Llyfr Haf/Pibganydd y Graig

Oddi ar Wicidestun
Eryr y Môr Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Yr Hwyaid Eider

Pibganydd y Graig

XXXII

PIBGANYDD Y GRAIG

1. Y MAE enw Pibganydd y Graig yn awgrymu dau beth amdano, sef ei fod yn ganwr, a bod ei gartref ymysg y creigiau.

Y mae'n ganwr bach eithaf mwyn. Tua diwedd Gorffennaf a dechrau Awst y clyw ar ei galon ganu. Cân yn fuan fuan, fel pe am ddod i'r diwedd ar unwaith. Nid oddiar ei graig y cân, ond cwyd i fyny i'r awyr a'i adenydd ar lawn led, erys ar ei aden fel pe'n nofio'n araf trwy'r awyr, ac yna disgyn yn hamddenol i'r llawr, fel pe wedi gwneud ei ddyletswydd wrth ganu.

2. Yn yr Alpau ceir ef yn aml iawn. Ond nid yw'n hoffi'r eira; oherwydd, weithiau, llithra'r eira ar ei nyth, a lletha ei rai bach. Felly cilia i lawr o flaen yr eira, daw i'r dyffrynnoedd, lle y caiff bryfed yn fwyd ar lannau'r afonydd. Yno caiff ei fwyd yn y corsydd, ac agen yn y graig i osod ei nyth ynddi.

Yn ein gwlad ni, ni cheir ef byth bron ond ar lan y môr, yn enwedig lle mae'r traeth yn greigiog, a lle ceir y llanw'n golchi dros y creigiau.

3. Aderyn gwyrdd-dywyll yw Pibganydd y Graig, gydag ysbotiau duon ar ei gefn a rhai gwynion ar ei fron. Mae llain wen dros ei lygad, ac y mae ymylon golau i'w adenydd.

Mae o chwech i saith modfedd o hyd. Hyd ei aden yw tair modfedd a hanner, a hyd ei gynffon yw dwy fodfedd a thri chwarter.

Rhoddir y nyth lle na all dim ddisgyn ar yr wyau : mewn agen craig, mewn twll, neu dan gysgod coeden yn agos at ei bôn. Cartref digon brau yw cartref pibyddion bach y graig. Bydd o bedwar i saith of wyau yn y nyth, rhai gwyn a gwawr werdd, a chyda brychau o wyrdd tywyll.

Ar y tywod yn y gwymon y cânt eu bwyd. Creginbysg bychain sydd wrth eu bodd. Pan ar lan y môr, eisteddwch am ennyd i edrych arnynt yn chwilio am eu bwyd mor ddistaw, mor ddyfal, mor amyneddgar ydynt. A pheth da iawn, bwytânt y cregynbysg fydd yn difa rhwydi'r pysgotwr.

Nodiadau[golygu]