Llyfr Owen/Y Pen Byw

Oddi ar Wicidestun
Indiaid Gogledd America Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Murmuron y Gragen

XIV

Y PEN BYW

1. YSTORI Indiaid gogledd y Mynyddoedd Creigiog ydyw hon.

Yr oedd brawd a chwaer yn byw mewn caban unig ar fin y goedwig. A daeth amser y bachgen i farw. Ac eb ef: " Fy chwaer, y mae angau wedi cydio ynof, ac y mae yn prysur wenwyno fy nghorff. Cyn iddo ddod at fy mhen, tor ef ymaith â blaen fy mhicell a dyro ef yng ngheg sach, ac yn y sach dyro fy mhaent a'm plu prydferth a'm haddurniadau, a rho fy mwa a'm cawell saethau gerllaw. A chei weled y bydd y pen byw." Ac felly y gwnaeth y chwaer.

2. Ymhell oddiyno yr oedd llwyth o Indiaid yn paratoi i ryfel. A dewiswyd deuddeg brawd dewr i fynd o flaen y lleill. Yr oedd y brawd hynaf wedi gweled mewn breuddwydion nos beth a ddigwyddai iddynt,-arth anferth yn rhedeg ar eu hôl, a'r gelyn yn cau o'u cwmpas. Ond, trwy gymorth swynwyr medrus, yr oeddynt i ennill yn y diwedd.

Pan wawriodd y bore cyntaf ar eu taith, gwelent rywbeth du mawr ar y mynydd rhyngddynt a'r golau, yn cysgu. Arth anferth oedd. Cyn iddynt ei lladd deffrodd, ac edrychodd arnynt â llygaid llidiog. Cychwynnodd ar eu hol, a rhedasant hwythau am eu bywyd. "Rhedwch at y caban acw, lle y gwelwch y mwg," ebr y brawd hynaf, " y mae acw swynwr a all ein hachub." Ac yno yr aethant i erfyn am nodded.

"Ewch ymlaen," ebry swynwr, "mi a'i lladdaf." Ac fe'i gwnaeth ei hun fel cawr, gyda phicell fel coeden. Diangasant hwythau, ond cyn hir gwelent yr arth yn cyflymu ar eu hôl, a gwaed y swynwr ar ei safn.

Y mae swynwr arall draw acw,"ebr y brawd hynaf. "Rhedwch am eich bywyd, y mae'r arth wedi ei chlwyfo, ac yn ffyrnig." A rhedodd y brodyr heinif fel ceirw. Addawodd y swynwr ladd yr arth.

Gwnaeth yntau ef ei hun yn gawr o faint, a chododd bastwn aruthrol, a tharawodd yr arth yn ei phen nes ei syfrdanu. Ond dadebrodd toc, a rheibiodd y swynwr. Ac er eu dychryn gwelai'r brodyr hi yn prysuro ar eu hôl. A gwaeddai'r brawd hynaf:

Y mae un gobaith eto, yr olaf. A welwch chwi'r caban acw ar fin y goedwig? Y mae brawd a chwaer yn byw acw, gwelais hwy yn fy mreuddwyd. Ef yw swynwr mwyaf y wlad."

3. Dadebrodd y pen, a dywedodd wrth ei chwaer : " Y mae deuddeg o wŷr ieuainc yn dod, ac arth ar eu hôl. Dos a dal fì o flaen yr arth." Erbyn hyn yr oedd yn galed ar y gwŷr ieuainc, a'r arth bron wrth eu sodlau. Rhedodd yr eneth, a daliodd y pen i fyny. Pan welodd yr arth y pen byw, syrthiodd yn ôl mewn arswyd, a buan y lladdodd y deuddeg brawd hi. Yna, wedi cael ymborth a gorffwys, gyda'r nos aethant tua thir eu gelynion. Yn y nos clywodd y chwaer floeddiadau anwar brwydr. Yna bu distawrwydd. " Dos a mi borc fory i'r fan yr oeddynt yn ymladd heno," ebr y pen, "ac un o'm saethau gyda thi, a dal hi wrth ben y meirw."

Aethant yn y bore. Beth welent yno ond cyrff meirwon y deuddeg brawd. Ond, pan ddaliodd y chwaer y bicell wrth eu pen, codasant oll i fyny'n fyw.

" Yn awr," ebr y pen, " ewch â mi at fy nghorf. Y mae erbyn hyn wedi ei buro, a'r gwenwyn wedi mynd ohono ym mhridd y ddaear." Aethant ag ef, a'r munud y cyffyrddodd y pen â'r corff, wele'r gŵr ieuanc yn sefyll ar ei draed, yn gan harddach nag yr oedd pan wnaeth i'w chwaer dorri ei ben. Ac eb ef wrth y deuddeg : Yn awr yr ydym oll wedi profi angau. Ni fyddwn marw byth mwy."

Onid yw'n ystori ryfedd? Bu miloedd ar filoedd o blant bach cochion, mewn coedwigoedd pell, wrth ddrws eu pabell, yn gwrando arni.