Llyfr Haf/Eryr y Môr

Oddi ar Wicidestun
Yr Wylan Benddu Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Pibganydd y Graig

Eryr y Môr

XXXI

ERYR Y MÔR

1. DYWEDAIS wrthych yn y bennod ddiweddaf hanes un o adar tirionaf y môr, y tro hwn wele i chwi ddarlun adar creulonaf y glannau. Ni welais i yr un erioed, ond dyma fel y darlunia y naturiaethwr enwog Audubon ef: Gellir gweld y gorthrymwr di-drugaredd hwn yn sefyll ar frig uchaf coeden, a gwylia ei lygad disglair, creulon, bopeth sy'n digwydd odditano. Gwrendy ar bob sŵn, ni fedr ewig symud heb iddo ei gweld. Mae ei gymar ar goeden yr ochr arall i'r afon, ac os bydd popeth yn ddistaw, geilw arno, fel pe'n ei annog i fod yn amyneddgar. Wrth ei chlywed, egyr yr eryr ei adenydd llydain, a gwna sŵn fel chwerthiniad un lloerig; yna saif yn berffaith lonydd fel o'r blaen, ac y mae popeth yn ddistaw drachefn.

2. A llawer hwyaden i lawr gyda'r afon, ond ni wna'r eryrod un sylw ohonynt hwy; y mae eu bryd ar aderyn ardderchocach. A thoc, clywir gwaedd alarch ar ei aden, gwaedd debyg sŵn utgorn, yn dyfod o bell. Daw ysgrech oddiwrth yr eryres, i alw sylw'r eryr at y peth sy'n dod. Ym- ysgydwa yntau, a rhydd ei blu'n daclus â'i big gam. Erbyn hyn y mae'r aderyn claerwyn yn y golwg, a'i wddf hir yn ymestyn ymhell o'i flaen. Pan fydd yr alarch yn ehedeg rhwng yr adar yr arswyda gymaint rbagddynt, ymsaetha'r eryr oddiar ei gangen gydag ysgrech ofnadwy, sy'n gyrru ias o ddychryn trwy'r alarch. Disgyn drwy'r awyr fel seren yn syrthio, a chyrhaedda ei ysglyfaeth ofnus sydd yn awr ym mhangfeydd anobaith, ac yn ceisio troi a throsi i geisio'i arbed ei hun rhag ei grafangau. Ceisia ddisgyn i lawr at y dŵr. Ond gŵyr yr eryr y medr yr alarch suddo os medr gyrraedd y dŵr, a dianc rhag ei ergyd. Ymsaetha i lawr odditano, ac wrth weld ei grafangau, cwyd yr aderyn dychrynedig i'r awyr drachefn. Toc, y mae'r alarch yn blino, prin y medr anadlu gan ludded a braw. Yn awr tery'r eryr ef dan ei aden â'i grafane haearnaidd, a hyrddia ef i lawr ar osgo i lan yr afon. Yn awr, wedi iddo ddisgyn, gwasga ef i lawr â'i draed nerthol, a gyr ei ewinedd bachog drwy ei gnawd i'w galon. Wrth deimlo cryndod angau'n dod i gorff ei ysglyfaeth, ysgrechia'r llofrudd mewn gorfoledd a llawenydd dros yr holl fro.

Bu ei gymar yn gwylio pob symudiad. Yn awr, ehed yn llawen i lawr i lan yr afon, i gydfwynhau y pryd gwaedlyd.

3. Aderyn rhaib yw'r eryr, ac un creulon. Ond, yn y nyth yn y graig, disgwyl ei rai bach am, dano. Syllant i'r awyr las nes y gwelant eu tad neu eu mam yn dyfod o bell. A lle mae cariad y mae gwledd.

Nid oes ond ychydig wledydd heb eryrod. Ond y mae gwahanol fathau ohonynt,—eryr aur, eryr coch, eryr ymerodrol, ac eraill. Y maent oll, fel teulu, yn debyg i'w gilydd. Y mae iddynt gyrff cryfion, pennau llydain, trem falch a thrahaus, llygaid tanllyd, gwgus, adenydd hirion, crafangau fel haearn. Nid oes dim mor ddidrugaredd â'u rhuthr ar eu hysglyfaeth; clywir ei esgyrn yn malurio yn eu hewinedd.

Mae nyth yr eryr mewn lle unig iawn bob amser. Aderyn unig yw. Rhaid iddo gael mynyddoedd iddo'i hun, a lle pell, anghyfanedd, yn gartref. Cilia o leoedd poblog; anaml iawn y daw eryr i Gymru'n awr, hyd yn oed i Eryri.

Gwna ei nyth ymysg clogwyni, ar dalp o graig. Nyth mawr, llydan a bas ydyw. Ym mis Mawrth y gwneir ef, yn sŵn y stormydd mawr olaf. Rhoddir canghennau mawr ar y graig i ddechrau. Ar y rhai hynny rhoddir canghennau llai. Yna yn uchaf rhoddir canghennau mân, a'r dail arnynt. Bydd y dail hynny, wedi sychu, yn ddigon clyd a chynnes i wely eryr bach.

Chwi synnech, wrth gofio mai'r eryr yw brenin yr adar, ei fod yn dyfod o wy mor fach. Gwyn neu lwydwyrdd yw yr wyau, gydag ysbotiau a marciau tywyllach.

Ni fydd ond rhyw un, dau neu dri o wyau yn y nyth; yn aml ni fydd ond un, heb fyth fwy na thri. Rhai newynog iawn yw'r eryrod bychain. Y mae eu rhieni yn hoff iawn ohonynt, fel y maent yn hoff o'i gilydd. Dônt a bwyd iddynt yn ei bryd. Ond bob tro y caiff yr eryrod bach fwyd, bydd ysgyfarnogod bychain heb fam, cywion rhyw aderyn arall heb neb i'w bwydo, neu ddafad heb oen. Ie, cyn hyn, aethpwyd â phlentyn bach i fyny i'r nyth.

Dywedir bod eryrod dof wedi byw i fynd dros gan mlwydd oed.

Nodiadau[golygu]