Llyfr Owen/Caraiman

Oddi ar Wicidestun
Cynnnwys Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Pibau

I

CARAIMAN

[Yr oedd Carmen Sylva, cyn-frenhines Rwmania, yn hoff iawn o Gymru. Holai'r beirdd pa chwedlau a adroddid gan y werin ar hirnos gaeaf; yr oedd hi ei hun wedi casglu chwedlau Rwmania. Bu yn Eisteddfod y Rhyl, ymhlith y beirdd. Rhoddodd anrhydedd mawr arnaf,—gofynnodd i mi gyfieithu ei chwedlau er mwyn plant Cymru. Y mae blynyddoedd meithion er hynny, ac y mae'r frenhines hoffus yn ei bedd. Nid wyf innau wedi cyflawni f'addewid. Gwell hwyr na hwyrach. Bydd yn dda gan blant Cymru gael rhai o'r chwedlau a adroddir wrth blant Rwmania,—Caraiman, Chlestacoff, a'r Graig Losg.

1 HANNER cylch o fynyddoedd mawr, coediog, a gwastadedd eang o feysydd gwenith yn eu mynwes,?—dyna Rwmania. Yr oedd y mynyddoedd, sef y Carpathiaid, yno erioed. Ond nid oes fawr er pan gododd y dyffryn bras, cyfoethog, o'r môr.

Pan oedd y dyffryn eto'n newydd, yr oedd dyn cawraidd, o'r enw Caraiman, yn byw yn y mynyddoedd. Dywedir llawer wrth blant Rwmania am ei faint,—hyd ei goesau a'i freichiau a'i farf, lled ei ysgwyddau, maint ei lygaid. Ond digon i mi yw dweud am faint yr offeryn a ganai; oherwydd mewn miwsig yr oedd nerth Caraiman.

2. Pipgod oedd ei offeryn. Gwyddoch beth yw honno; hwyrach i chwi weld Ysgotyn yn ei chanu. Wel, yr oedd bôn y bipgod cyhyd a'r binwydden dalaf; ac yr oedd yswigen dan fraich y cerddor i wasgu gwynt iddi ac ohoni, gymaint â thŷ. A phipgod ryfedd oedd honno. Pe chwythai Caraiman fiwsig tyner yn ysgafn gwelid blagur ieuanc, tyner, yn tyfu, a defaid ac ŵyn yn codi megis o'r ddaear, a lluoedd o blant bychain. Pe chwythai Caraiman yn gymedrol gryf, tyfai coed a drain, codai teirw a moch o'r ddaear, a lluoedd o wŷr a gwragedd. Pe chwythai'n gryf. gan wneud miwsig croch, deuai tymhestloedd gerwin, llifogydd dinistriol, a rhyfeloedd enbyd. Dyna'r fath bipgod oedd gan Garaiman.

3. Rhyw fore, wrth edrych i lawr dyffryn Prahofa, o'r Carpathiaid, beth welai'r cawr, yn lle môr fel o'r blaen, ond dyffryn gwastad eang. a'r môr wedi treio oddiarno. A heb feddwl am neb arall, tybiodd mai ef oedd piau'r dyffryn newydd.

"Beth wnaf a'm dyffryn?" eb ef.

Dechreuodd feddwl pa un ai miwsig tyner ynteu miwsig cymedrol, ynteu miwsig brochus a anadlai dros y dyffryn newydd. Gwyddai am effaith miwsig brochus. Deuai daeargryn, a llosgfynydd- oedd, a rhyfeloedd yn enwedig. "Na," meddai. "rhof heddwch i' m dyffryn newydd" Yna meddyliodd am fiwsig cymedrol. Ond cofiodd beth oedd dynion. Cwynent ar blant o hyd, eu bod yn ddrwg ac yn flysig, ac eu bod am bopeth iddynt hwy eu hunain. "Ond," meddai, "y mae pobl yn llawer gwaeth na phlant. Gwnânt ddrygau mwy a dywedant, â wyneb difrifol, fod eu drwg hwy yn dda. Ac ymladdant â'i gilydd hyd farw. Na. nid wyf am bobl i'm dyffryn newydd i." Ac felly anadlodd fiwsig tyner iawn dros ddyffryn Rwmania, o holl gyrrau'r mynyddoedd at yr afon Daniwb a'r Môr Du. Ac yn sŵn y miwsig daeth blagur gwyrdd, tyner, dros y llaid tywodlyd. Yna codai defaid ac ŵyn yma ac acw. Ac yna gwelid torfeydd o blant yn chwarae'n hapus. Rhoddodd y cawr un nodyn ag ychydig o graster ynddo, ac wele nifer o gŵn ffyddlon, diniwed. " Dyna ddigon ar hyn o bryd." A rhoddodd yr offeryn o'r neilltu.

