Llyfr Nest/Ystraeon y Dyn Unig

Oddi ar Wicidestun
Ystraeon yr Hen Forwr Llyfr Nest

gan Owen Morgan Edwards

Ystraeon y Teithiwr

Ystraeon y Dyn Unig.

I.—Y DYN UNIG

YMYSG pobl y llong yr oedd dyn a golwg unig iawn. Byddai bob amser ar ei ben ei hun. Er fod pawb arall yn siarad yn gyfeillgar a'u gilydd, yr oedd ef yn osgoi pawb. Meddyliai Nest ei fod yn wael, yr oedd golwg flinedig arno, yr oedd ei wyneb yn welw a'i ddwylaw yn aflonydd. Ond, bob yn ychydig, gwelai fod y môr yn ei iachau. Eisteddai'n fwy llonydd ar y bwrdd, ac yr oedd ambell wen yn dod i'w wyneb. A rhyw ddiwrnod, gofynnodd i Nest a'i thad a oeddynt hwythau yn chwilio am iechyd.

Ar ol hynny, eisteddai Nest yn ei ymyl ar fwrdd y llong yn aml. Ac o ddydd i ddydd, dywedai'r gŵr unig ei hanes.

"Yr oedd gennyf eneth fach anwyl fel y chwi, Nest fach," meddai. "Ond bu farw yn bump oed, ac y mae ei bedd mewn mynwent yn y mynyddoedd. Yr oedd ei mham wedi ei rhoi yno i huno o'i blaen hi. Ac yr oeddwn innau'n teimlo'n unig iawn. Ni wyddwn i ba le i fynd, na pha beth a wnawn. Crwydrais o un lle i'r llall, heb amcan yn y byd. Ryw ddiwrnod, yr oeddwn yn Llundain, a gwelais wraig yn wylo'n chwerw wrth adrodd ei hanes wrth swyddog, a hwnnw'n methu rhoi fawr o gymorth iddi. Gofynnais a fedrwn i wneud rhywbeth. Dywedodd hithau mai wedi colli ei geneth fechan yr oedd, a'i bod mewn pryder mawr. Ymroddais innau i chwilio am yr eneth, a chefais hi. A pheth rhyfedd oedd llawenydd y fam a'r ferch pan yn cwrdd. A thybiwn innau,—Tybed ai fel hyn y bydd yn y nefoedd pan fyddaf fi'n cwrdd âg Enid fach wedi'r holl grwydro ?

"O hynny allan, dyna fu'm gwaith,—sef chwilio am blant coll. Chwiliais am gannoedd, a'r rhan amlaf medrais ddod a hwy'n ol i freichiau eu rhieni. A phob tro y gwelwn eu llawenydd, tybiwn mai felly y byddai yn y nefoedd pan gyfarfyddwn Enid fach. "Ni wyddoch chwi, Nest, mor greulon y gall dynion fod, na faint mae plant yn orfod dioddef. Yn yr hen amser, byddai dynion yn dyfeisio'r poenau mwyaf erchyll. Dioddefodd y merthyr ei losgi ar dân araf, dioddefodd llawer tyst ei ddadgymalu ar yr arteithglwyd. Yn naeargelloedd y Chwilys y bu'r dioddef mwyaf ond odid,—dioddef wnai ddyn yn wallgof cyn ei ladd. Rhaid croesi at y Twrc cyn clywed am flingo dynion yn fyw. Ofnalwy yw meddwl am ddynion yn cael pleser drwy wylio dioddefiadau rhai ereill.

Trwy drugaredd, y mae arteithio wedi diflannu o gyfraith gwledydd gwareiddiedig erbyn heddyw. Ond y mae gan y creulon ffyrdd eto i lenwi enaid ei ysglyfaeth ag ing. Un o'r ffyrdd gwaethaf yw clwyfo rhieni trwy eu plant. Dywedodd un barnwr Prydeinig yn ddiweddar na ddanghosai ef rithyn o drugaredd at y creulondeb mwyaf dirmygus,—arteithio mam trwy boenydio ei phlentyn.

"Mae plant yn gorfod dioddef llawer oherwydd pechodau rhai ereill. Maent hwy, druain, yn hollol ddiniwed; a maddeuant i'w poenydiwr pan fo'r boen wedi darfod.

"Y tro diweddaf yr achubais blentyn o afael adyn, torrodd fy iechyd i lawr yn lân. Dywedodd y meddyg fod yn rhaid i mi orffwys, a gadael fy ngwaith am dymor. A dyma fi ar y llong ynghanol y môr. Nid oes bosibl i blentyn fynd ar goll yma. Ni all neb eich lladrata chwi, Nest. Y mae'r môr dibryder o'n cwmpas, ac ni all neb ddianc drosto.

"Erbyn hyn yr wyf yn well o lawer. Erbyn y down i Benrhyn Gobaith Da, byddaf yn barod i ail ddechreu."

"Gwelsoch bethau rhyfedd iawn," ebe Nest.

"Do. A hoffech i mi adrodd ystori i chwi bob bore? Am ryw wythnos, hwyrach, rhag i chwi flino."

"Ni fuasai dim yn well gennyf. Dof atoch bob bore."

A dywedodd y gŵr unig yr ystraeon sy'n dilyn.

UN O HEOLYDD FENIS

II. Y BACHGEN TAIR OED

"AR GOLL, bachgen tair oed. Collwyd ef o dŷ ei rieni trallodedig tua phum munud wedi saith nos Sadwrn. Yr oedd maen geni wrth ben ei lygad chwith."

