Llyfr Owen/Y Trwyn Aur

Oddi ar Wicidestun
Yr Aran Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Gwlad yr Haul

VIII

Y TRWYN AUR

1. Y MAE pawb, i fesur mwy neu lai, yn dymuno am rywbeth nad yw'n eiddo iddo, fel plentyn yn estyn ei law yn ofer at loyn byw.

Pobl gynnil a darbodus iawn yw pobl Ffrainc. Nid oes odid wraig na wna ei gorau i gadw ychydig arian wrth gefn, yn lle eu gwario i gyd. Bum yn nhai y Ffrancod lawer gwaith, ac y mae gennyf gof melys amdanynt,—yr aelwyd lân, gysurus, y cynildeb gonest, a'r bwyd da.

2. Gŵr a gwraig hapus oedd Jean a Marie. Gweithiai Jean yn galed, ac yr oedd yn hapus gysglyd wrth y tân siriol pan elai'n rhy dywyll i weithio. Yr oedd yn foddlon ar ei fyd, ac yn barod i chwerthin yn llawen bob amser. Prin o ddychymyg oedd, gwell oedd ganddo feddwl am bethau fel yr oeddynt, a gwenu.

Yr oedd Marie'n bur wahanol. Codai lawer castell yn yr awyr, a byddai byw yn hapus ynddynt. Adroddai ei dychmygion wrth Jean weithiau, ac ni wnai ef ond gwenu, a dweyd bod ei chwmni hi yn ddigon o foddhad a chysur iddo ef. Rhyw fin nos. gwnaeth breuddwydion Marie iddi deimlo braidd yn anfoddog, ac eb hi wrth Jean: "Troi yn yr un fan yr wyf o hyd, nes y mae bywyd wedi mynd yn undonog. Yr oeddwn yn meddwl heddiw mor braf y buasai arnaf pe bai gennyf ddigon o aur, a digon o ddillad gwychion, a chael bod yn ddynes fawr yng ngolwg pawb. Mor hyfryd fuasai pe bai rhywun yn dweud wrthyf y cawn unrhyw dri pheth a ddymunwn!"

3. Gydag iddi ddweud hyn, dyma oleuni sydyn yn fflachio yn y gegin, mor danbaid fel na welid y tân bach siriol o gwbl. Ac o'r goleuni daeth geneth ryfeddol o brydferth. Ac yr oedd yn amlwg mai un o'r Tylwyth Teg oedd hi.

"Cei dy ddymuniad," ebr hi mewn llais mwyn wrth Marie, " cei unrhyw dri pheth a ddymuni. Ond cymer amser i ystyried yn bwyllog. A phaid â gofyn dim nes y byddaf i wedi mynd o'r golwg, a chwithau heb weld dim goleuni ond goleuni'r tân." Ac yna diflannodd.

Yr oedd Jean wedi rhyfeddu, ac wedi deffro trwyddo, ac eb ef wrth ei wraig,—" Wel, yn awr, fy nghariad i, cymer bwyll. Gallit wneud drwg mawr i ti dy hun wrth ddewis yn ffôl. Yr oeddit yn dweud gynneu am aur a dillad a chrandrwydd. Ond pa dda fuasent i ti pe collit dy iechyd a bod mewn byd o boen? Paid â dymuno dim heno. Cymer amser i ystyried."

Yr wyt ti'n gallach na mi," ebr hithau," pan roddi dy feddwl ar waith. Ni phenderfynaf tan y bore." Ac yna syllodd Marie ar sirioldeb y tân. Gwnâi ei sirioldeb croesawgar ef yn dlysach na gwisg euraidd rhiain y Tylwyth Teg.

4. "Wel di," ebr Marie" mor braf yw'r tân yma. Y mae'n ddigon gwresog i rostio wynionyn wrtho. Ac mor hyfryd y cysgwn ar ôl wynionyn iach caled wedi ei rostio. O mi hoffwn gael wynionyn, nid oes arnaf eisiau un mawr." Prin yr oedd y geiriau oddiar ei thafod, na ddaeth wynionyn bach, caled, i lawr y simnai ar yr aelwyd.

"Wel," ebr Jean, " dyna ti wedi cael dy ddymuniad cyntaf. Nid yw'n llawer o beth, ond gallasit ddymuno un gwaeth." Ond pan welodd y siomiant ar wyneb ei wraig, a'r siomiant hwnnw'n hanner digllon, tawodd â sôn.

5. "Wel, dyma dro," ebr Marie, "mor ddifeddwl ac ynfyd y bum. Yr wyf yn barod i feddwl am unrhyw benyd am fy ffolineb. Bron na ddymunwn i'r hen wynwyn acw fod yn sownd wrth fy nhrwyn, er mwyn i'w arogl_____."

Yna gwelodd bod Jean yn edrych yn syn arni, ac nid oedd yr wynionyn i'w weled yn unlle. "Ar beth wyt ti'n edrych?" ebr hi braidd yn ffrom. "Ar dy drwyn di, fy ngeneth annwyl i."

Rhoddodd Marie ei llaw ar ei thrwyn, a beth a deimlai yno ond yr hen wynionyn. Yr oedd trwyn Marie'n drwyn hardd, heb fod yn rhy smwt nac yn rhy hir nac yn rhy fachog, ond yn weddus a siapus. Ond beth am drwyn yn mynd yn glap crwn yn ei flaen!

Wrth weled ei dychryn, ebr Jean garedig:

"Paid â phoeni, f'anwylyd, mi weithiaf yn galed i ennill digon i gael trwyn aur i ti dros hwnyna."

6. Paid a bod yn wirion. Pwy âi o gwmpas mewn trwyn aur, fel pig y deryn du? Mae gen i un deisyfiad eto heb ei ofyn, ac mi ddeisyfaf hwnnw, gan gofio beth yr wyf yn ei wneud. Mi ddymunaf i'r hen wynionyn budr y felltith yma fynd i'r andros."

Ni wyddai Marie lle'r oedd yr andros, ond yr oedd yn berffaith foddlon iddo gael yr wynionyn yn aberth. Rhoddodd ei llaw ar ei thrwyn, a theimlodd ei fod fel o'r blaen. A lliniarwyd llawer ar ei theimlad wrth weled gwên foddhaus ar wyneb Jean.

Yr oedd Jean yn ddoeth, a Marie yn gariadlon. Penderfynasant yno wrth y tân nad oedd arnynt eisiau dim ond a gaent o ffrwyth eu llafur. Ac hefyd nad oedd aur na dillad gwych nac anrhydedd y byd yn ddim o'u cymharu â chwmni ei gilydd ar eu haelwyd fach, gysurus.