Llyfr Nest/Ystraeon yr Hen Gadfridog
← Ystraeon y Teithiwr | Llyfr Nest gan Owen Morgan Edwards |
Ystraeon y Genhades → |
CORON PRYDAIN FAWR.
Ystraeon yr Hen Gadfridog.
I.—YR HEN GADFRIDOG
Ymysg y teithwyr yr oedd hen ŵr bonheddig urddasol, a'r milwr i'w weld ym mhob osgo. Safai'n syth, cerddai'n gywir, edrychai'n llym a beirniadol, a hoffai weld popeth yn ei le. Yr oedd braidd yn wyllt ei dymer, a rhuthrai'r gwaed i'w wyneb os na fyddai wrth ei fodd. Ond hen ŵr ardderchog oedd. Anrhydeddai ei frenin, er nas gallai ei wasanaethu mwy; ymfalchiai pan welai faner Prydain mewn porthladd ar ol porthladd. Yr oedd wedi ymladd mewn llawer rhan o ymherodraeth ei frenin; a'r goron, ehangder yr ymherodraeth, a braint a dyledswydd y deiliaid hapus, oedd yn ei enau o hyd.
Iddo ef, ymladd oedd prif waith bywyd, a hela ei brif bleser. Ond hoffai Nest, er y gwyddai nas gallai hi ymladd.
Yr oedd yr hen begor wedi mynnu tipyn o fwyniant wrth wasanaethu ei frenin hefyd, yn enwedig wrth hela anifeiliaid gwylltion.
Siaradai â Nest weithiau fel pe byddai hi'n wladweinydd, weithiau fel pe byddai'n filwr. Ond yr oedd calon gynnes, serchog, yn curo yn ei fynwes, a chofiai ambell dro nad oedd hi ond geneth fach, ac esboniai bethau dyrus iddi. Felly, cofiodd Nest lawer o'r pethau ddywedodd ef wrthi.
II—CORON PRYDAIN FAWR
YR oeddwn i yn gweld y brenin Edward y Seithfed yn gwisgo ei goron am y tro cyntaf. Coronid ef yn frenin gyda rhwysg anarferol yn hen fynachlog Westminster.
Yr oedd yn frenin, mae'n wir, er yr eiliad y bu Victoria farw. Y brenin yw y deddfroddwr, felly, rhaid fod rhywun ar yr orsedd o hyd yn ol cred y cyfreithiwr, onide, ni byddai cyfraith mewn grym. Ond yn ol ewyllys y bobl y mae hynny; oherwydd trwy ddeddf seneddol, nid trwy hawl, y ca neb y frenhiniaeth a'r goron.
'Teyrnasa'r brenin dros y frenhiniaeth ehangaf welodd y byd erioed,—estyn ei deyrnwialen dros fwy na deuddeng miliwn o filltiroedd ysgwâr, a thros fwy na phedwar can miliwn o bobl. Ymysg y rhain y mae hen wlad hanesiol y Pharoaid, a gwledydd heulog hen Fogoliaid India. Y mae dros hanner masnach yr holl fyd yn llaw Prydain Fawr.
Yr ydych chwi, Nest, wedi cael y fraint o weld baner cich gwlad yn cyhwfan uwch ben llu o'r gwledydd hyn. Anrhydeddwch y faner, fy ngeneth fwyn i, hen faner ardderchog ydyw. Nì chewch chwi ymladd dros eich gwlad, fel y cefais i, wrth nad ydych yn ddim ond geneth. Ond gollwch ei gwasanaethu mewn ffyrdd ereill. Cofiwch bob dydd, wrth ddweyd eich gweddi, eich bod yn un o ddeiliaid coron Prydain Fawr.
Y mae hefyd yn gartref eang rhyddid. Ni orfodir neb, o begwn i begwn, i fynd i garchar ond trwy brawf cyfreithlawn; ni erlidir neb, ymysg y miliynau cymysgliw, am grefydd. Gweriniaeth, gyda brenin yn addurn iddi, ydyw; hi yw gwlad fwyaf gwerinol y byd.