4. Lle dedwydd iawn oedd yno. Medrai'r plant odro'r defaid; ac ar laeth felly yr oeddynt yn iach a chryfion. Yr oedd yno ffrwythau gyda'r glaswellt hefyd,-eirin, grawnwin, mefus,-a'r cwbl ar goed bychain yng nghyrraedd plant. Yr oedd y plant yn garedig iawn wrth ei gilydd, ac nid oeddynt wedi dysgu un gair cas. Am gweryla neu bwdu neu ddigio, ni wyddent beth oedd pethau felly. Os syrthient i'r afon, deuai'r cŵn ffyddlon ar unwaith i'w gwaredu. Mwsogl sych oedd eu gwelyau, dan gysgod craig. Ni byddai yno ystorm; deuai sŵn esmwyth pipgod Caraiman i dawelu pob gwynt, ac i dawelu pob chwa. Nid oedd yno ysgol, nid oedd eisiau i'r plant ddysgu dim. Ac ni bu plant bach dedwyddach na gwell yn unlle erioed.

5. Ond cyn hir tyfasant yn fawr. A daeth newid drostynt. Dechreuodd rhai ohonynt ddweud mai eu heiddo hwy oedd rhyw lecyn, ac na chai neb ddod yno ond hwy; dywedent hefyd mai eu heiddo hwy oedd rhyw ddefaid, ac na chai neb arall eu godro. A daeth ffraeo, a dig, a chas i'w plith. ofer yr anadlai Caraiman fiwsig tyner arnynt o'r mynydd, a gorfu iddo ef ei hun ddod i lawr i'r dyffryn i'w mysg.

Rhannodd y dyffryn rhyngddynt. " Os mynnwch dir," eb ef, " rhaid i chwi ei drin." A gwnaeth ei randir yn ardd i bob un. Ond, os drwg cynt, gwaeth wedyn. Yr oedd rhai o'r plant yn weithgar, a rhai yn ddiog. Yr oedd gerddi y rhai gweithgar yn llawn o bob ffrwythau da, ac yn hyfryd i edrych arnynt. Ond am erddi y rhai diog, nid oedd ynddynt hwy ond chwyn. A fu y rhai diog farw o newyn? Ni chodiaf i fawr. Yr oedd ychwaneg ohonynt nag o rai gweithgar, a mynasant fynd i'r gerddi llawnion, i ddifa ac i ladrata, a chododd rhyfel yn eu mysg.

6. Yn ofer y canai Caraiman ei bipgod. Nid oedd arnynt ei ofn wedi ei weled. "Y mae'n hen," meddent." mwsogl yw ei farf, rhisgl yw ei wisg, a pheth digon diolwg a diles yw ei bipgod." A phenderfynodd y rhai drwg diog fynd â'i ddyffryn oddiarno.

Aethant i'r mynydd, a rhoddasant ei farf ar dân. Ond wrth anadl ei chwarddiad, chwalwyd hwy fel dail gwyw. Ceisiasant rwymo ei fraich, ond â'i fraich arall gwasgarodd hwy ar hyd y mynydd. Ond, o'r diwedd, aeth rhai ohonynt ar hyd y nos, a thorasant dwll yn yswigen ei bipgod.

Ac ar ôl hynny ni ddaeth y miwsig i lawr dyffryn Prahofa mwy. Ni welwyd Caraiman ychwaith, a thybir ei fod yn cysgu dan y mynydd, hyd nes y daw rhywun heddychol i atgyweirio ei bipgod.