TUA dwy awr ar ol i'r rhieni anfon yr uchod, gyda'u cyfeiriad, i'r papur newydd, yr oeddwn wrth eu drws. Yr oedd yn amlwg i mi oddi wrth yr hysbysiad eu bod yn dad a mam gor-hoff a, gor-ofalus o'u plentyn. Y munud y gwelais hwy, cadarnhawyd hyn yn fy meddwl. Dau heb fawr o allu meddyliol oeddynt, ond gwelais eu bod ynghanol llawnder, ac mai eu plentyn tair oed oedd goleuni y tŷ,—gwelwn ei deganau costfawr ym mhob cyfeiriad.

Bum beth amser yn methu cael dim gwybodaeth glir. "Peidiwch galaru," ebe fi, er mwyn eu tawelu, "bydd yn hawdd cael eich bachgen oherwydd y maen geni oedd ar ei ael." Ond wylo'n chwerwach a wnaethant; a sylwodd y fam, rhwng ei hocheneidiau, eu bod wedi bod yn galaru am dair blynedd fod yr anurdd hwnnw ar wyneb y bachgen. "Pe buasem wedi diolch mwy am dano, yn lle gofidio fod y maen geni ar ei dalcen, meddai, "buasai Rhagluniaeth wedi ei adael inni." Ceisiais ei chysuro trwy ddywedyd mai ar gyfer adeg gyfyng o'r natur yma y rhoddasai Rhagluniaeth y marc ar ei wyneb; a fod hynny'n arwydd sicr y ceid ef yn ol.

Llwyddais i'w tawelu o'r diwedd, a chefais y wybodaeth oedd arnaf eisieu. Penderfynais ar unwaith mai nid lladron plant cyffredin a'i lladratasai, a fod un o'r morwynion yn gwybod rhywbeth am ei ddiflaniad. A chefais yr hanes hwn,—gadawyd cyfoeth mawr i'r wraig, oherwydd fod cefnder iddi wedi digio eu modryb. Ni adawyd i hwnnw ond busnes digon di-ennill, oedd yn gofyn mynd yn ol a blaen yn aml rhwng Llundain a Fenis. Yr oedd ar y gŵr a'r wraig ofn y cefnder,—gŵr caled a dichellgar iawn oedd, ebe hwy. "A'r bachgen oedd yr unig beth rhyngddo a'r arian", ebe'r wraig, gan ail dorri i wylo.

Mynnais weld y morwynion a'r gweision, a chefais ddarluniad ganddynt hwy o'r cefnder. Y peth nesaf oedd edrych a oedd gartref. Colli amser fuasai mynd i chwilio. Troais yn sydyn at y forwyn a amheuwn, a gofynnais iddi'n ddisymwth,—"Lle mae Mr. Marks?" Wedi ei thaflu oddiar ei gochel gan sydynrwydd y cwestiwn, atebodd,—Wedi mynd i Fenis."

Yr oedd y trên nos gymerai ef newydd fynd. Ond gwyddwn y medrwn ei gyfarfod ym Milan trwy gymeryd ffordd arall fwy costus.

Nawn drannoeth, yn lluddedig ddigon, yr oeddwn yng ngorsaf Milan. Diflannodd fy lludded i gyd mewn eiliad wrth weld dau ddyn a phlentyn yn mynd i drên Fenis. Dyn tal, gyda thrwyn a llygaid eryraidd oedd un,—ie, Mr. Marks oedd. Gŵr byrr, cydnerth, oedd y llall, gyda thalcen bychan, trwyn ysgwâr, a phen crwn fel bwled. Yr oedd cadach dros lygad chwith y plentyn.

Eis i'r un cerbyd a hwy. Dechreuodd y plentyn ystrancio; ac yr oedd yn amlwg na wyddai yr un ohonynt sut i drin plentyn. "Eisio tynnu'r cadach, eisio mynd at mami a tada,"—dyna ddau fyrdwn ei wylofain. Yr oedd y plentyn yn mynd yn feistr glân arnynt, er ei fygwth a'i guro. Er mwyn cael siarad â hwy, cynhygiais eu helpu. Gofynnais a gawn ei roi i gysgu; rhoddais feddyglyn iddo, yr oeddwn am iddo fod yn effro y nos wedyn os oedd fy nghynllun i lwyddo. Cyn pen pum munud, yr oedd y bachgen yn cysgu'n dawel ar lin y gŵr byrr, ac yr oedd hwnnw yn ei ddal fel pe buasai'n beiriant dynameit ar fin ffrwydro, ac nid fel y bydd y cyfarwydd yn cydio mewn baban.

Daethom yn dipyn o gyfeillion. Dywedodd y tal du eu bod yn mynd a'r bachgen at ei fam i Trieste; a chyfaddefodd y byrr,—fel pe buasai eisieu cyfaddef,—nad oeddynt fawr o law ar drin plentyn. Yr oedd y bachgen yn dal i gysgu pan gyrhaeddasom Fenis. Aethom yn yr un gondola; a chawsom ein bod yn mynd i'r un gwesty. Erbyn hyn, yr oeddwn yn credu nad oeddynt am ladd y plentyn; ond tybiwn yn sicr nad oeddynt yn meddwl i'w dad a'i fam ei weld byth mwy. Ei gyfoeth, er na wyddai ef ddim am dano, oedd perygl y bachgen; a'r maen geni ar ei ael, er na phoenodd ef erioed ynghylch hwnnw, oedd y peth tebycaf o ddod ag ef yn ol i ddedwyddwch ac at ei fam.