Y mae'r goron yn llawn o'r gemau mwyaf gwerthfawr; nis gellir rhoi pris ar rai ohonynt. Bydd arglwyddi a barwniaid yn gwisgo eu coronau hwythau ar yr un dydd. Y mae'r coronau hyn, hefyd, yn dryfrith o berlau brynnwyd â mawr bris gan lawer cenhedlaeth o'u teulu. Y maent o'r un lun a choron y brenin, a'r perlau o'r un ansawdd, ond eu bod yn llawer llai.
Gwir berlau coron Prydain yw rhyddid, cydraddoldeb gwladol, a goddefiad crefyddol. Fflachia y rhain yng nghoron ein gwlad fel y gwelo yr holl fyd hwy. Ac yn hyn dylai pob deiliad wisgo coron debyg i goron ei frenin,—dylai gredu fod dyn i fod yn rhydd, i feddu yr un hawl a phawb arall yn y wladwriaeth, ac i addoli ei Dduw yn ol ei gydwybod ei hun. Tra bo hyn yn gred inni, ni fachluda haul mawredd a gogoniant Prydain Fawr.
III. BREUDDWYD NATHANAEL
"Os na bydd gryf, bydd gyfrwys," ebe hen ddiareb. Y mae dysgeidiaeth y ddiareb yn ddigon defnyddiol; ond nid yw'n arwrol. Rhaid i'r gwir arwr feiddio, a dioddef.
Y mae Cristionogion y dwyrain wedi dioddef llawer ar law y Mahometaniaid. Gwŷr chwyrn, dibris, yw dilynwyr Mahomet, plant y rhai a roent ddewis i'r gorchfygedig rhwng marw trwy'r cleddyf a byw i gredu yn eu proffwyd. Y maent hyd heddyw yn ymosod ar epil lwfr, gyfrwys, yr hen Gristionogion.
Un diwrnod, daeth dau Fahometan, Ali ac Abdul, at y Cristion Nathanael.
"Gi o Gristion," ebc Ali, "a wnei di ateb y cwestiwn a roddaf iti? Os na atebi ef, byddi farw."
"Ie, O gi dirmygus," ychwanegai Abdul, "byddi farw oni atebi ef wrth ein bodd."
"Rhynged bodd i'ch anrhydedd," ebe Nathanael, dan grynnu a gostwng ei ben, "mi a'ch atebaf wrth eich bodd hyd eithaf fy ngallu."
"O gi, a yw Mahomet yn y nefoedd?"
Syrthiodd gwedd Nathanael wrth weld y ddau erlidiwr yn dynoethi eu cledd i ddisgwyl am ei ateb. Os dywedai "Ydyw," bradychai ei ffydd; os dywedai "Nac ydyw," byddai farw.
"Rhynged bodd i chwi," ebai ef yn grynedig, "mi a freuddwydiais freuddwyd. Yn fy mreuddwyd gwelwn y nefoedd. Safai amryw angylion a phrofiwydi a seintiau ger bron Duw. Yn eu mysg gwelwn Mahomed."
Gollyngodd Ali ac Abdul eu cleddyfau i lawr at eu hanner i'r wain, a dywedasant yn ddefosiynol,— "Nid oes ond un Duw, a Mahomed yw ei broffwyd.”
"Gyda hynny," ebe'r Cristion, "gwelwn esgid un o'r angylion yn cwympo drwy'r llawr grisial, Gwelwn hi'n mynd i lawr, i lawr, i lawr i'r aflwys obry, nes y gwelwn safn ufíern yn ei llyncu. Yna, clywais Duw'n gofyn pwy ai i lawr i uffern i gyrchu esgid yr angel. Ni chlywn neb yn ateb. Ebe Duw,—"A ei di, Gabriel?" "O Dduw", ebe'r archangel, "yr wyf ger dy fron beunydd mewn purdeb, ac a lychwinaf fi fy ngwynder drwy fynd. i'r ffau huddyglyd erchyll honno?" Tebyg hefyd oedd atebion yr archangylion ereill. O'r diwedd, clywn Dduw yn gofyn,—"A ei di, Mahomed" "O Dduw, myfi yw dy broffwyd. Pe dywedet wrthyf am aros yno, mi a arhoswn yn ol dy air."
