Llyfr Nest/Ystraeon y Teithiwr

Oddi ar Wicidestun
Ystraeon y Dyn Unig Llyfr Nest

gan Owen Morgan Edwards

Ystraeon yr Hen Gadfridog

Ystraeon y Teithiwr

I.—Y TEITHIWR

YMYSG y dyrfa ar y llong yr oedd gŵr cymharol ieuanc, a'i ynni yn tynnu sylw pawb. Teithiwr oedd. Yr oedd rhyw awydd gweld lleoedd newyddion yn ei ddenu yn ei flaen o hyd. Weithiau dyheai am weld lleoedd unig, na fu troed dyn ynddynt erioed; lle gwenai mil o sêr ar aberoedd tawel, a lle'r oedd y lleuad fel pe'n ymdrechu a chymylau'r nos wrth geisio goleuo'r wlad. Dro arall, crwydrai drwy ddinasoedd mawrion, gorlawn o bobl, rhai o'r heolydd yn llawn dwndwr masnach, ereill yn llawn pechod a phla. Bu bron iddo golli ei fywyd lawer gwaith—yn eira'r Pegwn, yn sychdir gwlad y Somali, ar yr Alpau, ac yn anialwch Arabia. Beth, tybed, oedd yn ei alw o'i gartref tawel i'r helyntion hyn?

Gŵr hirgoes, teneu, eiddil, oedd; a thrwyn fel Rhufeiniwr nen eryr, a llygaid duon, gwibiog. Dywedais ei fod yn eiddil, ond golwg felly yn unig oedd arno. Yr oedd ei gyhyrau fel lledr, medrai redeg pum milltir heb golli ei wynt, yr oedd ei afael fel gafael llaw haearn.

Cafodd Nest aml ysgwrs ag ef. Ni wyddai'n iawn sut i ddweyd ystori wrth enethig: ond deallai Nest amryw ddywedai wrthi, a dychmygai lawer o ychwanegiadau atynt yn cysgu'r nos.

"Lle gwenai mil o ser ar aberoedd tawel"

II.—CARLAMU TRWY'R TAN

Y MAE tymlestl o wynt ac eira'n beth digon gerwin yn ein hinsoddau gogleddol ni, ond nid yw ond megis dim wrth yr ystormydd o dân fydd yn ysgubo weithiau dros wastadeddau crinion sychion Awstralia. Gwae i'r neb fyddo ar eu llwybr; llosgir diadelloedd o ddefaid, a gyrroodd o wartheg, yn lludw mewn ychydig eiliadau; syrth coed mawrion, ir, a thai cedyrn, megis llwch i'r llawr dan anadl boeth ddeifiol yr oddaith ofnadwy.

Yr oedd gwraig fferm dair milltir o'r dref wedi dod i Warragul a dau blentyn bach gyda hi. Yr oedd Mr. Loader, ei gŵr, a geneth fechan deirblwydd oed, wedi aros gartref.

Y noson honno, ysgubodd ystorm dân dros y cartref yn y wlad. Gwelodd y tad a'r plentyn y tân yn cau o'u cwmpas, a'r coed tal o gwmpas y tŷ yn dechreu llosgi. Dechreuodd y tŷ losgi hefyd, a rhoddai'r tad bob gewyn ar waith i geisio cadw rhyw lecyn yn nodded i'r plentyn. Ond yr oedd yn mynd wannach, wannach; yr oedd gwres a thanbeidrwydd y tân bron llethu'r tad a'r plentyn. O'r diwedd, cofiodd y tad am y pydew. Cymerodd ei blentyn yn ei freichiau, rhuthrodd trwy'r tân, a. chyrhaeddodd wyneb y pydew. Ac yno y cawsant nodded, a'r goelcerth ofnadwy yn ei hafiaeth uwch eu pennau.

