Llyfr Owen/Y Pibau

Oddi ar Wicidestun
Caraiman Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Chlestacoff

II

Y PIBAU

1. OFFERYN cerdd gwynt yw'r bipgod. Gwneir hi o ledr ystwyth a phibau gyda thafodau iddynt. Chwythir gwynt trwy bib i'r goden ledr; a chwery'r dwylo ar dyllau'r pibau a ddaw allan ohoni, rhwng tair a phump ohonynt.

Y mae'n hen offeryn. Y mae ei hanes yn y wlad hon yn y ddeuddegfed ganrif, gan mlynedd cyn geni Dafydd ap Gwilym. Ond, erbyn heddiw. yn yr Alban, yn enwedig yn yr Ucheldiroedd, y ceir hi. Mae gan bob catrawd Ysgotaidd eu pibyddion yn mynd allan o'u blaenau dan ganu. A hyfryd i glust yr Ysgotyn yw sŵn cysglyd y pibau. Ond ceir y pibau mewn gwledydd eraill. Tybia rhai mai hi yw dulsimer llyfr Daniel, lle y gelwir ar rai i addoli delw aur Nebuchodonosor pan glywent sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer. y psaltring, a'r symffon. Offeryn cerdd y Caldeaid oedd; ond, yn ôl pob tebyg, ceid hi trwy ddeheudir Ewrop hefyd. Ceir ef yn yr Eidal, hen wlad y cerddorion, hyd heddiw. Llun Eidalwr, o waith Penry Williams, yw'r darlun sydd ar y ddalen arall. Daw pibyddion Ysgotaidd i'r Eisteddfod Genedlaethol ambell flwyddyn. A phan glywir y meistri'n canu'r pibgodau, rhaid addef bod eu sŵn yn gynhyrfus, ac yn apelio at deimladau.

Ond nid yw'r Sais yn ei hoffi.