Llio Plas y Nos/Dedwyddwch

Oddi ar Wicidestun
Bedd Ei Fam Llio Plas y Nos

gan R Silyn Roberts

Wedi'r Nos


15

DEDWYDDWCH

CERDDODD Ivor a Llio law yn llaw drwy'r goedwig nes cyrraedd y llwybr a gymerai Ivor yn ei deithiau hwyrol i Blas y Nos. Nid hawdd dychmygu, chwaethach disgrifio, eu teimladau ar eu taith gyntaf gyda'i gilydd. Er bod y ddau yn hen gariadon erbyn hyn, dyma eu taith gyntaf. Rhodient fraich ym mraich pan ganiatâi'r ffordd, a llaw yn llaw bryd arall. Cofiodd Ivor nad oedd Llio wedi arfer cerdded fawr, ac y byddai'r daith oherwydd hynny yn gryn dreth ar ei nerth. Felly, cerddai'n araf iawn. Doeth oedd cerdded yn araf hefyd am fod y llwybr mor anodd a dyrys; ac yn y nos hawdd iawn oedd baglu a chwympo arno.

Yr oedd Llio mor llawen nes arswydo ohoni ar adegau rhag mai un o'i breuddwydion gorffwyllog gynt oedd y cyfan. Pan fflachiai hynny i'w meddwl, gafaelai'n dynnach ym mraich, neu yn llaw, Ivor; ac er na wyddai ef paham y gwnâi hynny, gwyddai'n dda fod y weithred yn llawn serchowgrwydd a dibyniad arno ef. Cynyddai llawenydd a dedwyddwch Llio wrth weled gryfed oedd gewynnau Ivor; a theimlai yn ddiogel iawn dan ei ofal serchog. Iddo yntau yr oedd ei phresenoldeb hithau, ei diniweidrwydd, a'i hymddiried ynddo, yn llenwi ei fywyd â swyn newydd. Wedi teithio am oddeutu awr, teimlodd Ivor fod camau Llio'n myned yn fyrrach, fyrrach, a'i phwysau ar ei fraich yn myned yn drymach, drymach; a phan ddaeth- ant at faen mawr ger eu llwybr garw, arhosodd a gwnaeth iddi eistedd i orffwyso. Pwysai'r eneth flinedig â'i phen euraid ar ei ysgwydd, ac ebr hi: Ivor, ydech-chi wedi penderfynu be i'w wneud nesa?"

"Ond priodi, Llio fach," atebodd yntau. "Wel, ie, Ivor; ond mae 'na bethau eraill hefyd. Mae gennym-ni ddyletswyddau i bobol eraill heblaw ni yn hunain. O, Ivor, be ddywed Mr Morgan pan wêl-o ni wedi dwad i Hafod Unnos?"

"Wel, wn-i ddim be ddywed Gwynn; ond mi ellwch-chi fod yn siŵr y bydd-o'n falch iawn o'n gweld-ni."

"Wn-i ddim, wir, Ivor; ddaru-chi ddim meddwl y gall-o deimlo mod-i'n ych dwyn-chi oddi arno-fo?"

"Dim o'r fath beth, Llio; rŵan, fuasai neb ond geneth yn meddwl am beth fel yna," a chwarddodd Ivor yn iachach a mwy calonnog nag y gwnaethai ers amser.

"Wedyn, Ivor, dyna bethau eraill," ebr Llio, a rhedodd ias o arswyd trosti fel yr ymwasgai'n nes i Ivor. "Cofiwch, Ivor, yn bod-ni wedi gadael y ddau yn yr hen blas hefo'i gilydd heno."

Teimlodd y dyn ieuanc ias o'r hen oerni llidiog oddeutu ei galon, fel y disgynnai'r geiriau ar ei glyw. Ond buan, yng nghwmni Llio, y diffannodd y cwbl.

"Rydw i wedi cynllunio be i'w neud, Llio fach. I ddechrau, rhaid inni briodi, i'w gwneud-hi'n amhosib i bobol hel straeon yn yn cylch-ni. Yna, mi ofala-i am gludo gweddillion 'y mam oddi yno, ag mi cladda-i hi mewn daear fwy cysegredig. Mi gaiff y wlad wneud a fynno-hi â llwch yr adyn llawrudd a drengodd yno heno."

Bu ysbaid o ddistawrwydd; teimlodd y gŵr ieuanc fod dwylaw'r eneth yn oer, a'i bod yn crynu, ac yn ymwasgu ato. Gosododd ei wyneb ar ei hwyneb hithau; yr oedd ei grudd yn wlyb gan ei dagrau. Dododd ei fraich amdani, a chododd hi ar ei thraed; a dechreuodd ei phrysuro yn ei blaen.

Fy nghariad annwyl-i," eb ef, "rhaid inni geisio anghofio'r gorffennol. Rhaid i'w gysgod du a phrudd-o gilio o'n bywyd-ni. Heno, mae'r hen fywyd o anobaith ar ben; heno hefyd, mae cyfnod gloywach yn dechrau yn yn hanes-ni.

Wedi cerdded am oriau, a chael aml sbel o orffwys, cyrhaeddodd y ddau i ben eu taith. Nid oedd eto arwydd gwawr yn y nef; ac am nad oedd Gwynn Morgan yn eu disgwyl, nid oedd lewych na sŵn bywyd yn Hafod Unnos chwaith. Agorodd Ivor y drws yn ddistaw, ac aeth ef a Llio i mewn. Wedi dodi'r ychydig glud oedd ganddynt o'r neilltu, estynnodd gadair, a gwnaeth i Llio eistedd ynddi. Yna, â bysedd medrus, gosododd goed a glo yn y grât, a goleuodd dân. Wrth sŵn y coed yn clecian yn y tân, deffrôdd Gwynn Morgan.

