Lloffion o'r Mynwentydd/Beirdd a Llenorion
← Pregethwyr a Gweinidogion | Lloffion o'r Mynwentydd golygwyd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph) |
Gwyr → |
Beddergryff Beirdd a Llenorion.
IFAN GRIFFITH, neu "Ifan yr Hwper," o Bontardawy.
(Yn Mynwent Alltwen; ganddo ef ei hun.)
Edrych, ddyn dewrwych, cyn d'orwedd—am fodd
I faddeu d'anwiredd;
Tro i guro am drugaredd
Yn dy fyw cyn cau dy fedd.
GWYNDAF ERYRI.
(Yn Mynwent Llanbeblig.)
Diameu i'n dyma annedd—ein Gwyndaf
Oedd geindwr cynghanedd,
Yn wir, fe garwn orwedd,
Er ei fwyn, yn nghwr ei fedd.
—Owain Gwyrfai.
JOHN ROBERTS, (Ioan Twrog), Maentwrog.
Am Ioan Twrog, fardd mwyn naturiol,
Hir leinw hiraeth ei fro lenorol;
Oedd un nodedig, o ddawn hediadol,
O ddilwgr addysg, a meddwl gwreiddiol;
Ac yn ei iraidd wanwyn cynarol
Fe roddes ini wir farddas swynol,
Ас yna aeth o'n canol—mewn goleu,
I'w urddo'n foreu gan feirdd anfarwol.
—Ioan Madog.
ROBYN DDU O FEIRION.
Ar obenydd oer, Robyn Ddu—Meirion,
Yma ro'ed i gysgu;
Gwiw fardd godidog a fu,
Gwêl ei fedd, gwylia'i faeddu.
Gutyn Peris.
ROWLAND HUGH, o'r Graienyn, ger y Bala.
(Ganddo ef ei hun.)
Noeth y daethym, | ||
Noeth yr aethym | } | yma i dario ; |
Mwya dirym | ||
Lle câf hepian | ||
Nes dêl anian | } | i'm dihuno |
Duw ei hunan |
JOHN THOMAS, (Ioan ap Hywel)
(Bardd ieuangc a Cherddor.)
Pwy! pwy! pwy!—oh! Ioan ap Hywel—sydd
Is hon mewn cwsg tawel;
Hoffai beirdd a phawb ei arddel,
Caruaidd ŵr mwyn, cerddor mêl.
—Eben Fardd.
Bedd DEWI ARFON,
(Yn Llanberis.)
Yma y gorwedd gweddillion
Y PARCH. DAVID JONES, (Dewi Arfon,)
Bardd, Pregethwr ac Ysgolfeistr;
yr hwn a fu farw
Rhagfyr 25ain, 1869, yn 36 ml. oed.
O! ddiallu weddillion !—ynoch chwi
Ni cheir Dewi Arfon;
Angel—luniwr englynion
Fydd fyw'n hwy na'i fedd-faen hon.
Cofio llais cyfaill Iesu―dreigla iâs
Drwy eglwysi Cymru;
Gwylaidd fab i'r Arglwydd fu—
Rhaid oedd ei anrhydeddu.
—Tudno.
Fel hyn y chwenychai ei gyfeillion ei anrhydeddu.
HUGH BREESE, (Huw Medi,) Llanbrynmair.
Yma er alaeth i blith marwolion,
Mudwyd i orwedd Huw Medi dirion,
Oedd lwys awenwr o dduwiol swynion,
O gryf ddihalog dreiddgar feddylion,
Fu'n gwasgar goleu ei foreu fyfyrion,
O Air Duw beunydd mewn purdeb union;
Gloes hir fydd i eglwys Ión—am symud
Y cywir, astud, hardd, ieuanc Gristion.
—Ioan Madog.
EVAN THOMAS, (Bardd Horeb.)
(Yn Mynwent Llandysul, Ceredigion.)
Un hawddgar iawn, llawn callineb—oedd ef,
O ddawn a doethineb;
Teimlir chwithdod hynod heb
Beraidd eiriau Bardd Horeb.
—D. T.
JOHN ROBERTS, (Ioan ap Rhobert.)
(Yn Mynwent Llandderfel.)
Tŷ oer, moel, yn tori min—arabedd
John Roberts y Felin;
Un oedd dirwysg—hawdd ei drin,
A phrydydd anghyffredin.
Heb yr awen, gyda'th briod—anwyl,
Huna gyfaill gwiwglod;
Mae'th enw'n fawr, fawr, er dy fod,
Ioan anwyl, dan dywod.