Y noson honno, yr oedd fy ystafell wely i ar gyfer eu hystafell hwy. Ystafell ddau wely oedd eu cysgle hwy, ond nis gwn gyda pha un ohonynt yr oedd y bachgen. Gwyddwn y cawn wybod cyn hir.

Deffrodd y bachgen o'i gwsg hir pan oedd pawb arall yn dawel. Yr oedd yn newynog, yn groes, ac mewn lle dieithr. Gwaeddai dros bob man am ei fam a'i dad, ac am dynnu'r cadach. Ceisiai ddau ei dawelu; yna clywais hwy'n tyngu. Toc, dyma gnoc ar fy nrws; a daeth y gŵr hir i mewn, a'r bachgen yn cicio ac yn gwaeddi yn ei freichiau. Yr oedd y gŵr byrr yn dal y ganwyll y tu ol, a golwg hanner effro arno. Teflid cysgod y gŵr hir ar y mur gyferbyn, ac yr oedd golwg ddu, frawychus, arno fel cysgod lofrudd.

"A fedrwch chwi ddim rhoi rhywbeth i'r cythgam bach yma eto," meddai," iddo gysgu dan y bore? Y mae rhai'n meddwl y gall plentyn gysgu o hyd. "Medraf," meddwn innau, "gadewch ef i mi." Diolchodd y ddau o waelod eu calon, ac aethant ar ffrwst i'w gwelyau'n ol; a chyn pen pum munud, clywn gyd-chwyrnu hyfryd.

Gwisgais am danaf gynted y gallwn. Nid oeddynt wedi tynnu am y bachgen; ac edrychai arnaf gyda llygaid mawr agored, gan fwyta teisen roddaswn iddo, yn rhy brysur i wylo yn awr. Tynnais y cadach oddiam ei ben, er mawr foddhad iddo; a gwelwn y maen geni yn eglur. Aethom allan ein dau, talais y bil i'r porthor nos; a chyn torri gwawr y bore, yr oedd hanner gwastadedd gogledd yr Eidal rhyngom a'r ddau gysgadur.

Daeth y bachgen a minnau'n gyfeillion mawr ar y ffordd; ac yr oedd y croesaw gawsom yn ei gartref y tu hwnt i bob terfyn,—yr oedd yno wylo a chusanu, a chusanu a wylo, am oriau.

Ni fynnent roi'r peth yn llaw'r gyfraith, ac ni ddywedasant air wrth neb yn lle cafwyd y bachgen. Ymhen hir a hwyr, mentrodd y cefnder yn ei ol. Tybed ei fod yn credu mai breuddwydio ei fod wedi lladrata'r bachgen a wnaeth?

Mae gofal y rhieni am y plentyn yn fwy nag erioed. Byddaf yn gorfod mynd yno yn awr ac yn y man i ddangos fy mod ar gael eto, os bydd taro. Mae'r bachgen yn tyfu'n fachgen braf; ac, er mai ychydig o allu sydd yn ei rieni, bydd yn fuan iawn yn hen ddigon cyfrwys i edrych ar ei ol ei hun. Os ceisia'r tal du ei ddrygu eto, caiff weld ei fod wedi taro wrth ei drech.

III-GENETHIG CHWECH OED, GWALLT EURAIDD HIR

"AR GOLL, genethig chwech oed, gwallt euraidd hir, o'r enw Irene Lee, yn siarad Saesneg ac Eidaleg. Het wellt wen, a rhosyn coch arni; blouse gwyn a ffrog las; esgidiau melynion. Gwelwyd hi ddiweddaf fore Sadwrn, yn y Piazza Cavour, a'i gwyneb tua'r porthladd, &c."

Anfonwyd y Nice Courrier i mi gan gyfaill o Genoa, a'r hysbysiad uchod ynddo. Dywedai fod pawb yn cydymdeimlo 'n ddwys â rhieni'r eneth gollasid,—Saeson cyfrifol yn byw yn Genoa. Yr oeddis wedi chwilio'n ddyfal am bythefnos, ond heb gael syniad i ble'r aethai hi.

Cyrhaeddais Genoa ar fore Mawrth yn Ebrill, ond ni chafodd tlysni diarhebol traeth Liguria yrru fy neges o meddwl. Deallais yn union eu bod wedi cyfyngu eu hymchwiliadau i'r porthladd prysur, oherwydd mai ar y ffordd yno y gwelwyd yr eneth ddiweddaf. Ond nid oedd bosibl cael pen ei llwybr yno.

Wedi holi a chwilio, daethum i'r penderfyniad nas gallai drwg fod wedi digwydd liw dydd, yn heolydd llawnion Genoa, i blentyn. Rhaid ei bod wedi mynd i ffwrdd gyda'r trên, ac o'i bodd.

Holais y teulu am ei dull. Un serchog iawn oedd, a hynod hoff o'i thad a'i mam, ac o'i chwaer ieuengach. Nid oedd ganddi fryndiau ond yn Genoa. "Ond, wrth gofio," ebe ei mam, bu arni hiraeth mawr ar ol Margaret Hermann." Deallais mai morwyn oedd y Fargaret honno, droisid o'i lle am ladrad, er ei bod yn eneth weithgar a deallus iawn. Almaenwyr oedd ei theulu, ond yn byw yn rhywle yn Naples. Yr oedd wedi lladrata dros ugain punt; ond ni erlyniasid hi, oherwydd serch y plant ati, ac oherwydd ei gwasanaeth.

