Llyfr Haf/Yr Hwyaid Eider

Oddi ar Wicidestun
Pibganydd y Graig Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Yr Ehedydd

XXXIII

YR HWYAD EIDER

1. MI gredaf mai ar lannau'r afon Eider, rhwng Holstein a Schleswig, y gwelwyd yr hwyaden brydferth, werthfawr, a rhadlon hon gyntaf. Ond anaml y daw mor bell i'r de a hynny. Moroedd y gogledd yw ei hoff gartref. Ceir hwyaid eider wrth y miloedd ar draethellau Norway, Spitzbergen, Siberia, a Gogledd Amerig. A hwy yw y prydferthaf o'r hwyaid. Gwyn a du ydynt, ond y mae peth gwyrdd ar eu pennau, a choch gwan ar eu bronnau. Y mae eu plu yn dewion. yn wlanog, ac yn hynod esmwyth.

Adar y môr ydynt. Ant i fyny hafnau Norway gryn gan milltir i ddodwy a nythu, ond nid ânt fyth ymhell o gyrraedd dŵr hallt ac eangderoedd y môr. Gwnânt eu nythod ym Mai a Mehefin ar greigiau a llethrau rhyw ynysig. Heliant ryw beth a fedrant gael i wneud ochr allan y nyth, ond gwnânt y tu mewn blu gwynion esmwyth eu bronnau eu hunain. A phan godant oddiar eu nyth i chwilio am fwyd, y mae digon o bysg-gregyn iddynt ar lan y môr,—rhônt fan blu ar yr wyau i'w cadw'n gynnes. Ymhen rhyw bum niwrnod ar hugain daw yr adar bach prydferthaf a welsoch erioed o'r wyau. Ant i'r môr cyn gynted ag y gallont. Ni allant gerdded dim llun, ac afrosgo iawn y cerdda eu tad a'u mam, syrthiant ar eu hochrau ac ar eu pennau beunydd. Ond gadewch iddynt fynd i'r môr, mor brydferth y nofiant!

Yr Hwyaid Eider

2. Wedi i'r cywion adael eu nyth, daw pobl i gasglu'r plu y buont mor gynnes ynddynt. Ceir pwys o'r plu ysgeifn, cynnes, mewn rhyw ddeuddeng nyth. Gwn am blant bach sy'n cysgu'n gynnes a hapus dan gwiltiau eider down. Tybed y gwyddant fod yr un plu wedi bod yn cadw adar bach tlysion yn gynnes ym moroedd oerion y gogledd pell?

Y mae plu yr hwyad eidler mor werthfawr yn awr fel y cymerir gofal mawr gyda'r adar. Paratoir lle iddynt ar ynysoedd, a dônt yn eiddo i berchenogion yr ynysoedd, fel pe buasent wartheg neu ieir. Dont yn ddof iawn. Weithiau deuant i gaban y gwyliwr i wneud eu nyth. Ni ddiangant oddiar eu nyth er neb; ond rhônt ryw bigiad chwareus i chwi os ewch yn rhy agos atynt. Ond gadawant i chwi eu codi oddiar eu nyth, ac edrych ar eu hwyau, a'u rhoi i lawr yn eu hôl. Nid yw'n rhyfedd fod plu mor esmwyth yn tyfu ar adar mor fwyn.

Nodiadau[golygu]