—Dewi Havhesp.
DAFYDD IONAWR.
I'r Anfeidrol Ior yn fydrydd—y bu
Gyda'i bêr awenydd;
A'i holl waith, diwall ieithydd,
O'i ôl yn anfarwol fydd.
—Owain Aran.
MR. JOSEPH JONES, (Chwaneg.)
(Brodor o Amlwch.)
Trwy ein tir, mawrygir y Cymreigydd,
Athraw o anian Bardd ac Athronydd;
Un â'i drwy ogof y Daearegydd
I weithio'r mwnau o wythi'r mynydd;
Coffeir ei allu, tra caiff Fferyllydd,
Droi yr elfenau yn nwyddau newydd;
Pan ddaeth yr Hynafiaethydd—drwy'i orchwyl,
Yn awr ei noswyl hunai'r Hanesydd.
IEUAN ALAW.
Llenor, gŵr llawn rhagorion,—awdurdod
Ardal mewn cynghorion;
Ni cheir anwylach wron,
Na mawredd mwy, yn mhridd Môn.
—Tudno
Bedd RHYS GOCH ERYRI.
(Yn Mynwent Beddgelert.)
Carnedd Rhys, a'i fedd, fu addien—freuglod,
Tan y friglas ywen:
Côr gwiw nadd careg ei nen,
Clawdd du lle claddwyd awen.
—Gwilym Lleyn, 1570.
IOAN MADOG.
Deigron gofidiau geir yn gafodydd
Am farw ein Ioan! mor drwm fu'r newydd!
Un brofai'i hunan yn brif awenydd,
Nes cerfio'i enw'n mysg cewri Eifionydd;
Celfyddwr cyflawn, o ddawn gwyddonydd,—
I wir ogoniant Dyfais ro'i gynnydd:
Tra urddas ar Farddas fydd—yn ein tir,
Ein gwlad a frithir â'i glodfawr weithydd.
—Eifionydd.
Bedd IORWERTH GLAN ALED.
(Yn Mynwent Llansannan, swydd Dinbych.)
Y parodfawr fardd prydferth——sy'n y bedd,
O sŵn byd a'i drafferth;
Mor wir a marw Iorwerth
Farw o gân fawr ei gwerth.
Bedd ROBIN MEIRION.
(Yn Mynwent Trawsfynydd.)
Ei glod ef, fel goleu dydd,—dywyna
Hyd wyneb ein bröydd;
Ië, 'n fawr ei enw fydd
Tra saif enw Trawsfynydd.
—Ieuan Ionawr.
OWEN GRUFFYDD,
(Yn Mynwent Llanystumdwy, Arfon, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1730, yn 87 ml. oed.)
Dyma'r fan syfrdan y sydd—oer gloiad
Ar glau wych lawenydd;
Cerdd a phwyll, cywir da ffydd,
Awen graff Owen Gruffydd
Dwys fyfyr, difyr dioferedd—gamp,
A gwympwyd i'r dyfnfedd;
Pan elo cân, pinacl cainwedd,
Gloew wych fawl, gwelwch ei fedd.
—Michael Prisiart.
CYNDDELW.
Cynyddawl oes eirian Cynddelw siriol
Wedi hir fwyniant deuai'n derfynol;
Oedd fardd ac ieithydd, duwinydd doniol,
A mawr hanesydd amrywion oesol;
A meddai olud doniau meddyliol,
A'i weinidogaeth fu'n wledd fendigol;
Wrth y groes mewn nerth grasol—pregethai,
A gwir ryfeddai Gymru grefyddol.
—Ioan Madog.
P. A. MON.
Yma gorwedd y mae y gwron—oedd
Yn addurn i'r Brython;
Rhyw gawr yn mhob rhagorion
Y bu y mawr B. A. MON.
Ei arddawn oedd yn urddas—i'n cenedl,
Ein ceiniaith, a'n barddas;
Hyf dreiddiol brif awdwr addas,—
Llyw ei fawr gred oedd Llyfr Grâs.
—Cynddelw.
Bedd DEWI WYN.
(Yn Mynwent Llangybi.)
Dyma fedd Dewi Wyn a fu—ben bardd
Heb neb uwch y Nghymru;
Ond p'le mae adsain cain, cu
Tinc enaid Dewi'n canu.
—Eben Fardd.