Cerddais drannoeth heibio'r gwyliwr ar ffordd y Mura della Cava. Yr oedd of wedi gweld llawer dwy yn ateb i'm desgrifiad; ond, erbyn holi, nid oedd efe yn gwylio y diwrnod hwnnw. Eis ymlaen i orsaf Sturla, yr agosaf at orsaf Genoa. Cefais ben y llwybr yno; yr oedd merch ieuanc a genethig Saesneg wedi codi tocyn i Livorno. Cyrhaeddais Livorno gyda'r trên cyntaf, a chefais eu hanes yn cael cwch ar eu hunion i fynd i Naples. Gynted y gallwn, yr oeddwn innau yn Naples hefyd, ac yna collais pob craff arnynt.

Bum yn cerdded am ddiwrnodau; a theimlwn yn sicr fod Irene Lee yn fy ymyl yn rhywle. Ryw nawn, pan oeddwn yn synfyfyrio ger y Bau, gofynnodd rhywun i mi yn Saesneg faint oedd o'r gloch.

Troais ac edrychais, a gwelais mai Margaret Hermann ac Irene Lee oedd yno. Tybiai Irene, druan, mai ei mam oedd wedi peri i Margaret ddod a hi i'r ysgol yn Naples. Ond ni wn i hyd y dydd heddyw prun ai cariad at yr eneth, ynte awydd dial ar ei mham, yw'r gwir esboniad ar waith yr Almaenes.

IV.—BACHGEN PUMP OED, GWALLT DU, LLAES, LLYGAID GOLEU

"AR GOLL, bachgen pump oed, gwallt du, llaes, llygaid goleu; mewn dillad morwr. Gwelwyd ef ddiweddaf wrth ddrws tŷ ei dad, Rhagfyr 23, tua phedwar o'r gloch. Rhoddir gwobr dda am unrhyw hysbysrwydd yn ei gylch i'w rieni trallodedig."

Yr oeddwn wedi meddwl treulio Nadolig tawel yn Antwerp, ond dyma'r hysbysiad welais yn y papur yn gyntaf peth wrth fwyta fy mrecwest y diwrnod cynt. Aeth y peth imi ar unwaith mai fi, a myfi'n unig, fedrai ddwyn Nadolig llawen i'r teulu trallodedig hwnnw, oedd yn sylweddoli ing tad wrth golli ei fab.

Curais wrth y drws. Cefais fy hun mewn cartref cysurus, wedi ei barotoi at lawenydd y Nadolig, pan fyddai'r bachgen yn bump oed. Cefais y tad yn nyfnder ei anobaith; danghosodd lythyr imi a wnaeth i'm gwaed fferru o'm mewn am eiliad.

Ond dyma'r hanes yn fyrr. Gŵr o bentref bychan Meer oedd Jan van Steen, wedi dod yn gysurus trwy ddiwydrwydd mawr yn Antwerp, ac wedi priodi geneth harddaf ei ardal enedigol. Eu mab hwy oedd Jan bychan, a gollesid y diwrnod cynt. Yn cyd-chware â'r tad adeg plentyndod ym Meer yr oedd bachgen drwg a chreulon o'r enw Witt, drodd yn ofer iawn. Cashai Jan van Steen oherwydd ei rinwedd, ei lwyddiant, ac yn enwedig oherwydd iddo briodi Margaret,— yr hon a'i gwrthodasai ef gyda dirmyg. Tyngodd wrth Jan y chwerwai ef ei gwpan, a bu am flynyddoedd yn chwilio am ei gyfle. Ond y, peth oedd wedi gyrru dychryn i galon y tad, druan, oedd cael y llythyr hwn y bore hwnnw,—

"Jan Van Steen, y mae'r amser o'r diwedd wedi dod Y mae gweled dy ddedwyddwch wedi gwneud diafl ohonof. Yr wyf yn mynd i uffern heddyw, trwy'r Scheldt. Gwnaf y ddaear yn uffern i tithau tra byddot arni. Ni weli dy fachgen byth mwy, ond bydd yn agosach atat yfory nag y medri gredu. Bydd yn gweddio gyda thi bore yfory, ac yn hiraethu am dy weled yn fwy nag erioed. Byddi di yng nghanol llawnder, bydd yntau'n newynu i farwolaeth. Lle bynnag y byddai fi yfory, nis gallaf ddioddef mwy nag y rhaid i ti a dy fachgen ddioddef. Mwynha'th Nadolig.

Gyda chasineb dy elyn,
PIERRE WITT."

Ceisiais ddarbwyllo'r tad mai dychmygion diystyr dyn wedi ynfydu oedd y llythyr; ond gwelais yn union ei fod yn gwybod digon am Pierre Witt i gredu pob gair. A chyda hynny, daeth cennad i ddweyd fod corff Witt wedi ei godi o'r Scheldt.

Eis i lawr at yr afon ar fy union. Yr oedd corff Witt wedi oeri, yr oedd wedi marw ers oriau. Chwiliasom ei bocedi,—yr oedd heddgeidwaid Antwerp yn fy adnabod yn dda. Nid oedd gwaed ar ei gyllell; ac yr oedd cap y bachgen, weithiasai ei fam iddo, ym mhoced yr adyn. Ond nid oedd dim ond hynny i'm rhoddi ar y llwybr; ac mewn penbleth mawr safwn uwchben y wyneb hagr, mileinig marw, gan ofidio nas gallai siarad, i mi gael rhyw awgrym.

