Llyfr Owen/Indiaid Gogledd America

Oddi ar Wicidestun
Y Dyn Coch Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Pen Byw

XIII

INDIAID GOGLEDD AMERICA

UNWAITH meddai holl ogledd America, — Canada, yr Unol Daleithiau, a Mecsico,- drigolion annhebyg i'r rhai sydd yno'n awr. Y mae'r Americaniaid presennol wedi disgyn o'r un bobl â ninnau, i raddau pell. Disgynyddion y Piwritaniaid a'r Crynwyr sydd yn nhaleithiau Lloegr Newydd, pobl a adawodd eu gwlad ar awgrym John Penri, i gael rhyddid crefyddol yn ardaloedd dieithr America. Disgynyddion y Cymry sydd mewn llawer o ardaloedd Pennsylfania, llawer ohonynt yn Grynwyr o dueddau Dolgellau a'r Bala. Plant dilynwyr John Wesle sydd yn Georgia a Charolina. Ac y mae miloedd o ddisgynyddion y caethion a werthwyd o Affrica yn y taleithiau deheuol, negroaid duon gwallt crych. Ond y mae ymysg y dyfodiaid hyn rai o ddisgynyddion yr hen breswylwyr eto'n aros, yr Indiaid oedd yno cyn i'r Prydeinwyr na'r Ffrancwyr na'r Sbaenwyr roddi eu troed i lawr ar dir y Byd Newydd.

2. Yr enw a roddwyd arnynt oedd Indiaid. Nid oes a fynnont ddim â'r India. Ond pan ddarganfu Columbus yr America, chwilio am ffordd i'r India yr oedd; ffordd newydd, oherwydd yr oedd y Twrc anwar wedi cau yr hen ffordd. A phan welodd ef dir yr America, tybiodd iddo gyrraedd yr India. Ac Indiaid y gelwir y bobl byth. Pan ddarganfuwyd America, yr oedd ynddi genhedloedd enwog,—Obidsewê a'r Tsipewê yn y gogledd, yna'r Hiwron a'r Ciŵ, y Doctô, y Tsitsasô, y Tserocî, a'r Crîc ar ororau Mecsico. Erbyn heddiw nid oes ond ychydig ohonynt yn aros, a thrinnir hwy'n garedig gan yr Unol Daleithiau.

3. Paham y diflanasant mor llwyr? Yn un peth, oherwydd eu rhyfeloedd ffyrnig â'i gilydd. Ond y peth pennaf oedd dyfodiad y dyn gwyn. Ceisiai y dyn gwyn amaethu'r ddaear; ond wrth amaethu dinistriai diroedd hela y dyn coch. Felly y bu rhyfel chwerw; ac yr oedd y ddwy ochr yn greulon iawn. Y ddwy genedl a enillodd barch a serch yr Indiaid oedd y Ffrancwyr a'r Cymry. Ond daeth y dyn gwyn a phethau a anrheithiodd yr Indiaid Cochion yn fwy na'i arfau tân, sef ei glefydon, yn enwedig y frech wen, ac yn fwy na phopeth, y ddiod feddw. Ie, y "dwfr tân," chwedl hwythau, a'u difaodd.

Paham y mae'r negro'n cynyddu mor fuan, a'r dyr coch yn darfod? Dywed athronwyr na all dyn gynyddu mewn gallu a gwybodaeth oni fedr fod yn gaeth a dysgu. Cymerodd y negro yr iau ar ei war a daeth yn bobl luosog; yr oedd y dyn coch yn anhyblyg, ni fynnai golli ei ryddid, na dysgu.

4. Yr oedd llawer peth oedd yn hoffus iawn ym mywyd rhydd a dedwydd y dyn coch, a dangosir hynny yn narlun prydferth Longfellow ohono yn ei Hiawatha.