O ddaear isel, prif fardd yr oesoedd,
Gyrhaeddai nwyfawl gerddi y nefoedd,—
Sain ei gain odlau synai genhedloedd—
Hir fydd llewyrch ei ryfedd alluoedd!
Oeswr a phen seraph oedd—pencampwr,
Ac ymherawdwr beirdd Cymru ydoedd.
—Ioan Madog.
ROBERT JONES, (Robin Goch), Llanengan.
(Yn Mynwent Necropolis, Lerpwl.)
Er yma y'mro ammharch,—daw Iesu
Dywysog i'w gyfarch;
A Rhobert yn ŵr hybarch,
Gôd o rŷch, a gad yr arch.
MEURIG EBRILL.
Awen lem Meurig wnai i lu—gau grefydd
A'u gwag ryfyg grynu;
Bardd da drwy'i daith faith a fu,
Ar rasol lwybrau Iesu.
SION WILLIAM.
(Yn Mynwent Pennant Melangell, Maldwyn.; J. W., 1691.)
Claddfa yn ein noddfa ni—o wely
I William Sion ydi;
Duw i'w enaid daioni,—
Dyna ei fedd danaf fi.
CHRISTMAS EVANS, o'r Glyn.
Christmas, er addas amryddawn,— a moes
Gymesur ac uniawn,
Yn more'i ddydd, er mawr ddawn,
A ddygwyd i'r bedd eigiawn.
Bardd o glôd i bridd y glyn—a ddodwyd
Yn ddidwyll fachgenyn;
Ow! farw gwas ar fore gwyn
Agoriad ei flaguryn.
—Cynddelw.
SION PHILIP, o Fochras.
(Ar Gofgolofn yn Mynwent Llandanwg, ger Harlech; J. Ph., 1600.)
Bardd dienllib digyffelib
Fu Sion Philib iesin ffelwr
Gwelu ango'
Yw'r ddaearglo
Yma huno y mae henwr.
Dyma fedd gŵr da, oedd gu,—Sion Philib,
Sein a philar Cymru,
Cwynwn fyn'd athro canu
I garchar y ddaear ddu.
—H. Llwyd, (Cynfal.)}}
HUGH LLWYD, Cynfal.
Pen campau doniau a dynwyd,—o'n tir,
Maentwrog yspeiliwyd;
Ni chleddir, ac ni chladdwyd,
Fyth i'w llawr mo fath Hugh Llwyd.
—Edmunt Prys.
IOAN AB GWILYM.
(Yn Mynwent Trefriw.)
Awenol blentyn anian—y'i cafwyd,
Cyfaill puraf allan;
Eithr ow! lle athraw y Llan
Yw'r ddaear,—hedd i Ioan.
THOMAS STEPHENS, Merthyr.
Er marw cofir Thomas Stephens dirion;
Triga hiraeth yn dyst o'i ragorion;
Y gŵr hael, anwyl, gwladgarol, union;
Llawnaf un o gewri llên fu'n gwron:
Dros Ewrob ca'i drysorion—eu mawrhau,—
Erys bri'i weithiau tra'r oesa Brython,
Yn fri i'w genedl bu ei fawr gynnydd;
Hawlia e'n fythol fawl Hynafieithydd;
A phur ei allu fel dwfn Fferyllydd,
A choeth, wir, enwog, orwych Athronydd:
Wrth ei lanerch lonydd—rho'i trist lefau
A wna oesau wrth gofio'n Hanesydd.
—Morwyllt.
THOMAS EDWARDS, o'r Nant.
(Ar Góf—lech yn yr Eglwys Wen, ger Dinbych.)
Y maen hwn a osodwyd gan Gymdeithas y Gwyneddigion,
er côf am THOMAS EDWARDS, Nant; bardd rhagorol yn ei
oes. Bu farw Ebrill 3ydd, B.A. 1810. Ei oedran, 71
Geirda roe i gywirdeb—yn bennaf
Ni dderbyniai wyneb;
A rhoe senn i drawsineb
A'i ganiad yn anad neb.
—Wm. Jones, (Bardd Môn)}}.
Er cymaint oedd braint a bri—ei anian
Am enwog Farddoni,
Mae'r awen a'i haccen hi
Man tawel yma'n tewi.
—Jno. Thomas, Pentrefoelas.
DAFYDD AB GWILYM.
(Yn Mynwent Ystrad Fflur, sir Aberteifi.)
Dafydd, gwiw awenydd gwrdd,
Ai yma'th roed dan goed gwyrdd?