Gollyngodd Ali ac Abdul eu cleddyfau i waelod y wain, ac ail adroddasant eu credo,—"Nid oes ond un Duw, a Mahomed yw ei broffwyd."
"Yna," ebai Nathanael, gan anadlu'n rhyddach wedi gweld y cleddyfau wedi eu gweinio, "gwelwn Mahomed yn disgyn i lawr ar ol yr esgid. I lawr, i lawr, i lawr yr ai, nes o'r diwedd gwelwn ef yn ymgolli yn safn uffern. Yr oedd yno, mi welwn, ddôr haearn fawr yn cirias boeth. Pan aeth Mahomed trwyddi, clywn grechwen yn uffern; a chyda thwrf mawr, fe gauodd y ddôr. A chan y sŵn hwnnw deffrowyd fi."
Chwarddodd y ddau erlidiwr wedi deall y dull gymerodd Nathanael i osgoi eu cwestiwn, ac aethant
ymaith heb ei niweidio.IV.—COLLI BACHGEN
TRALLODUS iawn yw colli bachgen yn y goedwig neu yn ardal aberoedd. Mwy trallodus yw ei golli ymysg torfeydd anferth Llundain.
Daeth cyfaill i mi, meddyg, i Lundain i'n gweld ni'r milwyr yn dychwelyd o Ddeheudir Affrig. Gydag ef yr oedd pump o gyfeillion, a'i fachgen bach pum mlwydd oed.
Cymerasant eu lle yn Hyde Park i weld y fyddin yn gorymdeithio heibio. Ebe'r meddyg, "Gadewch i ni gyfarfod yn ein gwesty arferol am bedwar o'r gloch, os collwn ein gilydd yn y dyrfa fawr hon." Ni ddacth i'w feddwl y collai ei fachgen.
Yn rhes o bobtu i'r ffordd yr oedd yr heddgeidwaid. Wrth eu cefnau yr oedd y dorf fawr, mor dynn yn eu gilydd fel nas gallasai neb symyd cam. Felly y buont am oriau, yn disgwyl i'r milwyr ddod. 'Toc, clywid y seindorf, ac aeth yr orymdaith heibio. Yna, pwysodd y dorf ar yr heddgeidwaid, a bu ymwthio gwyllt ar ol y milwyr. Yn y tyndra a'r gwthio, collodd y cyfeillion eu gilydd, a chollodd y meddyg olwg ar ei blentyn bach.
O'r diwedd, gwthiwyd y dyrfa'n ol, ond nid oedd. olwg ar y plentyn yn unlle. Anfonodd y tad nodyn. o law i law at un o'r heddgeidwaid,—"Mae plentyn ar goll. Pump oed. Gwallt melyn. Cob ddulas. Bathodyn ar ei fron a'r geiriau, Duw a Chymru arno. Os ceir, anfoner i'r Gwesty Cymreig."
Pan ymryddhaodd y dorf, aeth y meddyg i'r gwesty. Ond nid oedd yr un ohonynt wedi gweld y plentyn; collasant olwg arno yn ystod y rhuthr. Cyn y nos, daeth gair oddiwrth yr heddgeidwaid fod y bychan wedi ei gael. Collasai olwg ar ei dad, ac nis gallai weld dim; yr oedd yn rhy fyrr, a'r dorf enfawr yn dynn yn eu gilydd o'i gwmpas. Dechreuodd wylo. Cododd rhywun ef ar ei ysgwyddau, ac o ysgwydd i ysgwydd anfonwyd ef ymlaen at y rheng o heddgeidwaid. Yn llaw yr heddgeidwad y bu, yn gweld popeth, tan aeth popeth drosodd. Daeth nodyn ei dad o law i law hyd reng hir yr heddgeidwaid nes ei gyrraedd. Felly cafwyd ef.