Pan wawriodd y bore, gwelai'r cymdogion y mig du'n codi o'r cartref, a'r flamau'n dal i herio goleu dydd. Aeth cymdogion yno ar feirch. Rhoddodd un Mr. Fowler wisg ledr am dano, a charlamodd i ganol y tân. Prin y gobeithiai neb ei weld yn dod yn ol yn fyw. Ni welai yntau ond tân a lludw ym mhobman. Ond, pan ar droi i ffwrdd, gwelodd rywbeth llosgedig megis yn codi o'r pydew. Carlamodd yno, a chafodd y plentyn yn ddianaf ym mynwes y tad; a'r tad bron yn ddall, ac megis ar drengu.

Tynnodd Mr. Fowler ei wisg ledr, a rhoddodd hi am y plentyn. Yna rhoddodd hi o'i flaen ar ei gyfrwy; a gwelai ei gymdeithion y dyn dewr yn carlamu allan megis o ganol y tân. Mentrodd ef ac un arall yn eu holau, a rhyngddynt, medrasant ddod a Mr. Loader allan yn fyw.

Y rhyfedd ydyw, mewn ystorm mor ofnadwy o dân, na chollwyd yr un bywyd dynol. Ond yr oedd y meirch a'r gwartheg a'r moch a'r defaid oll wedi llosgi'n golsyn.

Sŵn rhyfel sydd yn y byd y dyddiau hyn, a llawer yn meddwl mai rhyfel yw'r lle i ddangos dewrder. Ond, onid canwaith mwy gogoneddus yw'r dewrder sy'n cadw bywyd mewn heddwch na'r dewrder sy'n dinistrio mewn rhyfel?

II.—DRINGO MYNYDDOEDD

UN o'r pethau mwyaf perygl yw dringo mynyddoedd, ond y mae rhyw swyn rhyfedd yn y gwaith. Y mae gogoniant yn y gwaith hefyd. Hir y cofir am y gŵr safodd gyntaf ar ben Mont Blanc.

Y mae y peryglon bron yn anarluniadwy. Yr haf diweddaf, collodd Owen Glynne Jones, dringwr mynyddau enwog, athraw o'r Abermaw, ei fywyd wrth geisio dringo y Dent Blanche, yn yr Alpau.

Yr oedd pedwar ohonynt,—Jones, Hill, a dau arweinydd. Yr oeddynt wodi dringo yn uchel hyd wyneb ia llithrig, ac yr oedd y rhaff gref yn eu cysylltu wrth eu gilydd. Yr oodd talp o graig o'u blaenau, ac yr oedd yn rhaid iddynt fynd drosti. Wrth geisio dringo hwnnw, syrthiodd yr arweinydd cyntaf i lawr ar gefn Jones a'r arweinydd arall, ac ysgubwyd y tri dros y dibyn ofnadwy. Teimlai Hill ei hun yn cael ei dynnu ar eu holau; ond yr oedd carreg rhyngddo a'i gyfeillion, a throdd y rhaff am honno. Torrodd y rhaff, gadawyd Hill yn ei noddfa berygl, a gwelai'r Cymro a'r ddau Swisiad yn disgyn i'r dyfnder odditanodd.—eu dwylaw diymadferth yn estynedig, a'r rhaff yn eu cysylltu o hyd. Trwy beryglon anhygoel, medrodd Hill gyrraedd yn ol; ac aeth mintai ddewr i chwilio am y dringwyr, ond heb obaith eu cael yn fyw.

IV—YN YR EIRA

LAWER o fywydau gollwyd adeg ystormydd o eira mawr. Ond nid yr eira sy'n lladd. Mae llawer wedi byw dyddiau o dan eira; ac y mae defaid yn byw felly beunydd. Yr oerfel sydd yn lladd,—y gwynt miniog yn fferru'r gwaed, a'r eirwlaw rhewllyd yn arafu curiadau'r galon. Bum droion mewn ystorm eirwlaw oedd ar fy rhwystro i anadlu. Bydd yn ystorm eira mawr yng Nghymru weithiau. Ar yr Arennig bu dyn yn mynd a llond car o wair i'r defaid; a chyn pen ychydig funudau, deuai ystorm i guddio'r car o'i olwg â llen o eira.

