Llyfr Del/Cymhwynas

Oddi ar Wicidestun
Ysgubau Oho! Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Beibl Coll

CYMHWYNAS

Roedd geneth fechan unwaith yn methu cael dwfr i'w hystên o bwmp y pentref. Os rhoddai'r ystên yn y gistfaen oedd o dan big y pwmp, a mynd i ysgwyd braich yr hen bwmp, deuai’r dwfr allan yn bistyll mawr, ond ni ddisgynnai i'r ystên. Os ai i ddal yr ystên o dan y big, nid oedd ei braich yn ddigon hir i gyrraedd braich y pwmp. Ac felly yr oedd yr eneth fach mewn trallod mawr.

Yr oedd amryw blant a phobl segur y pentref yn ymyl, ond ni wnaent hwy ond chwerthin yn uchel am ben ymdrechion ofer y plentyn. Daeth bachgen o'r wlad heibio, a gwelodd fod yr eneth fechan yn wylo. Aeth ati yn y fan; gwnaeth iddi hi ddal y llestr, ac ysgydwodd yntau fraich yr hen bwmp yn ôl a blaen nes llenwodd yr ystên o ddwfr.

Ymhen wythnosau wedyn rhedodd cerbyd ar draws bachgennyn yn yr heol lle'r oedd tad Mair yn byw, a thorrodd ei goes. Gwelodd Mair mai'r bachgennyn caredig wnaethai gymwynas â hi oedd a rhedodd i ddweyd wrth ei thad. Cariodd ei thad y bachgen i'r tŷ; cafwyd meddyg ato, a chafodd gartre cysurus nes dod yn holliach drachefn.


"Dal di'r ysten, daw'r dŵr yn union."