Llyfr Owen/Gwlad yr Haul

Oddi ar Wicidestun
Y Trwyn Aur Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Yr Indiaid Cymreig

IX

GWLAD YR HAUL

1. PERSIA yw gwlad yr haul; hi, yn ôl pob tebyg, yw gwlad fwyaf heulog y byd. Yr haul oedd duw yr hen Bersiaid, ac addolent dân fel yr elfen fywydol, bur.

Y peth cyntaf a dyn sylw un dieithr yn y wlad yw disgleirdeb a thanbeidrwydd digwmwl yr haul. O'r ochr arall, pan ddaw Persiad i'n gwlad gymylog a glawog ni y peth cyntaf a ysgrifenna adref ydyw mai gwlad heb haul i'w weled ynddi ydyw Prydain.

Bûm yn darllen hanes boneddiges a dreuliodd rai blynyddoedd yn ninasoedd Persia. Deffrôdd ryw fore, yn hwyrach o awr nag arfer. Synnai nad oedd sŵn neb wedi codi o'i blaen i'w glywed. Daeth i lawr cyn hir. Ond nid oedd yno arwydd am frecwast. Daeth gwas heibio, a gofynnodd hithau paham ynghanol bore felly, yr oedd y tŷ fel pe buasai pawb wedi marw ynddo. Ac ebr y gwas, gan ddal ei ddwylo i fyny : Ond oni wyddoch, madam, ei bod yn bwrw glaw!

Ac erbyn deall, y mae glaw yn beth mor anghyffredin yn y wlad heulog honno, fel y bydd masnach a gwaith a phopeth yn distewi ac yn aros hyd nes peidia'r glaw â disgyn. le, gwlad heulog yw Persia. Yn y gaeaf oeraf y mae'r awyr mor glir fel y tywynna'r haul yn llachar, bron bob dydd. Ac yn yr haf, y peth olaf a welwch bob nos yw haul yn machlud mewn gogoniant annisgrifiadwy, a'r peth cyntaf a welwch yn y bore yw golau tanbaid yr haul yn eich deffro. " Y mae goleuni haul ym mhob man," ebr y genhades dyner-galon y cyfeiriais ati, "ond yng nghalonnau’r bobl."

2. Ond, ar droeon anaml, daw llen dros yr haul, a bydd Persia yn ferw drwyddi draw wedi colli y goleuni y mae beunydd yn byw ynddo. Un peth ydyw diffyg ar yr haul. Y mae diffyg ar yr haul yn ein gwlad ni yn beth eithaf annaearol, a rhyw brudd-der yn ymledaenu bob amser. Ond gwyddom ni beth yw'r achos,—y lleuad sydd yn mynd rhwng y ddaear a'r haul, ac ni bydd yn hir yn myned heibio. Ym Mhersia y mae ganddynt hen goel ofer bod pysgodyn mawr yn ceisio llyncu'r haul. Ac ar unwaith daw pawb allan i wneud y sŵn mwyaf a fedr i ddychrynu'r pysgodyn,—tanio cyflegrau, saethu â gynnau, curo hen bedyll efydd ac alcan. A phan fydd golau'r haul yn cryfhau, bydd yno lawenydd mawr bod y pysgodyn drwg wedi ei ddychrynu oddiwrth yr haul pan ar ganol ei lyncu.

Dro arall, tywylla wyneb yr haul yn sydyn. Ac oni chaewch bob drws a ffenestr a rhigol ar unwaith, dechreua tywod ariannaidd lifo i mewn fel dwfr, a gorchuddio popeth. Ystorm dywod sydd wedi torri dros y wlad. Chwythir tywod yr anialwch gan y trowynt, nes cuddio wyneb yr haul, nes mygu pawb sydd heb gysgod rhagddo, a pheri anghysur mawr hyd yn oed mewn tai.

Unwaith eto, daw cwmwl tywyll, symudol. weithiau rhwng y ddaear a'r haul, gan guddio ei wyneb hawddgar bron. Cwmwl o locustiaid yw. Os disgynnant ar gaeau, cerddant ymlaen fel ton o'r môr, yn llu aneirif, a difant bob deilen, gan droi'r caeau ffrwythlon yn ddiffeithwch llwm. Os disgynnant ar y tywod, trengant, a defnyddir eu cyrff' fel gwrtaith.

3. Ond anaml y cymylir haul Persia. Y mae'n debyg na hoffai rhai sydd wedi arfer â chymylau Cymru fyw dan haul disglair Persia o hyd. Gwn am un gŵr enwog, a fu mewn gwlad debyg iddi na allai ddymuno dymuniad Ann Griffiths mwy :

"Byw heb gwmwl, byw heb boen."