Yn yr America, y mae'r tywydd yn llawer mwy eithafol nag yn ein gwlad ni,—yn eithafol oer yn y gaeaf ac yn eithafol boeth yn yr haf. Yn yr America, y mae'r amaethwr yn gorfod ceisio tynnu adref gerfydd rhaff.

Y mae'r beudai a'r ystablau. fel y mae'n digwydd yn aml, dipyn oddiwrth y tŷ. Rhoddir rhaff gref oddiwrth ddrws y tŷ at ddrws y beudy a'r ystabl. Gŵyr yr amaethwr y gall ystorm erwin o eira godi, i guddio pob man o'i olwg. Mewn ychydig iawn o

amser, disgyn troedfeddi o eira ar ei lwybr, ac y mae'r awyr yn llawn o'r eira trwm. Ond tra y ceidw ei afael yn y rhaff, gŵyr ei fod ar y ffordd i ddiogelwch a diddosrwydd.

V.—TON YN ACHUB BYWYD

MAE ynys fechan o graig, a elwir Craig yr Esgob, ger ynysoedd Scilly. Rai blynyddoedd yn ol, adeiladwyd goleudy arni, yn gyfarwyddyd ac yn rhybudd i'r llongau aml sy'n hwylio gyda glannau deheuol ein hynys. Pan godid y goleudy, yr oedd mab yr arch-adeiladydd yn edmygu gwaith ei dad. Un diwrnod tawel, clir, collodd ei draed a syrthiodd. "Nis gall dim. ei achub," ebe'r gweithwyr, dan ddal eu hanadl. Yr oedd y goleudy yn uchel iawn, a dim ond craig odditanodd.

Ond, pan oedd y bachgen yn disgyn, daeth ton anferth o rywle o'r Werydd, a chyrhaeddodd waelod y tŵr. Syrthiodd y bachgen yn ddianaf ar ei bron meddal, cludwyd ef ychydig i'r môr, a nofiodd yn ol heb fod ddim gwaeth.

Dywedai'r gweithwyr mai dynar unig don orchuddiodd y graig y diwmod hwnnw.

Y mis diweddaf, syrthiodd un o wŷr y goleudy, ond nid oedd ton garedig rhyngddo ef a'r graig, a drylliwyd ef.

VI.—YMDRECH AR YMYL DIBYN

Yn y mis diweddaf, yr oedd teithiwr o Wyddel yn disgyn i lawr hyd lethrau peryglus Monte Rosa, un o bigynau yr Alpau. Yr oedd ganddo ddau arweinydd, Swisiaid, tad a mab. Yr oedd y tri wedi eu rhwymo wrth eu gilydd,—y mab wrth un pen i'r rhaff, y teithiwr yn y canol, a'r tad wrth y pen arall. Tra'n dringo dros yr ochrau, syrthiodd y ddau flaenaf,—y teithydd a mab yr arweinydd,— dros ymyl y clogwyn. Ond medrodd y tad gael gafael mewn carreg fawr.

Felly, yr oedd dau o'r tri dyn yn crogi gerfydd y rhaff uwchben dibyn erchyll, dros ddeng mil o droedfeddi o uchder. Yr oedd y llall yn eu dal. Ond am faint y medrai gewynau ei freichiau adael iddo eu cadw?

Gwyddai y mab gymaint oedd y pwysau ar freichiau, ei dad. Medrodd, rywsut, tra'n crogi'n ol ag ymlaen wrth y rhaff, gydio yng ngwyneb y graig. Dringodd i lawr ar hyd-ddi, o glogwyn i glogwyn; a phrysurodd, yn archolledig, a'i fywyd mewn enbydrwydd bob eiliad, i chwilio am gymorth. Gwyddai beth oedd yn adael ar ol.

Yr oedd y teithiwr eto'n grogedig wrth y rhaff. Yr oedd ei goes ddehau wedi ei thorri, ac ni fedrai wneud dim i'w achub ei hun. Daliai'r arweinydd fry ei afael yn y rhaff, a'i draed wedi eu gosod yn erbyn carreg ar fin y dibyn ofnadwy. Daliodd felly am saith awr. Yna teimlodd fod breichiau cryfion yn cymeryd lle ei freichiau lluddedig ef. 'Tynnwyd y teithiwr i fyny i ddiogelwch. Daeth pawb yn Alagna i gyfarfod y tad a'r mab dewr i'w croesawu.