Eis yn ol i geisio cysuro'r tad a'r fam, wedi rhoddi'r heddgeidwaid ar waith, ond nid oedd dim yn ymgynnyg i'n meddwl. Ond tybed a oedd rhyw feddwl i'r llythyr, ynte gwallgofrwydd noeth oedd? Ac wrth droi'r peth yn fy meddwl, gofynnais i'r tad, megis ar fy nghyfer,—

"A wnaethoch chwi ryw gam â Witt erioed ?" Naddo," meddai. "Ond, pan oeddym yn blant ym Meer, sarhaodd y wraig yma, a rhoisom ninnau ef yn y twll tywyll tan lawr yr eglwys."

Pelydrodd goleuni i'm meddwl, a gofynnais yn awchus,

Ple'r oeddych wedi meddwl treulio'r dydd yfory?"

"Yn ein hen gartref, yr oedd ar fy mam gymaint o eisieu gweld y bachgen." Wedi dweyd hyn, aeth teimladau'r tad yn chwilfriw mân; a syrthiodd ei feddwl, druan, i ebargofiant llewyg. Gelwais ar ei was ato: yr oedd gennyf fi waith arall, ac yr oedd rhywbeth yn dweyd wrthyf nad oedd gennyf funud i'w golli.

Yr oedd M. Koft, y cudd-heddgeidwad, yn fy nghyfarfod yn y drws. Ysgydwodd ei ben yn drist, nid oedd ganddo obaith. Gelwais am gerbyd, darn lusgais M. Koft iddo, a dywedais wrth y gyriedydd am yrru nerth carnau'r march i gyfeiriad Meer. Yr oedd y pellder yn ddeng milltir ar hugain, newidiasom geffylau tua chanol y ffordd, ac yr oedd dydd byrr Rhagfyr yn tynnu i'w derfyn pan gawsom ein hunain wrth yr hen eglwys.

Yr oedd goleu ynddi, ac yr oedd yn llawn o blant nwyfus, pawb yn gwneud ei ran i'w phrydferthu erbyn drannoeth. Gofynnais i'r hen dorrwr beddau gwargrwm a gawn fynd i lawr i'r crypt.

"O cewch," meddai, "ond y mae'n oer iawn yno, ni fu neb i lawr ers llawer dydd, ond y marw."

Cawsom lusern. Yr oedd y grisiau'n llaith wyrdd. Ond yr oedd ol traed diweddar yn amlwg arnynt. Curai'm calon yn gyflym, a thybiwn ein bod oes yn cyrraedd y gwaelod. Twll du, brawychus, oedd,—ond yr oedd yn hollol wag. Er hynny',—ai dychymyg oedd?—tybiwn glywed anadliad gwan, methedig.

Gwelwn bob man ond un gornel y tu hwnt i biler. Eis yno,—a daeth popeth yn glir. Yr oedd cauad arch wedi ei roddi ar ei led orwedd yn erbyn y piler. Ac wedi ei strapio ar hwnnw yr oedd y bachgen pump oed,—adnabum ef ar unwaith, oherwydd nid yn aml yr a gwallt du a llygaid goleu gyda'u gilydd. Yr oedd cadach wedi ei rwymo am ei enau fel nas gallai siarad. Yr oedd eto'n anadlu. Ni chollasom eiliad cyn ei ryddhau; ac mewn llai na deng munud, yr oedd mewn gwely cynnes yn nhŷ ei nain. Dywedai'r meddyg y buasai'n byw tan ganol dydd drannoeth pe gadewsid ef fel yr oedd yn y crypt—yr oedd yr adyn wedi trefnu iddo fod ym mhangfeydd ei ddioddef pan fyddai ei dad a'i fam yn diolch uwch ei ben am eni eu Ceidwad.

Nid oes gennyf ond un peth i'w ddweyd eto,—yr oedd y Nadolig hwnnw yn un dedwydd wedi'r cwbl i'r fam a'r tad a'r plentyn a gollesid. Ac yr oedd yn un dedwydd i minnau yn Antwerp.

V—Y MYFYRIWR CRWYDREDIG.

UNWAITH, cefais siomedigaeth fawr. Cafwyd y colledig cyn i mi gael dechreu chwilio. Ac fel hyn y bu.

Yr oedd bachgen o Ddeheudir Cymru, mab i deulu parchus iawn, wedi ennill ysgoloriaeth yn Rhydychen. Daeth adeg ei arholiad terfynol am anrhydedd,—amser pryderus iawn i bob efrydydd.—yn agos. Yr oedd yr arholiad yn dal llawer ar ei feddwl, er nad oedd wedi gwastraffu dim o'i amser. Dywedodd ei athrawon wrtho am gymeryd wythnos o seibiant o flaen yr arholiad; thybiasant ei fod wedi mynd adre.

Daeth dydd cyntaf yr arholiad, ond nid ymddangosodd ef. Pellebrwyd at ei deulu, ond nid oedd neb yn ei gartref wedi ei weld er dechreu'r term. Yna, bu pryder mawr, gartref ac yn ei goleg. Chwiliwyd yr afonydd, ceisiwyd gwynt ar ei lwybr i bob cyfeiriad, ond ni ddaeth dim o'i hanes i'r golwg. Sonnid am fechgyn yn cael eu hud-ddenu i gelloedd yn Llundain, i'w hysbeilio a'u llofruddio, lle llosgid y cyrff i guddio'r erchyll-waith. Ofnai ei dad a'i fam bob peth, ac nid oedd ball ar eu hymchwil.