Dan lasbren hoyw ywen hardd,
Lle'i claddwyd, y cuddiwyd cerdd!
Glas dew ywen, glân Eos—Deifi,
Mae Dafydd yn agos!
Yn y pridd mae'r gerdd ddiddos
Diddawn im' bob dydd a nos.
DAFYDD DDU O ERYRI.
(Yn Mynwent Llanrug, Arfon.)
Bedd DAFYDD THOMAS, godidog Gadeirfardd, a'r Hynafieithydd clodfawr, a
gyfenwid Dafydd Ddu o Eryri. (Bu farw ar y 30ain o Fawrth, 1822, yn 63 mlwydd oed.)
Dyma'r bedd, annedd unig,—gorweddfa
Gŵr addfwyn dysgedig;
Ammod trwm, yma trig
Ddwys awdwr urddasedig.
—R. ab Gwilym Ddu.
O fedd oer ein Dafydd Ddu!—henadur
A hynododd Gymru;
Ewythr i Feirdd, athro fu,
Cefn wrthynt i'w cyfnerthu.
—Dewi Wyn o Eifion.
Darfu ein bardd diweirfoes,—fu gadarn
Fegidydd ei gyfoes;
Rho'ed lamp penigamp ein hoes,
I'r priddfedd—ŵr pereiddfoes.
—Gwyndaf Eryri
Gorweddfa gwiw arwyddfardd—Eryri,
Yr eirian gadeirfardd,
Un a brofwyd yn brif-fardd; '
Unig fwth yr enwog fardd..
—Gutyn Peris.
Dyma gêll dywell Dewi,—fardd clodfawr
O orawr Eryri;
Tristwch mawr sy'n awr i ni,
O'i ddwyn, ddyn addwyn iddi.
—Gwilym Padarn.
Gwae dirfing dir ing, ow drengu—prif—fardd,
Profwyd trwy Gymru;
Ow ludded—ow, ow gladdu,
(Brudded y'm) y Bardd Du.
—Owain Gwyrfai.
ALVARDD.
Ein Alvardd anwyl gynar noswyliodd
I'w glyd dawelwch, a'n gwlad a wylodd,
Am ei fér adeg gyflym, fe rodiodd
Yn ei wasanaeth,—a Chymru synodd.
Gerwinwch Gormes grynodd yn ei llid:
Enwogai Ryddid,—yna gorweddodd.
—Iolo Trefaldwyn.
HU GADARN.
Ein hanwyl Hu Gadarn huna—yn fud
Yn y dwfn fedd yma;
Ow! mawr gwyn hen Gymru ga'
Heb ei hanwyl "Fab hyna."
"Gŵr Tŷ Mawr" oedd gawr gwrol——o du'i wlad
A'i lwys heniaith swynol;
Bwlch yn hir welir ar ôl
Yr un addwyn, rhinweddol.
—Morwyllt.
DEWI WYN O EIFION.
Ei farddas digyfurddyd—ca' eiloes
Mâl colofn o'i fawryd;
A chofiant llawnach, hefyd,
Na chareg bedd—na chreig byd.
—Eryron Gwyllt Walia.
CAPT. WM. PARRY, Waen, Morfa Nefyn.
Ow! Parry, deilwng fardd pêr y dalaeth,
O'i fri mawr alwyd i fro marwolaeth:—
Oedd ddyn nodedig caredig odiaeth,
A mawr ei addysg yn nhrefn Moryddiaeth;
A'i fynwes dirion mewn dwfn ystyriaeth
Gywir adwaenai Dduw ei grediniaeth;
Ei hoff rîn, a'i ddoniau ffraeth—fawrygir,
A'i fedd anwylir tra'n fyw dynoliaeth.
—Ioan Madog.
ROBIN DDU O FÔN.
(Bu farw y 27ain o Chwefror, 1785, yn 41 mlwydd oed;
ac a gladdwyd yn Llangefni, Môn.)
Wele ddaearle ddu oerlaith,—Prydydd
Parodol ei araith;
Hunodd cynhalydd heniaith,
Gwenydd fwyn bro Gwynedd faith.
Cofiwn bawb am y ceufedd,—a'n bwriad
Yn barod i orwedd;
Rhaid in' ryw bryd yn gydwedd,
Gamp oer bwys, gwympo i'r bedd.
CHARLES SAUNDERSON.
(Ar feddgist y teulu, yn Mynwent Llanycil, Meirion.
Bu farw yn yr America, Hydref 24, 1832, yn 23 ml. oed.)