"Trodd y gwynt yn sydyn."

VII.—TAITH BERYGLUS

YN ystod y flwyddyn ddiweddaf, hysbyswyd fod sêr dieithr i'w gweld ar noson neilltuol. Er mwyn cael yr olwg oreu arnynt, penderfynodd seryddwyr o ymyl Rhydychen fynd mewn awyren i fyny i'r awyr glir y tu hwnt i'r cymylau. Fin nos, acthant i gerbyd yr awyren, a gollyngwyd hi oddiwrth y ddaear. Ymsaethodd hithau i fyny, a thaflasant gydaid ar ol cydaid o dywod o honi, er mwyn prysuro ei hesgyniad drwy'r cymylau. Cododd yn gyflym trwy'r cymylau, er mor drwchus oedd eu plygion llaith o'i hamgylch. Yna arafodd, mewn awyr deneu ac oer a iach, ymhell uwchlaw cwmwl a daear. Yr oedd oerni llaith y cymylau wodi gwneud i'r nwy oedd yn yr awyren fynd yn llai o swm; crebychodd hithau, a thrymhaodd, a gorffwysodd heb godi ychwaneg.

Daeth y bore, a disgynnai pelydrau'r haul ar yr awyren yn gynnes mewn bro ddigymylau. Wrth gynhesu, ymchangai'r nwy, ysgafnhai'r awyren, a chodai'n gyflym yn uwch fyth i'r entrych. Yna, deallodd y seryddwyr, er eu braw, fod y llinyn oedd yn disgyn i lawr i'r cerbyd o'r awyren, i ollwng nwy, yn gwrthod gweithio. Ofer fuasai ceisio dringo ochr pelen yr awyren yn yr uchder mawr hwnnw. Wrth ollwng nwy y gwneir i'r awyren ddisgyn. Rhaid i'r teithiwr fedru gwneud i'r awyren esgyn a disgyn yn ol ei ewyllys, er mwyn medru mynd y ffordd y mynno. Os bydd arno eisiau teithio i'r gogledd, esgyn neu ddisgyn hyd nes yr êl i wynt yn chwythu yn y cyfeiriad hwnnw. Os bydd arno eisiau troi i'r dwyrain, esgyn neu ddisgyn drachefn. Ac weithiau cwyd uwchlaw y ffrydiau o wyntoedd croesion i gyd, er mwyn cael hofran uwch y byd mewn unigedd tawel a distaw.

Ond nid oedd gan y seryddwyr y soniais am danynt reolaeth ar eu hawyren. Teimlent eu hunain yn codi'n chwyrn o hyd. Toc, er fod y cymylau oedd ôdditanynt wedi clirio, gwelent y ddaear yn graddol newid. Am hir gwelent y ffyrdd fel llinynnau gwynion, meinion. Ac yna ni welent ond llecyn. gwyrdd wrth edrych i lawr.

Tua chanol dydd, daethant i ffrwd o wynt oedd yn chwythu'n gryf tua'r gorllewin. Teimlasant eu hunain yn teithio'n gyflym i'r cyfeiriad hwnnw. Buan y sylweddolasant eu perygl. Beth pe buasai'r awyren yn syrthio i'r môr?

Yr oedd y nos yn dod. Gwlychid ac oerid yr awyren. Ym mhle y disgynnai? Ysgrifenasant lythyr arol lythyr i'w taflu i lawr, i rybuddio gwylwyr glannau'r moroedd i sylwi ar yr awyren, ac i anfon llong i hwylio o dani os ai wrth ben y môr. Ond gobaith gwan oedd i neb gael y llythyrau mewn pryd. Syrthiai rhai ar y mynyddoedd a rhai ar y caeau; siawns oedd i un syrthio i dref neu dramwyfa pobl. Cyn iddi dywyllu, gwelent liw'r ddaear yn newid. Yn lle gwyrdd daeth glas. Bron na pheidiodd eu calonnau guro gan fraw. Yr oeddynt uwch ben y môr.

