Llyfr Owen/Y Dyn Coch

Oddi ar Wicidestun
Yr Haul a'r Lleuad Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Indiaid Gogledd America

XII

Y DYN COCH

1. Y DYN coch, neu'r croengoch yw enw'r Americanwr ar y brodorion a gyfrifid wrth y miliynau gan mlynedd yn ôl, ond sydd erbyn hyn yn prysur ddiflannu o flaen gwareiddiad.

Bu'n ddychryn i'r ymfudwr, llosgai ei gaban, a llofruddiai ei wraig a'i blant. Oherwydd gwelodd yr andwyai y dyn gwyn ei wlad. Ciliai yr hydd a'r ych gwyllt, ac ni ddeuai'r eog i fyny'r afonydd fel cynt. A gorfu i'r dyn coch gilio, yn raddol i'r gorllewin, lle y gallai gael helwriaeth. Oherwydd oni byddai helwriaeth, deuai newyn yn y gaeaf, ac yr oedd newyn yn fwy creulon ac yn fwy angheuol hyd yn oed na'r dyn gwyn.

2. Pe delech at bebyll y dynion coch yn yr haf, ar lan afon neu ar fin coedwig, tybiech eu bod yn ddigon hapus. Gwelech ystyr eu henwau, oherwydd coch, yn ymylu ar gochddu, yw lliw eu crwyn. Y mae'r dynion yn dal ac yn syth, fel y buasech yn disgwyl i helwyr cedyrn fod. Y mae golwg drymaidd ar eu hwynebau, ac y mae eu gwallt yn hir, a syth, a du fel yr huddygl. Ond y mae llawer ohonynt yn tynnu eu gwallt o'r gwraidd bob yn un, gan adael rhyw un topyn ar y corun. Y maent yn hoff o addurniadau, megis cregin tlysion. Y mae'r merched yn brydferth pan yn ieuanc, a byddai sôn hyd ymhell am y rhai eithriadol brydweddol ond byddai caledwaith eu bywyd yn eu hagru a'u camu yn gynnar. Gwaith y dyn oedd rhyfela a hela yn unig; y wraig oedd yn ymorol am danwydd, yn edrych ar ôl y plant, ac yn cario'r babell.

Ond ysgafn a bregus iawn oedd y babell. Nid oedd ynddi ddodrefn ond ychydig offerynnau coginio, a chrwyn eirth i orwedd arnynt y nos. Buan y codid y babell fel y crwydrai'r llwyth o 'heldir i heldir.

Pe delech i'r gwersyll ar hwyrnos o haf, caech y bobl ieuainc a'r plant yn dawnsio'n nwyfus. Ond os byddai'r fwyell yn mynd o babell i babell. i ddweud bod rhyfel wedi ei gyhoeddi, yna gwelech y crochan rhyfel ar y tân yn y gwersyll, a chlywech bawb yn canu caneuon rhyfel o'i gylch.

3. Y mae'r Indiaid hyn yn garedig wrth bobl ddieithr, ac yn lletygar iawn; os bydd ganddynt fwyd, rhoddant ef yn hael. Ond, wedi brwydr, yr oeddynt yn greulon iawn wrth eu carcharorion, a hoffent weled eu dirdynnu. Yr oedd y dyn coch yn fuan, yn gyflym ei lygad a'i glust a'i droed.

Cerddai yn wisgi am ddyddiau; ac nid oedd raid iddo ond wrth ei gyllell a'i garreg dân ar ei siwrneiau hirfaith. Ai o un lle i le pell arall ar linell union heb fethu. Yr oedd ei allu i ddilyn ôl troed dyn neu anifail yn hynod iawn.

Gwyddai lawer iawn am y tymhorau ac am anifeiliaid; ac ar y wybodaeth honno y dibynnai, heb ysgol na map nac almanac. Ond byddai'r gwŷr doethineb yn dysgu'r ieuanc i ymddwyn yn ddewr, a dioddef caledfyd. Byddent hefyd yn feddygon; a dywedent y medrent godi peth ar y llen a guddiai lwybr dyn wedi iddo fynd i'r bedd.

4. Byddai'r dyn coch farw fel y bu byw. Wynebai frenin braw yn dawel a hamddenol. Rhoddai gynghorion i'w blant, ac yna ymadawai at ei hen gyfeillion mewn brwydr a helfa, ac mewn tiroedd hela gwell. Yna, wedi ei farw, gosodid ef i eistedd yn ei babell, a'i arfau yn ei law. A byddai pawb yn gwneud araith o ffarwel iddo. Yna cleddid ef, a chyneuid tân ar ei fedd bedair noson, oherwydd dyna'r amser a gymer iddo deithio i'r heldiroedd hapus draw.

Cred y dynion coch fod Ysbryd Mawr yn bod; ond aneglur ac ansicr oedd eu syniadau. Erbyn hyn, y mae'n debyg eu bod wedi colli llawer o'u hen syniadau. Ond casglwyd llawer o'u hystraeon, a theifl y rhai hynny lawer o oleuni ar eu hanes.