Llyfr Owen/Caru Cymru
← Cofio'r Haf | Llyfr Owen gan Owen Morgan Edwards |
Gofynion a Geirfa → |
XXI
CARU CYMRU
1. Y MAE caru ein gwlad yn beth naturiol iawn i Gymry, oherwydd ei bod yn wlad mor hawdd ei hadnabod a'i chofio. Gwlad o fynyddoedd a moroedd ydyw, ac y mae ysbryd rhyddid yn awelon ei bryniau. Ac y mae hiraeth am dani yn un o nodweddion pob un sy'n ei gadael. Mae'r hiraeth hwn yn rhyfela â phob awydd golud gwledydd pell:
Mae'r llong yn y porthladd yn disgwyl am danaf,
A gwae i mi feddwl ymadael erioed.
2. Y mae un ddihareb yn dweud : "Câr dy wlad, a thrig ynddi." Ond dywed rhai eraill y dylai'r Cymro ennill y byd. "Gwlad i gall, pob gwlad," ebr un. "Gwlad Cymro, pob gwlad," ebr un arall. Ond cred pawb mai "Câs gŵr na charo'r wlad a'i mago."
Gynt, dysgid plant yn yr ysgol i anghofio Cymru; ac os cofient hi, i'w dirmygu. Ni ddioddef y werin beth fel hyn yn awr. Yn y darlun ar y tudalen nesaf, cewch olygfa o ddrama fechan sy'n apelio'n rymus at lowyr Deheudir Cymru.

o'r enw Dewi ab Ioan, os cofiaf yn iawn. Ond mynnai yr athro, oedd yn bur ddiystyrllyd o bopeth Cymraeg, ei alw yn David Jones. Gwrthodai'r bachgen ateb i'r enw hwnnw, er pob gwawd ar ran ei gydysgolheigion a phob cosb a ddeuai oddiwrth yr athro. Yn y darlun gwelir ef yn eistedd ar gornel ei ddesg. Y mae'r athro'n galw "David Jones." Mae rhai o'r bechgyn yn ei wawdio, eraill yn edrych yn sarhaus arno, eraill yn ei gynghori i ateb. Ond eistedd ar gornel y ddesg, a'i freichiau ymhleth a'i ddannedd yn dynn ar ei gilydd, ac nid oes na chosb na gwawd na chyngor a wna iddo ateb.
Y mae'r bachgen yn ystyfnig. Ystyfnig, hefyd, oedd Owain Glyn Dŵr a Martin Luther. A pha ffolineb creulon oedd gwneud merthyr o fachgen oherwydd ei wladgarwch,—un o deimladau mwyaf santaidd a mwyaf dyrchafol dyn?
(Teitl y darlun gyferbyn yw—
Y GWLADGARWR. DAN WAWD.
Fe'i tynnwyd gan Mr. Frederic Evans.)