Ni chysgasant hunell y noson honno, Disgynnodd gwlaw oer, a fferrodd hwy. Teithiai'r awyren yn gyflym tua'r gorllewin o hyd. Yr oeddynt yn sicr, oherwydd yr oerni a'r gwlaw, ei bod yn disgyn hefyd.

Wedi nos hir. gwawriodd y bore. Er eu llawenydd, gwelsant eu bod uwchben y tir sych, a'u bod yn llawer agosach i'r ddaear. Gwelsant mai Sianel Bryste oedd y môr a groesasent, a'u bod yn awr yn teithio uwchben glan ddeheuol Deheudir Cymru. Yn y prynhawn, gwelsant y môr drachefn, a bron na suddodd eu calonnau o'u mhewn. Ond cyn eu hyrddio i'r môr dros bentir Dyfed, trodd y gwynt yn sydyn i'r gogledd. Yr oedd yr awyren yn graddol ddisgyn, ac yn rhywle yn sir Benfro, tarawodd y cerbyd yn erbyn coeden; llusgwyd ef ymlaen ar draws gwrychoedd hyd nes y daliwyd yr awyren gan dderwen dalfrig. Ysgytiwyd tipyn ar y teithwyr, ac anafwyd un yn bur drwm, ond anghofiasant bopeth,—y sêr hefyd,—yn eu llawenydd wrth deimlo eu traed ar y ddaear galed. Cawsant luniaeth a chynhesrwydd yn nhai rhai o amaethwyr caredig Dyfed; ond y mae'n sicr nad anghofíìant eu taith beryglus hyd y bedd.

VIII.— YMDAITH NEWYN

YN ystod y gaeaf a'r gwanwyn diweddaf, cawsom ni dywydd digon oer; bu gwynt miniog y dwyrain yn cadw'r claf a'r blodau'n ol am hir. Yn yr India ar yr un pryd yr oedd Newyn yn teyrnasu.

Yr oedd y gwlaw wedi peidio dod yn ei amser. Yr oedd yr holl ffynhonnau wedi sychu. Yr oedd pobl yn gyrru anifeiliaid hyd welyau sychion yr afonydd, a merched yn taenu dillad i sychu ar beth fuasai unwaith yn waelod llyn. Yr oedd y wlad wedi troi yn llwch cochlyd, yrrid gan y gwynt.

Y mae tlodi ac angen yn y pentref. Y mae'r bwyd wedi darfod. Y mae popeth oedd yn y tŷ wedi ei werthu i dalu am yr ychydig fara prin. Os oedd yno hen addurniadau arian, neu hen lestri pres cerfiedig, neu flychau o bren aroglus, y maent oll wedi mynd. Tŷ gwâg sydd yno,—popeth wedi mynd i gael bwyd. Ac y mae Newyn yn aros yno o hyd. Ac o ddrws agored teml gerllaw, y mae eilun coch fel pe'n gwawdio dioddefiadau ei addolwyr.

Y mae'r teuluoedd yn cychwyn, o un i un, i weithfa'r Llywodraeth draw, lle y rhoddir digon o fwyd i brin gadw croen ar yr asgwrn, am waith. Y mae'r fam yn cario'r baban mewn basged ar ei phen, a phlentyn arall yn ei breichiau. Oluda'r tad a'r plant ereill holl eiddo'r teulu. Wedì cyrraedd y weithia, gwnant eu goreu i ennill ymborth trwy dorri cerrig; ond, er eu bod yn bwrw â'u morthwylion bychain goreu gallent, ychydig iawn o gerrig dorrai'r plant.

Yn Bombay yn unig y mae'r Llywodraeth yn cynnal cynifer a holl boblogaeth Cymru. Eu prif ofn yw i'r cholera ddilyn y newyn; eu gweddi sydd am wlaw. Os daw'r cholera, med adladd y newyn i'r bedd wrth y miloedd.