O'r diwedd, anfonasant ataf fi, a phrysurais innau i Rydychen i geisio olrhain pen llwybr y colledig. Ond gydag i mi osod fy hun yno, cefais bellebyr oddiwrth y tad i ddweyd fod y mab wedi ei ddarganfod.

Ryw fore, daeth llythyr oddiwrtho, o ryw le bychan pellennig ar yr afon Saskatchewan, ym mhellderoedd Canada. Daeth adre, a dywedodd ei hanes. Nid oedd yn cofio dim nes cael ei hun mewn lle o'r enw Battleford, dyna'r enw, yr wyf yn meddwl,—ar gyffiniau eithaf gwareiddiad. Nid oedd wedi meddwl am grwydro felly, nac wedi breuddwydio am wneud; ac ni ŵyr eto pam na pha fodd yr aeth.

Gwn i am aml dro tebyg, ac yr wyf yn credu ei stori bob gair. Pe cai dwymyn, deuai hanes y daith, yn ôl pob tebyg, i'w gof. Yr oedd ganddo flwyddyn arall i efrydu, a graddiodd yn anrhydeddus iawn. Y mae'n awr yn ŵr defnyddiol, ac heb ddim awydd trafaelio.

VI.—MAB Y WRAIG WEDDW

GOFYNNODD cyfaill i mi fynd i bentref bychan yn Lloegr i chwilio am fab i wraig oedd wedi gweld llawer o drallodion, ac oedd yn awr ymron a cholli ei synnwyr oherwydd hiraeth.

Yr oedd wedi bod mewn amgylchiadau cysurus iawn unwaith,—mewn cartref llawn a dedwydd gyda'i gŵr ac un plentyn. Gwraig garedig, hollol ddiddichell, yn credu'r goreu am bawb oedd. A phlentyn serchog, tebyg iawn i'w fam, a theimladau dwys, oedd Frank

Bu'r tad farw, a gadawodd ddigon i'r wraig fyw arno, a digon i roi Frank ar ben llwybr bywyd. Ond, ymhen amser, llwyddodd un arall i ddenu sylw'r weddw. Gŵr mawr, hardd oedd, a chudyn hir o wallt melynddu'n taflu allan o bob cefn. Yr oedd duwioldeb a dyngarwch yn llond ei siarad, a gallasech feddwl mai er mwyn y diamddiffyn yr anfonwyd ef i'r byd. Swynwyd mam Frank ganddo'n lân, a phriododd ef. Yna yr oedd eu harian, a Frank, at ei drugaredd.

Yn fuan iawn trodd y gŵr yn greulawn, a thriniai Frank a'i fam fel pe buasent gŵn. Daeth morwyn hagr yno o rywle, a thri o blant bryntion anrasol. Caent hwy bob danteithion, ond ni chai Frank ond rhyw grystion adawent.

Ystori brudd ydyw, ond rhaid i mi ei dweyd. Trwy gelwydd a brad, profodd y gŵr creulon mewn llŷs cyfraith ddigon i gael gwared o'r wraig a Frank, a phriododd y forwyn. Aethant hwythau, y ddau ddiniwed, i fyw i fwthyn bychan gerllaw. Yr oeddynt yn dlodion iawn; ond yr oedd cydymdeimlad eu cymdogion gyda hwy, a chawsant lawer o garedigrwydd oddiar eu llaw. Yr oedd gŵr y whiskers a'r ffug ddyngarwch, a'r forwyn hagr oedd yn ail wraig iddo, yn cashau y fam a'r plentyn. Yn aml iawn y mae'r erlidiwr yn cashau'r erlidiedig, fel pe buasai wedi gwneud cam ag ef trwy oddef ei greulondeb; ac y mae'n ddiamau fod gan y blaidd ddigon o resymau yn ei feddwl ei hun dros gashau'r oen. Nis gallai y gŵr barfog a'r forwyn oddef edrych ar y ddau y gwnaethant gymaint o gam â hwy, a hiraethent am gyfle i'w poeni.

Ryw fin nos, collwyd Frank. Yr oedd, erbyn hyn, yn saith oed, ond yr oedd wedi cael cymaint o gamdriniaeth fel nad edrychai yn hŷn na rhyw bedair a hanner. Yr oedd ei fam wedi bod yn cusanu gofidiau er adeg ei hail briodas, lladdodd y golled hon hi'n lân. Ni chredai y deuai ei bachgen yn ôl; a sylwyd cyn hir ei bod yn peidio wylo, a fod ei llygaid yn hollol ddiddagrau wrth dywallt ei chwynion.

Anfonodd cyfaill am danaf fi. Clywais yr hanes uchod i gyd. Y mae gennyf ryw ragfarn di-sail yn erbyn mutton chop whiskers, y mae gennyf ragfarn ar sail adnod yn erbyn y sawl fydd yn pregethu ei rinweddau ei hun. Teimlwn yn sicr mai gan y gŵr creulon yr oedd Frank, ond ym mha le? Chwiliais am dair wythnos, nos a dydd bron, ond nid oeddwn ddim agosach.