Gŵr ieuanc o gywir awen—anfonwyd
I fynwes ddaearen;
O sylw byd yn isel ben,
Byr ddyddiwyd y bardd addien.
—Bardd Nantylyn.
Yn naear Orleans newydd yr hûn
Yr enwog fardd celfydd;
O fynwes gwlad Feirionydd
Yno yr aeth yn ŵr rhydd.
—Gutyn Peris.
BARDD DU MÔN.
Fe roddwyd ym medd Fardd Du Môn,—llenor
Llawn o bethau ceinion;
Mae'n enw a saif mewn iawn sôn
Tra Menai tu a'r minion.
Nid craig fawr, nid carreg fedd,—namyn cân
Yw maen côf ei fawredd;
Dywed awen, hyd y diwedd,
Ei fodd, a'i lun, a'i feddwl wedd.
—Eben Fardd.
ELLIS OWEN, Cefnymeusydd.
Diweddai harddwch, a dedwydd hirddydd
Y cyfiawn moesawl Fardd Cefnymeusydd;
I'n iaith a'i hurddas bu'n addas noddydd
Yn ysbryd hynaws ei bert awenydd;
Rho'i wledd a chroesaw—bu'n llaw a llywydd
O fawr da fwyniant i feirdd Eifionydd;
Ffrwyth ei ddawn faethlawn a fydd—arosawl,
A’i fawl yn fythawl fel Hynafiaethydd.
—Ioan Madog.
IOAN DYFRDWY.
(Yn Mynwent Llanycil, Meirion. Bu farw Mehefin 17eg. 1852,
yn 20 mlwydd oed.)
Perchen yr awen wiw rydd—oedd Ioan,
Oedd ddiwyd efrydydd:
Eginyn cryf ei gynnydd,
Huna ar daith hanner dydd.
Blodau heirdd, a beirdd heb us,—yr awel,
A'r ywen bruddglwyfus,
Addolent yn dorf ddilys
Enw ei lwch ger Beuno Lys.
Diau hynotach daw Ioan eto,
Yn ŵr heb anaf o hen âr Beuno;
Yn derydd esgyn, wedi ei hardd wisgo
A mawredd Salem, i urddas eilio
Cerdd i'w frawd, 'nol cyrhaedd y fro—uwch angen,
A'i bêr ddawn addien, heb arwydd heneiddio.
SION DAFYDD BERSON.
Yr hwn a gladdwyd y 5ed o Ionawr, 1769, yn 94 mlwydd oed; yn Ysbytty Ifan.
Galar! i'r ddaear oer ddu—aeth athraw
Fu'n meithrin beirdd Cymru;
Llafurus fu'n llefaru,
Diddan fodd y dydd a fu.
Terfynodd, hunodd ryw hyd,—Sion Dafydd
'Madwys â hir fywyd;
Ond cofiwn, eto cyfyd
O'r ddaear bwys ddiwedd byd.
IEUAN GLAN GEIRIONYDD.
(Yn Mynwent Trefriw.)
Fel Bardd rhagorol, ddoniol Dduwinydd,
Bu'n fri i'w genedl, bu'n fawr ei gynydd;
Ac mewn nefol swyn, fel mwyn Emynydd,
Ei ddawn bêr, rywiog, wefreiddia'n bröydd;
A byw yr erys fel gwych Berorydd;
A diwall hynod Feirniad a Llenydd;
A thyner wlith Awenydd—Cymru wyl
Fydd dargrau anwyl ar fedd Geirionydd.
—Ioan Madog.
Ar y TABLET yn Eglwys Trefriw.
Anian a Ieuan a unwyd
Yn ol awenyddol nwyd,
Amrywiaeth mawr ei awen
Nodai'n Bardd i'w wneud yn ben;
Meddai urdd y modd arddun,
Ond teimlad yn anad un.
—Eben Fardd.
Mawrygir y pen-gymreigydd—enwog,
Ieuan Glan Geirionydd;
Tra b'o Côr a Llenorydd,
Ei awen fwyn a'i enw fydd.
—E. O.
Ai yma huna y pen Emynydd,
Swynai â'i fwyniant holl Seion fynydd?
Ah! pwy a lunia gôf—faen ysplenydd,
O'r penaf fynor i'r prif Awenydd!
Na! 'i Awen fwyn ei hun fydd—y gôfeb
Oreu ar wyneb y pêr Eifionydd.
—E. Jones.
