Llyfr Haf/Teulu'r Geneu Goeg

Oddi ar Wicidestun
Nadroedd Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Un Hyll (Y Crocodeil)

XXIV

TEULU'R GENEU GOEG

MAE'N debyg nad oes yr un teulu yn cael cymaint o gam â theulu diniwed y fadfall neu'r geneu goeg. Nid oes ond tri o'r teulu mawr hwn yn y wlad hon, sef y geneu goeg, madfall y tywod, a'r neidr ddafad.

Ar greigiau heulog y ceir y geneu goeg. Y mae'n hollol ddiniwed. Pan wêl chwi, yswatia i lawr ar y graig, ac y mae'n debyg iddi o ran lliw fel y mae'n anodd iawn ei gweld. Os tybia eich bod wedi ei gweld, ceisia ddianc yn afrosgo i ryw dwll. Os deliwch hi gerfydd ei chynffon,[1] hwyrach y tyr y gynffon yn eich llaw, a dihanga hithau tra foch chwi yn llawn syndod. Tŷf cynffon newydd yn lle yr hen. Er mor ofnus yw, y mae'n bosibl ei dofi. Yn y tywod heulog cynnes yr hoffa madfall y tywod fod. O wyau y daw ei rhai bychain hi.

2. Geneu goeg heb draed yw'r neidr ddafad. Y mae'n debyg iawn i neidr, a dyna achos ei thrallodion. Erlidir, lleddir hi'n ddidrugaredd, lle bynnag y ceir hi. Ac eto y mae'r fwyaf diniwed o holl greaduriaid Duw. Ond pwy a gred hyn wrth weld ei chorff gwyrdd yn ymrwyfo drwy'r glaswellt? "Neidr yw, lladder hi," ebe pawb. Y peth a ddylent ei wneud yw ei dal,[1] a'i chroesawu i'r ardd, oherwydd ei bwyd yw'r malwod sy'n bwyta dail ieuainc eich hoff blanhigion.

Geneu Goeg

Geilw rhai o blant y Saeson hi'n bryf dall. Ond y mae ganddi lygaid bychain disglair, a medr eu cau; a phan welir hi'n farw, yng nghaead y byddant. Ond ni all neidr gau ei llygaid. Y mae rhyw orchudd corn caled trostynt i'w hamddiffyn; a dyna pam y mae eu trem mor oer, nes gyrru ia sau drwoch.

3. Myn anwybodaeth gredu mai sarff yw'r neidr ddafad. Ac wrth feddwl am sarff, meddyliant am y boa conscriptor a fedr falu esgyrn bustach, neu am y puff adder y bydd ei cholyn yn farwol bob amser. Meddyliant hefyd am y sarff ardderchog y cymerodd Satan ei lun wrth ddod a phechod i'r byd hwn.

Meddyliwch am angel mawr, ardderchog, anwybodus. Wrth gwrs, nid oes yr un. Ond meddyliwch am un felly yn dod i'r byd yma, ac yn lladd plant bach tlysion cherwydd iddo glywed am ryw gewri creulon gynt, y rhai y byddai y Jac bach dewr hwnnw yn eu lladd. Oni fyddai hynny'n gam? Ond dyna a wnawn ni â theulu'r geneu goeg.

Nodiadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Nodwch. Mae bellach yn anghyfreithiol i drin, cyffwrdd, neu beri niwed i herpetofauna yng Nghymru a gweddill y DU. Gweler Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru am ychwaneg o wybodaeth