Llyfr Del/Del

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Melin Y Môr

"Bod direidus
O straeon digri'n llawn"

LLYFR DEL

——————♦—♦——————

DEL

Mae teleffon yng Nghymru
O wifren felen fain,
Un pen i dderbyn straeon
A'r llall i wrando 'rhain;
Wrth un mae bod direidus,
O straeon digri'n llawn,
Wrth y llall mae bachgen bochgoch
Yn ddifyr, ddifyr iawn.


CHWI glywsoch am y telegraff ac am y teleffon. Dau air Groeg ydyw'r ddau air; yn Gymraeg eu hystyr ydyw,—y pell—ysgrifennydd a'r pell—seinydd. Pe baech chwi yn un pen i'r telegraff a chyfaill yn y pen arall, fil o filldiroedd i ffwrdd, gallech wneyd i'r telegraff ysgrifennu eich meddwl yn y pen draw gyda eich bod wedi ei ddweyd. Y mae'r teleffon yn beth rhyfeddach fyth; gallwch siarad yn un pen iddo, a bydd eich cyfaill yn clywed eich llais yn y pen arall. Meddyliwch am blentyn yn medru clywed llais ei fam, tra mae'r môr mawr rhyngddo a hi.

Ond nid esbonio'r telegraff a'r teleffon yw fy amcan yn awr, ond dweyd stori, ac ar ôl y stori honno y mae llawer o straeon ereill,—rhai na fydd yn hawdd iawn i chwi eu coelio hwyrach. Ond rhaid i chwi gofio fod llawer iawn o bethau rhyfedd yn bod yn y byd yma.

Mi wn i am fachgen bach bochgoch tew. Un hoff iawn o chware oedd; ac yn sŵn plant y pentref i gyd, clywech ei sŵn ef yn uchaf. Mab i feistr y post oedd; Cadwaladr oedd ei enw iawn, ond Del y galwai pawb ef. Un llawn bywyd oedd Del; allan yn chware y byddai wrth ei fodd. Anodd iawn oedd ei gadw'n llonydd mewn na thŷ na chapel; chware, chware'r oedd Del o hyd. "Del ni ydyw'r gwaethaf yn y wlad," ebe ei fam, wrth dreio 'i gael i'r tŷ i fynd i'w wely, 'f un drwg iawn ydyw Del." Ond buase mam Del yn digio am byth wrthych pe coeliech hi. Gwrandewch arni'n siarad â'i bachgen wrth fynd ag ef i'r tŷ,—"Del bach ddrwg ei fam, 'does mo'i dlysach o yn y byd, na'i well o chwaith."

Ryw dro daeth newid mawr dros fuchedd Del. Ni chlywid ei lais ymysg lleisiau'r plant ereill, ni chwareuai gyda hwynt, nid oedd na blodeuyn ar y caeau na brithyll yn y nant nac aderyn yn y gwrych fedrai ddenu sylw Del fel o'r blaen. Ni chydiai mewn pêl, ni cheisiai ennill botymau, ac nid oedd yn hidio mewn marblen, hyd yn oed mewn marblen wydr fawr lawn o liwiau. Doi i'r ysgol i'r dim at amser dechreu; ac wedi amser gollwng, ai adref ar ei union, ac ni welid Del y prynhawn hwnnw mwy. Yr oedd yn iach a llon, ond ni ddoi i chware. " Un rhyfedd iawn," ebe'r fam, " ydyw Del bach ni."

O'r diwedd gwelwyd pam yr oedd Del yn y tŷ o hyd. Yr oedd wedi digwydd, ryw ddiwrnod, roi

pellen y teleffon wrth ei glust, a chlywodd yr ystori ryfeddaf glywodd erioed. A phob dydd ai Del i ystafell y teleffon, a rhoddai'r bellen wrth ei glust, a chlywai stori newydd. Ni wyddai o ble doi'r ystraeon, tybiai mai rhyw angel bach, neu un o blant y Tylwyth Teg, oedd yn eu dweyd wrtho yn y pen arall. Ond cewch chwi farnu pan glywch hwy.

Mae Del yn gwenu'n hapus,
Fe ddwed y llygad llon
Fod stori felus felus
Yn dod o'r bellen gron.