Tarawodd peth newydd i'm meddwl wrth wrando ar rywun yn dweyd fod Mr. Whiteman,—dyna enw'r dyn,—yn cadw mwy o gŵn ac ieir nag erioed, a'i fod yn gwneud llawer o arian oddiwrthynt. Dywedasant hefyd ei fod wedi ffraeo â'r meddyg ynghylch ei werthasai iddo.

Ryw ddiwrnod, deuais i'r pentref yn ôl, wedi gwneud fy hun mor debyg i feddyg hoff o ddiod ag y medrwn; a chymerais lety yn y dafarn. Aeth y si ar unwaith fod doctor newydd wedi ymsefydlu yn y pentref.

Ymhen dau ddiwrnod, daeth Mr. Whiteman i ofyn i mi a ddeuwn i weld bachgen claf oedd yn gadw o dosturi. "Ond cofiwch," meddai, beidio dweyd gair am dano wrth neb. Dyngarwch sy'n gwneud i mi roi llety iddo; ac y mae hanner pleser gwneud daioni yn colli os caiff y byd wybod fy mod yn ei wneud."

Dilynais ef at ei dŷ—tŷ ddylasai fod yn eiddo Frank,—ac i'r cefn, lle yr oedd sŵn cyfarth a sŵn clochdar ieir. Yno, mewn math o feudy, ar wely gwellt, gorweddai bachgen ieuanc gwelw. Yr oedd ei esgyrn drwy ei groen bron; ond yr oedd rhyw loywder serchog yn ei lygaid wrth edrych yn erfyniol arnaf.

"Fy machgen," ebe fi, "beth a gefaist i'w fwyta heddyw?"

"Ches i ddim heddyw na ddoe," ebai, gyda chipedrychiad ofnus at y dyn, "ond byddwn yn arfer cael y darnau o gig a bara wrthodai'r cŵn bach."

Cuchiodd gwyneb y dyn yn erwin, a gofynnodd rhag i'r llanc ddweyd ychwaneg,—

Beth sydd arno?

"Newyn," ebe finnau, gan edrych ym myw ei lygad. "Faint fydd e byw?" ebai wedyn, mewn tôn hollol ddigydymdeimlad.

Gofynnais iddo ddod allan gyda mi. Dywedais nad oedd gan y bachgen ond ychydig oriau i fyw; a dychrynais ef trwy ddweyd y byddai ef ar ei brawf am ddynladdiad. Wedi dychrynu felly, rhoddodd gennad sarrug i mi ddod a'i fam i weld Frank.

Pan ddaethom yno, yr oedd yn rhy hwyr. Yr oedd Frank ar ei liniau, a'i ddwylaw bychain ymhleth, a'i lygaid wedi cau; ac yr oedd ei ysbryd wedi ehedeg, gyda'i weddi fechan olaf, at ei dad. Yr oedd wedi meddwl, mae'n ddiameu, ei fod wrth ochr ei wely, a fod cwsg yn dod.

Edrychai ei fam arno. Ond, erbyn hyn, yr oedd ei deall wedi tywyllu. Nid ei bachgen hi oedd, ebai hi. "Mae hwn yn denau iawn," ebai, " dim ond esgyrn.'Roedd fy machgen i yn fwy graenus o lawer. Mae hwn wedi newynu; ond cafodd fy machgen i damaid bob pryd, er i ni ar lawer adeg fod heb damaid fy hun."

Mae rhai'n credu nad oes creulondeb at blant yn y byd. Tybia llawer fod diniweidrwydd plentyn yn apelio at y galon galetaf. Gwelais i ddigon i'm hargyhoeddi fod llawer natur rhy ddieflig,—ie, mewn cylchoedd parchus,—i ddioddefiadau plentyn apelio atynt o gwbl.

Bu mam Frank farw yn union wedyn. Daeth rheswm yn ol iddi pan ar groesi i'r byd tragwyddol. Clywodd y rhai a'i gwylient hi yn croesawu ei gŵr a'i bachgen. Os oes digon o ddioddef i'n synnu ar y ddaear weithiau, y mae'n ddiameu fod digon o ddedwyddwch i'n synnu yn y nefoedd adeg ail gyfarfod plant y tonnau.

VII.—AERES Y CASTELL

DYWEDAIS fy mod unwaith wedi methu'n lân, ac y mae y tro hwnnw yn ddirgelwch i mi byth.

Yn union o flaen y Nadolig oedd hi, amryw flynyddoedd yn ôl. Gofynnwyd i mi fynd i blas ger hen gastell enwog. Y mae'r hen le yn adfeilion,- y neuadd ardderchog heb do ond dros rannau o honni, a'r grisiau aneirif sy'n arwain i'r gwahanol ystafelloedd wedi dechreu malurio. Hen adfail mawreddog ydyw, ond mwswgl ac eiddew ac ambell goeden dalfrig yw ei unig breswylwyr,-o leiaf dyna syniad pawb cyn y tro yr wyf yn mynd i adrodd am dano.

Yn ymyl yr hen blas, codwyd tý newydd gan y perchennog, ac yno yr oedd ef a'i wraig a'i blentyn, gyda llu o weision a morwynion, yn byw. Yr oeddwn yn deall eu bod yn gyfoethog iawn; a hawdd oedd dyfalu hynny oddiwrth y gerddi, y chwarau-leoedd, a'r perllannau oedd o gwmpas adfeilion toredig du yr hen gastell.