GUTYN PERIS.
(Yn Mynwent Llandegai, Arfon.)
Dyma fedd Griffith Williams, neu GUTYN PERIS, un o Brif feirdd ei oes; godidog
mewn doniau, a chlodadwy ei arferiad o honynt. Tuagat ei gyd-frodyr
awenyddol, un diymffrost a digenfigen oedd—parod o'i gynghor a'i
hyfforddiad; yn ei ddyledswyddau teuluaidd a chymydogol, diwyd a
chymwynasgar. Hyny a fu yn marn dyn. Pa fath ydoedd yn marn Duw, ceir
gweled ar ddydd mawr y cyfrif.
Os gwyrodd, mewn ysgariaeth,—y Prif-fardd,
Lle prawf lygredigaeth;
Mae'r enaid heb amrywiaeth
Yn mro y nef, nid marw wnaeth.
Duw a arch ei dywarchen,—i Gruffydd
A'i gorph o'r ddaearen,
I'w foli byth, fywiol Ben,
A'i weled heb un niwlen.
I Beris awen barod—a roddwyd,
O roddau nef uchod;
Di fai ei waith, a defod,
Llona Bardd, heb well yn bod.
Tra Llen, ac Awen, Cywydd,—ac Odlau,
Ac adlais Datgenydd;
Tra'r Gymreigiaith berffaith bydd,
Gwladwr hoff, glôd i Ruffydd
GORONWY OWEN.
(Ar y TABLET, yn Eglwys Gadeiriol Bangor.)
Tra haul mwyn yn dwyn gwên dydd,—ac enaid
I gwyno ing prydydd;
Yn haeddu'i barchu bydd
Goronwy Gawr Awenydd.
Gwaith ei gerdd yn goeth a gawn, −brif orchest,
Brawf archwaeth synwyrlawn;
Ei gofio haeddai'n gyfiawn,
Arwr dysg ac eryr dawn.
—Nicander
IEUAN GWYNEDD.
(Yn Mynwent Groeswen, Morganwg.)
Y golofn yma gyhoedda haeddiant
Ieuan Gwynedd, i'w wlad fu'n ogoniant;
Haul oedd i'r Genedl, miloedd a gwynant,
Ai'n nos o'i golli—tewi nis gallant;
Llanwodd swydd Llenydd a Sant,—sa'i weithiau
Ef i'r ôl oesau yn ddirfawr lesiant.
—G. Hiraethog.
MR. OWEN JONES HUGHES, (Cynfarwy.)
A fu farw Awst 5ed, 1865, ac a gladdwyd yn Llanerchymedd.
Os y tir hwn sy'n toi rhinwedd—a llwch
Y dyn llawn arabedd,
Cynfarwy, cawn ei fawredd
A'i wir barch yn herio bedd.
—Ioan Machno.
Ewyllysgar mewn llesgedd—ydoedd ef,
Dedwydd iawn ei ddiwedd;
Gwenai pan newidia'i wedd
Yn oer afael hûn rhyfedd.
—Llwydryn Hwfa.
MR JOHN HUGHES, (Ieuan Alaw.)
A fu farw Mehefin 16eg, 1873, ac a gladdwyd yn
Llanerchymedd.
Môn welir yma'n wylaw—ar lanerch
Oer, lonydd, ddigyffraw,
Yn mynwes lom hon islaw
Anwylir Ieuan Alaw. [1]
—Tudno.
MR. WILLIAM HUGHES, (Tegerin.)
Bu farw Gorphenaf 28ain, 1879, yn 34 mlwydd oed;
ac a gladdwyd yn Llanerchymedd.
Lle gorwedd cyfaill gwerin—ceir dagrau
Caredigrwydd dibrin;
O ddu—oer fedd! ar ei fin
Rhaid dy garu, Tegerin.
Y mae hiraeth am wron—am lenor
Aml iawn ei gyfeillion,
Halltu cêl holltau calon
Mae mynwes "Mam Ynys Mon."
Feddrod yr Eisteddfodwr,—anwyl wyt
Yn llety gwladgarwr;
Mae enw da yma'n dŵr
Mwy nag arf-waith maen-gerfiwr.
—Tudno.
MR. HENRY PARRY, (Glan Erch.)
Er ei gloi'n nhir galanas,—caer anrhaith,
Ceir Henry i'w balas:
Er mewn gro, mae rhwymyn gras—am dano
A llw Duw arno na chyll ei deyrnas!
—Dewi Arfon.