Nid oes ddinas yn y byd a'i phobl mor amyneddgar a phobl Llundain; ac y mae ei heddlu y rhai goreu yn y byd.
Lle eithaf diogel i blant ydyw, o ran hynny. Y mae hyd yn oed bechgyn carpiog ei heolydd yn hapus iawn.
V. YMAFLYD CODWM
Byddai ymaflyd codwm yn chwareu brenhinol unwaith. Ond yn awr, nid yw mewn bri ond ymysg gweision ffermwyr.
Unwaith, yr oedd Pedr Fawr, y Czar wnaeth allu aruthrol Rwsia y peth ydyw, yn gwledda yn y Neuadd Ymherodrol yn St. Petersburg, y ddinas newydd oedd y Czar mawr wedi ei hadeiladu fod yn brifddinas Rwsia. O amgylch yr ymherawdwr yr oedd llu o dywysogion a chadfridogion; a chydag ymylon y dorf ddisglair, yn gwylio, yr oedd rheng o filwyr.
"A oes rhywun faidd ymaflyd codwm â mi?" ebe Pedr Fawr. Acth y tywysogion a'r pendefigion yn fud; ni feiddiai neb feddwl am daflu yr eneiniog Czar. Ond ymysg y milwyr yr oedd march-filwr ieuanc ffôl. Cerddodd ymlaen, ac meddai,—
"Clyw, uniawngred Czar, mi a dy fentraf di."
"O'r goreu," ebe'r Czar. "Mi a ymgodymaf â thi ar yr amod hwn. Os tafli fi, cei dy fywyd. Os taflaf di, torrir dy ben. A ymgodymi di ar yr amod hwn?
"Gwnaf, O Czar mawr."
Ymaflasant yn eu gilydd, a thoc aeth y Czar mawr i lawr. Ond daliodd y milwr ef rhag syrthio i'r llawr.
Gofynnodd y Czar pa wobr ddymunai, ac atebodd. y bachgen ynfyd,—"Cael yfed yn ffri ym mhob gwesty brenhinol."
Medrai'r milwr ieuanc cryf daflu ymherawdwr Rwsia; ond, wrth geisio ymgodymu â'r ddiod feddwol, tarawodd ar un cryfach nag ef. Ac yn yr ymdrech honno, angeu oedd canlyniad colli'r
frwydr.VI. RHUTHR Y TRWYNGORN
YR ydym ar gyfer glannau'r Zambesi, yn Affrig. Y Trwyngorn (rhinoceros) yw dychryn mwyaf y glannau poethion hyn. Cofier, er ei hagred, y medr y trwyngormn redeg yn gyflym iawn, a'i fod yn greulon yn ei ddig. Cofier hefyd fod ei groen mor dew fel nas gellir ei saethu â gynnau cyffredin,—â'r fwlet yn wastad fel ceiniog ar ei groen.
Saethwyd un aruthrol gan Corporal Johnson. Cyn i'r anghenfil ddal yr un o'i weision duon, anfonodd y Corporal fwled i'w ysgyfaint, a syrthiodd y creadur anferth i lawr.
Mesurai bymtheg troedfedd o'i drwyn i flaen ei gynffon, yr oedd ei galon yn ddeuddeg pwys, esgyrn ei ben tua phedwar ugain pwys, ac yr oedd. yr holl bwystfil tua thunnell a chwarter.
Anodd iawn yw dianc rhagddo os na fydd coeden ynagos. Teifl y brodorion eu beichiau, a cheisiant ddianc trwy'r tyfìant,—gan gofio am y trwyn a'r corn perygl sydd yn cyflymu ar eu holau. Y mae yn rhaid iddynt ymwasgaru,—a rhedeg i bob cyfeiriad. Yna cyll yr anghenfìl beth amser i wneud ei feddwl i fyny ar ol pwy yr a; ac erbyn hynny bydd y dynion wedi medru ymguddio yn rhywle,—dan y gwellt hir, neu at eu gyddfau mewn cors. Ond os deil y trwyngorn ei olwg ar ryw un dyn, y mae'n sicr o hwnnw. Daliodd was i gyfaill i mi; corniodd ef i farwolaeth, a mathrodd ei gorff yn y gors.
