Llyfr Del/Ysgubau Oho!

Oddi ar Wicidestun
Nain Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Cymhwynas

YSGUBAU! YSGUBAU! OHO!

YN Nyfnaint, lawer blwyddyn yn ôl, yr oedd gŵr yn gorwedd yn glaf ar ei wely. Yr oedd yn dlawd iawn, ac yr oedd ganddo bedwar o blant bach amddifaid. Gwneyd ysgubau oedd ei waith, a mynd â hwy ar gefn mul i'w gwerthu yn y dref. Yr

YSGUBAU! YSGUBAU! OHO!

oedd yn rhy wael i fynd â'r ysgubau yn ôl ei arfer, ac yr oeddynt heb damaid o fara yn y tŷ.

"Bob," ebai'r tad wrth ei fachgen hynaf, " a fentri di i'r dref i dreio gwerthu ysgubau, ac i brynnu torth? Y mae'n ddydd Sadwrn heddyw, a rhaid i ni gael rhywbeth at yfory."

Mi wnaf fy ngoreu, fy nhad," ebe'r bachgen.

Gwisgodd ei ddillad goreu, dillad tlodaidd ond glân, oedd ei fam wedi eu gwneyd iddo'n ofalus. Wylai'r tad yn ddistaw wrth weld y smoc wen a'r hosanau cynnes a'r cap cartref; cofiai mor ofalus oedd eu mham am y plant pan oedd yn fyw. A heddyw dyma hwy heb damaid o fara yn y tŷ.

Yr oedd yn fore oer, ond cychwynnodd Bob yn galonnog ar gefn Jeri'r mul tua'r dre, a baich o ysgubau o'i flaen. Ai dan ganu, gan feddwl am y dorth fawr a'r melusion fyddai ganddo'n dod adre. Nid oedd wedi medru gwneyd dim erioed o'r blaen i helpu ei dad a'r plant. Ond heddyw teimlai ei hun yn ddyn.

Druan o Bob ni wyddai fawr am y dref. Bu'n crwydro drwy'r dydd hyd yr heolydd, heb damaid o fwyd, gan gynnyg ei ysgubau mewn llais gwan. Ond ni phrynnai neb yr un, chwarddai llawer am ei ben, a rhegodd un ef am gynnyg ysgub iddo. Yr oedd y nos yn dod, a dechreuodd y bachgen wylo, gan siom ac anwyd ac eisieu bwyd. Meddyliai am ei dad ar ei glaf wely, ac am y plant bach yn disgwyl ei weld yn dod adref â bwyd iddynt. A dyma yntau'n methu gwerthu yr un ysgub.

Pan oedd mew anobaith mawr, dyma fachgen hŷn nag ef heibio, mewn dillad trwsiadus a da. Yr oedd dau ddyn ar ben drws newydd wawdio Bob gan beri iddo roddi'r ysgubau'n fwyd i'r mul. Wylai yntau'n chwerw. Gofynnodd y bachgen dieithr iddo am ba beth yr oedd yn wylo; a dywedodd Bob yr hanes iddo i gyd trwy ei ddagrau.

"Paid a wylo." ebe'r bachgen caredig, "ni a'u gwerthwn i gyd cyn nos." Troisant yn ôl drwy'r ystrydoedd. Cymerodd Ernest Martin ysgub ym mhob llaw a dechreuodd waeddi dros y fan,—

"Ysgubau! Ysgubau! Oho!" Daeth y bobl i bennau eu drysau, ac yr oedd pawb am brynnu ysgub gan fab y Plas. Ymhell cyn nos yr oedd pob ysgub wedi ei gwerthu. Aeth Bob a llond ei boced o arian adref, heblaw digon o fwyd am bythefnos. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y cartref tlawd pan ddaeth Bob adre.

Ymhen ugain mlynedd wedi hyn, yr oedd catrawd o wŷr Dyfnaint yn un o frwydrau gwaedlyd y Crimea, ac yn gorfod cilio o flaen y gelyn. Yr oedd y Rwsiaid yn eu herlid ar ffrwst, ac yr oeddynt yn ceisio cyrraedd bryn gerllaw cyn i'r gelyn eu gorddiwes. Wrth iddynt encilio felly, clwyfwyd y Capten Ernest Martin, a syrthiodd i lawr. Cyn pen y deng munud byddai meirch filwyr y gelyn yn ei fathru dan draed. Cydiodd milwr cryf ynddo, a chludodd ef ymlaen yn ei freichiau.

"Filwr dewr," ebe'r capten, "gollwng fi i lawr i farw ac achub dy fywyd dy hun."

A ydych yn cofio fel y gwerthasoch yr ysgubau imi ugain mlynedd yn ôl," ebe Bob, "mi a af â chwi i ddiogelwch neu fe fyddaf farw gyda chwi." Cyrhaeddasant y bryn cyn i'r gwŷr meirch eu dal. Rhoddodd Bob y capten i lawr, a safodd i wynebu'r gelyn o i flaen. Medrodd daflu pob march yn ei ôl, er cadarned yr ymgyrch, nes y gwelwyd y Welsh Fusiliers yn dod yn gymorth iddynt. Taflwyd y Rwsiaid yn eu holau, a thra yr oedd gynnau'r Cymry'n tywallt cawod o dân ar y gelyn, cariodd Bob y capten clwyfedig i ddiogelwch. Gwellhaodd ei glwyfau, ac yr oedd llawenydd yn y Plas pan glywyd fod mab yr ysgubwr wedi cadw bywyd Ernest trwy beryglu ei fywyd ei hun.