Llyfr Del/Melin Y Môr

Oddi ar Wicidestun
Del Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Y Fodrwy

MELIN Y MOR

'Roedd Del yn gwybod llawer
O bethau rhyfedd iawn,
Ac o gwestiynau dyrus
'Roedd meddwl Del yn llawn;
Ond yr oedd un rhyfeddod
Oedd Del yn fethu ddallt,—
Tra'r oedd pob dŵr yn groew,
Pam 'roedd y môr yn hallt?


YR oedd Del wedi synnu llawer pam yr oedd y môr yn hallt. Aeth gyda'i fam at y môr ryw dro, gwelodd y môr mawr, ac yfodd lymaid o'r dŵr. Ni yfodd ddim o ddŵr y môr ond hynny. A synnai pam yr oedd mor hallt.

Ryw ddydd rhoddodd Del y bellen wrth ei glust. A chlywodd pam yr oedd halen yn nŵr y môr. Yr oedd hen ŵr doeth yn byw yng ngwlad yr eira. Yr oedd wedi gwneyd melin iddo ei hun, melin fechan hawdd ei chario, ac yr oedd yn felin ryfedd iawn.


Doi o'r felin beth bynnag ofynnech am dano, ond ni fedrai neb ei stopio ond yr hwn a'i gwnaeth. Ryw ddydd daeth dyn blysig i'r wlad, dyn hoff o yfed cwrw, a meddyliodd,-" Pe cawn i'r felin, cawn ddigon o gwrw bob dydd." Lladrataodd y felin, ac aeth â hi i bant y mynydd. "Cwrw!" ebai ef wrth y felin. A dyma gwrw'n dod, yn ffrwd fudr goch. Cyn hir yr oedd y dyn yn feddw, ac yn eistedd ynghanol llyn o gwrw, a hwnnw'n cronni o'i gwmpas. "Paid," meddai wrth y felin; " digon, digon! " Ond ni pheidiai'r felin. Llifodd y cwrw dros y pant, ac i'r afon. Ni wyddai neb pam yr oedd y dŵr mor ddrwg. Ond gwelwyd o'r diwedd mai cwrw oedd yn llifo o rywle yn y mynydd. "Fy melin i sydd yno," ebai'r hen ŵr, " ac y mae'r hwn a'i lladrataodd yn methu ei stopio." Erbyn mynd i'r pantle, wele lyn o gwrw coch, a ffrwd yn bwrlymio i fyny o'r gwaelod. " Dacw lle mae fy melin fach i," ebe yr hen ŵr, " sut yr awn ni ati hi? " Cawd cwch, a dacw ollwng bach i lawr, a dacw'r felin yn dod i fyny dan bistyllio cwrw. Sisialodd yr hen wr rywbeth wrthi, a pheidiodd yn y fan. Sychodd y llyn cyn hir, ond nid oes dim yn tyfu yn y pantle hwnnw byth.

Yn ymyl cartre'r hen wr, yr oedd cloddfa halen. Yr oedd halen yn ddrud iawn yn yr amser hwnnw. Yn yr hen amser, a rhaid i ti gofio, Del bach, mai yn yr hen amser yr oedd hyn,-yr oedd pobl yn byw yn y gaeaf ar gig hallt, ac yr oedd yn rhaid cael halen.

Wel, daeth capten y llong halen at y gloddfa, a chlywodd hanes melin yr hen wr. Ac ebe ef wrtho ei hun,-" Pe cawn i hon, fyddai raid i mi ddim dod dros y môr i chwilio am halen, byddai gennyf ddigon o hyd." A'r noson honno, aeth i dŷ yr hen wr, ac aeth â'r felin oddiarno trwy drais. Cyn y bore yr oedd wedi lledu ei hwyliau, ac yr oedd y llong yn croesi'r môr tuag adre. Synnai'r morwyr pam yr oedd y capten yn mynd adre â'i long yn wâg, heb ddim halen. "Os nad oes gennyf halen," ebe'r capten wrtho ei hun, yn llawen, "os nad oes gennyf halen, y mae gennyf felin fedrai lenwi'r môr." Ac ebai wedyn,—"Ni roddaf waith iddi nes cyrraedd y tir." Ond yr oedd arno awydd mawr am weld y felin yn gweithio. "Mi geiff ddechre yn awr," meddai, ac aeth i'w gaban at y felin fach.

"Halen!" meddai. Dyma'r felin yn dechre mynd, a halen gwyn glân yn dod o honi. "Dyma'r halen gore welais i erioed," ebai'r capten, " gyrr arni hi, felin fach. Mi ddofi i edrych am danat ti toc." Cauodd y drws ar ei ôl, ac aeth ar y dec. Ymhen hir a hwyr aeth at y drws. Ond ni fedrai agor yn ei fyw. Yr oedd llond y caban o halen, ac ni fedrai neb agor y drws. Yr oedd yr halen yn llifo allan dan y drws hefyd.

"Dyna ddigon, da iawn, fy melin fach i, paid yrwan." ebai'r capten, gan deimlo wrth ei fodd. Ond dal i falu'r oedd y felin o hyd.

"Paid!" ebai toc, mewn llais uwch, ond nid oedd y felin yn gwrando.

Yna dechreuodd gicio'r drws. "Paid bellach, felin y felldith." meddai. Ond ni pheidiai'r felin ddim.

Dychrynnodd y capten. Ond yr oedd yn rhy hwyr. Aeth llwyth y llong yn ormod; a dacw hi'n suddo. Aeth i waelod y môr, a'r felin ynddi. Ac y mae'r felin yng ngwaelod v môr byth, yn malu halen. A dyna pam mae'r môr yn hallt.

Dyna'r stori glywodd Del. Nid ydyw'n wir; ac yr wyf yn sicr nad oes melin yng ngwaelod y môr. Ond dywed Del,—" Sut y gwyddoch chwi, fuoch chwi erioed yno. Yr wyf fi'n siwr ei bod hi yno." Gwrando. Del bach, mi esboniaf i ti pam mae'r môr yn hallt. Y mae halen yn y creigiau, a halen yn y ddaear. Yn naear sir Gaer, y mae cloddfeydd halen. Y mae'r dŵr yn rhedeg dros y creigiau, a thrwy'r ddaear. Y mae'n toddi'r halen, ac yn ei gario gydag ef i'r môr. Y mae pob afon yn cario halen i'r môr,— y Ddyfrdwy o'r creigiau, a'r Hafren o'r gwastadedd, —ond nid oes digon o halen ynddynt i wneyd eu dŵr yn hallt.

Y mae'r haul, trwy ei wres, yn gwneyd i'r dŵr godi o'r môr, yn darth ac yn niwl. A'r dwfr hwnnw ydyw'r cymylau, a'r gwlaw. Ond, pan fo'r dwfr yn codi yng ngwres yr haul, nid yw'r halen yn codi gydag ef. Y mae'r halen yn rhy drwm. ac y mae'n gorfod aros ar ôl. Nid oes dim halen yn y gwlaw, a dyna pam y mae dwfr gwlaw mor ferfaidd. Felly, y mae'r dwfr yn cario halen i'r môr. ond ni ddaw â dim oddiyno. Dyna pam mae'r môr yn hallt

"Nage," meddai Del, "y felin fach sydd ngwaelod y môr."

"Mi wn i pam mae halen
Yn nwfr y môr yn stor,—
Mae'r felin fach yn malu
Yn nyfnder mwya'r môr."