Diolchwch, Nest, na raid i chwi redeg o flaen 'Trwyngorn.
MEWN PERYGL
VII. HELA LLEWOD.
GWAITH perygl yw hela llewod. Mae tri dull o wneud hynny. Chwi wyddoch am wlad y Somali, lle mae byddin i ni yn awr, yn disgwyl gorchymyn i fynd ar draws yr anialwch i ymladd a'r proffwyd gwyllt. Dangosais lle yr oedd pan oeddym ar ei chyfer. Gwlad y llewod ydyw honno. Yr oeddwn i unwaith yn mynd o Aden ar negesi Berbera; perthyn i ni, fel y gwyddoch, y mae'r ddau borthladd hynny, y naill yn Arabia a'r llall yn Affrica, a Chulfor Aden rhyngddynt.
Yr oedd yn rhaid i mi aros yn Berbera yn hir. Nid oedd yno fawr i dynnu fy sylw ond pan ddeuai ambell fasnachwr Somali ar draws y gwastadedd aniali'r môr. Dywedid wrthyf fod bryniau gwyrddion a gwastadeddau glaswelltog a ffynhonnau dyfroedd ymhellach i mewn yn y wlad. Dywedid hefyd fod yno adfeilion temlau Cristionogion fu yno'n byw o flaen y Mahometaniaid sydd yno'n awr. A dywedid fod yno ddigon o fwystfilod gwylltion,—y llew, yr eliffant, y trwyngorn, y baedd gwyllt, y zebra, a phob math o hydd.
Bum yno am wythnosau yn hela llewod; ac y mae'm cader, yn y fan acw, yn sefyll ar gwrr croen. llew a saethais; ond fe fu agos iawn i'r llew hwnnw fy lladd.
Fel y dywedais, y mae tri dull o hela llew. Y dull cyntaf ydyw gorwedd a gwylio. Rhaid i chwi wneud rhyw fath o gaban o ddrain garw, a gadael drws i ymwthio i mewn iddo. Yna, rhwymwch afr neu asyn y tu allan. Wedi hynny, ymwthiwch i'r caban, a gwthiwch ddrain i gau'r drws. Y gwaith nesaf yw rhoddi eich gwnn a'i ffroen trwy'r drain, fel y gallwch anelu mewn amrantiad at unrhyw beth ddaw at yr afr sydd yn cysgu'n dawel, heb feddwl am lew na dim, y tu allan. Os cysgwch, a deffro yn y bore, feallai y bydd yr afr wedi diflannu, a dim ond ôl troed y llew i'w weld. Os byddwch yn effro, cewch weld y bwystfil mawreddog yn dod yn llechwraidd o'r goedwig, a'r afr yn crynnu gan arswyd oherwydd presenoldeb ofnadwy y llew. Taniwch! Os lladdasoch ef, bydd yr afr a chwithau'n ddiberygl. Ond os methasoch, chwi, ac nid yr afr, fydd mown perygl. Ymhyrddia y bwystfil clwyfedig, digllon, ei hun yn erbyn eich castell drain; ac oni fedrwch fod yn ddigon cyflym i roi bwled arall yn ei ben neu ei galon, gwae chwi.
Dull arall yw dilyn ar ol y llew ar droed i'r prysgwydd, lle y cysga y dydd. Clywir fod llew wedi mynd a mynn neu blentyn o un o bentrefi'r brodorion. Dilynant ôl eì draed i'r llwyni trwchus. Wedi cyrraedd yno, ni wyddoch ar ba amrantiad y dowch wyneb yn wyneb â'r llew. Gwelwch y canghennau yn symud, clywch ru ofnadwy, a rhuthra'r bwystfil digofus heibio i chwi neu atoch. Rhaid cael anelwr iawn, a dyn diofn ac effro, i hela'r llew fel hyn. Ond y mae'n ddull mwy dyddorol na'r llall, oherwydd ei fod yn fwy cyffrous.