"Hylo! y deryn nos! Ddaethoch-chi'n ôl?" eb ef o'i wely, a'i lais clir, iach yn atsain drwy'r tŷ.

Gwynn, mi ddisgwyliwn-i amgenach pethau gennych chi na llefain fel hyn ym mhresenoldeb boneddiges," meddai Ivor, dan gilwenu ar Llio; a hithau wedi gwrido'n wylaidd, a gwenu'r un pryd.

Diogel yw dywedyd na ddaeth chwaneg o sŵn o'r stafell wely am funud neu ddau, beth bynnag. Ni wyddai Gwynn yn iawn pa beth i'w gredu; ac i roddi pen ar ei benbleth, cododd o'i wely, a gwisgodd y gwlanenni a wisgai bob dydd oddeutu'r lle. Wedi ymolchi, a threfnu tipyn ar ei wallt, meiddiodd ddyfod allan o'i ymguddfan. Pan welodd wyneb prudd, prydferth, angylaidd Llio, a'i manwallt aur yn rhydd dros ei hysgwyddau, a gwrid gwyleidd-dra ar ei grudd, rhwbiodd ei lygaid yn egnïol, rhag ofn mai breuddwydio yr oedd. Ond cododd Ivor ar ei draed, ac wedi ysgwyd llaw Gwynn yn galonnog, cyflwynodd ef i Llio. Eisteddodd y tri i aros i'r tegell ferwi, a buan iawn yr oedd pob pryder ynghylch eiddigedd Gwynn Morgan wedi peidio ym mynwes Llio. Teimlai tuag ato yn fuan fel pe buasai'n frawd iddi. Fe gofia'r tri, tra fyddant ar y ddaear, am y borebryd hwnnw a gawsant oddeutu'r bwrdd crwn ym mwthyn Hafod Unnos.

Ymhell cyn i'r ymddiddan ddarfod, yr oedd y wawr wedi torri dros y mynyddoedd. Brysiodd Gwynn Morgan ymaith i ddweud wrth y wraig a arferai ddyfod yno i lanhau'r tŷ nad oedd angen amdani heddiw, ac wedi ei gweled, aeth yn ei flaen i'r gwesty, a dywedodd yno fod ei gyfaill yn mynd i briodi gyda geneth amddifad a adewsid dan ei ofal, a'i bod hi'n dyfod yno y diwrnod hwnnw, ac y byddai'n aros yn y gwesty. Hefyd, tynghedodd wraig y tŷ i gadw'r hanes yn ddistaw, gan nad oedd ei gyfaill yn hoffi sŵn. Wedi hynny, brysiodd adref i warchod, tra byddai Ivor a Llio'n mynd i dref yn y cyfeiriad arall i brynu gwisgoedd a phethau eraill angenrheidiol. Nid y peth lleiaf pwysig o'r rheini oedd y drwydded. Gyda'r nos, dychwelodd y ddau i'r gwesty, a chymerodd gwraig garedig y tŷ yr eneth dan ei gofal arbennig.

Y noson honno, ymwelodd Ivor â hen weinidog parchus y pentref; a syn iawn gan hwnnw oedd gwrando ei neges. Gwelsai Gwynn Morgan yn y capel amryw droeon, ond ni welsai mo Ivor yno, a meddyliodd mai gŵr di-barch i'r Sul, ac i Dŷ'r Arglwydd, ydoedd. Cydsyniodd, er hynny, i'w briodi. Rhyfedd braidd gan wraig y gwesty oedd bod y bonheddwr ieuanc yn dewis cael ei briodi yn y capel.

Arferasai feddwl bod pawb a oedd yn rhywun yn myned i'r Eglwys Wladol i'w priodi, pa le bynnag yr aent i addoli, a pha beth bynnag a fyddai cymeriad person y plwyf. Ond ŵyr neb ar y ddaear lle mae'r byd yn mynd, na be i'w feddwl, wedi i'r colegau a'r ysgolion yma lenwi'r wlad," meddai wrthi ei hun, a chwanegodd, "Mi fydd y bobol fawr i gyd yn siarad Cymraeg yn fuan, a'r tlodion yn siarad Saesneg, rhag cwilydd siarad run peth â'i gwell." Ond, er bod aml syniad pur hen ffasiwn ganddi, fel pob gwraig gwesty, yr oedd difai calon yn ei mynwes. Cymerodd yr eneth druan, amddifad, a ddaethai dan ei gofal i'w chalon, ac er na wyddai ddim o wir hanes Llio, yr oedd gwybod ei bod yn amddifad yn ddigon i agor llifddorau ei thosturi a'i thynerwch.

Un bore braf, clir, gaeafol, safai Ivor a Llio wyneb yn wyneb yn sêt fawr y capel, a Gwynn Morgan gerllaw iddynt. Darllenai'r hen ŵr llariaidd, penwyn, eiriau'r Ysgrythur priodol i'r amgylchiad. Wedi iddo ef orffen eu huno, a dodi ei fendith arnynt, agorodd y cofrestrydd ei lyfr, ac wedi iddynt oll osod eu henwau yn hwnnw, ymadawodd Ivor Prys a Llio, ei wraig, gyda'i gilydd i lennydd hafaidd De Ffrainc.

Edrychodd Gwynn Morgan ar eu holau, a phrudd oedd ei feddwl, er na wyddai paham. Flwyddyn yn ôl, ni wyddai am fodolaeth yr un o'r ddau. Heddiw, aethai'r flwyddyn heibio-blwyddyn ryfedd, ddieithr, yn ei hanes. Ac fel yr ymgollai'r cerbyd a gludai'r ddau ddedwydd o'i olwg, teimlai fod darn o'i galon yn myned gyda hwy.