Cyrhaeddais yno gyda'r nos. Yr oedd yr eneth ar goll,-aeres y cwbl, geneth seithmlwydd oed. Aethai i neuadd yr hon gastell ei hun y noson cynt, a diflannodd megis pe buasai'r ddaear wedi ei llyncu. Yr oedd wedi bod yn yr hen neuadd o'r blaen, ac wedi crwydro llawer ymysg yr adfeilion, ond erioed heb famaeth gyda hi.

Aeth dau beth a fy sylw. Yn un peth, dychryn, ac nid galar, oedd y peth amlycaf ar wynebau'r tad a'r fam. A pheth arall, ni fynnent esbonio paham yr anfonid y famaeth bob amser gyda'r eneth i neuadd y castell. Pan ofynnais hynny, gwelwn yn amlwg eu bod yn cadw rhywbeth yn ôl. Er hynny, prysurais i'r castell, rhag colli dim amser. Tybiwn y gallai fod yr eneth fach wedi syrthio i ryw hen ffynnon sych, neu ei bod mewn ystafell ddirgel, ac yn newynu.

Eisteddais yn adfeilion ystafell y porthor. Yr oedd yn noson dymherus, a chofio mai canol gaeaf oedd. Dechreuais gynllunio beth i'w wneud; a mwyaf yn y byd feddyliwn, anhawddaf yn y byd oedd fy nhasg. Nis gallwn feddwl am ddim ond chwilio yr hen gastell; ac ofer iawn fuasai i un anghyfarwydd ei chwilio wedi nos, tra yr oedd rhai cyfarwydd wedi chwilio pob cornel liw dydd. Tra yr oeddwn ynghanol fy syn-fyfyrdod, wele eneth fechan dlos, a llusern yn ei llaw, wrth ddrws yr ystafell. Yr oedd wedi ei gwisgo yn nillad adeg Rhyfeloedd y Rhosynau, ac ebe hi,—

"Yr ydych chwi yn chwilio llawer am blant, dyma blentyn wedi dod i chwilio am danoch chwi. Mae'r wledd yn barod. Deuwch."

A chyda gwen swynol, trodd ei sawdl. Dilynais hi, ac arweiniodd fi trwy ystafelloedd llawn o filwyr yn pendwmpian ger tanau coed,—oll yn nillad dur y bymthegfed ganrif. Toc, daethom i neuadd ardderchog, a rhoddwyd fi i eistedd ar un o'r ffenestri, wrth ochr y bwrdd. Ni welais le mor ysblennydd erioed,—y torchau uchel, y gwŷr a'r gwragedd yn eu dillad rhyfedd, a sylwais fod yno lawer iawn o blant. Eisteddai yr enethig a'm gwahoddasai yn fy ymyl; a phan ddywedais fod yno lawer o blant, atebodd,-

"Oes, y mae un yn dod yma bob blwyddyn ers pedwar can mlynedd. Myfi ddaeth ddiweddaf." Ond cyn i mi holi ychwaneg arni, yr oedd y cinio drosodd, a rhyw filwr wedi dod i'w chyrchu i ran arall o'r neuadd. Bum yno am oriau lawer, a'r peth olaf wyf yn gofio yw'r ddawns. Yn ystod honno, daeth yr enethig ataf wedyn, ac estynnodd fodrwy i mi,-

"Rhoddwch hon," meddai,"i fy mam.' Yna dawnsiodd ymaith drachefn. Edrychais ar y fodrwy, yr oedd rhuddem amhrisiadwy yn ei llygad, ac wrth i mi syllu ar y cochder dwfn, tlws, daeth cwsg ataf.

Yn y bore deffroais. Teimlwn yn oer iawn. Yr oeddwn yn eistedd ar un o ffenestri toredig yr hen neuadd fawr ynghanol yr adfeilion. Ai breuddwyd oedd y cwbl ynte? Nage, oherwydd yr oedd modrwy a rhuddem yn ei llygad yn fy llaw.

Cyflymais i'r plas. Edrychai y gŵr a'r wraig arnaf gyda rhyw drem nas gallwn ei ddeall, rhyw bryder na welais ei debyg mewn rhieni plant colledig erioed o'r blaen. Gofynnais a oedd ganddynt ddarlun o'r eneth. Oedd. Gofynnais iddynt ei roddi ymysg amryw ereill o ddarluniau genethod o'r un oed. Gwnaethant hynny. Yn y sypyn darluniau gwelais ddarlun yr enethig a'm cymerasai i'r wledd. Gofynnais,

"Ai hon yw eich merch? "

Atebasant mai ie. Yna dywedais, gan wylio eu gwynebau,

" Rhoddodd y fodrwy hon i mi i'w rhoddi i'w rhoddi i'w mam.

Edrychodd y ddau'n graff ar y fodrwy, ac ocheneidiasant. Ond yr oeddwn yn tybied fod sŵn gollyngdod yn yr ocheneidiau.


Ni fynnent fy ngwasanaeth ymhellach. Erfyniais am gael chwilio ychwaneg, ond yn ofer. Gadewais y lle y diwrnod hwnnw.

Clywais hen ŵr yn dweyd ar fy ffordd adre fod llawer o blant wedi eu colli o amgylch yr hen gastell, ac na ddaeth yr un gollwyd byth yn ol.

Dyna yr unig dro, mewn oes o ddeugain mlynedd, y siomwyd fi'n hollol.

Ond, ryw dro, yr wyf wedi penderfynu mynnu chwilio'r hen gastell.