynt wedi cyrhaedd pinagl enwogrwydd fel Nofelwyr. Ail ddarllenais weithiau Metta Victoria Fuller, awdures Americanaidd, a Samuel Warren, cyn dechreu cyfansoddi; a buont yn gynhorthwy nid bychan i mi i ddwyn y cyfansoddiad yn mlaen yn llwyddiannus.
Os byth y geilw'r wlad am ail argraphiad o'r llyfr, byddaf yn alluog i wneyd gwelliadau ac ychwanegiadau nid bychan yn y cyfansoddiad; ac os cyferfydd y gyfrol hon â llwyddiant a chefnogaeth, bwriadwyf gyhoeddi ail gyfrol, ar yr un testun. Ond y mae 'r pwnc yma i'w benderfynu yn hollol gan amser.
Mewn gobaith y bydd i'r gwaith hwn effeithio'n ddaionus ar chwaeth, yn gystal ag ar foesau llawer o'r Cymry, y gorphwysa ufuddaf wasanaethydd ei genedl,
YR AWDWR.