Llyfr Haf/Un Hyll (Y Crocodeil)
← Teulu'r Geneu Goeg | Llyfr Haf gan Owen Morgan Edwards |
Crwban → |
Un Hyll
XXV
UN HYLL
1. Y MAE'N debyg bod peth ymryson rhwng y crocodeil â'r aligetor am fod y creadur hyllaf sydd yn bod. Y mae trwyn y crocodeil yn hir, a thrwyn yr aligetor yn fyr; a rhai hyll iawn yw'r ddau.
Y mae amlenni o gragen am y crocodeil; ni wna saeth oddiar fwa ond neidio'n ôl oddiarno, ac ni wna llawer bwled ond flatio fel botwm ar ei gragen. Y mae ei safn anferth yn agored, gwelir ynddi ddwy res hir o ddannedd llymion, ac y mae ei thu mewn yn goch fel gwaed. Mae rhyw edrychiad hanner llechwraidd, hanner mileinig, yn ei lygaid bychain creulon. Ac am ei gorff, llusgo'n afrosgo y mae.
Ceir y crocodeil ym mharthau poethion Affrig, ac yn yr India hefyd. Y mae crocodeil y Neil yn adnabyddus er bore'r byd, ac addolid ef gan yr hen Eifftiaid, y rhai a dybiai ei fod yn llun o'r duw oedd yn achos pob drwg. Y mae dros bymtheg troedfedd o hyd. Gwyrdd golau, gydag ambell lecyn melyn, yw lliw crocodeil yr Aifft; ond du yw crocodeil Senegal. Ceir hwy yn yr India, a Siam. Y maent yn berygl iawn pan yn newynog; ymosodant ar ddyn, a'r unig ffordd i ymachub rhagddynt yw gwthio bysedd i'w llygaid; pan wneir hynny, gollwng y safn hir ei hysglyfaeth ar unwaith.
2. Yn yr Amerig, yng nghorsydd Misisipi ac Amason y mae'r aligetor a'r caiman. Gorweddant ar fin afonydd, heb ddim ond eu pennau allan, a chydiant yn ddidrugaredd ym mheth bynnag a ddaw heibio iddynt,—pysgodyn yn nofio, plentyn yn chwarae neu'r jaguar creulon yn chwilio am ei ysglyfaeth.
Llusga'r teulu hwn eu hysglyfaeth dan y dŵr nes y boddo. Yna rhwygant ei gnawd yn ddarnau trwy dynnu darnau o hono â'u dannedd. Gallant hwy fod tan y dŵr, a chadw eu hysglyfaeth tan y dŵr, tra fo eu ffroenau hwy eu hunain yn yr awyr.
3. "Tlws pob peth bychan," ebe'r hen air. A yw y crocodeil bach yn dlws? O'i gymharu â'i dad a'i fam, y mae. Ond nid yw hynny 'n dweud llawer. Daw o'r ŵy,—ŵy ychydig mwy nag ŵy gwydd, yn barod i ymladd trosto'i hun. Oi gymharu â'r hen grocodeil, y mae'n beth bychan iawn. Y mae ei lygaid yn fawr, y mae ei geg yn agor o hyd, a daw o'r ŵy â dwy res o ddannedd gwynion, llymion iawn. Deil bysgod yn bennaf; ond, bob yn dipyn, daw yntau'n ddigon cryf i dynnu dafad i lawr i'r dŵr, os daw honno i yfed. o fin yr afon.