Llyfr Del/Beibl Coll

Oddi ar Wicidestun
Cymhwynas Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Geirfa

BEIBL COLL

YCHYDIG ddyddiau'n ôl yr oedd geneth felyn—wallt, dlodaidd yr olwg arni, yn sefyll fel tyst yn un o lysoedd Lerpwl, ac ni wyddai neb ar wyneb y ddaear beth oedd yn ddweyd, gan ddieithried ei hiaith. Yr oeddwn newydd daro ar hen gyfaill i mi, un o ysgolheigion Slafonaidd goreu'r oes, a daethom i'r llys pan oedd yr eneth yn sefyll yn fud o flaen ei chroes—holwr. Wedi gadael y tystle daliai'r eneth i wylo ac i ocheneidio, gan ruddfan ambell i air dieithr, hyd nes y dechreuodd fy nghydymaith siarad â hi, gan ei chysuro yn ei hiaith ei hun. Lithuaneg oedd yn siarad, ac yr oedd yn un o gwmni mawr o ymfudwyr i'r Amerig. Yr oedd wedi colli ei chyfeillion yn Lerpwl, ni wyddai ddim am ei llong, a rhywfodd neu gilydd yr oedd wedi ei dwyn i lys cyfraith fel tyst.

Wedi gwneyd yr hyn a fedrem dros yr eneth, dechreuodd fy nghyfaill a minne ysgwrsio am anawsterau’r teithiwr uniaith. Meddem brofiad ein dau,—yr oeddym yn gwybod beth oedd methu esbonio pan mewn cyfyngder ac mewn perygl am ein bywyd, er y buasai un frawddeg yn dofi llid ein gwrthwynebwyr, pe medrasem ei dweyd. "Bum mewn carchar ym mhellteroedd Siberia unwaith," ebe'm cyfaill, "wedi methu dweyd yn iaith y llywodraethwr beth oeddwn. Mi freuddwydiais yn y carchar hwnnw fy mod yn perthyn i genedl heb Feibl, a'm bod yn sefyll o flaen gorseddfainc Duw heb ddeall iaith y llys."

Cenedl heb Feibl! Ehedai'm meddwl at Gymru'r unfed ganrif ar bymtheg, pan ddywedai rhai na chai'r Cymry siarad â Duw hyd nes y dysgent Saesneg, a phan erfyniai William Salisbury ar Frenhines Lloegr adael i bob tafod glodfori Duw. Wedi hynny, bu Cymry'n cyfieithu'r Beibl i drigolion bryniau'r India a thraethellau Madagascar, fel y clodforai pob tafod Dduw.

"Bu'm gwlad i," ebe fi wrth yr ysgolhaig Slafonaidd hwnnw, " heb ddeall ei Beibl am gant a hanner o flynyddoedd wedi ei gael, a hawdd y gallasai Beibl prydferth yr Esgob Morgan fynd ar goll." "Felly yr aeth Beibl yr eneth wylofus acw," atebai'r gŵr dysgedig, " yr wyf newydd ddarganfod fod Beibl Lithuanaidd mewn bod yn 1660, ond erbyn heddyw, hyd y gwyddis, nid oes gopi o honno ar wyneb y ddaear. "Y mae'r erlidiwr wedi gorffen ei waith."

Felly y bu gyda Beibl un genedl arall. Ar lethrau'r Pyrenees y mae cenedl y Basques yn byw, ac ni ŵyr ieithyddwyr pwy oedd eu brodyr a'u cefndryd, os nad cyn—drigolion mynyddoedd Prydain, sydd wedi gadael ambell enw, a hynny'n unig, ar ambell afon neu garreg neu fryn. Yr oedd Margaret o Yalois, brenhines Xavarre,—Ann Griffiths y Diwygiad Ffrengig,— wedi rhoddi iddynt Feibl yn eu hiaith eu hunain yn amser y Diwygiad Protestanaidd. Ond yn ystod erledigaethau ofnadwy'r ail ganrif ar bymtheg, canrif adfywiad Eglwys Rufain, collwyd y Beibl o'r mynyddoedd hynny'n llwyr; un copi'n unig oedd ar gael pan ail gyfieithwyd y Beibl i'r iaith ddieithr honno gan Gymdeithas y Beiblau, ac yn Llundain yr oedd hwnnw.

Dyna ddwy esiampl o genedl wedi colli ei Beibl : a wyddis am Feibl wedi colli'r genedl a'i darllenai? Y mae llawer Beibl coll, ond a oes yn rhywle Feibl mud? Breuddwydiais, y noson wedi llenwi papur Cyfrifiad 1891, fod cyfrifiad wedi dod pan nad oedd neb yn medru deall y Beibl Cymraeg. Yr oedd Duw'n siarad â'n horwyrion mewn iaith ddieithr. Yr oedd Beibl Cymru'n fud.

Nid oes dim rydd gymaint o gryfder i fywyd cenedl a chael Beibl yn ei hiaith ei hun. Buasai'r iaith Gymraeg wedi darfod oddiar wyneb y ddaear ymhell cyn hyn oni buasai am y Beibl. Y Beibl ydyw r peth Cymraeg olaf i Gymro golli ei afael ynddo. Ar lan rhyw afon bellennig neu yn nwndwr rhyw dref fawr y mae gwraig llawer Cymro'n Saesnes, ei blant yn Saeson, ei gymdogion yn Saeson, ond, hyd y diwedd, y mae ei Feibl yn Feibl Cymraeg. Proffwyda rhai y bydd y Beibl Cymraeg rywbryd,—fel y parot glywodd Humboldt yn siarad iaith llwyth oedd wedi ei difodi,— heb neb i'w ddeall. Nid aiff Beibl Cymru byth yn Feibl coll, nad eled ychwaith yn Feibl mud.