Llyfr Del/Y Fodrwy

Oddi ar Wicidestun
Melin Y Môr Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Hen Wr Y Coed

Y FODRWY

"Sut mae gwneyd rhyfeddodau,"
Meddyliai Del ryw dro,
"Sut mae codi pontydd,
A gyrru'r niwl ar ffo,
A sut mae dysgu Saesneg,—
Gwyn fyd na fedrwn i
Eu gwneyd trwy ddim ond meddwl,
Trwy ddwedyd, 'Gwneled chwi.


ANODD iawn, meddyliai Del, oedd gwneyd llawer peth. Anodd iawn oedd gwneyd tasg,—rhifo ac ysgrifennu a dysgu allan. Ond beth oedd hynny wrth wneyd pontydd, a ffyrdd, a thai mawr, a llongau? A thybiai Del,—tybed a oedd rhyw ffordd i wneyd y pethau hyn mewn munud, ac heb ddim trafferth. A thra'n tybio hynny, rhoddodd y bellen wrth ei glust, a chlywodd stori.

Ryw dro yr oedd dyn melynddu'n crwydro drwy un o heolydd Caer Dydd, ac yr oedd bron a diffygio gan eisieu bwyd. Daeth at ddrws, a gofynnodd a gai droi i'r tŷ i orffwys. Dywedodd y gwas eiriau garw wrtho, gan beri iddo fynd i ffwrdd. Ond daeth bachgen bychan yno, mab y tŷ, a gwnaeth i'r gwr gwael ddod i'r tŷ. Yr oedd yn amlwg na fedrai'r dyn dieithr fyw yn hir. "Bum yn dywysog yn yr India," meddai, ' ac yn awr yr wyf yn chwilio am le i farw."

Cafodd y tywysog tlawd le i orffwys yng nghartref Iefan Hopcin, ac yno y bu farw. Yr oedd wedi hoffl Iefan, galwai am dano ai ei wely yn barhaus. a chyn marw rhoddodd iddo fodrwy. " Y mae swyn yn y fodrwy hon," meddai, modrwy hen ddewin ydyw, roddodd imi wrth farw yng ngwlad fy nhadau. A hyn ydyw ei rhinwedd,—pa beth bynnag a ewyllysio yr hwn a'i gwisg, fe a fydd iddo. Ond nis gellwch ail ewyllysio â hi heb roddi ei benthyg i rywun arall, i'w defnyddio unwaith."

Bu'r tywysog farw, a chladdwyd ef, a rhoddodd Iefan y fodrwy am ei fys ei hun. Ymhen yr wythnos yr oedd Iefan yn mynd i'r ysgol i Loegr. Yr oedd yr athraw yn wr nwyd-wyllt, creulawn, ac wedi curo Iefan lawer gwaith ar gam Pan ddaeth y bachgen i'r ysgol yn ôl, dyma'r athraw yn dweyd.—" Dacw'r bachgen drwg yn dod yn ôl." Ac ebe ef wrtho,— " Iefan Hopcin, gwyddwn lawer o'r drwg a wnaethost cyn i ti fynd adre; ond, wedi i ti fynd, gwelais nad oeddwn wedi ei wybod i gyd. Tydi laddodd fy nghywion ieir i yn yr ardd, onide? Y peth cyntaf a wnaf â thi yw dy chwipio."

Yr oedd Iefan mewn ofn mawr. Nid efe oedd wedi lladd y cywion. Ond gwyddai y cai ei gosbi, a gwyddai beth oedd y wialen yn dda, er mai bachgen diniwed oedd.

"Iefan Hopcin," ebe'r athraw cyn hir, "dos i'r ystafell nesaf i gael dy chwipio. Daw'r is-athraw Phillips i osod y wialen amat." Dyn cam hyll oedd Phillips, dyn â llygaid croes. a hen chwipiwr heb ei fath. Aeth y plant yn ddistaw i gyd, a disgwylient bob munud glywed llais Iefan yn gwaeddi dan y wialen. Ond cyn i'r chwipiwr fynd â'i wialen, aeth yr athraw at Iefan.

"Helo," meddai, " yr wyt wedi mynd yn falch. Pwy hawl sydd gen ti i wisgo modrwy am dy fys? Tynn hi, mewn munud, a dyro hi i mi."

Tynnodd Iefan y fodrwy, dan wylo, a rhoddodd hi i'r athraw.

"Wylo'r wyt ti," meddai'r athraw, a'r fodrwy yn ei law. " Ffei o honot, wylo; a thithe mewn ysgol mor dda. Gwna'n fawr o dy fraint, 'doedd yr un ysgol fel hyn pan oeddwn i'n fachgen. O na chawn i fod yn dy le di!"

Gydag iddo ddweyd y gair, drwy rin y fodrwy, aeth yr hen athraw fel y bachgen, a gallasech feddwl fod dau Iefan Hopcin yn yr un ystafell.

"Beth ydi hyn, beth ydi hyn?" ebe'r athraw, mewn cyffro mawr.

Esboniodd Iefan natur y fodrwy oedd yn ei law, gan ddweyd y doi y peth bynnag a ewyllysiai i'r hwn a'i gwisgai. Yna cymerodd y fodrwy o law yr athraw, gan ddweyd mai ei dro ef oedd y nesaf i ewyllysio. "O'r gore, fy machgen i," ebe'r athraw, "dywed wrth y fodrwy am fy rhoi yn fy llun fy hun, fy machgen pert i."

Ond y peth a wnaeth Iefan oedd ewyllysio bod fel yr athraw. A dyna'r bachgen a'r athraw wedi newid llun. Aeth Iefan o'r ystafell chwipio i'r ysgol, ac at ddesc yr athraw. Rhoddodd wydrau'r athraw ar ei lygaid, a meddyliai'r plant i gyd mai'r athraw oedd. Ond yr oedd yr athraw, druan, yn yr ystafell chwipio. Aeth y chwipiwr yno; a chlywodd y plant waeddi mawr. Toc daeth y chwipiwr allan, a chan foes-ymgrymu tua'r ddesc, dywedodd,—

"Syr y mae Iefan Hopcin o'i go. Dywed mai efe ydych chwi, syr. Ac am hynny, syr, mi a'i chwipiais ef yn waeth o'r hanner."

"Dos yn ôl ato," ebe Iefan, "a dywed y caiff ei chwipio'n waeth eto os dywed mai y fi ydyw. A ydyw wedi cyfaddef mai efe laddodd y cywion ieir?"

"Na, syr, y mae'n gwadu'n waeth nag erioed.

Nid y fi ddaru,' meddai, ' ond Iefan Hopcin.' A beth mae hynny'n feddwl, syr, nid wn i ddim yn wir. Yr ydych chwi'n hen ac yn gall, hwyrach y gwyddoch chwi."

"Gwn yn dda," ebe Iefan, "dywed wrtho am beidio dweyd gair wrth neb. a phâr iddo ddyfod i ysgrifennu Kindness is the highest virtue gan waith."

Synnai'r plant pam yr oedd yr hen athraw mor fwyn, ac yntau yn un mor greulon gynt. Ond ni wyddent hwy ddim am y fodrwy.

Dyna'r stori glywodd Del; a daeth swn o'r bellen i ddweyd, hefyd, y cai ychwaneg o hanes Iefan Hopcin a'r fodrwy.

"Ha! ha!" medd Del yn llawen,
"Daeth Ifan bach yn gawr;
A dyn y llygaid croesion
Yn chwipio'r hen athraw mawr."