Y trydydd dull yw hela llew ar geffyl. Mewn gwlad agored, lle ceir glaswellt hir yn lle prysgwydd, y gellir hela fel hyn. Dilyna'r cwmni ôl ei droed nes cael rhyw syniad ym mha ran o'r gwastadedd mae'n cysgu. Yna deuant at ei wâl o wahanol gyfeiriadau, pawb a'i wnn yn berffaith barod, oherwydd ni ŵyr neb trwy ba ochr i'r twmpath gwellt, y daw allan. Os na saethir ef yn farw, peth perygl iawn fydd dilyn ar eì ol wedi ei glwyfo. Lladd y dyn cryfaf âg un ergyd â'i balf nerthol, ae ni fydd ond ychydig eiliadau yn lladd march a'i farchog yn ei gynddaredd.
Yr oeddwn yn adnabod Kruger pan oeddwn yn Ne Affrig. Cyn iddo ddod yn llywydd y Transvaal oedd hynny, ae ymhell cyn y rhyfel, wrth gwrs. Dywedodd lawer hanesyn wrthyf am dano ei hun. Aeth allan unwaith gyda'i dad, a dau arall, ar ol llew oedd wedi ymosod ar eu praidd. Huw oedd enw un o'r helwyr, a dywedai o hyd,— Ni gawn weld Paul yn dychrynnu wrth weld ei lew cyntaf,” gan boenydio y bachgen. Yr oeddynt oll ar eu ceffylau.
O'r diwedd, daethant at y twmpath gwellt sych lle'r oedd y llew'n cysgu. Dechreuasant ei amgylchynu. Rhoddwyd y bachgen Paul Kruger mewn cyfeiriad y tybient nad oedd berygl i'r llew neidio allan. Toe, clywodd y llew hwy'n dod.
Rhuodd yn arswydus, a gwelai'r bachgen ei ben yn dod drwy'r glaswellt yn union i'w gyfeiriad ef. Anelodd at y pen, a thaniodd. Neidiodd y llew yn syth i fyny i'r awyr, a disgynnodd i lawr yn berffaith lonydd. Wedi clywed y glec, carlamodd y tri ereill at Paul Kruger, a gwelodd Huw fod y llew yn farw gorn.
Yr oedd Kruger wedi clywed y medrai llew ruo un waith wedi marw. Pe neidiai rhywun ar ochr y gelain,—felly y clywsai,—gwthid y gwynt i wddw y llew, gan wneud rhuad olaf y bwystfil. Yn sydyn, pan oedd yr hen Huw yn edrych dannedd y llew, neidiodd Paul Kruger ar ochr y gelain. Agorodd y llew mawr ei enau, a rhuodd fel pe buasai'n fyw. Neidiodd Huw oddiwrtho, ac ar gefn ei geffyl, gan roddi ei holl feddwl ar ddianc. Gallwch feddwl gymaint o ddifyrrwch roddodd hyn i'r bachgen; a chlywais ei fod yn adrodd yr ystori yn ddiweddar, gan chwerthin yn iach.
GOFIDUS iawn i mi oedd cael hanes y tân yn ysgol enwog Eton, fy hen ysgol, yn nechreu y mis diweddaf. Dydd mawr Eton ywr pedwerydd o Fehefin; ond eleni yr oedd pawb mor brudd fel yr aeth y dydd hwnnw heibio heb gân nac adroddiad na llawenydd.
Y mae Eton, magwrfa cymaint o wŷr mawr Lloegr, yn hen hen. Mae'r bechgyn yn byw yn nhai gwahanol athrawon. Mae'r tai hyn yn hen ffasiwn,—yr iorwg yn cuddio eu muriau y tu allan; a'r tu mewn, gyda'i ystafelloedd trymaidd ai risiau culion, o hen goed sych iawn i'r fflam.
Y mae barrau heiyrn ar bob ffenestr, er yr hen amser, i rwystro'r bechgyn direidus ddod trwodd. Yr oeddis wedi tynnu y rhain o bob ty ond un drwy'r ysgol.
Un nos yn nechreu Mehefin, torrodd tân allan yn y tŷ hwnnw yn oriau'r nos. Ni ŵyr neb sut. Deffrowyd un o'r bechgyn gan y mŵg oedd bron a'i fygu. Gwaeddodd ar y lleill. Yr oedd y mŵg yn llenwi'r grisiau erbyn hyn, a'r fflamau creulon yn dilyn ar ei ol. Trwy ymdrechion anhygoel bron, medrasant dynnu'r barrau oddiar rai o'r ffenestri, a llithro i lawr hyd y planhigyn dringol oedd yn tyfu hyd y mur.
Ond yr oedd dau yn cysgu mewn dwy ystafell uwchben. Dywedir i rai weld gwyneb gwelw un o'r bechgyn yn tynnu ym marrau ei ffenestr, ond gorchfygodd y mŵg ef, a dihangodd yn ol. Ymlusgodd dan ei wely, i ddianc rhag y mŵg marwol, nes y deuai ymwared. Ac yno y cafwyd ei gorff, wedi llosgi'n golsyn. Y mae'n debyg i'r bachgen arall ddianc i dragwyddoldeb yn ddiboen. Tybir na ddeffrôdd, ond fod y mŵg wedi ei wneud yn ddideimlad cyn iddo wybod fod perygl.
Gwnaeth pawb ei oreu, yn enwedig yr athraw, i achub y ddau fachgen. Dringodd yr athraw at y ffenestr, llosgodd ei ddwylaw a'i wyneb wrth geisio tynnu'r barrau. Ac erbyn hynny, ni welai ond mŵg yn yr ystafell, ac nid oedd llais yn ateb.
Nid oedd fawr er pan oedd rhieni hoff yn anfon y ddau fachgen,—ei fam yn dod ag un o Lundain, a'i dad a'r llall o'r Alban. Prudd iawn oedd mynd a'u gweddillion yn ol.
Yr wyf yn galw sylw at y trychineb ingol er mwyn. gofyn cwestiwn. A oes ysgol neu dŷ yn ein gwlad, lle mae plant, nas gellir dianc ohonynt ond ar hyd y grisiau? Y grisiau yw'r llo mwyaf anodd dianc hyd-ddynt; yno y bydd y mŵg dewaf a'r tân ffyrnicaf. Y ffenestr yw'r unig obaith. Nid oes ofn lladron fel y bu ; pe mynnai lleidr, gallai fynd i unrhyw dŷ'n hawdd. Ni ddylid rhoi barrau ar ffenestr nas gellir eu tynnu o'r tu mewn. Dylai pob ffenestr fod gymaint ag sydd bosibl,—goleu a heulwen yw'r galluoedd sy'n sicrhau iechyd. Dylai fod dihangfa o bob ffenestr hefyd. Dylai fod ysgol, mewn man cyfleus, ddigon hir i gyrraedd y ffenestr uchaf yn yr adeilad.
IX.—ADAR RHAIB A CHELAIN
DO, mi welais lawer iawn o adar rhaib. Bum yn eu gwylio ym mynyddoedd yr Himalaya lawer tro. Peth perygl iawn yw mentro at eryr clwyfedig. Y mae rhyw nerth rhyfedd yn ei bîg a'i ewinedd hyd yn oed pan fydd wedi ei hamner ladd.
Wyddoch chwi beth fu'n ddieithrwch i mi am ran helaeth o fy oes? Er pan oeddwn yn oed y bachgen bach acw, sy'n chwareu draw ar ddec y llong yma, yr oeddwn yn ceisio deall un dirgelwch, ac yn methu. A dyma oedd. Sut y mae aderyn ysglyfaethgar yn gwybod am gelain lle bynnag y bydd? Saethais lew ar wastadeddau Somaliland. Yr oedd yr awyr yn glir danbaid, nid oedd gwmwl gymaint a chledr llaw gŵr i guddio mi ran o'r awyr. Ac eto, cyn pen yr hanner awr, yr oedd ugeiniau o adar ysglyfaeth yn hofran uwch em pemnau, yn disgwyl i ni orffen blingo'r llew.
O ble y daethent? Sut y medrent ein gweld ni tra yr oeddynt hwy ymhell o gyrraedd gwelediad y llygad craffaf? Arogli'r gelain? Na wnaethant. Beth oedd y gwahaniaeth rhwng arogl llew byw ac arogl llew newydd ei ladd?
Yr wyf yn meddwl fy mod wedi deall y dirgelwch. Ac mi ddwedaf i chwi pa fodd. Yr oeddwn yn hela yng ngwlad y Somali, ac yn chwilio am lewod. Aethom trwy wlad lle yr oedd llewod wedi bod, ond yr oeddynt newydd gilio o honi. Yr oedd pob hydd wedi dianc rhag eu hofn, ae nid oedd yno un creadur byw i dorri ar ddistawrwydd unig y fro. Ond pan oeddym bron a gadael yr ardal hon, gwelwn ewig. Saethodd un o honom hi, a blingasom hi. Nid oedd arnom eisieu y cig i gyd, a gadawsom” lawer ar yr ysgerbwd.
'Tua'r nos daethom heibio'r ysgerbwd yn ol. Er syndod i ni, nid oedd dim wedi cyffwrdd âg ef. Nid oedd yr un aderyn rhaib wedi bod yn agos ato. Bob tro o'r blaen, byddai'r adar wedi bwyta popeth ond yr esgym.
Gwelais yr achos. Nid gweld y gelain o bell wna'r aderyn rhaib, na'i arogli. Dilyn y llew a'r teigr a'r blaidd y mae. Gwylia uwchben y llew fo'n cysgu'r dydd, gan feddwl ei ddilyn pan gychwynno i chwilio am ysglyfaeth. Felly, pan saethem ni lew, yr oedd rhyw aderyn yn ein gwylio. Ehedai atom. Gwelai adar ereill ef yn ehedeg. "Mae bwyd fan acw," meddent. Ac ehedent oll i'r un cyfeiriad, nes y llenwid yr awyr uwch ein pen â hwynt.
X.—DYCHYMYG A FFAITH
BREUDDWYD yw nodwedd y Dwyrain; ffaith yw nodwedd y Gorllewin. Eistedd y pennaeth yn y Dwyrain dan gysgodlen ddrudfawr; myfyrìa, dychmyga. Saif y pennaeth yn y Gorllewin o flaen y bobl; arweinia'r Senedd, arwain y fyddin; mae'n llawn egni a dyfais.
Prif ddull ystraeon y dwyrain ydyw rhoi gallu goruwchnaturiol i ddyn wneud yr hyn a ewyllysia,— fod y meddwl yn dod yn ffaith ar unwaith. Nid ofer yw dychmygu felly. Esgorodd y dychmygu ar ddyfeisio ffordd. Onid yw gwyddoniaeth yn rhoddi cymaint o gyfleusterau inni fel, o gymharu ein manteision â manteision y rhai gynt, y mae ein. meddwl yn dod yn ffaith gydag ychydig iawn o drafferth? Er engraifft, rhodder stamp ceiniog ar lythyr cyfeiriedig i Uganda, yn "Affrig Dywyllaf," ac yn ddistaw a buan cludir y llythyr dros foroedd, drwy goedwigoedd, i ben ei daith hir.
Ie, ymherodraeth ardderchog yw ymherodraeth ein brenin ni. Ie, daioni wna ein byddin, a'n llynges ym mhob man. Cefais innau ran yn ei hadeiladu, a diolch fo i'r Duw da am hynny. Nest fach anwyl, mynn dithau wneud dy ran.